Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/At y Darllenydd

Oddi ar Wicidestun
Adgofiant o'r Awdwr Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
Gweledigaeth Cwrs y Byd


AT Y DARLLENYDD.

A DDARLLENO, ystyried;
A ystyrio, cofied;
A gofio, gwnaed;
A wnel, parhäed.


A barhao'n ffyrdd Rhinwedd,
Gan ymryddhau o'i gamwedd,
Fwyfwy fyth hyd ei ddiwedd,
Ni fedd a bortho'r fflam ffiaidd,
Na phwys a'i sawdd i'r Sugnedd;
Nid ä byth i Wlad y Dialedd,
Penydfan pob Anwiredd.

Ond y difraw gwael a geulo
Ar ei sorod, a suro
(Nid byw y Ffydd na weithio)
A hirddrwg hir-ddilyno,
Heb Grod a Charind effro;
Gwae, gwae tragwyddol iddo!
Fe gaiff weled theimlo
Fwy mewn mynyd llym yno,
Nag a fedr oes ddyfeisio.


Nodiadau[golygu]