Neidio i'r cynnwys

Gwaith ap Vychan/Dihangodd

Oddi ar Wicidestun
← Hen Gymydog Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
→


DIHANGODD.

(Ar farwolaeth ei briod.)

𝕾ANGODD draethell yr Iorddonen,
Syllodd ar eirwynder hon
Rhoes ei throed ar wddf yr angau,
Neidiodd o grafangau'r don;
Ac yng ngherbyd anfarwoldeb,
Gyda gosgordd purdeb gwawr,
Trwy ororau'r eangderau
Aeth i fannau'r anthem fawr.


Nodiadau

[golygu]