Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Gweledigaeth Cwrs y Byd

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenydd Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
Cân Gweledigaeth Cwrs y Byd


GWELEDIGAETHAU

Y

BARDD CWSG.

—————————————

I—GWELEDIGAETH Y BYD

Ar ryw brydnawngwaith teg o haf hir felyn tesog, cymmerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych, i helpu'm'[1] golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr deneu eglur, a'r tes ysblenydd tawel, canfyddwn ym mhell bell, tros Fôr y Werddon, lawer golygiad 'hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid[2] oedd yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan syn fyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsent gwrs[3] y byd, wrthyf fi a’m bath. Felly, o hir drafaelio[4] â'm llygad, ac wedi â'mmeddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac â'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill, yn dyn ddiogel. Eto, gwaith ofer oedd iddo geisio cloi yr Enaid, a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys diangodd fy ysbryd ar esgyll ffansi[5] allan o'r corpws[6] cloiedig: a chyntaf peth a welwn i, yn fy ymyl [oedd] dwmpath chwareu, a'r fath Gad Gamlan[7] mewn peisiau gleision a chapiau cochion, yn dawnsio yn hoew brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng gynghor awn i atynt ai peidio; o blegid ofnais, yn fy ffwdan, mai haid oeddynt o Sipsiwn[8] newynllydd; ac na wnaent as[9] lai na'm lladd i i'w swper, a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy yn well a thecach eu gwedd na’r giwed felynddu gelwyddog hòno. Felly anturiais nesäu atynt, yn araf deg, fel iâr yn sengu ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd gofynais eu cenad fel hyn o hyd fy nhin: Atolwg, lân gynnulleidfa, yr wyf yn deall mai rhai o bell ydych, a gymmerech chwi Fardd i'ch plith, sy'n chwennych trafaelio?' Ar y gair, dystawodd y trwst, a phawb â'i lygad arnaf, a than wichian, Bardd,' ebr un; Trafaelio,' eb un arall; I'n plith ni,' ebr y trydydd. Erbyn hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnicaf o'r cwbl. Yna dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion, ac edrych arnaf; a chyda hyny torodd yr hwndrwd,[10] a phawb a'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir; ac yna ymaith â ni, fel y gwynt, tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim, gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg. A pheth sy waeth, dechreuais ammheu fy nghymdeithion wrth eu gwaith yn gwrthuno ac yn cuchio[11] arnaf eisieu canu dychan[12] i'm brenin fy hun.

'Wel,' ebr fi wrthyf fy hun, 'yn iach weithian i'm hoedl; fe ä'r carn witsiaid[13] melltigedig hyn â mi i fwytty neu seler rhyw bendefig, ac yno y'm gadawant i dalu iawn gerfydd fy ngheg am eu lledrad hwy: neu, gadawant fi yn noeth lyman i fferu ar Forfa Caer,[14] neu ryw oerle anghysbelli[15] arall. Ond wrth feddwl fod y wynebau a adwaenwn i wedi eu claddu,[16] a'r rhai hyny[17] yn fy mwrw ac ereill yn fy nghadw uwch ben pob ceunant, dëellais nad witsiaid oeddynt, ond mai rhai a elwir y Tylwyth Teg. Ni chawn i attreg[18] nad dyma fi yn ymyl yr anferth gastell tecaf a'r a welais i erioed, a llyn tro mawr o'i amgylch; yma dechreuasant roi barn arnaf: 'Awn ag e'n anrheg i'r castell,' ebr un; "Nag e, crogyn ystyfrig, taflwn ef i'r llyn, ni thâl mo'i ddangos i'n tywysog mawr ni," meddai'r llall; 'A ddywed ef ei weddi cyn cysgu?' ebr y trydydd. Wrth iddynt son am weddi, mi a riddfenais ryw ochenaid tuag i fyny, am faddeuant a help; a chynted y meddyliais, gwelwn ryw oleuni o hirbell yn tori allan, O mor brydferth! Fel yr oedd hwn yn nesäu, yr oedd fy nghymdeithion i yn tywyllu ac yn diflanu; a chwipyn dyma'r Dysglaer yn cyfeirio tros y castell atom yn union: ar hyn gollyngasant eu gafael; ac ar eu hymdawiad troisant ataf guch[19] uffernol; ac oni buasai i'r Angel fy nghynnal, buaswn digon mân er gwneyd pastai, cyn cael daiar.

'Beth,' eb yr Angel, ‘yw dy neges di yma?' 'Yn wir, fy Arglwydd,' ebr finnan, 'nis gwn i pa le yw yma, na pheth yw fy neges, na pheth wyf fy hun, na pleth aeth â'm rhan arall i: yr oedd genyf bedwar aelod, a phen; a pha un ai gartref y gadewais, ai i ryw geubwll (canys cof genyf dramwy tros lawer o geunentyd geirwon) y bwriodd y Tylwyth Teg fi, os teg eu gwaith, nis gwni, Syr, pe crogid fi.' 'Teg, eb ef', 'y gwnaethent â thi, oni bai fy nyfod i mewn pryd i'th achub o gigweiniau[20] plant annwfn.[21] Gan fod cymmaint dy awydd i weled cwrs y Byd bach, ces orchymmyn i roi i ti olwg arno, fel y gwelit dy wallgof yn anfodloni i'th ystâd a'th wlad dy hunan. "Tyred gyda mi, neu dro," eb ef; a chyda'r gair, a hi yn dechreu tori'r wawr, fe a'm cipiodd i ym mhell bell tu uchaf i'r castell; ac ar ysgafell[22] o gwmwl gwyn gorphwysasom yn yr entrych, i edrych ar yr haul yn codi, ac ar fy nghydymaith nefol, oedd lawer dysgleiriach na'r haul, ond bod ei lewyrch ef ar i fyny gan y llen gel[23] oedd rhyngddo ac i waered. Pan gryfhaodd yr haul, rhwng y ddau ddysglaer, gwelwn y ddaiar fawr gwmpasog megys pellen fechan gron, ym mhell oddi tanom. Edrych yr awran,[24] eb yr Angel, ac a roes i mi ddrych ysbïo amgen nag oedd genyf fi ar y mynydd. Pan ysbïais trwy hwn, gwelwn bethau mewn modd arall, eglurach nag erioed o'r blaen.

