Gwaith ap Vychan/Hunangofiant

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bore Dydd Byrraf


AP VYCHAN.

——————

'COFNODION BYRION AM RAI O'R AMGYLCHIADAU YN HANES FY MYWYD SYDD YN FWY ADNABYDDUS I MI FY HUNAN NAG YDYNT I BOBL ERAILL.

 AB ydwyf fi i Dafydd Thomas, gynt o Ty'n y Gwynt, Llangower, swydd Feirionnydd, a Mary Roberts o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn, y ddau yn frodorion o Benllyn. Rhieni fy nhad oedd Thomas a Margaret Roberts o Ty'n y Gwynt. Nid oes nemawr i'w goffau am danynt ond eu bod yn trin tyddyn bychan, eu bod yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn bobl dduwiol. Yr oeddynt yn dra gofalus am gynnal i fyny addoliad teuluaidd. Arferent ganu emyn yn eu gwasanaeth crefyddol. Fy nain fyddai yn dechreu y gân. Bu iddynt saith o blant heblaw fy nhad. Mae dwy chwaer ì fy nhad eto yn fyw; un o'r enw Susannah Thomas, sydd yn preswylio, hi a'i gwr, yn nhy capel y Methodistiaid ym Moel y Garnedd, gerllaw y Bala; a'r llall, Margaret Thomas, yn byw yng Nghendl, swydd Fynwy, ac yn adnabyddus i lawer wrth yr enw "Begws o'r Bala."

Rhieni fy mam oedd Robert Oliver, a Margaret ei wraig, o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, fel y nodwyd uchod. Yr oeddynt hwythau yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn addoli Duw yn eu ty yn gystal ag yn y capel. Trin tyddyn bychan yr oeddynt hwythau. Ganwyd fy nhad Rhagfyr 29ain, 1782, a fy mam Ionawr 2, 1785. Ychydig iawn o fanteision addysg a gawsant yn eu hieuenctyd; ond dysgwyd hwy i ddarllen Cymraeg yn dda. Tair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd fy nhad, ond troes allan yn hunan-ddysgydd rhagorol. Deallai ramadeg iaith ei fam, rheolau barddoniaeth ei wlad, a chasglodd lawer o wybodaeth gyffredinol; ond rhagorai yn fawr fel duwinydd. Ysgrifennai law deg a gwastadlefn, sillebai yn gywir, a chyfansoddodd aml ddernyn barddonol, caeth a rhydd, yn ei dymor, a chyhoeddwyd amryw o honynt.

Dynes gref, iachus, galonnog, siriol dros ben, weithgar, a gofalus am ei theulu, ydoedd fy mam. Rhagorai fy nhad arni mewn amryw bethau, ond rhagorai hithau arno yntau mewn pethau eraill, yn enwedig mewn gwroldeb meddyliol, a medrusrwydd i osod ei meddwl allan mewn ymadroddion cryfion a hylithr. Priodwyd fy rhieni yn y flwyddyn 1805, a buont fyw gyda eu gilydd yn ddedwydd iawn, er gwaethaf caledfyd a thlodi, a llawer o amrywiol wasgfeuon, am y tymor maith o ddeunaw mlynedd a deugain. Ganwyd iddynt ddeg o blant—pump o feibion a phump o ferched,—ond bu feirw tair o'u merched a dau o'u meibion tra yr oedd y rhieni eto yn fyw. Mae y pump eraill, wedi cael help gan Dduw, yn aros hyd y dydd hwn, dau yn America, a thri yn Nghymru. Mae fy mrawd Ellis Thomas yn ddiacon defnyddiol gyda Dr. Gwesyn Jones yn Utica, talaeth New York, ac yn meddu gradd eang o'r ddawn farddonol; ac y mae fy mrawd Evan Thomas yn grefyddwr da yn Meifod, swydd Drefaldwyn. Mae yntau wedi astudio rheolau Simwnt Vychan, ac yn gallu cyfansoddi yn rhwydd yn ol eu deddfwriaeth. Ganwyd fi, trydydd plentyn fy rhieni, yn y Ty Coch, Penantlliw Bach, Llanuwchllyn, ar yr unfed dydd ar ddeg o Awst 1809, ac yno y magwyd fi nes oeddwn yn agos i saith mlwydd oed. Dysgais ddarllen yn bur ieuanc. Nid wyf yn cofio fy hunan yn dysgu darllen o gwbl. Rhaid fod rhywrai wedi cymeryd trafferth i'm dysgu yn gynnar iawn, oblegid yn medru darllen yr wyf yn cofio fy hun gyntaf. Darllennais y Beibl unwaith drosto i gyd, yr Hen Destament a'r Newydd, cyn fy mod yn wyth oed: ac yr oeddwn wedi dysgu llawer o benodau a Salmau ar dafod-leferydd, fel y dywedir, yn y cyfnod plentynaidd a nodwyd. Yr oeddym ni yn byw yn y ty agosaf i'r mynydd, ac felly yr oedd ein chwareuon plentynaidd yn gyffredin yn dal perthynas â phethau pob dydd amaethwyr a bugeiliaid. Daeth yr efengyl yn ei phurdeb, drwy offerynoliaeth y Parch. Lewis Rees o Lanbrynmair, yn bennaf, i ardal Llanuwchllyn oddeutu 1740, ac adeiladwyd capel yr Ymneillduwyr yno yn y flwyddyn 1746. Bu llawer o weinidogion goleuedig a thalentog yn llafurio yn y lle. Y diweddar Dr. George Lewis oedd yn gweinidogaethu yno pan anwyd fi, ac efe a'm bedyddiodd; a bu yn hyfryd gennyf feddwl lawer gwaith fod dyn mor dda a'r gŵr hwnnw wedi bod yn gweddio drosof fi yn bersonol unwaith, o leiaf, ar ddechreu fy nhaith drwy y byd. Yr wyf yn ei gofio yn pregethu am un Sabbath yn yr Hen Gapel; ond yn anffodus i mi, myfi oedd i fod y Sabbath hwnnw yn cadw caeau y lle yr oeddym yn treulio yr haf ynddo, ac nid oedd neb a wnai hynny yn fy lle; felly, bu raid i mi fod gartref, a thrwy hynny collais yr unig gyfle a ddaeth yn fy ffordd i glywed y gwr hynod hwnnw.

Yr oedd crefydd wedi darostwng yr ardal y magwyd fi ynddi yn rhyfedd o dan ei dylanwad. Perchid dydd yr Arglwydd yn bur gyffredin. Ychydig iawn o feddwi oedd yn y fro. Yr oedd llwon a rhegfeydd wedi eu hymlid ymaith o'n terfynau ni. Ni wyddem ni fel plant beth oedd tyngu a rhegi. Ni fyddai neb, am a wni, yn glanhau esgidiau, na thorri gwair i anifeiliaid, ar y Sabbath. Yr oedd torri barf, a golchi cloron, a'r cyffelyb, allan o'r cwestiwn yn ein plith ar y dydd hwnnw. Sylwais eisoes, na chlywsem ni neb yn tyngu ac yn rhegi pan oeddym yn fychain ar aelwyd ein rhieni. Clywsem fod rhai yn gwneuthur hynny; ond ni wyddem ni yn y byd pa beth ydoedd. Un noswaith yn y gauaf, yr oedd hen aelod yn y capel yn aros am rai oriau gyda ni a'n rhieni wrth y tân, ac mewn profedigaeth fechan, dywedodd air hollol ddieithr i ni, ac yr oeddym yn ofni ei fod wedi tyngu. Drannoeth, daeth gwr ieuanc oedd, yntau, yn aelod yn yr Hen Gapel heibio i ni, a gofynasom iddo, "Beth ydyw tyngu," gan ychwanegu fod arnom eisieu cael gwybod y peth yn gywir. Atebodd yntau yn bur gali, "Nid wyf yn ewyllysio dweyd i chwi, rhag i chwi ddysgu tyngu." "Wnawn ni ddim dysgu, yn sicr," meddem ninnau. "Wel," ebai ein cymydog ieuanc, "dweyd rhyw eiriau hyllion, y byddwch chwi yn cael drwg gan eich mam am eu dywedyd, ydyw tyngu." "A ydyw —— yn dyngu?" meddem ninnau. "Ydyw," ebai yntau, "peidiwch a dweyd y gair hwnnw." "Wel, y mae Harri o'r Graig wedi dywedyd y gair yn ein ty ni neithiwr, ac y mae o yn perthyn i'r capel. Rhaid ei dorri fo allan yn union deg," meddem ni. Dechreuodd ein cymydog William amddiffyn tipyn erbyn hynny ar ei frawd Harri. Dywedai nad oedd hwnnw yn air drwg iawn, a bod geiriau gwaeth nag ef o lawer, ac mewn byrbwylldra y dywedodd yr hynafgwr y gair; ond nid oedd yr amddiffyniad yn ein boddhau ni, ac ni a ddiarddelasom Harri ar ben y garreg fawr oedd yn y clawdd terfyn rhwng ein caeau ni a chaeau Ty'n y Bryn. Mae Harri, wedi y cyfan, yr wyf yn credu, yn y nefoedd er's llawer dydd. Yr oeddwn i o bump i chwech oed, feddyliwn, pan ddygwyd Harri dan ddisgyblaeth pen y garreg gan blant y Ty Coch.

