Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Y Beibl Bach

Oddi ar Wicidestun
Rhai Geiriau Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gweddi'n Erbyn Gorthrymder

II

Y BEIBL BACH. [1]

Cyngor i wrando ac i ddarllen Gair Duw.

CAIS gŵr, na gwraig, na bachgen,
Ddysgu'r ffordd i'r nefoedd lawen,
Ceisied Air Duw i'w gyfrwyddo,
Onid e fe aiff ar ddidro.

Mae'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddyrys,
Mae tramwy'n fach, mae rhwystre anhapus,
Mae'r porth yn gul i fyned trwyddo,
Heb oleu'r Gair nid eir byth ato.

Mae'r nef uwch law yr haul a'r lleuad,
Mae'r ffordd yn ddieithr i ti ddringad,
Rhaid Crist yn ysgol cyn dringadech,
A'i Air yn ganwyll cyn canfyddech.

Mae llawer craig o rwystre cnawdol
Mae llawer môr o drallod bydol;
Cyn mynd i'r nef, rhaid myned drostynt,
Heb oleu'r Gair nid eir byth trwyddynt.

Mae llawer mil o lwybre ceimion,
O ddryswch blin, o ffosodd dyfnion;
Cyn mynd i'r nef, 'rwy'n dywedyd wrthyd,
Heb oleu'r Gair, ni elli eu gweglyd.

Di elli fynd i uffern danllyd,
Lwyr dy ben, heb un cyfrwyddyd,
Nid aiff neb i'r nef, gwnaed allo,
Heb y 'Fengyl i'w gyfrwyddo.


Nid goleu'r haul, nid goleu'r lleuad,
Nid goleu'r dydd, na'r ser sy'n gwingad ;
Ond goleu'r Gair, a'r 'Fengyl hyfryd,
All dy oleuo i dir y bywyd.

Cymer lantern Duw'th oleuo,
A'r Efengyl i'th gyfrwyddo;
Troedio'r llwybr cul orchymynwys,
Di ai'n union i baradwys.

Y Gair yw'r ganwyll a'th oleua,
Y Gair yw'r gennad a'th gyfrwydda,
Y Gair a'th arwain i Baradwys,
Y Gair a'th ddwg i'r nef yn gymwys.

Dilyn dithau oleuni'r Gair,
Gwna beth archodd un-Mab Mair,
Gochel wneuthur a wrafunwys,
Di ei'n union i Baradwys.

Seren wen sy'n arwain dyn
O fan i fan at Grist ei hun,
'Yw'r Efengyl i gyfrwyddo
Pawb i'r nefoedd a'i dilyno.

Bwyd i'r enaid, bara'r bywyd,
Gras i'r corff, a maeth i'r yspryd,
Lamp i'r droed, a ffrwyn i'r genau,
Yw Gair Duw, a'r holl 'Sgrythyrau.

Llaeth i fagu'r gwan ysprydol,
Gwin i lonni'r trist cystuddiol,
Manna i borthi'r gwael newynllyd,
Ydyw'r Gair a'r 'Fengyl hyfryd.

Eli gwych rhag pob rhyw bechod,
Oyl i ddofi gwyn cydwybod,
Triag gwerthfawr rhag pob gwenwyn,
Ydyw'r Gair, a balsam addfwyn.


Mwrthwl dur i bario'n cnape,
Bwyall lem i dorri'n ceincie,
Rheol gymwys i'n trwsiadu,
Ydyw'r Gair, ac athro i'n dysgu.

Udgorn pres i'n gwysio i'r frawdle,
Cloch i'n gwawdd i wella'n beie,
Herawld yn proclaimio'n heddwch,
Ydyw'r Gair, a'n gwir ddiddanwch.

Y Gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi
Ein holl frychau, a'n holl frynti,
Ac yn erchi in' eu gwella,
Tra fo'r dydd a'r goleu'n para.

Y Gair yw'r had sy i'n hadgenhedlu
Yn blant i Dduw, yn frodyr Iesu,
Yn deulu'r nef, yn deml i'r Yspryd,
Yn wir drigolion tir y bywyd.

Heb y Gair nid wy'n dychymyg
Pa wedd y bydd un dyn cadwedig;
Lle mae'r Gair yn benna' o'r moddion
Ordeiniodd Crist i gadw'r Cristion.