Gwelwn un Ddinas anferthol o faintioli; a miloedd o ddinasoedd a theyrnasoedd ynddi; a'r eigion mawr, fel llyn tro, o'i chwmpas; a moroedd ereill, fel afonydd, yn ei gwahanu hi yn rhanau. O hir graffu, gwelwn hi yn dair ystrŷd fawr tros ben; a phorth mawr dysgleirwych ym mhen isaf pob ystrŷd; a. thŵr teg ar bob porth; ac ar bob tŵr yr oedd Merch landeg aruthr[25] yn sefyll yng ngolwg yr holl ystrŷd; a'r tri thŵr o'r tu cefn i'r caerau yn cyrhaedd at odre'r castell mawr hwnw. Ar ohyd i'r tair anferthol hyn, gwelwn ystrŷd groes arall, a hòno nid oedd ond bechan a gwael wrth y lleill, ond ei bod hi yn lanwaith, ac ar godiad uwch law yr ystrydoedd ereill, yn myned rhagddi uwch uwch tua'r Dwyrain; a'r tair ereill ar i waered tua'r Gogledd at y pyrth mawr. Ni fedrais i ymattal ddim hwy heb ofyn i'm cyfaill a gawn gena i siarad. 'Beth ynte?' eb yr Angel; ond siarad di, gwrando yn ystyriol, na orffo dywedyd yr un peth i ti ond unwaith.' Gwnaf, fy Arglwydd; ac ertolwg,' ebr fi, 'pa le yw'r castell draw yn y Gogledd?' 'Y castell fry yn yr awyr,' ebr ef, 'a piau Belial, tywysog llywodraeth yr awyr, a llywodraethwr yr holl ddinas fawr obry; fe'i gelwir Castell Hudol; canys hudol mawr yw Belial; a thrwy hudoliaeth y mae e'n cadw tan ei faner y cwbl oll a weli; oddi eithr yr ystrŷd fechan groes acw. Tywysog mawr yw hwn, â miloedd o dywysogion dano. Beth oedd Caesar,[26] neu Alecsander Fawr, wrth hwn? Beth yw'r Twrc, a'r hen Lewis[27] o Ffrainc, ond gweision i hwn? Mawr, a mawr tros ben; yw gallu, a chyfrwysdra, a diwydrwydd y Tywysog Belial, a'i luoedd hefyd sy ganddo heb rifedi yn y wlad isaf.' I ba beth y mae'r Merched yna yn sefyll,' ebr fi, 'a phwy ydynt?' 'Yn araf,' eb yr Angel, un cwestiwn[28] ar unwaith; i'w caru a'u haddoli y maent yna.' 'Nid rhyfedd, yn wir,' ebr fi; 'a hawddgared ydynt, petwn[29] perchen traed a dwylo fel y bûm, minnau awn i garu neu addoli y rhai hyn.[30] Taw, taw,' ebr yntau; os hyny a wnait a'th aelodau, da dy fod hebddynt: gwybydd dithau, ysbryd anghall, nad yw'r tair tywysoges hyn ond tair hudoles ddinystriol, merched y Tywysog Belial; a'u holl degwch a'u mwynder, sy'n serenu yr ystrydoedd, nid yw ond wynebiad ar wrthuni a chreulonder; mae'r tair oddi mewn, fel eu tad, yn llawn o wenwyn marwol.' Och fi! ai posibl,' ebr' fi, yn athrist iawn,'ar glwyfo o'u cariad?' 'Rhy wir, ysywaeth,' ebr ef. Gwych genyt y pelydru y mae'r tair ar eu haddolwyr; wel,' ebr ef, mae yn y pelydr acw lawer swyn ryfeddol; mae e'n eu dallu rhag gweled bach; mae e'n eu synu rhag ymwrando â'u perygl; ac yn eu llosgi â thrachwant diwala am ychwaneg o hono, ac yntau yn wenwyn marwol, yn magu ynddynt glefydau anesgorol,[31] na ddichon un meddyg, ïe, nac angen, byth bythoedd eu hiachäu; na dim, oni cheir physigwriaeth[32] nefol, a elwir edifeirwch, i gyfog[33] y drwg mewn pryd, cyn y greddfo yn rhy bell, wrth dremio gormod arnynt. 'Pan', ebr fi, 'na fyn Belial yr addoliant iddo ei hunan?' Ond yr un peth yw?' eb ef: 'mae'r hen Gadno yn cael ei addoli yn ei ferched; o blegid tra bo dyn yng nglŷn wrth y rhai hyn, neu wrth un o'r tair, mae e'n sicr tan nod Belial, ac yn gwisgo ei lifrai[34] ef.'

'Beth,' ebr fi, 'y gelwch chwi'r tair hudoles yna?' Y bellaf draw,' eb ef, 'a elwir Balchder, merch hynaf Belial; yr ail yw Pleser; ac Elw ydyw'r nesaf yma: y tair hyn yw'r drindod y mae'r byd yn ei addoli.' Atolygaf henw'r Ddinas fawr wallgofus hon,' ebr fi; 'os oes arni well henw na Bedlam[35] fawr.' 'Oes,' ebr ef, 'hi a elwir y Ddinas Ddienydd.'[36] 'Och fi! ai dynion dienydd,' ebr fi, 'yw'r cwbl sy ynddi?' 'Y cwbl oll,' ebr yntau, oddi eithr ambell un a ddiango allan i'r ddinas uchaf fry, sy tan y Brenin IMMANUEL.' Gwae finnau a'm beiddo! pa fodd y diangant, a hwythau yn llygadrythu fyth ar y peth sy'n eu dallu fwyfwy, ac yn eu hanrheithio yn eu dallineb?' 'Llwyr ammhosibl,' ebr yntau, 'fyddai i undyn ddianc oddi yma, oni bai fod IMMANUEL oddi fry yn danfon ei genadon, hwyr a bore, i'w perswadio[37] i droi ato Ef, eu hunion Frenin, oddi wrth y gwrthryfelwr; ac yn gyru hefyd i ambell un anrheg o enaint gwerthfawr, a elwir ffydd, i iro eu llygaid ; a'r sawl a gaffo'r gwir enaint hwnw (canys mae rhith o hwn, fel o bob peth arall, yn y Ddinas Ddienydd, ond pwy bynag a ymiro â'r iawn enaint) fe wel ei friwiau a'i wallgof, ac nid erys yma fynyd hwy, pe rho’i Belial iddo ei dair merch, ïe, neu'r bedwaredd,[38] sy fwyaf oll, am aros.

Beth y gelwir yr ystrydoedd mawr hyn?' ebr fi. "Gelwir," ebr yntau, "bob un wrth henw'r dywysoges sy'n rheoli ynddi: Ystrŷd Balchder yw'r bellaf; y ganol, Ystrŷd Pleser; y nesaf, Ystrŷd yr Elw. 'Pwy, ertolwg,' ebr fi, sy'n aros yn yr ystrydoedd yma? pa iaith? pa ffordd? pa genedl?' 'Llawer,' ebr ef, o bob iaith, a chrefydd, a chenedl, tan yr haul hwn, sy'n byw ym mhob un o'r ystrydoedd mawr obry; a llawer un yn byw ym mhob un o'r tair ystrŷd ar gyrsiau,[39] a phawb nesaf a'r y gallo at y porth: a mynych iawn y mudant,[40] heb fedru fawr aros yn y naill, gan ddäed ganddynt dywysoges ystrŷd arall: a'r hen Gadno, tan ei ysgafell, yn gado i bawb garu ei ddewis, neu'r tair, os myn; sicraf oll yw ef o hono.'