Yr oedd amryw o ddynion neillduol yn byw gerllaw ini. Un o honynt oedd Edward o Dan y Castell. Bugail defaid ydoedd ar hyd ei oes. Perthynai i'r eglwys oedd yn yr Hen Gapel. Meddai lais mwy cryf a soniarus na neb a ddigwyddodd i mi glywed erioed. Pe cawsai addysg dda mewn peroriaeth, prin y buasai Sims Reeves yn gymhwys i ymgystadlu âg ef. Yr oedd yn ei gyflawn nerth pan oeddwn i yn blentyn, a'i lais, fel udgorn y jiwbili, yn boddi lleisiau pawb mewn cynulleidfa. Yr oedd yn byw gerllaw i ni hynafgwr iach o fugail defaid, yr hwn a. gyrhaeddodd yr oedran teg o 102. Byddai gwr arall o'r gymydogaeth, o'r enw Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn myned heibio i'n ty ni yn aml, yn yr haf, i'r mynydd i fugeilio, a bu yn aml yn cyfeillachu â ni fel plant. Gofynnodd i mi, un diwrnod, i ba le yr oeddwn yn meddwl myned wedi marw. Atebais innau mai i'r nefoedd os cawn i fyned yno. "Chei di ddim," ebai yntau. "Paham?" meddwn innau. Ei ateb oedd, "Am fod gennyt ti lygaid gleision, ac nid oes neb â llygaid felly i gael mynd i'r nefoedd; gofyn di heno i dy dad, a dywed i mi beth a fydd efe yn ei ddywedyd pan ddelwyf heibio eto yfory." Wedi dychrynnu braidd, gofynnais i fy nhad a oedd Cadwaladr, Wern Ddu, yn dywedyd y gwir, pan haerai na chai plant â llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd. Dywedodd yntau,—"Dywed wrtho ef yfory y caiff plant a llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd, os byddant yn blant da; ond na chaiff hen bobl â dannedd duon ganddynt fyned yno sut yn y byd." Pan ddaeth yr hynafgwr serchog heibio drannoeth, gofynnodd i mi beth a ddywedasai fy nhad, a thraethais innau y genadwri. Siriol wenai yr hen wr, a chwarddodd yn hyfryd bob yn dipyn, er syndod i'mi. Nid oeddwn i yn deall ergyd sylw fy nhad o gwbl. Cnoi myglys yr oedd Cadwaladr, nes oedd ei ddannedd yn dduon; ond nid oedd fy nhad yn ymarfer âg ef fodd yn y byd ar hyd ei oes.

Ar ddydd tesog ryw haf pan oeddym yn y Ty Coch, a’n rhieni oddicartref, duodd y ffurfafen yn y prydnawn, fflamiodd y, mellt, rhuodd y taranau, a disgynnodd y braswlaw yn llifeiriant. Ceisiasom ninnau, y plant, fyned i'r marchdy i ochel y gwlaw; ond yr oedd ein bysedd yn rhy fyrion i gyrhaeddyd y glicied drwy y twll oedd yn y drws, ac nid oedd gennym ond sefyll ar y rhiniog, bedwar o honom, yn dŷn ochr yn ochr, er mwyn cael cysgod y garreg hir oedd uwchben drws y marchdy, oblegid yr oedd drws y ty wedi ei gloi i fyny, a'r agoriad gan ein mam, a honno oddicartref. Yr oedd arnom ofn y taranau, ac wylem am yr uchaf. Cyn hir, dyma Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn rhedeg atom drwy y rhuthrwlaw; agorodd ddrws y marchdy, ac aeth efe a ninnau i mewn gyda ein gilydd. Wedi i ni ddywedyd fod arnom ofn y taranau, ac nad oedd ein rhieni gartref, dechreuodd efe ein cysuro a'n llonni. "I beth yr ydych yn crio, fy mhlant i?" meddai. "Ofn y taranau sydd arnom ni." "P'le mae eich tad a'ch mam?" "Oddicartref." "O, peidiwch a chrio; nid oes ar neb sydd yn ei sense ofn taranau." "Oes arnoch chwi ddim o'u hofn nhw?" "Nac oes: a wyddoch chwi ddim beth ydyw y taranau?" "Na wyddom ni'n wir." "Wel, fy mhlant i, chwi a welsoch yr awyr las fawr sy tudraw i'r cymylau yna." "Do, lawer gwaith." "A wyddoch chwi beth ydyw yr awyr honno?" "Na wyddom." "Tin ydyw hi, fel y tin sydd ganddoch chwi yn cario dŵr i'ch mam, ond ei fod o yn tin mawr, gwastad, ac yn llofft dros yr holl wlad. "O'r anwyl!" "A ddarfu chwi ddim sylwi fod y llofft tin honno yn pwyso ar ben Llangower a Moel y Graig, a'r holl fryniau uchel?" "Do." "Wel, fy mhlant i, pan fo hi yn daranau, Deio'r Graig fydd yn myned i ben y foel, ac olwyn trol ganddo, ac wedi rhoi tair carreg dan ei draed, yn myned a'r olwyn o'r tu fewn i'r tin, ac yn ei bowlio hi ar hyd y tin, nes y bo yn cadw swn dros yr holl wlad. Peidiwch ag ofni; gwaith Deio'r Graig ydyw y cwbl." Anghofiasom ofyn iddo beth oedd y mellt. Pe gwnaethem hynny, pur debyg y dywedasai mai rhyw gastiau o eiddo Deio gyda phylor oedd y rhai hynny hefyd. Pa fodd bynnag, llwyr dawelwyd ein hofnau ni. Dywedasom esboniad Cadwaladr, Wern Ddu, ar y taranau wrth ein tad pan ddaeth adref. Gwenu a wnaeth efe, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn eglurhad y gwr o'r Wern Ddu. Dyna fy syniad cyntaf i am y taran. Bu Deio'r Graig yn wr mawr yn ein golwg, ni am beth amser. Tebygol i Deio glywed esboniad. Cadwaladr, oblegid pan welsom ni ef oddidraw, gwaeddasom arno, a gofynasom iddo,—"Deio, ai ti oedd yn gwneud y taranau y dydd o'r blaen?" "Ie," ebai Deio; "tendiwch chwi eich hunain, os byddwch. chwi yn blant drwg.” Daeth adeg wedi hynny y gallem ni dderbyn athrawiaeth wahanol ar bwnc. y taranau a'r mellt, ond dysgeidiaeth Cadwaladr o'r Wern Ddu oedd oreu i dawelu ein hofnau ar ddydd y dymhestl honno.