Heb y Gair ni ellir 'nabod
Duw, na'i natur, na'i lân hanfod,
Na'i Fab Crist, na'r sanctaidd Yspryd,
Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.

Heb y Gair ni ddichon undyn
'Nabod 'wyllys Duw, na'i ganlyn,
Na gwir ddysgu'r ffordd i addoli,
Nes i'r Gair roi iddo oleuni.

Heb y 'Sgrythyr ni ddealla
Undyn byth ei gwymp yn Adda,
Na'i drueni, na'i ymwared
Trwy Fab Duw o'r fath gaethiwed.

Heb y Gair ni all neb gredu
Yng Nghrist Iesu fu'n ei brynu;
Can's o wrando'r Gair yn brudd
Y mae i Gristion dderbyn ffydd.

Heb y Gair nid yw Duw'n arfer
Troi un enaid o'i ddiffeithder;
Ond trwy'r Gair mae'n arferedig
Droi eneidiau fo cadwedig.

A'r Gair y trodd yr Apostolion,
Y Cenhedloedd yn Gristnogion;
Heb y Gair peth dieithr yw
Troi pechadur byth at Dduw.

A phregethiad un Efengyl
Y trodd Peder gwedi tair-mil
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd yr Iesu.

Trwy had y Gair yr adgenhedla
Yspryd Duw'r pechadur mwya,
Ac a'i gwna yn oreu ei ryw,
Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.

Y Gair sy'n cynnwys ynddo'n helaeth,
Faint sydd raid i iechydwriaeth:
Chwilia hwn, a chais e'n astud,
Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.

Crist sy'n erchi it' lafurio
Am y Gair, a'th draed a'th ddwylo,
Mwy nag am y bwyd a dderfydd,
O chwenychi fyw'n dragywydd.

Fel y llef dyn bach am fronne,
Fel y cais tir cras gafode,
Fel y brefa'r bydd am ffynnon,
Llef am eiriau'r 'Fengyl dirion.


Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
Gwerth dy grys oddiam dy gefen,
Gwerth y cwbl oll sydd gennyd,
Cyn y bech heb Air y bywyd.

Gwell it' fod heb fwyd, heb ddiod,
Heb dŷ, heb dân, heb wely, heb wasgod,
Heb oleu'r dydd a'r haul garuaidd,
Na bod heb y 'Fengyl sanctaidd.

Tost yw aros mewn cornelyn,
Lle na oleuo'r haul trwy'r flwyddyn;
Tostach trigo yn y cwarter
Lle na oleuo'r Gair un amser.

Na thrig mewn gwlad heb law ar brydie,
Mewn glynn heb haul, mewn tŷ heb ole,
Mewn tre' heb ddwr, mewn llong heb gwmpas,
Mewn plwyf heb ryw bregethwr addas.

Gado'r wlad, y plwyf, a'r pentre,
Gado'th dad, a'th fam, a'th drase,
Gado'r tai, a'r tir yn ebrwydd,
Lle na bytho Gair yr Arglwydd.

Gwell it' drigo mewn gogofe,
A chael gwrando'r 'Fengyl weithie,
Nag it' drigo mewn gwlad ffrwythlon,
Lle na bytho'r 'Fengyl dirion.

Tost yw trigo mewn tywyllwch,
Lle na chaffer dim diddanwch;
Tostach trigo yn rhy hair,
Lle na chaffer gwrando'r Gair.

Nid gwaeth trigo ymysg y Twrcod,
Sydd heb ofni Duw na'i 'nabod,
Nag it' drigo'n dost dy dreigyl,
Lle na chlywer Crist na'i 'Fengyl,


Tynn i Loeger, tynn i Lundain,
Tynn dros for tu hwynt i Rufain,
Tynn i eitha'r byd ar dreigyl,
Nes y caffech gwrdd â'r 'Fengyl.

Blin it' weld yr haul a'r glaw,
Mewn plwyfe o ddeutu, yma a thraw,
A'th blwyf dithe (peth yscymun),
Heb na haul na glaw trwy'r flwyddyn.

Oni bydd un bregeth ddurfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Dos i maes i'r plwyf lle i bytho,
N'âd un Sabboth heb ei gwrando.

Pan fo eisie ar dy fola,
Di ai i'r gell i geisio bara;
Pan fo newyn ar dy enaid,
Nid ai i unlle i geisio ei gyfraid.

