Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Ewyllys Rydd

Oddi ar Wicidestun
Croeso'r Prins Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Rhybudd i Gymru

EWYLLYS RYDD.

MAE meddylfryd pob rhyw galon,
Ar ddrygioni bob amseron;
Na all dyn, nes adgenhedlir,
Na bwriadu da na'i wneuthur.

Er cwymp Adda nid oes undyn,
All droi at Dduw a'i waith ei hun;
Na boddio Duw, a'i wir wasnaethu,
Nes i Dduw ei adgenhedlu.

Mae gan ddyn, wrth gwrs naturieth,
Rydd- did meddwl at gynhalieth;
Fel y mae gan bawb o'r Twrcod,
A'r Paganied, a'r 'nifeilod.

Fe all dyn o'i naws ei hunan,
Weithio gwaith gwarddedig Satan;
Ond ni all un dyn, er hynny,
Wneuthur da heb ras i'w helpu.

Fe wnaeth Duw ddyn ar y dechre,
Fel y gallsai geisio'r gore;
Fe droes Satan ddyn drwy bechod,
I fwriadu drwg yn wastod.

Ba wedd y daw o galon aflan,
Fwriad da un amser allan;
Nes i Grist a'i waed ei scwrio,
Ac â'i Yspryd ei sancteiddio?

Ba wedd y dwg ysgallen ffigys,
Na 'fallen sur afalau melus:
Na drain pigog rawnwin peraidd,
Na dyn aflan feddwl sanctaidd?


A ry ffynnon hallt ddwr melus?
A geir cyw da o'r ŵy fo brecus?
A ddaw glendid o beth aflan,
Na dim da o ddrygddyn allan?

A all dyn marw mewn drygioni,
Wneuther da ac adgyfodi?
A'r dall weld y llwybyr gole,
Nes i Grist oleuo'i lwybre?

Rym ni'n feirw, 'rym ni'n ddeillion,
Rym ni'n ddrwg oll, ac yn llymion;
Ba wedd y gall y meir cibddall,
Wneuthur un twrn da, na'i ddyall?

Rhaid i Grist ein hadgyfodi,
A goleuo'n dall dywyllni;
Cyn y gallo un pechadur,
Wir 'wyllysio da, na'i wneuthur.

Nes ail eni'r dyn o'r Yspryd,
A gras newid ei feddylfryd,
A goleuo ei wybodeth,
Ni wna ddim daioni ysyweth.

Ni all dyn o'i naws ei hunan,
Feddwl dim ond pethau aflan;
Os gwell pethau a feddyliwn,
Oddiwrth Dduw y daw'r fath fosiwn.

Ni all dyn naturiol ddyall
Pethau Duw, y mae mor anghall;
Y pethau penna ag archo Duw,
I synwyr cnawdol, ffoledd yw.

Ni wna undyn tra fytho byw,
Ddim daioni heb yspryd Duw;
Fel nas dichon unrhyw impyn
Ddwyn dim ffrwythau da, heb wreiddyn.


Nodiadau

[golygu]