Yr wyf yn cofio un cyffro teuluaidd mawr iawn yn ein ty ni. Aeth fy nhaid, Robert Oliver, a Margaret fy chwaer gydag ef (geneth oddeutu chwech oed pryd hwnnw), ar ryw ddydd teg yn niwedd mis. Medi, feddyliwn, i'r mynydd a elwir Ffridd Helyg y Moch i edrych am y gwartheg hesbion oedd yno dros. yr haf. Wedi cerdded cryn lawer yn y mynydd, a'r hen wr heb gael hyd i'r gwartheg, a Margaret bach yn blino cerdded drwy y grug, dywedodd ei thaid wrthi am eistedd yn llonydd mewn rhyw fan neillduol, tra y byddai ef yn myned ychydig ymhellach, ac y dychwelai efe ati yn ol cyn bo hir, fel y caent fyned adref ill dau gyda'u gilydd cyn y nos. Felly arosodd hi yno, ac aeth yntau ymlaen i edrych am yr anifeiliaid. Pan ddychwelodd i'r lle y gadawsai yr eneth, yr oedd hi wedi myned ymaith. Llwyr flinasai hi yn disgwyl am dano ef, ac aethai i grwydro, gan chwilio am ei thaid. Bu yntau yn chwilio yn hir am dani hithau, ac er iddo waeddi nid oedd neb yn ateb. Tybiodd efe y gallasai fod wedi dychwelyd adref, a throes yntau ei wyneb tua'r un man. Cyrhaeddodd i'r Ty Coch ar fin nos, a dechreuodd holi a ddaethai Margaret adref. “Naddo," meddai fy mam, "pa le y gadawsoch chwi hi?" Dywedodd yntau yr holl hanes. Cyffro mawr fu y canlyniad. Aeth y newydd drwg o dy i dy fel ar edyn y trydan. Cododd yr holl gwm allan, ac i'r mynydd a hwy, a mam gyda hwy, i chwilio am y lodes fechan. Nid oedd ganddynt ddim i wneud ond ymrannu yn wahanol ddosbarthiadau, cerdded ymlaen, a gwaeddi, cydwaeddi, i edrych a barai eu cydlef i'r fechan glywed eu lleferydd. Wedi i'r dosbarth yr oedd fy mam gydag ef gydwaeddi llawer, gwaeddodd fy mam ei hunan ei goreu, a dyna yr eneth fechan yn ateb llais ei mam. Rhuthrodd pawb ymlaen, a chyn hir dacw y ferch golledig ym mreichiau ei mam, er mawr lawenydd y ddwy. Crwydrasai Margaret, a gwaeddasai, ac wylasai nes pallu o'i nerth, a daliwyd hi gan y nos. Yna, mewn bryncyn teg, aeth dan ryw garreg gysgodol, gorweddodd, a chysgodd yn dawel. Ymdyrrodd defaid y lle yno ati, ac yr oedd yn hollol gynnes yn eu mysg. Oddeutu tri o'r gloch y bore, os wyf yn cofio yn gywir, y cafwyd hi. Noswaith sobr oedd honno i fy nain, fy mrawd Evan, a minnau, gartref, ond yr oeddwn i ar y pryd yn rhy fychan i amgyffred y trychineb, ond i raddau bychain. Ond diweddodd y cyfan mewn llawenydd teuluaidd, a chymydogaethol hefyd. Ychydig iawn wyf yn gofio am y rhyfel rhwng Prydain a Ffraine, oddieithr brwydr Waterloo yn unig. Yr wyf yn cofio yr ymladdfa honno yn burion. Yr oedd enw "Boniparti," fel y gelwid ef, yn air teuluaidd yng nghymoedd mynyddig Meirion driugain mlynedd yn ol. Gwyddid ei fod wedi dianc o Elba, wedi glanio yn Ffrainc, a chymeryd gafael yn awenau llywodraeth y wlad honno, ac ofnid gan y werinos anwybodus y deuai efe drosodd i Brydain. Ymysg eraill, yr oeddym ninnau yn ofni y deuai heibio i'n ty ni, ac y lladdai ni i gyd. Bu fy mrawd Evan, yr hwn sydd yn hynach na mi, a minnau yn dyfalu pa le y diangem i ymguddio pan ddeuai i Bennantlliw Bach. Meddyliodd un o honom mai myned i ddaear llwynog oedd yng Nghraig y Llestri oedd y peth goreu i ni. Ofnai y llall y gallai y llwynog fod i mewn pan aem ni yno; ac felly, rhwng bod y llwynog i fewn, a "Boniparti" o'r tu allan a'i gleddyf yn ei law, y byddem ni mewn cyflwr peryglus rhwng y ddau. Pan oedd y mater dan ystyriaeth gennym, daeth y newydd fod brwydr fawr wedi ei hymladd, a'r penrhyfelwr wedi cael ei lwyr orchfygu, ac wedi rhoddi ei hun i fyny i'r Saeson yn rhywle ar y môr. Yr oedd y wlad yn llawn o ysbryd rhyfela y pryd hwnnw. Ymunasai dau frawd i fy mam â'r gwirfoddlu, ac yr wyf yn eu cofio yn dyfod adref unwaith yn eu gwisgoedd milwraidd i edrych am eu perthynasau. Bu llawer o ryfeloedd ar ol hynny rhwng gwahanol genedloedd yn Ewrop, a pharthau eraill o'r byd, ond y mae arwyddion yr amserau presennol yn awgrymu y bydd diwedd'ar ryfel yn y man. Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr Watkin i ail adeiladu hen dy adfeiliedig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Costiodd hynny i'm rhieni dipyn o arian, a chollasant y pryd hwnnw bedair punt ar ddeg a roddasent yn fenthyg; a chyda hynny oll, dechreuodd y byd caled ac enbyd a ddilynodd ryfeloedd mawrion dechreuad y ganrif bresennol, wasgu yn drwm ar bob graddau, a darostyngwyd ninnau, fel llaweroedd, i afaelion tlodi a chyfyngderau dirfawr. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog, a swllt yn y dvdd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog; felly, prin y gallem gael bara, heb son am enllyn, gan y drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda y dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn eofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael. Gwelais hi yn prynnu rhuddion i'w wneud yn fara i ni. Gwingem ein goreu rhag tlodi, ond y cwbl yn ofer. Y prif beth a feddem i ymddibynnu arno oedd cyflog fy nhad; ond bob yn ychydig, dysgasom ni, y plant, wau hosanau i'w gwerthu, ac enillem drwy hynny ryw ychydig. O'r diwedd, cymerwyd fy nhad a'm mam, a'r teulu oll, yn afiach gan glefyd trwm. Buom felly yn hir iawn, a bu raid i ni gael cymorth plwyfol y pryd hwnnw. Bu brodyr a chwiorydd crefyddol yn dda iawn wrthym yn yr amgylchiad cyfyng. Yr oedd yn anhawdd iawn cael neb i'n hymgeleddu. Daeth fy nain o Ty'n y Gwynt atom; ond tarawyd hi gan y clefyd, dychwelodd adref, a bu farw yn fuan iawn. Un Ann Jones, chwaer y Parch. Ellis Evans, D.D., o'r Cefnmawr, a fu yn ffyddlon iawn i ddyfod atom. Deuai i'n gwylio y nos, a gweithiai yn ein lle y dydd. Bu wedi hynny yn wraig i un Evan Jones, Ty'n y Braich, Dinas Mawddwy, ond bu farw flynyddoedd yn ol.

Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely plyf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymhorth plwyfol, daeth Overseer y plwyf, a'i fab gydag ef, i'n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synwyrau yn dyrysu yn fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r ardal oedd ar gychwyn i America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar weilt. Yr oeddwn i yn dechreu gwellâu y pryd hwnnw, ac yr wyf yn cofio gweled yr Overseer hwnnw, gyda pherffaith ddideimladrwydd, yn myned a'r gwely ymaith. Mae gan ei fab blant, a chan un o'r rhai hynny blant hefyd. Na ddened un o honynt byth i amgylchiadau mor gyfyng a'r rhai yr oeddym ni fel teulu tlawd ac afiach ynddynt y pryd hwnnw; a phe deuent,na fydded iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor galed a didosturi ag y cafodd fy rhieni ymddwyn tuag atynt yn yr amgylchiad dan sylw. Gwellhaodd pob un o honom yn raddol; ail ymaflodd fy nhad yn ei waith, dechreuasom ninnau wau hosanau, hel cen cerrig, yr hwn a werthem am geiniog a dimai y pwys, mwy neu lai, ac felly, cynorthwyem dipyn ar ein rhieni. Nid oedd braidd garreg, o ychydig faintioli, yn yr holl fynyddau o gylch ein cartref nad oeddym yn ei hadnabod fel adnabod ein cymydogion, oblegid ein bod wedi bod mor fynych yn cenna yn eu plith. Buom lawer gwaith mewn perygl am ein heinioes wrth ddringo i chwilio am y cen; yn enwedig Margaret a minnau, unwaith mewn craig a elwir Clogwyn yr Eglwys, yn Mhennantlliw Bach. Aethom rywfodd i le y buom am oriau lawer yn methu yn lân a dyfod allan o hono; ond wedi bod yn garcharorion ar hyd y prydnawn, ni a lwyddasom i ddyfod oddiyno gyda y nos, dan grynnu, uwchben dyfnder mawr a dychrynllyd, a'n bywydau yn ddiogel gennym.

Yn haf y flwyddyn 1817, debygaf, gadawsom Dan y Castell, ac aethom i'r Adwy Wynt, gerllaw Blaenlliw Isaf, i gadw hafod dros fisoedd yr haf. Yr oedd fy nhad yn gweithio ar y tyddyn, a ninnau yn hannos ac yn cenna. Beudy oedd yr Adwy Wynt, a'r tân yn y naill ben iddo, a'r mwg yn myned allan drwy dwll yn ei dalcen, a wnaethid i fwrw gwair drwyddo i'r adeilad. Dychwelasom galangauaf i Dan y Castell, lle yr oedd ein hychydig ddodrefn yn cael eu cadw drwy yr haf. Wedi dychwelyd yn ol, gwau, pabwyra, a chenna oedd fy ngorchwyl i a'r plant eraill yn y gauaf dilynol; ac weithiau aem ar daith i gardota o fangre i fangre. Bu Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw swn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod i ni filldiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr yn Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan o honynt, yn ein hysgrepan. Heblaw hynny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd, edau grydd, a morthwyl bychan, tuag at drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuag at drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hynny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na ninnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned ymhell oddícartref. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Towyn, Meirionnydd, deallasom y costiai i ni ddwy geiniog bob un am groesi yr afon i Aberdyfi. Nid oedd gennyin ni yr un ddimai o arian; gan hynny, bu raid i ni werthu yr ychydig yd oedd gennym i gael pedair ceiniog i dalu i'r cwch. Gwerthasom y cwbl am bedair ceiniog. Cafodd rhywun fargen dda. Yr oedd yr yd yn werth hanner coron o leiaf, feddyliwn. Daethom i draeth yr afon Dyfi, ond bu raid i ni aros am gryn ddwy awr am y cwch o'r ochr arall. Yr oedd yn drai; ond cyn i'r ewch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn. Daeth boneddwr tirion atom. Bob yn dipyn holodd ni. Dywedasom ninnau ein holl hanes, a phwy oedd gweinidog Llanuwchllyn. Gwnaeth i ni ddarllen o'r Beibl oedd gennym, ac adrodd pethau a ddysgasem. Wedi croesi yr afon, dywedodd wrth y cychwyr,—"Yr wyf fi yn talu dros y plant bach." Ni ddeallasom ni ef ar y cyntaf, a phan oeddym a'r pres yn ein dwylaw yn eu cynnyg i'r cychwr, dywedodd hwnnw fod y boneddwr wedi talu drosom. Pwy ydoedd, ni wyddem ni; dyna yr olwg olaf a welsom ni arno; ond fe wnaeth weithred dda, pwy bynnag ydoedd, gweithred a goffeir yn nydd y farn ddiweddaf.

Daethom i Dowyn, a chawsom le i gysgu mewn taflod wair yn nghwr y dref. Addawodd y dyn a'n harweiniodd ni yno ddyfod a thamaid i ni, ond anghofiodd. Mewn taflod o wair, ac heb swper, y buom ni ein dau y noson honno. Cawsom lety cysurus nos drannoeth yn y ty sydd wrth bont Dysyni, yn ochr Llanegryn i'r bont. Cawsom le i fwrw y Sabbath yn nhy'r Gawen, a chroeso calon hefyd. Cawsom waredigaeth fawr yn Nhowyn. Wrth godi y bore o'r daflod wair, syrthiasom ein dau drwyddi i'r gwaelod. Syrthiais i ar flaen dant ôg, ond ni chefais nemawr o niwed. Cafodd fy mrawd fwy o niwed na myfi, a bu efe yn wylo yn hidl am beth amser. Yr oeddwn innau yn hongian ar y dant ôg, ac ni allwn. mewn un modd ymryddhau. Fy mrawd a'm tynnodd oddiyno. Cyrhaeddasom adref yn iach, a dyna y daith gardotawl olaf i mi. Gyda dyddordeb yr edrychais yn wastad wedyn ar y tai y lletyasom ynddynt. Ni ellais byth, ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio y tai a'm lletyasant, heb deimlo diolchgarwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi. A pha fodd y gallaswn?

Ar y 25ain o Ebrill, 1819, cefais le gyda y diweddar Evan Davies, Ty Mawr, Pennantlliw Bach, i gadw caeau Craig y Tân. Yr oedd rhyngof rai misoedd a chyrhaeddyd pen fy negfed flwydd pan aethum yno. Arosais yno yn agos i saith mlynedd, sef hyd nes yr aethum yn egwyddorwas. Yr oedd gennyf gyfle mynych i fod dan addysg fy nhad yn y blynyddoedd hynny oll, gan ei fod yn byw yn y gymydogaeth, ac yn fynych yn gweithio yn y Ty Mawr. Yr oedd teulu y Ty Mawr yn bobl wir grefyddol, ac yn aelodau gyda y Parch. Michael Jones yn yr Hen Gapel. Cefais yno lawer o fanteision crefyddol. Yr oedd addoliad teuluaidd yn cael ei gynnal yn rheolaidd yno, a llywodraeth gref, gariadlawn, yn cael ei dal i fyny yn ddiysgog dros bawb a berthynent i'r teulu. Gwraig y Ty Mawr oedd y ddynes fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welais i erioed, ac nid wyf yn disgwyl cyfarfod ei chyffelyb byth mwyach. Yr oedd fel oracl ar holl bynciau crefydd. Cefais yno gyfle i ddarllen llawer o wahanol lyfrau, a chynyddais mewn gwybodaeth o bob math. Barnai y Parch. M. Jones mai dyledswydd plant yr eglwys oedd dyfod i'r cyfeillachau crefyddol i adrodd adnodau, ac i gael eu holi ynddynt. Byddwn innau yn myned, gydag eraill, a chefais lawer o fudd drwy hynny. Dysgodd fy nhad fi i ysgrifennu a rhifo, egwyddorion peroriaeth, a rheolau Barddoniaeth Gymreig, a gallwn gyfansoddi englynion lled ddifai pan oeddwn oddeutu pedair ar ddeg oed. Gwr arall a fu yn addysgydd parod i mi yn rheolau barddoniaeth gaeth oedd Mr. John Parry, Deildref Isaf. Bardd rhagorol oedd y gwr ardderchog hwnnw, llawn o athrylith a thân awenyddol; ond bu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau. Pan oeddwn yn hogyn cadw yn y Ty Mawr derbyniwyd fi yn aelod o Gymdeithas y Cymreigyddion yn Llanuwchllyn. Yr oedd swm bychan o arian i'w dalu gan aelodau ar eu derbyniad, ond ni feddwn i yr un geiniog; gan hynny, yn ol cynghor John Parry o'r Deildref, cyfansoddais englyn i ofyn am gael fy nerbyn yn rhad. Adroddais ef yn y cyfarfod Cymrodorol, a llwyddais i gael derbyniad heb dalu dim. Parheais yn aelod tra yr arosais yn yr ardal honno. Enillais wobr am chwe' englyn o farwnad i Evan Davies, brawd gwraig y dafarn lle y cynhelid ein cyfarfodydd. Y wobr oedd ciniaw ar ddydd Gwyl Dewi, a pheint o gwrw gydag ef. Dyna y tro cyntaf i mi brofi cwrw; ofnwn iddo fy meddwi. Bum am rai oriau yn ei yfed, ond gadewais dipyn o hono heb ei gyffwrdd, rhag ofn iddo feistroli fy ymennydd. Cefais i lawer o addysg drwy feirniadaethau R. ab Dewi a John Humphreys ar gyfansoddiadau ymgeiswyr yng nghyfarfodydd y gymdeithas. Wedi treulio chwe' blynedd a deng mis yn ddedwydd iawn yn y Ty Mawr, aethum yn egwyddorwas at Mr. Simon Jones, Lôn, Llanuwchllyn, tad y diweddar Simon Jones, Bala. Dechreuais fy egwyddorwasiaeth Mawrth 1, 1826. Dwy flynedd ac wyth mis oedd y tymor i mi ddysgu fy nghelfyddyd. Yr oedd fy meistr yn of gwlad pur dda; ond yr oedd ei fab, Thomas Jones, yn grefftwr rhagorol, ac yn fardd gwych hefyd. Cyfansoddodd ef a minnau lawer dernyn gyda ein gilydd, a dysgais lawer o gywreinion fy nghelfyddyd oddiwrtho ef.

