Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Gwell Duw Na Dim

Oddi ar Wicidestun
Gweddi'n Erbyn Gorthrymder Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Galarnad Llanddyfri

GWELL DUW NA DIM.[1]

Os tad, os mam, os mab, os merch,
Os tai, os tir, os gwraig trwy serch,
A gais dy droi yn draws ne yn drist,
Oddiwrth dy gred a'th serch at Grist,

Gad dad i droi, gad fam i wylo,
Gad wraig i ysgoi, gad blant i grio,
Gad dai, gad dir, gad faeth, gad fywyd,
Cyn gado Crist, gad faint sydd gennyd.

Bydd Crist yn dad, yn fam, yn frawd,
Yn graig, yn gaer, yn ffrind, yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr, yn lles, yn llwyddiant,
Yn bob peth cu i bawb a'i carant.

Heb Grist, heb gred, heb faeth, heb fywyd,
Heb ddull, heb ddawn, heb nerth, heb iechyd,
Heb hop, heb help, heb ras, heb rym,
Heb ddysg, heb dda, heb Dduw, heb ddim.

Gwell Duw na'r nef, na dim sydd ynddi,
Gwell na'r ddaiar, na'r maint sydd arni,
Gwell na'r byd, na'i olud in,
Gwell, a dou well, Duw na dim.


Gwell na thad, na mam, na mamaeth,
Gwell na chyfoeth, na 'tifeddieth,
Gwell na Mair, gwell na Martha,
Gwell na dim yw Duw gorucha'.

Os Duw ddewisiaist yn dy ran,
Cei Grist i'th gynnal ymhob man,
Cei'r saint i'th gylch, cei'r byd i'th garu,
Cei'r nef i'th ran, cei'r fall i'th ofni.

Ti ddewisiaist y rhan benna,
Pan ddewisiaist Dduw gorucha';
Rhan na ddygir byth oddi arnad,
Tra pharhaffo'r haul a'r lloyad.




Nodiadau

[golygu]
  1. Codwyd y penillion hyn o gyfrol o lawysgrifau wedi eu hysgrifennu yn nhymor bywyd y Ficer. Cyfrol o ganeuon mawl teulu Moelyrch, yw yn bennaf. Ceir y penhillion hyn fel y cenid hwy yn Nyffryn Tywi. Ni feiddiais newid y caneuon ereill i fod ar lun y rhai hyn, er fy nhemtio i wneyd hynny. Gwelir y ffurfiau "dou" a "lloyad," yn lle "dau" a lleuad" y caneuon ereill.—GOL.