Gwaith yr Hen Ficer/Gweddi'n Erbyn Gorthrymder
Gwedd
← Y Beibl Bach | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwell Duw Na Dim → |
GWEDDI'N ERBYN GORTHRYMDER.
DIHUN, dihun, paham y cysgaist?
Erioed hyd hyn, fy Nuw, ni hepiaist;
Nid Baal wyt; O danfon swcwr,
Tynn dy was o dost gyfyngdwr.
Sych fy nagre, torr fy magal,
Gwared fenaid, llaesa 'ngofal,
Gwel fy nghystudd, clyw fy nghwynfan,
Barn fy hawl, rhyddha fi weithian.
Fy nghraig i wyt, O n'ad fi syrthio,
Fy nhŵr cadarn, n'ad f'anrheithio,
Fy Nuw, fy Ner, O! dere i'm helpu,
Fy nefawl Dad, n'ad fy ngorthrymu.
Galluog wyt, di elli helpu,
Unig ddoeth, y modd ti fedri;
Drugarog Dad, O! dere â swcwr,
Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngdwr
Gwradwydda fwriad fy ngelynion,
Atal falchder fy nghaseion;
Gwasgar gyngor tyrfa waedlyd,
Er mwyn Crist rhyddha fi o'm pennyd.