—————————————

Y TY COCH

Nid oedd Thomas Jones gyda chrefydd; ond yr oedd ei dad a'i fam, a thair chwaer iddo, yn aelodau ffyddlon gyda y Methodistiaid, a'i frawd Simon Jones, yn perthyn i'r Annibynwyr. Simon oedd yr unig un o'r meibion oedd gyda chrefydd. Teulu dedwydd iawn, hawddgar dros ben, oedd teulu y Lôn, a bum yn nodedig o gysurus gyda hwy. Y modd y cefais i fyned yn egwyddorwas oedd, drwy i'r diweddar Barchedig Michael Jones, gweinidog yr Hen Gapel, roddi i mi y flwyddyn honno arian prentisiaeth plant tlodion rhieni crefyddol, oedd wedi eu gadael yn ewyllys Dr. Daniel Williams, mewn cysylltiad ag Ysgol Rad y Dr. yr hon oedd dan ofal y Parch. M. Jones. Gyda llaw, Mr. Jones, yn ddiau, oedd y dyn cryfaf ei feddwl a pherffeithiaf ei fuchedd a gyfarfum i erioed. Nid oedd bwlch yn ei nodweddiad; ond cafodd driniaeth chwerw yn Llanuwchllyn. Mae hanes yr ymraniad a fu yno i'w gael yn "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru," fel na raid i mi ychwanegu.

Pan ddaeth fy amser i fyny yn y Lôn, aethum i weithio at Mr. Robert Roberts, Ty'n y Cefn, ger Corwen. Bum yno am chwe mis. Dyn medrus fel celfyddydwr oedd fy meistr. Yr oedd hefyd yn gryn ddarllennwr, a chanddo lawer o lyfrau pur dda. Ond y pryd yr oeddwn i yno, yr oedd yn arfer meddwi yn fynych iawn; ond tyngodd y ddiod feddwol, a bu yn llwyrymwrthodwr â hi tra y bu byw. Yr oedd hynny flynyddau cyn i lwyrymataliad ddyfod i Gymru.

Gadewais Dy'n y Cefn, yn nechreu Mai, 1829, ac aethum i weithfaoedd Deheudir Cymru i weithio am rai misoedd. Bum yn Nhredegar a Dowlais, a dysgais gryn lawer yn y misoedd hynny. Pan yn Dowlais, cefais barchi a charedigrwydd mawr gan feistr y gwaith, a'm cydweithwyr hefyd. Pan yn Nhredegar, gwelais 25 o bobl yn cael en bedyddio trwy drochiad. Yr oedd Mr. Davies, y gweinidog, yn rhy wael ei iechyd i fyned i'r dwfr gyda hwy. Dyn arall oedd yn eu trochi; ond rhoddodd Mr. Davies anerchiad ar lan y dwfr. Yr oedd fy mrawd Evan gyda mi yn gwrando yr anerchiad, ac yn edrych ar y trochiad. Wrth weled y merched yn myned i'r dwfr, ac yn dyfod allan o hono, daethom ni ein dan i'r penderfyniad, nas gallasai dull felly o fedyddio ddim bod o ordeiniad y llednais Iesu o Nazareth, ac ni ddileuwyd yr argraff anffafriol i drochyddiaeth a wnaed ar fy meddwl y pryd hwnnw hyd y dydd heddyw; ac wrth chwilio yn fanwl i'r mater mewn amser diweddarach, gwelais yn eglur mai nid bedydd y crediniol yn unig, a hwnnw trwy drochiad, ydyw y bedydd Cristionogol, ond fod plant mor gymwys i fod yn ddeiliaid bedydd ag ydyw pobl mewn oedran. Er gwahaniaethu o honof felly oddiwrth yr Hybarch Philip Davies (mab Dewi Ddu, dadl fawr yr Iawn yn Seren Gomer gynt), yr oeddwn i a'm brawd yn hoff iawn o'i glywed yn pregethu. Cynilais bum' punt yn Ty'n y Cefn, a rhoddais hwynt ar log. Cychwynais i Ferthyr gyda saith swllt a chwecheiniog yn fy llogell. Cysgais mewn gwesty bob nos. Cerddais yr holl ffordd, a phrynnais fwyd ar hyd y daith, ac yr oedd genyf oddeutu tri swllt yn weddill erbyn cyrhaeddyd Tredegar. Cerddais yn ol drachefn bob cam yng nghwympiad y flwyddyn, a gweithiais y gauaf a'r gwanwyn drachefn gyda fy hen gyfeillion yn y Lôn, Llanuwchllyn, lle oedd yn gartref da i mi bob amser.

Yn Mai, 1830, aethum i Groesoswallt at Mr. Edward Price o Garreg y Big, Llangwm gynt, a bum gydag ef hyd ddiwedd Mai. 1831, pryd yr ymadewais oblegid gwaeledd fy iechyd, ac ymwelais â glan y môr, yn Sir Gaernarfon, a chefais waith am dri mis gyda Mr. William Jones, yng Nghonwy, ac adferwyd fy iechyd yn hollol.