'Tyred yn nes atynt,' eb yr Angel, ac a'm cipiodd i waered yn y llen gel, trwy lawer o fwrllwch[41] diffaith oedd yn codi o'r ddinas; ac yn Ystrŷd Balchder disgynasom ar ben eangle o blasdy penegored mawr, wedi i'r cŵn a'r brain dynu ei lygaid, a'i berchenogion wedi myned i Loegr, neu Ffrainc, i chwilio yno am beth a fuasai can haws i gael gartref; felly yn lle yr hen dylwyth elusengar, daionus, gwladaidd gynt, nid oes yr awran yn cadw meddiant ond fy modryb Dylluan hurt, neu frain rheibus, neu biod brithfeilchion, neu'r cyffelyb, i ddadgan campau y perchenogion presennol. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig, a allasai, oni bai falchder, fod fel cynt, yn gyrchfa goreugwyr, yn noddfa i'r gweiniaid, yn ysgol heddwch a phob daioni, ac yn fendith i fil o dai bach o'u hamgylch.

O ben y murddyn[42] yma yr oeddym yn cael digon o le, a llonydd i weled yr holl ystrŷd o'n deutu. Tai teg iawn, rhyfeddol o uchder ac o wychder; ac achos da, o ran bod yno ymherodron, breninoedd, a thywysogion gantoedd, gwŷr mawr a boneddigion fyrdd, a llawer iawn o ferched o bob gradd : gwelwn aml goegen gorniog, fel llong ar lawn hwyl, yn rhodio megys mewn ffram,[43] a chryn siop[44] pedler[45] o'i chwmpas, ac wrth ei chlustiau werth tyddyn da o berlau: a rhai oedd yn canu, i gael canmol eu llais ; rhai yn dawnsio, i ddangos eu llun; ereill oedd yn paentio, i welläu eu lliw; ereill wrth y drych er's teir-awr yn ymbincio, yn dysgu gwenu, yn symmud pinau, yn gwneyd munudiau ac ystumiau. Llawer mursen oedd yno, na wyddai pa sut i agor ei gwefusau i siarad, chweithach i fwyta ; na pha fodd, o wir ddyfosiwn, i edrych tan ei thraed; a llawer ysgowl[46] garpiog, a fynai daeru ei bod hi cystal merch foneddig a'r oreu yn yr ystrŷd; a llawer ysgogyn rhygyngog,[47] a allai ridyllio ffa wrth wynt ei gynffon.

A mi yn edrych o bell ar y rhai hyn, a chant o'r fath, dyma yn dyfod heibio i ni globen o beunes fraith ucheldrem, ac o'i lledol gant yn ysbïo; rhai yn ymgrymu megys i'w haddoli; ambell un a ro'i beth yn ei llaw hi. Pan fethodd genyf ddyfeisio beth oedd hi, gofynais. O,' ebr fy Nghyfaill, un yw hon sy a'i chynnysgaeth oll yn y golwg; eto gweli faint sy o rai ffolion yn ei cheisio, a'r gwaelaf yn abl, er sy arni hi o gaffaeliad; hithau ni fyn a gaffo, ni chaiff a ddymuno; ac ni sieryd ond â'i gwell, am ddywedyd o'i mam wrthi, nad oes un gamp waeth ar ferch ieuanc na bod yn ddifalch wrth garu.' Ar hyn, dyma baladr o wr a fuasai yn Alderman,[48] ac mewn llawer o swyddau, yn dyfod allan oddi tanom yn lledu ei esgyll, megys i hedeg, ac yntau prin y gallai ymlwybran o glun i glun, fel ceffyl â phwn, o achos y gest a'r gowt,[49] ac amryw glefydon boneddigaidd ereill: er hyny, ni chait ti ganddo, ond trwy ffafr fawr, un cibedrychiad; â chofio, er dim, ei alw wrth ei holl deitlau a'i swyddau.

Oddi ar hwn trois fy ngolwg tu arall i'r ystrŷd, lle gwelwn glamp o bendefig ieuanc, â lluaws o'i ol, yn deg ei wên, a llaes ei foes, i bawb a'i cyfarfyddai. Rhyfedd,' ebr fi, 'fod hwn a hwn acw yn perthyn i'r un ystrŷd. O, yr un Dywysoges Balchder, sy'n rheoli'r ddau,' ebr yntau: nid yw hwn ond dywedyd yn deg am ei neges; hel clod y mae e'r awran, ac ar fedr, wrth hyny, ymgodi i'r swydd uchaf yn y deyrnas; hawdd ganddo wylo wrth y bobl, faint yw eu cam gan ddrwg swyddogion yn eu gorthrymu; eto ei fawrhâd ei hun, nid llesâd y deyrnas, yw corff y gainc.'

O hir dremio, canfum wrth Borth y Balchder, ddinas deg ar saith fryn,[50] ac ar ben y llys tra ardderchog yr oedd y goron driphlys, a'r cleddyfau, a'r agoriadau yn groesion. Wel, dyma Rufain,' ebr fi , ac yn hon y mae'r Pab yn byw?' 'Ië, fynychaf,' eb yr Angel; ond mae ganddo lys ym mhob un o'r ystrydoedd ereill. Gyfeiryd â Rhufain gwelwn ddinas,[51] a llys teg iawn, ag arno wedi ei dyrchafu yn uchel, hanner lleuad[52] ar faner aur; wrth hyn gwybum mai'r Twrc oedd yno. Nesaf at y porth ond y rhai hyn, oedd lys Lewis XIV. o Ffrainc, fel y dëellais wrth ei arfau ef, y tair fflour de lis[53] ar faner arian yng nghrog uchel. Wrth selu[54] ar uchder a mawredd y llysoedd hyn, gwelwn lawer o dramwy o'r naill lys i'r llall, a gofynais beth oedd yr achos. "O! llawer achos tywyll,"[55] eb yr Angel, sy rhwng y tri phen cyfrwysgryf hyn a'u gilydd; ond er eu bod hwy yn eu tybio eu hunain yn addas ddyweddi i'r tair tywysoges fry, eto nid yw eu gallu a'u dichell ddim wrth y rhai hyny. Ië, ni thybia Belial fawr mo'r holl ddinas (er amled ei breninoedd) yn addas i'w ferched ef. Er ei fod e'n eu cynnyg hwy yn briod i bawb; eto ni roes o'r un yn hollawl i neb erioed. Bu ymorchestu rhwng y tri hyn am danynt: y Twrc, a'i geilw ei hun duw'r ddaiar, a fynai yr hynaf yn briod, sef Balchder: Nag e,' meddai brenin Ffrainc, "myfi piau hòno, sy'n cadw fy holl ddeiliaid yn ei hystrŷd hi, ac hefyd yn dwyn ati lawer o Loegr, a theyrnasoedd ereill. Mynai'r Spaen y Dywysoges Elw, heb waethaf i Holland, a'r holl Iddewon; mynai Loegr y Dywysoges Pleser, heb waethaf i'r Paganiaid. Ond mynai'r Pab y tair, ar well rhesymau na'r lleill i gyd: ac mae Belial yn ei gynnwys e'n nesaf atynt yn y tair ystrŷd. 'Ai am hyny y mae'r tramwy yr awran?' ebr fi. 'Nage e,' ebr ef; cytunodd Belial rhyngddynt yn y mater hwn er's talm. Ond yr awron, fe roes y tri i wasgu eu penau yng nghyd, pa fodd nesaf y gallent ddifa yr ystrŷd groes acw, sef Dinas IMMANUEL, ac yn enwedig un llys mawr sy yno, o wir wenwyn ei weled e'n decach adeilad nag sy'n y Ddinas Ddienydd oll. Ac mae Belial yn addo i'r sawl a wnel hyny, hanner ei freniniaeth tra fo ef byw, a'r cwbl pan fo marw. Ond er maint ei allu a dyfned ei ddichellion er maint o emprwyr,[56] breninoedd, a llywiawdwyr cyfrwysgall sy tan ei faner ef yn yr anferth Ddinas Ddienydd; ac er glewed ei fyddinoedd aneirif ef tu draw i'r pyrth yn y wlad isaf; eto,' eb yr Angel, 'cânt weled hyny yn ormod o dasg iddynt: er maint, er cryfed, ac er dichlyned yw'r mawr hwn, eto mae yn yr ystrŷd fach acw Un sy fwy nag yntau.'

