Gwaith S.R./Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd

Oddi ar Wicidestun
Darostyngiad a Derchafiad Crist Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Cilhaul Uchaf

BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD

Efengyl oludog! Angyles trugaredd,
Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeled,
Dos rhagot nes llenwi y byd â dy hedd;

Mae gennyt ti'n barod wledd lawn i'r newynog,
A chymod i'r euog, a hardd-wisg i'r noeth,
A thrysor i'w rannu rhwng tlodion anghenog,
Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.

Mae'r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
Gan ddi-rif dylwythau cei croesaw i'w mysg,
A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i'th gerbyd
Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:
Peiriannau tân cariad i droi dy olwynion
Yw'r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;
A chwareu drwy'r nef mae holl dannau gorfoledd,
Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.

Cyhoeddwyd o'r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,—
Llwyr ofer i'r bobloedd i'th erbyn derfysgu,
I lengoedd y fagddu amlygu eu câs:
I'th ddilyn wrth d'alwad cwyd torf o genhadon
A'u calon yn fflamio dan fedydd o dân;
Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae'r cyffro,
Mae'r delwau'n malurio yn fawrion a mân.

Mae'th weision yn barod i gludo'th drysorau
Trwy'r 'stormydd, tros donnau trochionog y môr;
Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd,
I dd'weyd am oludoedd trugaredd yr Ior;
Dilynant afonydd, ânt trwy anial-diroedd,
A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,
I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd
Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.

Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
Llawenydd a chân sy'n coroni eu pen;

Mae gwresog bêr anadl eu cariad a'u gweddi
Yn chwalu'r cymylau fu rhyngddynt a'r nen;
A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion,
Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,
Yn plygu i wrando'u plethedig ganiadau,
Gan hwylio'u telynau i ateb eu llef.

Daeth Iesu o Bosra a'i ddillad yn gochion,
Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;
Enillodd holl yspail y tywysogaethau,
Gall ddial, neu faddeu,—ei gledd sydd yn llym;
O'i orsedd llefara mewn iawnder a chariad,
Mae'n gwisgo agoriad awdurdod a bri;
Gan hynny ni lwydda dy elyn na'i luoedd,
Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.

Wrth wrando dy gais dros y Gŵr a groeshoeliwyd,
Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,
A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau
O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;
Dadblygaist dy faner ar brifddinas Rhufain,
Ce'st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;
A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o'r rhai duaf,
Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.

Dy lais yn oes Luther ddychrynodd y bwystfil,
Dy wên doddodd galon y Greenlander draw,
A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy'th eiriau,
Nes gollwng ei saethau gwenwynig o'i law;
Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd
America fras, ac Ynysoedd y De,
A ddenodd farbariaid o'u dawns yn y llwyni,
I wrando a chanu am gariad y Ne'.

Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
I ollwng wyth gan-mil o'i chaethion yn rhydd;

A gyrraist gyflawnder o bêr-falm Calfaria
I wella archollion y galon fu'n brudd;
O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau
Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed;
A'r famaeth a'i maban sy'n llon gadw jubil
Uwch bedd yr anghenfil fu'n meddwi ar waed.

Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau,
A llawn yw'r phiolau ar allor y nef;
Hardd sefyll o'u cylch mae eneidiau'r merthyron,
Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef;
O'u llwch cododd ysbryd a ddryllia'r cadwynau
Fu'n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth;
Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir,
A'r gelyn ymlidir i'r llyn o'r lle daeth.

Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau,
Bu'n lledu ei donnau fel dylif o dân;
A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau,
Er pob atal-furiau, ysgubid o'i flaen;
Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd,
A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys;
Ac 'nawr lle bu'r gelyn yn creulawn deyrnasu,
Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.

Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan
Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed,
A myrdd o rai gwallgof dan floeddio'n ei dynnu,
Gan fathru eu plant a'u rhieni dan draed;
Ond safodd er's dyddiau, ni faidd dy gyfarfod,
Mae'n suddo i'r tywod, a'i lu'n cilio draw;
Mae blodau sidanaidd ei dŵr wedi gwywo,
A'i gêr yn malurio trwy'r tes a thrwy'r gwlaw.

Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o'i hiliogaeth
Dan iau anghrediniaeth yn gaeth lawer oes;

Ond troant i'th ddilyn, gan gerdded ac wylo,
Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes;
Ail-hwylir y delyn fu'n hir ar yr helyg,
Daw'r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd;
Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant,
A melus ganmolant gyflawnder y wledd.