Yn nechreu Medi, 1830, pan oeddwn gyda Mr. Price, yng Nghroesoswallt, y daethum yn benderfynol i ymuno âg eglwys Dduw. Nid oedd yr un gynulleidfa Gymreig y pryd hwnnw yn perthyn i'r Anibynwyr yn y dref i mi ymuno â hi, ac nid oeddwn innau yn medru ond ychydig iawn o Saesonaeg. Yr unig gynulleidfa Gymreig yn y lle oedd un y Methodistiaid Calfinaidd, a chyda hwy y byddwn i yn gwrandaw yr efengyl. Anibynnwr oeddwn i o farn a theimlad; ond pa beth a wnawn dan yr amgylchiadau oedd y cwestiwn. Aethum i'r Main, Meifod, i ymgynghori â fy nhad beth oedd oreu i'w wneuthur. Yr oeddwn i yn meddwl mai gwell oedd i mi gael fy nerbyn yn aelod yno, os oedd modd, ond barnai fy nhad, gan na allwn i fod yno yn y society, y byddai fy nerbyn felly yn beth dyeithr braidd, a hollol anarferol yn y Main; a chynghorodd fi, yn hytrach nag oedi dim, rhag i'r argraffiadau ar fy meddwl wanhau, i ymuno a'r gynulleidfa Gymreig yn Nghroesoswallt fel aelod achlysurol, a phan ddysgwn yr iaith Saesonaeg, y cawn lythyr cymeradwyol ganddynt hwy i'm trosglwyddo i'r gynulleidfa Seisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn (Dr. Jenkyn, wedi hynny.) Dilynais ei gyngor, a derbyniwyd fi yn aelod yn y gynulleidfa Gymreig. Gwnaeth rhai beth gwrthwynebiad, oblegid y gwahaniaeth barn oedd rhyngof fi a'r Methodistiaid. Ond dywedodd Mr. Ffowc Parry nad oedd efe yn gweled un rhwystr yn y mater, oblegid os oeddwn i yn bwriadu aros yn y dref honno, ac yn byw yn addas i'r efengyl, y gallent hwy roddi llythyr cymeradwyol i mi i fyned at y Saeson, pan ddysgwn ddigon o Saesonaeg i allu cydaddoli â hwy; ac felly derbyniwyd fi. Cefais lawer iawn o ymgeledd ac adeiladaeth yn y gynulleidfa Gymreig. Diflannodd fy rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid, a chymerais innau ofal am beidio eu blino hwy yn yr Ysgol Sul, a'r cyfeillachau neillduol, a'm golygiadau neillduol fy hun am Natur Eglwys, Iawn Crist, Prynedigaeth, gwaith yr Ysbryd Glan yn nychweliad pechaduriaid, a phynciau cyffelyb. Bum yn y gyfeillach o ddechren Medi, 1830, hyd ddechreu Mawrth, 1831, cyn cael fy nerbyn yn gyflawn aelod. Daeth William Vaughan, yn ddiweddar o'r Waun, i'r society yr un noswaith a mi, ac os nad wyf yn camgofio, derbyniwyd ni yn aelodau yr un pryd. Parhaodd ein parch tuag at ein gilydd tra y bu efe byw. Cyfansoddais innau englynion coffadwriaethol am dano, ac yr wyf yn meddwl eu bod wedi eu cyhoeddi.

Tra y bum yn gweithio gydag Edward Price, ymroddais i ddysgu Saesonaeg. Arferwn godi yn foreu iawn yn yr haf, ac ysgrifennwn restr o eiriau Saesonaeg, a'u harwyddocâd yn Gymraeg wrthynt, a hoeliwn hwy ar y fantell uwchben y tân lle yr oeddwn yn gweithio, a dysgwn hwy allan ar hyd y dydd; yna, darllennwn lyfr Seisonig ar ol noswylio, ac yn achlysurol, cyfarfyddwn â rhai o'r geiriau a fuasent dan hoelion gennyf, a thaflent gryn oleuni ar y brawddegau y digwyddent fod ynddynt. Yr oedd yn anfantais i mi i ddysgu Saesonaeg ein bod yn wastad yn siarad Cymraeg gyda ein gilydd ar yr aelwyd gartref, ond cymerais i Ramadeg Seisonig, ac astudiais ef. Yr oeddwn yn deall y Gramadeg Cymraeg yn weddol dda o'r blaen, ac felly, drwy ddiwydrwydd ac ymadrech, daethum yn raddol yn alluog i weddio ac i annerch Ysgol Sabbathol Seisonig a gynaliai y Methodistiaid y pryd hwnnw yn Mhorth y Waun, i'r hon y gadewid i mi fyned, er mwyn i mi ymarfer tipyn â'r iaith Seisonig, gyda gwr ieuanc arall o'r enw John Davies, yr hwn oedd yn Sais da iawn, a dysgodd hwnnw lawer arnaf fi. Wedi i mi adael Conwy, ac ros rhyw ychydig yn Llanuwchllyn, dychwelais at Mr. Edward Price i Groesoswallt, a bu fy mrawd Evan a minnau yn gweithio yno am ran o'r flwyddyn 1832. Bum i yn gweithio am dro hefyd gyda Mr. William Evans, Lawnt, yn nghymydogaeth Croesoswallt, yr hwn oedd yn cadw gefail a thafarn. Lle direol dros ben oedd hwnnw.

Y nos gyntaf yr aethum yno, noson o ganu a dawnsio yn y ty gan ynfydion a ddaethent yno o redegfeydd meirch ar Gyrn y Bwch, cefais i freuddwyd rhyfedd iawn, ac a wnaeth effaith ddofn ar fy meddwl, a phenderfynais yn y fan na chyffyrddwn â dafn o ddiod feddwol tra y byddwn yn y lle, ac ni wneuthum ychwaith, a chefais ddiolch gan wraig y ty wrth ymadael am hynny, er ei bod yn dafarnwraig, oblegid, meddai hi, fod y gweithwyr a arferent yfed yno yn colli eu hamser, ac yn esgeuluso eu gwaith, fel yr oedd eu colled hwy oddiwrth eu hesgeulusdod yn llawer mwy na'u hennill oddiwrth y cwrw a yfent. Wedi gadael y Lawnt, bum am fis gyda gwraig weddw bur gas yn gweithio; ond ni allwn ei dioddef yn hwy na mis. Ymadewais, ac aethum yn bartner â Mr. Thomas Letsom, Morda, ger Croesoswallt, mewn foundry fechan. Gweithiais. yn galed iawn ddydd a nos, ac er fod fy mhartner, Thomas Letsom, yn meddwi llawer, talasom ein ffordd i bawb, ac enillasom swi go wych o arian heblaw hynny.

Ar ddydd Nadolig, 1833, cynaliwyd cyfeillach yn y capel Methodistaidd yn Nghroesoswalli, a darllenwyd llythyr gollyngdod i mi o flaen y frawdoliaeth i fyned at y Saeson, gan fy mod bellach wedi dysgu Saesonaeg yn weddol dda. Ymddygodd y Methodistiaid ataf yn hynod o dirion a charedig yn fy ymadawiad, ac y mae gennyf barch dwfn iddynt byth ar ol fy arosiad yn eu plith. Cymerais y llythyr, ac ymunais yn hollol ddirwystr a'r gynulleidfa Saisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn. Bu yn fanteisiol iawn i mi gael bod yn aelod gyda y Saeson. 1. Yr oedd Mr. Jenkyn yn bregethwr rhagorol. Llefarai yn Saesonaeg yn eglurach na neb a glywswn i erioed o'r blaen. 2. Cefais ymarfer ag areithio yn yr iaith Seisonig fy hunan mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn amgylchoedd Croesoswallt, mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbathol, a daeth hynny yn raddol yn esmwyth i mi. 3. Cefais lawer o gyfeillion newyddion, y rhai a fuont yn ffyddlon i mi bob amser wedi hynny. Mynnai y cyfreithiwr Mr. Minshull i mi roddi fy ngwaith heibio a myned i bregethu yr efengyl; a phan oeddwn, rai blynyddoedd wedi hynny, yn pregethu i'r Saeson yn yr Hen Gapel, ysgydwodd law yn gynnes â mi, a dywedodd wrthyf mor dda oedd ganddo fy mod wedi cydymffurfio a'i gyngor. Efe oedd y cyntaf erioed a soniodd wrthyf am fyned yn bregethwr. 4. Y pryd hwnnw y daethum yn gydnabyddus ag "Equity and Sovereignty" Dr. Edward Williams. Cefais fenthyg argraffiad 1809 gan Mr. Edward Davies o Lwynymapsi, yr hwn oedd yn dduwinydd rhagorol, ac yn fuan wedi hynny, prynnais y trydydd argraffiad o'r gwaith; ac wedi ei ddarllen yn fanwl, rhyfeddais fod cynifer o ddynion yn condemnio y traethawd—dynion na fuont erioed yn deilwng i ddatod careiau ei esgidiau ef. Prynnais hefyd waith Jonathan Edwards ar "Ryddid yr Ewyllys," a bu y llyfr hwnnw, mewn cysylltiad a gwaith Dr. Williams, yn foddion effeithiol i sefydlu fy marn ar amryw o bynciau pwysicaf crefydd. Darllennais amryw o lyfrau da eraill ar wahanol bynciau, a daethum yn raddol i ddechreu agor fy llygaid, a deall rhyw ychydig.