Nid oeddwn i yn cael gwrando mo'i resymau angylaidd ef yn iawn, gan y pendwmpian yr oeddynt hyd yr ystrŷd lithrig yma bob yn awr; a gwelwn rai ag ysgolion yn dringo'r tŵr; ac wedi myned i'r ffon uchaf, syrthient bendramwnwgl i'r gwaelod. 'I ba le y mae'r ynfydion acw yn ceisio myned?' ebr fi. 'I rywle digon uchel,' eb ef: 'ceisio y maent dori trysordy'r dywysoges. Mi warantaf yno le llawn,' ebr fi. Oes,' eb ef, 'bob peth a berthyn i'r ystrŷd yma, i'w rhanu rhwng y trigolion: pob math o arfau rhyfel i oresgyn ac ymledu; pob math o arfau bonedd, banerau, scwtsiwn,[57] llyfrau achau, gwersi'r hynafiaid, cywyddau; pob math o wisgoedd gwychion, ystorïau gorchestol, drychau ffeilsion; pob lliwiau a dyfroedd i decäu'r wynebpryd; pob uchel swyddau a theitlau; ac ar fyr iti, mae yno bob peth a bair i ddyn dybio yn well o hono ei hun, ac yn waeth o ereill, nag y dylai. Prif swyddogion y trysordy hwn yw meistriaid y seremonïau, herwyr,[58] achwyr, beirdd, areithwyr, gwenieithwyr, dawnswyr, teilwriaid, pelwyr,[59] gwnïadyddesau, a'r cyffelyb.'

O'r ystrŷd fawr hon, ni aethom i'r nesaf, lle mae'r Dywysoges Elw yn rheoli: ystrŷd lawn a chyfoethog aruthr oedd hon; eto nid hanner mor wych a glanwaith ag Ystrŷd Balchder, na'i phobl hanner mor ehud wyneb-uchel; canys dynion llechwrus iselgraff oedd yma gan mwyaf. Yr oedd yn yr ystrŷd hon fyrdd o Hispaenwyr, Holandwyr, Venetiaid,[60] ac Iddewon yma a thraw; a llawer iawn hen bobl oedranus. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa ryw o ddynion yw y rhai hyn?' 'Rhyw Sion lygad y geiniog, eb yntau, 'yw'r cwbl. Yn y pen isaf cei weled y Pab eto, goresgynwr teyrnasoedd, a'u sawdwyr, gorthrymwyr, fforestwyr,[61] cauwyr y drosfa gyffredin,[62] ustusiaid,[63] a'u breibwyr,[64] a'u holl sil,[65] o'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl: o'r tu arall,' ebr ef, mae'r physigwyr, potecariaid,[66] meddygon, cybyddion, marsiandwyr, cribddeilwyr, llogwyr;[67] attalwyr degymau, neu gyflogau, neu renti, neu elusenau a adawsid at ysgolion, elusendai, a'r cyfryw; porthmyn; maelwyr,[68] a fydd yn cadw ac yn codi'r farchnad at eu llaw eu hunain; siopwyr (neu siarpwyr[69]), a elwant ar angen, neu anwybodaeth y prynwr; stiwardiaid[70] bob gradd; clipwyr;[71] tafarnwyr, sy'n ysbeilio teuluoedd yr oferwyr o'u da, a'r wlad o'i haidd at fara i'r tlodion. Hyn oll o garn[72] lladron,' ebr ef; "a mân ladron yw'r lleill, gan mwyaf, sy ym mhen uchaf yr ystrŷd, sef ysbeilwyr ffyrdd, teilwriaid, gwëyddion, melinyddion, mesurwyr gwlyb a sych, a'r cyffelyb.

Yng nghanol hyn, clywn ryw anfad rydwst[73] tua phen isaf yr ystryd, a thyrfa fawr o bobl yn ymdyru tua'r porth, a'r fath ymwthio ac ymdaeru, a wnaeth i mi feddwl fod rhyw ffrae[74] gyffredin ar droed, nes gofyn i'm cyfaill beth oedd y mater. 'Trysor mawr tros ben sy'n y tŵr yna,' eb yr Angel; a'r holl ymgyrch sy i ddewis trysorwr i'r dywysoges yn lle'r Pab a drowyd allan o'r swydd. Felly ninnau aethom i weled y 'Lecsiwn.[75]

Y gwŷr oedd yn sefyll am y swydd oedd y stiwardiaid, y llogwyr, y cyfreithwyr, a'r marsiandwyr; a'r cyfoethocaf o'r cwbl a'i cai: (o biegid pa mwyaf sy genyt, mwyaf gei ac a geisi,—rhyw ddolur diwala sy'n perthyn i'r ystrŷd). Gwrthodwyd y stiwardiaid y cynnys cyntaf, rhag iddynt dlodi yr holl ystrŷd; ac fel y codasent eu plasau ar furddynod eun meistriaid, felly rhag iddynt, o'r diwedd, droi'r dywysoges ei hun allan o feddiant. Yna rhwng y tri ereill yr aeth y ddadl. Mwy o sidanau oedd gan y marsiandwyr; mwy o weithredoedd ar diroedd gan y cyfreithwyr; a mwy o godau llawnion, a biliau[76] a bondiau,[77] gan y llogwyr. ' Hai, ni chytunir heno,' eb yr Angel, 'tyred ymaith; cyfoethocach yw'r cyfreithwyr na'r marsiandwyr; a chyfoethocach yw'r llogwyr na'r cyfreithwyr, a'r stiwardiaid na'r llogwyr, a Belial na'r cwbl; canys ef a'u piau hwy oll, a'u pethau hefyd.'

