Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Y Drindod

Oddi ar Wicidestun
I Dduw a'r Byd Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Daioni Duw

XXIV.

Y DRINDOD.

Y TAD o'r dechreuad chwyrn
A godes bawb yn gedyrn;
Y Drindod Undod o'n iaith
A dry i alw'n dri eilwaith;
Ysbryd Glan anian inni,
A'r Mab rhad, o'r Tad wyt ti;
lawn yw dy enw yn Dâd,
Duw a Chreawdwr yn dechreuad;
Ac yn Fab, arab eirian,
Ac yn Ysbryd gloew-bryd glân;
Dy enwi yn Dad yn y gadair,
Dy enwi yn Mab Duw a Mair,
Dy enwi yn Ysbryd gyd gwedi,
Glân o'th râd gloew Un a Thri.

Pan fy'ch yn dri cyfrifawr,
O'r Tri i'r Un yn troi yr awr;
Un Duw, tri pherson anair,
Mewn aberth gwiw nerth y gwnair;
Dy gorff o'r tan cyfan-rin,
Duw o'r gwaed, a'r dwfr a'r gwin,
A hoff eiriau yr offeren,
A thafawd y darllawdwr llên.
Yn yr un modd yr oeddyd
O'r bedd yn codi i'r byd;
Yn ol o'th fodd ddioddef,
Duw, try i'n dwyn ni i nef.
Yn ddiau Tad ydwyt ti,
Yn dda cael yn Dduw Celi,
Yn dri yn un, bob unawr,
Tad, Mab, Ysbryd, gwiwbryd gwawr:

Tri da agwedd tra digoll,
Ag un Duw gogoned oll.
Duw cyn y byd ennyd wyd,
Duw wedi diau ydwyd;
Tad y'th gair i Fair Forwyn,
I brawd, a'i Mab, o bryd mwyn.

Os yn dri yth gyfrifa,
Yn dri o'th gyfri y'th ga;
Yn un Duw nef union Dad;
Yn fwya fri, yn Fab rhad;
Yn Ysbryd gloew-lan anwyl,
Yn ben Rhaith ddydd gwaith a gwyl;
Yn Frenin y nef hefyd;
Yn ben brenhinoedd y byd;
Yn Arglwydd yr Arglwyddi,
Duw dy nerth yn Dad i ni,
Yn ben ffurfaen ffurf ôd,
Yn dri un-Duw, yn Drindod;
Daethost yn Dad, rhad rhoddi,
A'th wrthiau o'r Nef i ni.
Ar ben y twyn fwyn faner,
Dy Deml yw, fy Nuw Ner:
Yno yr wyd yn Waredydd,
Pob elw yn rhoi pobl yn rhydd.
Pedair arch lle'i cyfarchaf,
I'r holl fyd gennyd a gaf,—
Cyweth dibech, ac iechyd,
A maddeu i beiau i'r byd;
Nef, Amen, i bob enaid,
Yn rhydd, a chwbl o'n rhaid.

Nodiadau

[golygu]