Yn niwedd Ionawr, 1835, gadewais Groesoswallt, ac aethum i weithio at fy hen feistr i Gonwy, yr hwn oedd erbyn hyn yn cadw tawdd—dy, tebyg i'r hwn oedd gan Letsom a minnau yn Morda. Bum yno hyd wanwyn y flwyddyn 1840. Lle caled, ond pur ddedwydd i mi, oedd hwnnw. Yr oedd achos newydd wedi cael ei ddechreu gan yr Anibynwyr yng Nghonwy, a chapel newydd yn cael ei adeiladu, yr hwn a agorwyd ar ddydd Iau Dyrchafael, 1835. Parch. Richard Rowlands oedd y gweinidog yng Nghonwy ac yn Henryd y pryd hwnnw. Ymunais i a'r gynulleidfa fechan honno, ac ymdrechais fod yn ddefnyddiol yn eu mysg.

Ar y 12fed o Awst, 1836, priodwyd fi âg Isabella, merch hynaf fy meistr, a buom ein dau fyw yn ddedwydd a diangen, nes y torrwyd hi i lawr gan angeu, yn nechreu y flwyddyn 1847.

Yn haf y flwyddyn 1835, yr oedd y gweinidog, y Parch. R. Rowlands, yn gwaelu o ran ei iechyd; ac er iddo fyned dan ddwylaw amryw o feddygon, nid oedd yn cael dim llesâd. Yn mis Hydref y flwyddyn honno, cynghorwyd fi gan lawer i bregethu yn achlysurol, er cynorthwyo Mr. Rowlands yn ei wendid; ac wedi tipyn o hwyrfrydigrwydd, ufuddheais i'w cais; ac wedi dywedyd ychydig yn y gyfeillach neill— duol, a chael cymeradwyaeth yr eglwys fechan honno, dechreuais bregethu yn gyhoeddus, yn gyntaf oll yn Henryd, yna yng Nghonwy. Wedi ymaflyd felly yn y gorchwyl mawr o bregethu yr efengyl, ymroddais yn egniol i gyfansoddi pregethau, a theithiais lawer, ar fy nhraed yn wastad, i'w traddodi yn yr holl gapeli oedd o bob ochr i afon Conwy. Fy nheithiau pellaf oeddynt i Dolyddelen, Pentre y Foelas, Moelfro, swydd Ddinbych; Bethesda, Arfon; Bangor, Beaumaris, a Chaergybi. Cychwynnwn nos Sadwrn, wedi noswylio, gan amlaf, a dychwelwn yn foreu iawn ddydd Llun at fy ngorchwylion yng Nghonwy, a phareais i lafurio felly—pregethu a gweithio bob yn ail, am dair blynedd a hanner. Cyn hir, ar ol i mi ddechreu pregethu, aeth Mr. Rowlands yn rhy wael i lafurio mwyach. Clywais ef yn traddodi ei bregeth olaf. Y testun oedd Phil. iii. 18: "Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awr hon hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt." Yr oedd efe a'r gynulleidfa yn ymwybodol mai y tro diweddaf iddo ef esgyn i'r areithfa yn Nghonwy ydoedd, ac oedfa ddifrifol iawn a gawsom. Bu yno wylo yn yr areithfa, ac yn yr eisteddleoedd hefyd. Aeth Mr. Rowlands i Feddyg-dy Dinbych, ac yno y bu farw Rhagfyr 10fed, 1836, ddeunaw mlynedd ar hugain i'r dydd yr wyf fi yn ysgrifenm y geiriau hyn, sef Rhagfyr 10fed, 1874. Dyn da a hawddgar iawn oedd Mr. Rowlands. Wedi ei farwolaeth ef, dechreuodd mân—brofedigaethau pregethwyr fy nghylchynu innau. Yr oedd yn yr eglwys yn Nghonwy rai dynion anhywaith a drygionus, yn mysg dynion da a ffyddlawn iawn, a chefais beth poen oddiwrth y dosbarth gwael hwnnw am dymor; sef, hyd nes y daeth y Parch. Richard Parry i ymsefydlu yno ac yn Henryd, yn weinidog. Pregethwr rhagorol oedd Mr. Parry (Gwalchmai), a chefais lawer o les dan ei weinidogaeth tra yr arosais yng Nghonwy.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn ein plith er's tro, ond yr oedd yfed a meddwi yn myned yn mlaen er hynny. Wrth weled mor aneffeithiol oedd Cymdeithas Cymedroldeb i atal y diota a'r meddwi ymffurfiodd luaws o honom yn Gymdeithas Lwyrymataliol oddiwrth ddiodydd meddwol, dan arweiniad y diweddar Hybarch Evan Richardson. Llafuriasom yn egniol o blaid dirwest, a llwyddasom yn ddirfawr. Yr oedd yr holl dafarnwyr yn ein herbyn; ond yr oedd Duw gyda ni. Cawsom wawd a dirmyg, ond cawsom ben y gelyn meddwdod i lawr i raddau helaeth iawn. Diolch i Dduw. Yr wyf y dydd heddyw mor sefydlog fy marn am y diodydd syfrdanol ag oeddwn y pryd hwnnw, a rhoddais yn wastad ar hyd fy oes weinidogaethol y dylanwad bychan oedd gennyf yn erbyn eu hyfed fel diodydd cyffredin, ac o blaid llwyrymwrthodiad â hwynt.

Yr oedd yng nghymydogaeth Conwy a dyffryn Llanrwst amryw o ddynion hynod yr amser hwnnw, megys John Owen, Cyffin, yr hwn oedd ar y pryd yn bregethwr gyda'r Wesleyaid, ac yn ddyn go neillduol; William Bridge, blaenor gyda'r un blaid, a dyn teilwng a dylanwadol; Owen Owens, Tyddyn Cynal, hen bererin rhyfedd iawn; David Jones, Salem, oedd yn ddyn da, diniwaid, llawn o arabedd; William Jones, hen weinidog Dwygyfylchi, Cristion rhagorol, a pherchen synwyr cyffredin cryf iawn, ac eraill a allwn enwi; ond nid oes gennyf amser i wneud sylwadau arnynt. Y maent oll ond Mr. Bridge wedi eu claddu. Heddwch i'w gweddillion yn eu beddrodau.

Yn nechreu y flwyddyn 1840, aethum i supplyo am ddun Sabbath i Dinas Mawddwy, a'r eglwysi cysylltiedig â'r Dinas, a derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi ym Mawddwy i ddyfod atynt i lafurio yn eu plith. Wedi ymgynghori â Duw (gobeithiaf), ac â llawer o'i bobl fwyaf defnyddiol, symudais yno ddechreu yr haf, ac ar yr 19eg o Fehefin, urddwyd fi i'm swydd bwysig yn nghapel y Dinas. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y cyfarfod a'r neillduad:—Cadwaladr Jones, Dolgellau; Michael Jones, Llanuwchllyn; Edward Davies, Trawsfynydd; Hugh Lloyd, Towyn:Samuel Roberts, Llanbrynmair: Hugh Morgans, Sammah; Evan Evans, 'Bermo; Evan Griffith, Llanegryn: Hugh Hughes, y Foel: John Parry, Machynlleth; Hugh James, Brithdir; Ellis Hughes, Treffynnon. Y Parch. Samuel Roberts a draddododd yr anerchiad ar "Natur Eglwys:" y Parch. Cadwaladr Jones a ofynodd y gofyniadau, ac a alwodd am arwydd o'u dewisiad o honof fi oddiwrth yr eglwysi, ac o'm derbyniad o'r alwad oddiwrthyf finnau; y Parch. Michael Jones a bregethodd i mi, oddiwrth Actau xx. 20; Evan Evans, 'Bermo, a bregethodd i'r eglwysi a'r gwrandawyr, oddiwrth 1 Thes. v. 12, 13. Dylaswn ddywedyd yn gynt, mai yr Hybarch Edward Davies, Trawsfynydd, a weddiodd yr urddweddi, fel ei gelwir hi. Yr oedd efe yn gâr pellenig i mi, a chyflawnodd ei ran yn y neillduad y'n deimladol a phriodol dros ben. Yr un modd y gwnaeth yr Hybarch Michael Jones ei ran yntau.