'I ba beth y mae'r dywysoges yn cadw'r lladron hyn o'i chylch?' ebr fi. 'Beth gymhwysach,' eb yntau, 'a hi yn benlladrones ei hun?' Synais ei glywed e'n galw'r dywysoges felly, a'r boneddigion mwyaf yno yn garn lladron. “Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, pa fodd y gelwch y pendefigion urddasol yna yn fwy lladron nag ysbeilwyr ffyrdd ?: Nid wyt ti ond ehud,' ebr ef: 'onid yw'r cnaf[78] el â'i gleddyf yn ei law, a'i reibwyr[79] o'i ol, hyd y byd tan ladd a llosgi, a lledrata teyrnasoedd oddi ar eu hiawn berchenogion, ac a ddysgwyl wedi ei addoli yn gyncwerwr,[80] yn waeth na lleidryn, a gymmer bwrs ar y ffordd fawr?—Beth yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth wr mawr a ddwg allan o'r mynydd ddarn o blwyf? Oni haeddai hwn ei alw yn garn lleidr wrth y llall? Ni ddug hwnw ond cinynon[81] oddi arno ef, eithr efe a ddug oddi ar y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hyny ei fywioliaeth yntau a'i weiniaid. Beth yw dwyn dyrnaid o flawd yn y felin, wrth ddwyn cant o hobeidiau[82] i bydru, i gael gwedi werthu un ym mhris pedwar? Beth yw sawdwr lledlwm a ddyco dy ddillad wrth ei gleddyf, wrth y cyfreithiwr a ddwg dy holl ystad oddi arnat, â chwil[83] gŵydd, heb nac iawn na rhwymedi[84] i gael arno? A pheth yw pigwr poced, a ddygo bum-punt, wrth goegiwr dis, a'th ysbeilia o gan-punt mewn traian nos? A pheth yw hwndliwr[85] a'th siomai mewn rhyw hen geffyl methiant,[86] wrth y potecari a'th dwylla o’th arian a'th hoedl hefyd, am ryw hen physigwriaeth fethedig? Ac eto, beth yw'r holl ladron hyn wrth y pen-lladrones fawr yna, sy'n dwyn oddi ar y cwbl yr holl bethau hyn, a’n calonau a'y heneidiau yn niwedd y ffair?'

O'r ystryd fawaidd, annhrefnus hon, ni aethom i ystryd y Dywysoges Pleser; yn hon gwelwn lawer o Frytaniaid, Ffrancod, Italiaid, Paganiaid, &c. Tywysoges lân iawn yr olwg oedd hon, â gwin cymmysg yn y naill law, a chrwth a thelyn yn y llall; ac yn ei thrysorfa, aneirif o bleserau a theganau, i gael cwsmeriaeth pawb, a'u cadw yng ngwasanaeth ei thad. Ië, yr oedd llawer yn dianc i'r ystrŷd fwyn hon i fwrw tristwch en colledion a'u dyledion yn yr ystrydoedd ereill. Yrtryd lawn aruthr oedd hon, o bobl ieuanc yn enwedig; a'r dywysoges yn ofalus am foddio pawb, a chadw saeth i bob nod. Os sychedig wyt, mae i ti yma dy ddewis ddiod: os ceri ganu a dawnsio, cei yma dy wala. Os denodd glendid hon di i chwantio corff merch, nid rhaid iddi ond codi bys ar un o swyddogion ei thad (sy o'i hamgylch bob amser, er nas gwelir), a hwy a drosglwyddant iti fenyw yn ddiattreg; neu gorff putain newydd gladdu, a hwythau ant i mewn iddo yn lle enaid, rhag i ti golli pwrpas mor ddaionus. Yma mae tai teg, a gerddi tra hyfryd; perllanau llawnion; llwyni cysgodol, cymhwys i bob dirgel ymgyfarfod, i ddal adar, ac ambell gwningen wen; afonydd gloew tirion i'w pysgota , meusydd maith, cwmpasog, hawddgar, i erlid ceinach[87] a chadno. Hyd yr ystryd allan, gwelid chwareuon Interlud,[88] siwglaeth,[89] a phob castiau hug, pob rhyw gerdd faswedd dafod a thant, canu baledau, a phob digrifwch; a phob rhyw lendid o feibion a merched yn canu ac yn dawnsio; a llawer o Ystrŷd Balchder yn dyfod yma i gael eu moli a'u haddoli. Yn y tai, gwelem rai ar welyau sidanblu, yn ymdrybaeddu mewn trythyllwch; rhai yn tyngu ac yn rhegu uwch ben y dabler;[90] ereill yn siffrwd[91] y disiau a'r cardiau. Rhai o Ystrŷd Elw, â chanddynt ystafell yn hon, a redent yma â'u harian i'w cyfrif: ond ni aröent fawr, rhag i rai o'r aneirif deganau sy yma eu hudo i ymadael â pheth o'u harian yn ddilog. Gwelwn ereill yn fyrddeidiau yn gwledda, a pheth o bob creadur o'u blaen; a chwedi i bob un, o saig i saig, folera[92] cymmaint o'r dainteithion ag a wnaethai wledd i ddyn cymmedrol tros wythnos, yna bytheirio[93] oedd y gras bwyd; yna moeswch iechyd y brenin; yna iechyd pob cydymaith da, ac felly ym mlaen, i foddi archfa'r[94] bwydydd, a gofalon hefyd; yna tobacco; yna pawb a'i ystori ar ei gymmydog; os gwir, os celwydd, nis gwaeth, am y byddo hi yn ddigrif, neu yn ddiweddar; neu yn sicr, os bydd hi rywbeth gwaradwyddus. O'r diwedd, rhwng ambell fytheiriad trwm, a bod pawb â'i bistol pridd yn chwythu mwg a thân, ac absen i'w gymmydog, a'r llawr yn fudr eisys rhwng colli diod a phoeri, mi ofnais y gallai gastiau butrach na'r rhai hyny fod yn agos, ac a ddeisyfiais gael symmud.

Oddi yno ni aethom lle clywem drwst mawr, a churo a dwndrio, a chrio a chwerthin, a bloeddio a chanu. Wel, dyma Fedlam yn ddiddadl,' ebr fi. Erbyn i ni fyned i mewn, darfuasai'r ymddygwd;[95] ac un ar y llawr yn glwt; un arall yn bwrw i fyny; un arall yn pendwmpian uwch ben aelwydaid o fflageni[96] tolciog, a darnau pibelli a godardau; a pheth, erbyn ymorol, ydoedd, ond cyfeddach rhwng saith o gymmydogion sychedig:-eurych,[97] a lliwydd, a gof, mwyngloddiwr, ysgubwr simneiau, a phrydydd, ac offeiriad a ddaethai i bregethu sobrwydd, ac i ddangos ynddo ei hun wrthuned o beth yw meddwdod; a dechreu'r ffrwgwd[98] diweddar oedd dadleu ac ymdaeru fuasai rhyngddynt, p'r un oreu o'r seith-ryw a garai bot a phibell; a'r prydydd aethai â'r maes ar bawb ond yr offeiriad; a hwnw, o barch i'w siaced, a gawsai'r gair trechaf, o fod yn ben y cymdeithion da; ac felly cloes y bardd y cwbl ar gân:

'O'r dynion p'le'r adwaenych,
Ar ddaiar faith, saith mor sych?
A'r goreu o'r rhai'n am gwrw rhudd,
Offeiriedyn a phrydydd.'

