Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Daioni Duw

Oddi ar Wicidestun
Y Drindod Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Y Deng Air Deddf

XXV.

DAIONI DUW.

YN DANGOS Y DAIONI A WNAETH DUW DROSOM, AC
FAL YDYM NINNAU YN AMHERCHI DUW.

CREAWDWR mawr, creawdwr mwyn,
Crist crair, mab y Fair Forwyn,
Celi, un-Mab Duw culwyf.
Duw Celi, clyw fi, claf wyf!
Ysbryd wyd galon drydoll,
A Duw a dyn, dydd daed oll.
Tad ag Ysbryd o'i gadair,
Gwir fab o fru y gwyry Fair.

Gwyllt ag uchel yw helynt
Gwalch cyn ebrwydded a gwynt;
Pob march, a phob gwarchawr
A ardd y maes, wir-Dduw mawr,
Bara os llafuria y fo
I ddyn a gair oddyno.
Teg oedd yn diolch i ti,
Duw i ddyn dy ddaioni.

Peraist yr olew newydd
A'r gwin i ddyfod o'r gwydd;
Y tân, o'th gelfyddyd têg,
Mab Mair, a gair o'r garreg;
Dilys bod crwth, neu delyn,
Yn ceisio dihuno dyn;
Dyn yn anad creadur
A wnaethost, gwybuost gur,
O nerth tragwyddol i ni,
Ar dy ddelw er dy addoli.

Er maint yn gywraint dan go
Urddas a wnaethost erddo,
Nid oes a'th wnêl yn elyn,
Egni dig, fel y gwna dyn.
O daw arnaw braw gerbron,
Dan nod, e dwng anudon
I'th gorff tragwyddol a'th gig,
Ag i'th ddelw wiw gatholig.
Ereill yn dost er dy ostwng
I waed dy fron donn a dwng.
Mynych y gwnair ar grair oll
Amherchi dy bum archoll.
Pam hefyd o'r byd y bydd
Gelyn pob un i'w gilydd?
Salw yw'r byd trymryd trwch,
Swyddau ni ad nos heddwch.
Rhoi a wna'r cedyrn yn rhwydd.
Er hirglod aur i'w Harglwydd;
A'i haddo er blino'r blaid,
A'i gynnull ar y gweiniaid.
Na roed neb, cywirdeb call,
Er gwst aur ar gost arall.

Braint brwysg bâr fyd rhwysg y rhawg,
Hwyl berw lliw hael byr llawiawg,
A fo hael gafael gyfun,
A hy, bid o'i dda i hun.
Anhoff odl oni pheidir
Môr Tawch a dyrr muriau'r tir,
A'r mellt a lysg yr elltydd,
A'r gwynt a ddiwreidda'r gwydd.
Cyn no hyn cwyn a honnir,
Clywan a gwelan y gwir.
Y ddaear o'i darpar da
A gryn, a'r coed a grina;

Odid cael yn ddi-adwyth,
Na dyn na phren yn dwyn ffrwyth.
Pan ddêl er yn rhyfelu,
Corn dydd brawd i'r giwdawd gu,
Yn dwyn hyd yn oed unawr,
Yn un dydd i'r mynydd mawr,
Ag yno, gwiw ogoned,
Y byddi, Grist, budd i gred,
Yn dangos o'r tabl glós tau
I luoedd dy weliau;
Yn derbyn y llu gwyn gwydd,
I'th ddeheulaw, iaith hoew-lydd;
A'r rhi di-fedydd er hynn
I'th aswy a wnaethost in.

Deall gorthrwm yw'r dial,
Y dyn a'i farn yn i dâl;
Yno e gryn, myn y grog,
Yn wir, gywir ag euog.
Gwae ni haeddawdd ffynniawdd ffer,
Gwiw fendith drwy gyfiawnder;
Gwyn i fyd y cywir tiriawn,
A gwae gorff y gaeog iawn.


Nodiadau

[golygu]