Ymdrechais lafurio yn galed a diarbed yn y Dinas a'r holl amgylchoedd. Yr oedd yn adeg adfywiad grymus ar grefydd, a bu llwyddiant dymunol ar fy lafur. Derbyniais lawer iawn o aelodau newyddion. Dychwelodd llawer o wrthgilwyr yn ol, a chynydd. odd y cynulleidfaoedd. Yr oedd dirwest yn blodeuo, a haelfrydedd Cristionogol ar gynnydd yn ein mysg. Gelwid am fy ngwasanaeth yn yr eglwysi cymydogaethol, a bum yn ddedwydd yn fy holl gysylltiadau. Ni arosais ond ychydig dros ddwy flynedd yn y Dinas. Yn gynnar yn 1842, derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys newydd oedd yn nghapel Salem, Liverpool. Yr oedd amrywiol bethau yn ymddangos i mi ar y pryd yn ffafriol i'm symudiad yno, a gwnaethum hynny yn nechreu Medi 1842. Bum lawer gwaith yn amheu wedi hynny a wnaethum yn ddoeth ac yn dda i adael pobl oedd yn fy ngharu mor fawr, ac yn mawrygu fy enw mor drylwyr, a'r eglwysi oedd dan fy ngofal ym Meirion. Prin yr wyf wedi cael boddlonrwydd ddarfod i mi wneuthur yn iawn yn fy ymadawiad â hwynt. Pa fodd bynnag, yr oedd llawer o brif ddynion ein henwad yn fy annog i fyned i Liverpool, ac, ar y cyfan, bu fy ngweinidogaeth yn gymeradwy ac yn llwyddiannus yno. Y diweddar Barch. T. Pierce oedd yr unig weinidog oedd gyda yr Anibynwyr pan y sefydlais i yno. Yn mhen naw mis ar ol i mi gymeryd gofal yr eglwys yn Salem, symudodd y Parch. W. Rees o Ddinbych i Liverpool, i gymeryd arolygiaeth yr eglwys yn y Tabernacl. Bu Mr. Pierce, a Mr. Rees (yn awr Dr. Rees), a minnau yn cydlafurio yn unol a dedwydd iawn dros y tymor yr arosais i yn Liverpool, a chefais lawer iawn o addysg yn eu cwmniaeth. Brodyr anwyl iawn oeddynt, ac yr oedd yr eglwysi mewn undeb hyfryd a'n gilydd dan ein gweinidogaeth, a phob un o'r cynulleidfaoedd yn cael mwynhau ein gweinidogaeth ni ein trioedd yn rheolaidd, oblegid arferem newid pulpudau bob Sabbath. Y pryd hwnnw hefyd y dechreuasom yr achos yn Birkenhead. Bychan iawn oedd hwnnw yn y dechreuad, ond y mae yn gallu cynnal gweinidog ei hunan er's llawer o flynyddoedd bellach.

Cyfarfum i a'r plant a phrofedigaeth lem a cholled fawr yn Liverpool. Ar y 29ain o Ionawr, 1847, bu farw fy anwyl wraig ar enedigaeth merch, a bu farw y ferch hefyd yr un pryd, a chladdwyd y ddwy yn yr un arch, Chwefror laf, yng nghladdfa Low Hill. Parodd marwolaeth Mrs. Thomas mor ddisymwth, a chyn cyrhaeddyd pen ei thrydedd flwydd ar ddeg ar hugain, gyffro a galar cyffredinol ymysg eglwysi Anibynnol Cymreig Liverpool, oblegid mawr berchid hi gan bawb o'i chydnabyddion yn y gwahanol eglwysi. Ni chawsai hi na'r plant iechyd da yno o gwbl, ond yr oeddwn i fy hunan yn weddol iach bob amser.

Wedi fy ngadael gyda thri o blant amddifaid afiach i gadw ty gyda morwynion, aeth bywyd yn Liverpool yn fwy o flinder nag o gysur i mi. Felly mi a symudais i'r wlad, a chymerais ofal yr eglwysi Anibynnol ym mhlwyf Rhiwabon, sef yn Rhosllanerchrugog, Rhosymedre, a Rhiwabon. Pan yno, bu farw fy merch ienangaf o'r clefyd coch, a chladdwyd hi ym mynwent y Wern, pan nad oedd ond tri mis dros. saith mlwydd oed. Bu hynny yn ergyd trwm i mi, oblegid yr oedd yn fy ngolwg yn wastad yr anwylaf o'r teulu. Bum yn y Rhos oddeutu saith mlynedd. Llafuriais yno dan amryw o anfanteision, ond ymroddais i waith y weinidogaeth, ac ni adawodd yr Arglwydd fi yn hollol ychwaith. Cefais y fraint o dderbyn cryn nifer o aelodau yn y gwahanol leoedd oedd dan fy ngofal, a chadwodd y gynulleidfa yn ei lluosogrwydd, a chynyddodd hefyd yn y gwahanol fannau. Y mae gennyf barch calon i lowyr plwyf Rhiwabon, a bum ar y cyfan yn ddedwydd iawn yn eu mysg.

Yn y flwyddyn 1855, derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Anibynnol ym Mangor, Arfon. Buasai yno ddwy gynulleidfa, ond rhai bychain oedd y ddwy; a gwaeth na hynny, yr oedd teimladau annedwydd rhyngddynt a'u gilydd. Yr oedd y diweddar Dr. Arthur Jones wedi gadael Bangor er's tro, ond yr ydoedd yn awyddus iawn am i mi ddyfod yn olynydd iddo ef yn Mangor. Penderfynodd y ddwy gynulleidfa hefyd ymuno â'u gilydd os deuwn i i'w plith i weinidogaethu; ac yr oeddwn innau yn hoff o Fangor bob amser, oblegid cymerasai y gynulleidfa fechan oedd dan ofal y Dr. Jones sylw serchog iawn o honof pan oeddwn yn dechreu pregethu, ac yn wastadol ar ol hynny hefyd. Yn fuan ar ol fy sefydliad ym Mangor, priodwyd fi â Miss Mary Vaughan, merch ieuangaf y diweddar Rowland Vaughan o Lanuwchllyn. Priodwyd ni yn Craven Chapel, Llundain, Ionawr 10fed, 1856, a buom fyw yn ddedwydd iawn hyd Mehefin 10fed, 1877, pryd y gadawodd fi, gan fyned i'r wlad well.

Bum yn agos i ddeunaw mlynedd yn Mangor, yn ddedwydd a defnyddiol. Cefais alwad i fyned i'r Bala yn 1873, i fod yn Athraw mewn Duwinyddiaeth yn yr Athrofa Anibynnol yno. Cefais lawer o ofid yn y Bala, nid oddiwrth yr eglwys na'r gynulleidfa, y myfyrwyr na'r athrawon. Yr oedd gwir gydgordiad rhwng y rhai hyn oll â mi; ond daeth y gofidiau oddiwrth ryw Gothiaid a Vandaliaid cythryblus o fân-weinidogion a lleygwyr, y rhai a sychedent am waed y Prifathraw, dyn na fu yr un o honynt hwy erioed yn deilwng i ddatod careiau ei esgidiau.

Tra fum yn Mangor, disgynnodd ysbryd barddoniaeth arnaf, ac enillais gadair Rhyl a chadair Caerlleon. Ni anfonais byth linell i Eisteddfod ar ol yr ymdrechfa ar wastadedd Caer.

Nodiadau[golygu]