Wedi llwyr flino ar y moch abrwysg[99] hyn, ni aethom yn nes i'r porth i ysbïo gwalliau i ardderchog lys Cariad, y brenin cibddall, lle hawdd myned i mewn, ac anhawdd myned allan, ag ynddo aneirif o ystafelloedd. Yn y neuadd gyfeiryd â'r drws yr oedd Cuwpid[100] bensyfrdan, â'r ddwy saeth ar ei fwa, yn ergydio gwenwyn nychlyd a elwir blys. Hyd y llawr gwelwn lawer o ferched glân trwsiadus yn rhodio wrth ysgwîr,[101] ac o'u lledol drueiniaid o lanciau yn tremio ar eu tegwch, ac yn erfyn bob un am gael gan ei beunes un ciledrychiad, gan ofni cuwch yn waeth nag angeu; ambell un, tan blygu at lawr, a ro'i lythyr yn llaw ei dduwies, un arall gerdd, a dysgwyl yn ofnus, fel ysgolheigion yn dangos eu tasg . i'w meistr; a hwythau a roent ambell gip o wên gynffonog, i gadw eu haddolwyr mewn awch, ond nid dim ychwaneg, rhag iddynt dori eu blys, a myned yn iach o'r clwyf, ac ymadael. Myned ym mlaen i'r parlwr,[102] gwelwn ddysgu dawnsio, a chanu â llais ac â llaw, i yru eu cariadau yn saith ynfytach nag oeddynt eisys: myned' i'r bwytty, dysgu yr oeddid yno wersi o gymhendod mindlws wrth fwyta: myned i'r seler, yno cymmysgu diodydd cryfion o swyn serch, o greifion ewinedd, a'r cyffelyb: myned i fyny llofftydd, gwelem un mewn ystafell ddirgel yn gwneyd pob ystumian[103] arno ci hun, i ddysgu moes boneddigaidd i'w gariad; un arall mewn drych yn dysgu chwerthin yn gymhwys, heb ddangos i'w gariad ormod o'i ddannedd; un arall yn tacluso ei chwedl erbyn myned ati hi, ac yn dywedyd yr un wers ganwaith trosti. Blino ar y ffiloreg ddiflas hòno, a myned i gell arall; yno yr oedd pendefig wedi cyrchu bardd o Ystrŷd Balchder, i wneyd cerdd fawl i'w angyles, a chywydd moliant iddo ei hun; a'r bardd yn dadgan ei gelfyddyd, ' Mi fedraf,' ebr ef, 'ei chyffelybu hi i bob coch a gwyn tan yr haul, a'i gwallt hi i gan peth melynach na'r aur; ac am eich cywydd chwithau, medraf ddwyn eich achau trwy berfedd llawer o farchogion a thywysogion, a thrwy'r dwr diluw, a'r cwbl yn glir hyd at Adda. Wel, dyma fardd,' ebr fi, 'sy well Olrheiniwr na mi.' 'Tyred, tyred,' eb yr Angel, mae y rhai hyn ar fedr twyllo'r fenyw; ond pan elont ati, bid sicr y cânt ateb cast am gast.'

Wrth ymadeal â'r rhai hyn, gwelsom gip ar gelloedd lle yr oeddid yn gwneyd castiau bryntach nag y gad gwylder eu henwi (yr hyn) a wnaeth i'm cydymaith fy nghipio i yn ddigllon o'r llys penchwiban yma, i drysordy'r dywysoges (o blegid ni aem lle chwennychem, er na dorau na chloiau). Yno gwelem fyrdd o ferched glân, pob diodydd, ffrwythydd, dainteithion, pob rhyw offer a llyfrau cerdd dafod a thant, telynau, pibau, cywyddau, carolau, &c.; pob math o chwareuon tawlbwrdd,[104] ffristial, disiau, cardiau, &c.; pob lluniau gwledydd, a threfi, a dynion, a dyfeisiau, a chastiau digrif; pob dyfroedd, peraroglau, a lliwiau, ac ysmotiau, i wneyd yr wrthun yn lân, a'r hen i edrych yn ieuanc, ac i sawyr y butain a'i hesgyrn pwdr fod beraidd tros Ar fyr, yr oedd yno bob math o gysgodion pleser, a rhith hyfrydwch: ac o ddywedyd y gwir, ni choeliaf fi na walliasai'r[105] fan yma finnau, oni buasai i'm cyfaill, yn ddiymanerch,[106] fy nghipio i ym mhell oddi wrth y tri thŵr hudol i ben uchaf yr ystrydoedd, a'm disgyn i wrth gastell o lys anferthol o faint, a thirion iawn yr olwg cyntaf, ond gwael a gwrthun arswydus o'r tu pellaf; eto ni welid ond yn anhawdd iawn mo'r tu gwrthun; a myrdd o ddrysau oedd arno, a'r holl ddorau yn wych y tu allan, ond yn bwdr y tu mewn. 'Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, os rhyngai eich bodd, pa le yw'r fan ryfeddol hon?' 'Hwn,' ebr ef, 'yw llys ail ferch Belial, a elwir Rhagrith: yma mae hi yn cadw ei hysgol; ac nid oes na mab na merch o fewn yr holl ddinas, na fu yn ysgolheigion iddi hi, a'r rhan fwyaf yn yfed eu dysg yn odiaeth; fel y gwelir ei gwersi hi wedi myned yn ail natur yn gyfrodedd[107] trwy eu holl feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, agos er yn blant.'

Wedi i mi ysbïo ennyd ar ffalsder pob cwr o'r adeilad, dyma ganhebrwng[108] yn myned heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a llawer o ddynion a cheffylau wedi eu hulio mewn galarwisgoedd duon: ym mhen ennyd, dyma'r druan weddw, wedi ei mygydu rhag edrych mwy ar y byd brwnt yma, yn dyfod tan leisio yn wan, ac ocheneidio yn llesg rhwng llesmeiriau. Yn wir, ni fedrais innau nad wylais beth o dosturi. 'Ië, ïe', eb yr Angel, 'cedwch eich dagrau at rywbeth rheitiach: nid yw'r lleisiau hyn ond dysg Rhagrith; ac yn ei hysgol fawr hi y lluniwyd y gwisgoedd duon yna. Nid oes un o'r rhai hyn yn wylo o ddifrif: mae'r weddw,[109] cyn myned corff hwn o'i thy, wedi gollwng gwr arall eisys at ei chalon: pe cai hi ymadael â'r gost sy wrth y corff, ni waeth ganddi o frwynen petai ei enaid ef yng ngwaelod uffern, na'i geraint ef mwy na hithau; o blegid, pan oedd galetaf arno, yn lle ei gynghori yn ofalus, a gweddïo yn daer-ddwys am drugaredd iddo, son yr oeddid am ei bethau,[110] ac am ei lythyr cymmyn,[111] neu am ei achau; neu laned, gryfed gwr ydoedd ef, a'r cyffelyb; ac felly yr awran, nid yw'r wylo yma ond rhai o ran defod ac arfer, ereill o gwmni, ereill am eu cyflog.'