Beth y dâl it' borthi'r corffyn,
O bydd d'enaid marw o newyn?
A all dy gorff di gael difyrrwch,
Pan fo d'enaid marw o dristwch?

Drwg it' ladd y corff a newyn,
Eisie bara tra fo'r flwyddyn;
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd,
Eisie ei borthi â bara'r bywyd.

Llef gan hynny ar y 'ffeiriaid,
Am roi bwyd i borthi d'enaid,
'R wyt ti'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Pâr i nhwyntau dorri'th newyn.

Gwrando'r Gair o enau'r 'ffeiriad,
Fel o enau Crist dy Geidwad,
Crist a roes awdurdod iddo,
I'th gynghori a'th rybuddio.


O' par Crist i 'ffeiriad noethlyd
Dy rybuddio i wella'th fywyd,
'Rwyt ti'n rhwym i wneuthur archo,
Pe doe asen i'th rybuddio.

Pe doi Suddas i bregethu
'Fengyl Crist, ti ddylid ei dysgu,
Fe all y 'Fengyl gadw d'ened,
Er i'th athro dost gamsynied.

Os dy fugail sydd anweddaidd,
A'i athrawiaeth yn Gristnogaidd,
Dysg y wers, na ddysg ei arfer,
Gochel feiau Paul a Pheder.

Na wna bris o'i wedd na'i wisgiad,
P'un ai gwych ai gwael fo'i ddillad;
Nid llai grym y 'Fengyl gyngan,
O'r siaced ffris na'r gasog sidan.

Cymer berl o enau llyffan,
Cymer aur o ddwylo aflan,
Cymer win o botel fudur,
Cymer ddysg o ben pechadur.

Gwrando 'Fengyl, Crist yw i hawdwr,
Pa fath bynna' fo'r pregethwr.
Prisia'r Gair, na phrisia'r gennad,
Crist ei hun a'i helodd atad.

Cadw'r geiriau yn dy galon,
N'ad eu dwyn gan gigfrain duon;
Had yw'r Gair i'th adgenhedlu,
Os i'r galon y derbyni.

Dyfal chwilia di'r 'Sgrythyre,
Darllen Air Duw nos a bore;
Dilyn arch y Gair yn ddeddfol,
Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.


Cadw'r Gair bob pryd i'th galon,
Ac hyspysa hwn i'th feibion;
Sonia am dano nos a bore,
I mewn, i maes, wrth rodio ac eiste.

Dod e'n gadwyn am dy fwnwg',
Dod e'n rhactal flaen dy olwg,
Dod e'n signet ar dy fysedd,
Na ddos hebddo led y droedfedd.

Gwna'r Gair beunydd yn gydymeth,
Gwna'n gywely it' bob nosweth,
Gwna e'n gyfaill wrth siwrneia,
Gwna'r peth archo wrth chwedleua.

Gwna fe'n ben cynghorwr iti,
Gwna fe'n athro i'th reoli;
Fe ry'r Gair it' gan gwell cyngor,
Nag a roddo un rhyw ddoctor.

N'ad ei drigo yn yr Eglwys
Gyd a'r 'ffeiriad'r hwn a'i traethwys,
Dwg ef adref yn dy galon,
Ail fynega rhwng dy ddynion.

Gwna di'r Gair yn ddysgled benna',
Ar dy fwrdd tra fech yn bwyta ;
Gwedi bwyta, cyn cyfodi,
Boed y Gair yn juncats iti.

Rho i'th enaid, nos a bore,
Frecffast fechan o'r 'Sgrythyre,
Rho iddo giniaw brudd a swper,
Cyn yr elych i'th esmwythder.

Fel y porthi'r corff â bara,
Porth dy enaid bach â'r manna,
N'ad i'th enaid hir newynu,
Mwy na'r corff sy'n cael ei fagu,


Mae'r Bibl bach yn awr yn gyson,
Yn iaith dy fam, i'w gael er coron,
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad i'th gadw.

Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan:
Gwell dodrefnyn yn dy lety,
Yw'r Bibl bach na dim a feddi.

Fe ry gonffordd, fe ry gyngor,
Fe ry addysg gwell na doctor;
Fe ry lwyddiant a diddanwch,
Fe ry it lawer o ddedwyddwch.