Trwy'r fro lle bu Israel yn lledu ei babell,
Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn,
Bro melus beroriaeth telynau'r proffwydi,
Bro'r ardd lle bu'r chwysu, bro Calfari fryn:
Trwy honno mae'r wawr 'nawr yn gwasgar ei goleu
I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo;
Trwy honno tyr eto sain tannau gorfoledd,
A blodeu tangnefedd goronant y fro.

Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua
Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia,
A'r awel wasgara ei iraidd aroglau
Nes gwella tylwythau y Tartar o'u pla;
I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog
Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol,
Ceir eto fflam fywiol o'r allor i danio
Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dôl.

Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr
Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr;
Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,—
Mae eisoes yn fylchau, daw'n ddarnau i lawr;
Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni
I ddarllen a chanu am Aberth y bryn,
Trwy demlau Fôhî mae cerfddelwau yn crynu,
A'u crefftwyr yn gwelwi, gan edrych yn syn.

Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud
Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd;

Ar dymor dymunol mae'r nefol addewid
Bron esgor—mae gwewyr drwy natur i gyd:
Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth,
Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl,
Mae arlwy frenhinol yn rhad i'r holl bobloedd,
A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.

Goleuni gwybodaeth trwy'r ddaear ymdaena,
O'i flaen yr ymgilia'r tywyllwch yn glau;
Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna,
A'r bleiddiaid gormesol a ffoant i'w ffau;
Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir,
Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir;
Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau,
Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw'r tir.

Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant
Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen;
Harddwisgir traethodau'r anianydd dysgedig
Ag iaith ostyngedig o fawredd i'r Oen;
Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder
Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy;
I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen,
Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.

Gwir ydyw fod rhannau o'r wybren mewn cyffro,
Ond tyrfu wrth gilio mae'r 'storom yn awr;
Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd
Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr;
Dinystriol beiriannau tân rhyfel a ddryllir,
Y march coch a rwymir mewn cadwyn o bres;
Ymleda'r heulwen nes chwalu'r tywyllwch,
A blodeu brawdgarwch a dyf yn ei gwres.


Defnynna sancteiddrwydd o'r nef fel gwlith Hermon,
Melysa gysuron holl gylchoedd y byd,
Addurna y cerbyd, y meitr, a'r goron,
Nefola serchiadau y galon i gyd;
Ireiddia ei olew olwynion masnachaeth,
A hwylia ei awel holl longau y môr,
Ei darth gwyd o'r allor, a'i iachus aroglau
A leinw holl gonglau cysegroedd yr Ior.

Yr anial di-annedd, fel rhosyn, flodeua,
Y myrtwydd addurna hardd odre y bryn,
Ym mhen y mynyddoedd bydd ŷd yn ddyrneidiau,
Tyf brwyn lle bu'r dreigiau, daw'r crasdir yn llyn;
Bwytânt o bêr-ffrwythau'r gwinllannoedd a blannant,
A'u tai gyfanheddant dros ddedwydd oes hir;
Hardd-wridog a heinif y ceir y mab canmlwydd,
Hyfrydwch a llwydd a briodant y tir.

Sylfaenir pryd hyn y Jerusalem newydd
A saphir,—a hon fydd gogoniant y byd;
O feini dymunol y gwneir ei therfynau,
A'i phyrth fydd o berlau uchelbris i gyd;
Ag aur y palmentir ei llydain heolydd,
O fewn ei magwyrydd bydd iechyd dilyth,
A thrwy ei grisialaidd ffenestri tywynna
Gogoniant Jehofa, heb fachlud mwy byth.

Tymhorau ei gweddwdod a'i galar a dderfydd,
Llawenydd i'r holl genedlaethau a fydd;
O fewn ei therfynau am drais byth ni chlywir,
A chenedl a enir o'i mewn yr un dydd;
Brenhinoedd a welant ei disglaer ogoniant,
Ac iddi y dygant anrhegion heb rif;

Diwellir ei phlant â helaethrwydd diddanwch,
A'i heddwch ymchwydda fel tonnau y llif.

Llys Ior geir i'w chanol, ac allan o'i orsedd
Yr afon risialaidd a lifa heb drai;
O'i deutu bydd tyrfa nad elli ei rhifo
Yn rhodio heb deimlo na melldith na gwae;
Dan gysgod iachusol gwyrdd ddail pren y bywyd
Cydgadwant wyl hyfryd heb lygredd na phoen;
A'r Oen gad ei ladd a'u bugeilia hwy'n wastad,
A byrdôn eu caniad fydd—"Teilwng yw'r Oen."