Prin yr aethai y rhai hyn heibio, dyma dyrfa arall yn dyfod i'r golwg: rhyw arglwydd gwych aruthr, a'i arglwyddes wrth ei glun, yn myned yn araf mewn ystâd,[112] a llawer o wŷr cyfrifol yn ei gapio, a myrdd hefyd ar eu traed yn dangos iddo bob ufudd-dod a pharch; ac wrth y ffafrau[113] dëellais mai priodas ydoedd. 'Dyma arglwydd ardderchog,' ebr fi, 'sy'n haeddu cymmaint parch gan y rhai hyn oll.' Ped ystyrit y cwbl, ti a ddywedit rywbeth arall,' eb ef: 'un o Ystrŷd Pleser yw yr arglwydd yma, a merch yw hithau o Ystrŷd Balchder; a'r hen ddyn acw sy'n siarad ag ef, un ydyw o Ystrŷd yr Elw, sy ganddo arian ar holl dir yr arglwydd agos, a heddyw yn dyfod i orphen taledigaeth. Ni aethom i glywed yr ymddyddan.

'Yn wir, Syr, meddai'r codog, gyfoethog; cybydd, cotyn. ni fynaswn i er a feddaf fod arnoch eisieu dim a'r a allwn i, at ymddangos heddyw yn debyg i chwi eich hunan, ac yn sicr gan ddarfod i chwi daro wrth arglwyddes mor hawddgar odidog a hon' (a'r cotyn[114] hen-graff yn gwybod o'r goreu beth oedd hi). Myn, myn, myn—'eb yr arglwydd, 'nesaf pleser at edrych ar degwch hon, oedd wrando eich mwynion resymau chwi; gwell genyf dalu i chwi log, na chael arian yn rhad gan neb arall.' 'Yn ddiau, fy arglwydd,' ebr un o'r pen-cymdeithion, a elwid Gwenieithiwr 'nid yw fy ewythr yn dangos dim ond a haeddech chwi o barch; ond trwy eich cenad, ni roes ef hanner a haeddai fy arglwyddes o glod. 'Ni cheisiaf,' ebr ef, 'ond gwaethaf ungwr ddangos ei glanach hi yn holl Ystrŷd Balchder, na'ch gwychach chwithau yn holl Ystrŷd Pleser, na'ch mwynaeh chwithau, fy ewythr, yn Ystrŷd yr Elw'. 'O, eich tyb dda chwi,' eb yr arglwydd, 'yw hyny; ond ni choeliaf fi fyned o ddau yng nghyd erioed trwy fwy o gariad na ninnau.' Fel yr oeddynt yn myned ym mlaen, yr oedd y dyrfa yn cynnyddu, a phawb yn deg ei wên ac yn llaes ei foes i'r llall, ac yn rhedeg i ymgyffwrdd â'u trwynau gan lawr, fel dau geiliog a fyddai yn myned i daro.

Gwybydd, weithian,' eb yr angel, na welaist ti eto foes, ac na chlywaist yma air, ond o wersi Rhagrith. Nid oes yma un, wedi'r holl fwynder, â chanddo ffyrlingwerth o gariad i'r llall; ïe, gelynion yw llawer o honynt i'w gilydd. Nid yw yr arglwydd yma ond megys cyff cler[115] rhyngthynt, a phawb â'i grap arno. Mae'r feinir â'i bryd ar ei fawredd a'i fonedd ef, modd y caffo hi'r blaen ar lawer o'i chymmydogesau. Y cot[116] sy â'i olwg ar ei dir ef i'w fab ei hun; y lleill i gyd ar arian ei gynnysgaeth ef; o blegid ei ddeiliaid ef ydynt oll, sef ei farsiandwyr, ei deilwriaid, ei gryddion, a'i grefftwyr ereill ef, a'i huliodd[117] ac a'i maentumiodd[118] e'n yr holl wychder mawr hwn, ac heb gael ffyrling eto, nac yn debyg i gael, ond geiriau teg, ac weithiau fygythion ond odid. Bellach, pa sawl to, pa sawl plyg, a roes Rhagrith yma ar wyneb y Gwirionedd! Hwn yn addo mawredd i'w gariad, ac yntau ar werthu ei dir; hithau yn addo cynnysgaeth a glendid, heb feddu ond glendid gosod, a'r hen gancr yn ei chynnysgaeth a'i chorff hefyd.'

'Wel, dyma arwydd,' ebr fi, 'na ddylid fyth farnu wrth y golwg.' 'Ië, tyred ym mlaen,' ebr ef, a dangosaf i ti beth ychwaneg.' Ar y gair, fe a'm trosglwyddodd i fyny lle yr oedd Eglwysi'r Ddinas Ddienydd; canys yr oedd rhith o grefydd gan bawb ynddi, hyd yn oed y digred. Ac i deml yr anghred yr aethom gyntaf: gwelwn yno rai yn addoli llun dyn, ereill yr haul, ereill y lleuad, felly aneirif o'r fath dduwiau ereill, hyd at y winwyn a'r garlleg; a duwies fawr a elwid Twyll yn cael addoliant cyffredinol; er hyny, gwelid beth ol y Grefydd Gristianogol ym mysg y rhan fwyaf o'r rhai hyn.

Oddi yno ni aethom i gynnulleidfa o rai mudion,[119] lle nid oedd ond ocheneidio, a chrynu, a churo'r ddwyfron. Dyma,' eb yr Angel, rith o edifeirwch a gostyngeiddrwydd mawr, ond nid oes yma ond 'piniwn,[120] a chyndynrwydd, a balchder, a thywyllwch dudew; er maint y soniant am eu goleuni oddi mewn, nid oes ganddynt gymmaint a spectols[121] natur, peth sy gan y digred a welaist gynneu.'

Oddi wrth y cŵn mudion dygwyddodd i ni droi i eglwys fawr benegored, â myrdd o esgidiau yn y porth: wrth у rhai hyn dëellais mai teml y Tyrciaid[122] ydoedd. Nid oedd gan y rhai hyn ond spectol dywyll a chymmysglyd iawn a elwid Alcoran;[123] eto trwy hon yr oeddynt fyth yn ysbïo ym mhen yr eglwys am eu prophwyd a addawsai ar ei air celwydd ddychwel i ymweled â hwynt er's talm, ac eto heb gywiro.

Oddi yno yr aethom i Eglwys yr Iddewon; yr oedd y rhai hyn lwythau yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod spectol lwyd-oleu ganddynt, am fod rhyw huchen[124] wrth ysbïo yn dyfod tros eu llygaid, eisieu eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd.