Fe ry fara i borthi d'enaid,
Fe ry laeth i fagu'th weiniaid,
Fe ry win i'th lawenhau,
Fe ry eli i'th iachau.

Pwy na phryne y Bibl sanctaidd,
Sy mor werthfawr ac mor g'ruaidd?
Pwy na werthe'i dŷ a'i dyddyn,
I bwreasu'r fath ddodrefnyn?

Dyma'r perl y fynn yr Iesu
I bob Cristion doeth i brynu,
Fel y marsiant call a werthe,
I brynu hwn, faint oll a fedde.

Gan i Dduw roi i ni'r Cymry,
Ei Air sanctaidd i'n gwir ddyscu,
Moeswch i ni fawr a bychain,
Gwympo i ddyscu hwn a'i ddarllain.

Moeswch i ni, wŷr a gwragedd,
Gyd â'n gilydd heb ymhowedd,
Brynu bob un iddo lyfyr,
I gael darllain geiriau'r 'Sgrythyr.


Moeswch i ni bawb rhag gwradwydd,
Ddyscu darllain Gair yr Arglwydd;
Gan i Dduw ei ddanfon adre,
Atom bawb, yn iaith ein mame.

Nadwn fynd y gwaith yn ofer,
Y fu'n gostfawr i wŷr Lloeger,
Rhag na fedrom wneuthur cyfri
Ddydd y farn am gyfryw wrthni.

Gwŷr a gwragedd, merched, meibion,
Cymrwn ddysg oddiwrth y Saeson,
Y rhai fedrant bob un ddarllain,
Llyfr Dduw'n eu hiaith eu hunain.

Gwradwydd blin i ninnau'r Cymry,
Oni cheisiwn weithian ddyscu
Darllain Gair Duw, y 'Sgrythyre,
Gan eu printio'n iaith ein mame.

Ni chyst Bibl i ni weithian
Ddim tu hwnt i goron arian,
Gwerth hen ddafad y fo marw
Yn y clawdd ar noswaith arw.

O meder un o'r tylwyth ddarllain
Llyfr Duw yn ddigon cywrain,
Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth
Ddyscu'r cwbl o'r holl dylwyth.

Ni bydd Cymro'n dyscu darllain
Pob Cymraeg yn ddigon cywrain
Ond un misgwaith (beth yw hynny?)
Os bydd ewyllys ganddo i ddyscu.

Mae'n gwilyddus i bob Cristion,
Na chlyw arno stofio coron,
Ac un misgwaith o'i holl fywyd,
Ynghylch dyscu'r 'Fengyl hyfryd.


Mae'r cobleriaid a'u morwynion,
A'r rhai gwaetha' 'mysc y Saeson,
Bob yr un â'r Bibl ganthynt,
Ddydd a nos yn darllain ynddynt.

Mae'r penaethiaid gyda ninnau,
A'u tableri ar eu bordau,
Heb un Bibl, nac un plygain,
Yn eu tai, na neb i'w darllain.

Peth cwilyddus gweld cobleriaid
Yn rhagori ar benaethiaid,
Am gadwraeth eu heneidiau,
A'r peth rheita' mewn neuaddau.

Y cobleriaid hyn a gyfyd,
Ddydd y farn, yn anian acthlyd,
I gondemnio'r fath benaethiaid,
Sydd mor ddibris am yr enaid.

Pob merch tincer gyda'r Saeson
Feder ddarllain llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer scwier
Gyda ninne ddarllain pader.

Gwradwydd tost sydd i'r Brutaniaid,
Fod mewn crefydd mor ddieithriaid,
Ac na wyr y canfed ddarllain
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain.

Bellach moeswch in', rhag cwilydd,
Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd,
Ac ymroi i ddyscu darllain
Llyfr Duw 'n ein hiaith eu hunain.

Felly gallwn ddyscu 'nabod
Y gwir Dduw, a'i ofni'n wastod,
Ac o'i 'nabod, ei wir ofni,
Fe ry ddidranc fywyd inni.


Duw ro ras a grym i Gymru
Nabod Duw, a'i wir wasnaethu ;
Crist a nertho bob rhai ddarllain
Llyfr Duw 'n eu hiaith eu hunain.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cyhoeddwyd y Beibl bach, y Beibl cyntaf y medrai gwerinwr ei feddu, yn 1630. Awydd mawr y Ficer yw gweld pawb yn ei brynu.