Gwaith ap Vychan/Bore Dydd Byrraf

Oddi ar Wicidestun
Hunangofiant Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Fy Chwaer


BORE'R DYDD BYRRAF.

1878.

𝕯EUODD barrug y dydd byrraf,—a niwl
Llwydwyn, oer y gaeaf
I bob parth, ar ein gwarthaí,
Dyma fedd rhyfedd yr haf.

Rhaid i eira a rhew durol—ddyfod
I ddifa gormesol
Bryfetach tra difaol
O fron deg, o fryn, a dôl.

Ond daw gwanwyn teg ei wyneb,—eto
Natur wisg dlysineb,
A llaw Naf i'n llonni heb
Ryndod, na dim gerwindeb.


Nodiadau[golygu]