Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Degwm

Oddi ar Wicidestun
Y Cybydd Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Y Beirdd

VIII.

DEGWM.

YN DANGOS FOD DEGWM YN DEILWNG I'W DALU.

DYNION a roes Duw ennyd,
Ar bwynt er ennill da'r byd;
Yn ddwy radd dan Dduw yr ym,
Oll yr oedd felly 'r yddym,—
Gradd dda garedig ddi-wg,
A gradd ffol ddifeiriol ddrwg;
A gradd wiw-Grist rywiog nef,
A'i llin a wna i lle'n y nef:
O'r hon a daeth yr henwg,
O wraidd y dras yr oedd drwg;
A saith brif bechod y sydd,
Gwaelach bob un na'i gilydd;
Tyfiad bob drwg ynt hefyd,
Tadau holl bechodau byd.
Anhawdd yw cael heb wenwyn
Un yn dda fo yn i ddwyn;
Rhai mawr bob awr yn bod,
Rhai bychain am ryw bechod;
A chwedel hen bechodau,
O frad a gawsom yn frau;
Nid aeth am bechod un dyn
Ran Adda, er hynny oeddyn;

Anfoddog yn na fyddwn,
O chaed twyll y pechod hwn;
Dawn oll roddo Duw i ni,
A gras am hyn i 'mgroesi,
I ymwrthod pechodau
Y byd trwy fawnfyd yn frau;
A cheisiwn nef loew-dref lân,
Yn holl o hynny allan;
Rhown bawb rhag talu'r iawn bwyth,
A dalodd yr hen dylwyth;
Os rhown megis y rhannodd
Duw'n yn mysg, da iawn yn modd.

Rhan oreu o'r dechreuad,
A wnaeth Duw, di-weniaith Dad,
Dwyn o bob da yn y byd,
Naw rhan y corff ni weryd;
Y degfed rhan, cyfan, caid
A rannodd Duw i'r enaid;
I ddyn fyth o'i iawn dda fo,
Rhown i hwn y rhan honno;
Cam oedd orfod yn cymell
I roi rhan a'i gwnai'n gan gwell;
Rhown ddegwm, rhan ddiogel,
Rhown i Dduw y rhan a ddêl.
Siwr yn ol onis rhown ni,
O syr! fe wna yn sorri;
Mae'n deg in ddegymu'n dda,
A dyfod i'n cof naid Efa;
Buan y daeth i boen dål,
O'r nef am yr un afal;
Aeth hon a'i holl dylwyth hi
I ganol y drygioni;
Buon yn dwyn i bywyd,
Yn hir boen, gwae nhwy o'r byd!

Gwnaeth drwy wraig yr annoeth dro,.
I Grist wyn a'i groes dano,
Dywallt yn dost, ar osteg,
I brynu dyn, waed bron deg.
Ni phrynodd un hoff frenin,
Ar groes ni fu'r loes mor flin.
Rhai nawmis nis rhôn yma,
Offrwm na degwm o'u da;
Maent eto'n fforffetio'r ffydd,
Rhan nefol, heb roi'n ufudd;
Gan Dduw hwy a gan' ddial,
A llwyr tost fydd lle mae'r tal.
Ni chan' nef i gartrefu,
Bro y saint lle mae'r fraint fry,
Na bywyd iawn, na da byd,
Tra fo'n byw terfyn bywyd,
Y sydd, a fydd, ac a fu,
Dda gwamal heb ddegymu;
Dyna dda'n dwyn dyn i ddiawl,
A drwg iddo'n dragwyddawl.
I Dduw a dal yn ddiwyd
Ddegwm ac offrwm i gyd,
Ion a dâl iddynt hwy,
O gan modd yn ddeugeinmwy.
Degwm y rhai diogan,
Yna y rhoed o'r naw rhan,
Duw a lwydda dâl iddyn,
Fal yr el yn fil o'r un,
Yn llwyddiant i'w plant a'u plaid,
Yn filoedd o 'nifeiliaid;
A Duw a wna'u da well-well,
A'u dwyn i nef, dyna well;
Rhan Dduw'r neb nis rhy'n ddiwyd,
A i'r boen pan el o'r byd;
Rhown ddegwm, rhan ddiogel,
A gwn, fe gaiff nef a'i gwnel.

Nodiadau

[golygu]