Yn nesaf yr acthom at y Papistiaid.[125] 'Dyma,' eb yr Angel, 'yr eglwys sy'n twyllo'r cenedloedd! Rhagrith a adeiladodd yr eglwys yma ar ei chost, ei hun. Canys mae'r Papistiaid yn cynnwys,[126] ië, yn gorchymmyn, na chadwer llw â heretic,[127] er darfod ei gymmeryd ar y cymmun. O'r ganghell, ni aethom trwy dyllau cloiau i ben rhyw gell neillduol, llawn o ganwyllau ganol dydd goleu, lle gwelem offeiriad wedi eillio ei goryn yn rhodio, ac megys yn dysgwyl rhai ato: yn y man, dyma globen o wraig, â llances lân o'i hol, yn myned ar ei gliniau o'i faen ef, i gyfaddef ei phechodau. Ty nhad ysbrydol,' ebr y wreigdda, 'mae arnaf faich rhydrwm ei oddef, oni chaf eich trugaredd i'w ysgafnhau; mi briodais un o Eglwys Loegr.' 'Ac, pa beth?' ebr y corynfoel, 'priodi heretic! priodi gelyn! nid oes fyth faddeuant i'w gael. Ar y gair hwnw hi a lesmeiriodd, ac yntau yn bugunad melltithion arni. Och, a pheth sy waethi,' ebr hi, pan ddadebrodd, 'mi a'i lleddais ef!'-O, ho! a leddaist ti ef? wel, dyma rywbeth at gael cymmod yr eglwys; yr wyf fi yn dywedyd iti, ond bai ladd o honot ef, ni chawsit fyth ollyngdod, na phurdan, ond myned yn union i ddiawl wrth blwm. Ond pa le mae eich offrwm chwi, 'r faeden,[128] ebr ef, tan ysgyrnu[129] 'Dyma,' ebr hi; ac estynodd gryn god o arian. Wel,' ebr yntau, 'bellach mi wnaf eich cymmod; eich penyd yw bod byth yn weddw, rhag i chwi wneyd drwg fargen arall. Pan aeth hi ymaith, dyma'r forwyn yn dyfod ym mlaen i draethu ei chyffes hithau. 'Eich pardwn, fy nhad cyffeswr,' ebr hi, mi a feichiogais, ac a leddais fy mhlentyn.' 'Teg iawn yn wir,' ebr y cyffeswr; 'a phwy oedd y tad? Yn wir, un o'ch monachod chwi,' ebr hi. Ust, ust,' eb ef, dim anair i wŷr yr eglwys;[130] pa le mae'r iawn i'r eglwys sy genych?'

Dyma, ebr hithau, ac a estynodd iddo euryn.[131] Rhaid i chwi edifarhau; a'ch penyd yw, gwylied wrth fy ngwely i heno,' ebr ef, tan gilwenu arni hi. Yn hyn, dyma bedwar o rai moelion ereill yn llusgo dynan[132] at y cyffeswr; ac yntau yn dyfod mor wyllysgar ag at grogbren. Dyma i chwi geneu,' ebr un o'r pedwar, 'i ddwyn ei benyd am ddadguddio dirgelion yr Eglwys Gatholig.' 'Pa beth,' ebr y cyffeswr, tan edrych ar ryw siêl[133] ddu oedd yno ger llaw: 'ond cyffesa, filain, beth a ddywedaist ti?' 'Yn wir,' eb y truan, 'cymmydog a ofynodd i mi, a welswn i yr eneidiau yn griddfan tan yr allor, Ddygwyl y Meirw; minnau ddywedais glywed y llais, ond na welswn i ddim.' 'Aie, syre,'[134] dywedwch y cwbl,' ebr un o'r lleill. Ond mi atebais,' ebr ef, glywed o honof mai gwneyd castiau yr ych chwi â ni yr anllythyrenog; nad oes yn lle eneidiau ond crancod y môr yn ysgyrlwgach[135] tan y carbed.[136] O, fab y Fall! O, wyneb y felltith!' ebr y cyffeswr; 'ond ewch ym mlaen, fastiff.[137] Ac mai weir[138] oedd yn troi delw St. Pedr, ac mai wrth weir yr oedd yr Ysbryd Glân yn disgyn o lofft y grog ar yr offeiriad. O etifedd uffern!' eb y cyffeswr; hai, hai, cymmerwch ef, boenwyr, a theflwch ef i'r simnai fyglyd yna, am ddywedyd chwedlau. Wel, dyma i ti'r eglwys a fyn Rhagrith ei galw yn Eglwys Gatholig, ac mai y rhai hyn yw yr unig rai cadwedig,' eb yr Angel: 'bu gan y rhai hyn yr iawn spectol; eithr torasant hyd y gwydr fyrdd o luniau: a bu ganddynt wir ffydd; ond hwy a gymmysgasant yr enaint hwnw â'u defnyddiau newyddion eu hunain, fel na welant mwy na'r anghred.'

Oddi yno ni aethom i ysgubor, lle yr oedd un yn dynwared pregethu ar ei dafodleferydd; weithiau yr un peth deirgwaith olynol, 'Wel,' eb yr Angel, mae gan y rhai hyn yr iawn spectol i weled y pethau a berthyn i'w heddwch, ond bod yn fyr yn eu henaint un o'r defnyddiau angenrheitiaf, a elwir cariad perffaith. Mae amryw achosion yn gyru rhai yma: rhai o ran parch i'w hynafiaid; rhai o anwybodaeth; a llawer er manteisiau bydol. Gwnaent iti dybio eu bod yn tagu â'r wyneb, ond hwy a fedrant lyncu llyffaint rhag angen: ac felly mae'r Dywysoges Rhagrith yn dysgu rhai mewn ysguboriau.'

Ertolwg,' ebr fi,' pa le weithian y mae Eglwys Loegr? O,' ebr yntau, mae hòno yn y ddinas ucħaf fry, yn rhan fawr o'r Eglwys Gatholig. Ond, ebr ef, mae yn y ddinas yma rai eglwysi prawf, yn perthyn i Eglwys Loegr, lle mae'r Cymry a'r Seison tan brawf tros dro, i'w cymhwyso at gael eu henwau yn llyfr yr Eglwys Gatholig; a'r sawl a'i caffo, gwyn ei fyd fyth! Eithr nid oes, ysywaeth,[139] ond ychydig yn ymgymhwyso i gael braint yn hòno: o blegid yn lle edrych tuag yno, mae gormod yn ymddallu wrth y tair tywysoges obry; ac mae Rhagrith yn cadw llawer, ag un llygad ar y ddinas uchaf, a'r llall ar yr isaf; ïe, mae Rhagrith cyn lewed a thwyllo llawer o'u ffordd, wedi iddynt orfod y tair hudoles ereill. Tyred i mewn yma, cei weled ychwaneg,' ebr ef, ac a'm cipiodd i lofft y grog un o eglwysi Cymru, a'r bobl ar ganol y gwasanaeth: yno gwelem rai yn sisial siarad; rhai yn chwerthin; rhai yn tremio ar ferched glân; ereill yn darllen gwisgiad eu cymmydog o'r coryn i'r sawdl; rhai yn ymwthio ac yn ymddanneddu[140] am eu braint; rhai yn hepian; ereill yn ddyfal ar eu dyfosiwn;[141] a llawer o'r rhai hyny hefyd yn rhagrithio. 'Ni welaist ti eto,' eb yr Angel, 'na dda, ym mysg yr anghred, ddigywilydddra mor oleu gyhoedd a hwn; ond felly mae, ysywaeth, llygriad y peth gorau yw'r llygriad gwaethaf oll.[142] Yna hwy a aethant i'r cymmun; a phob un yn ymddangos yn syrn barchus i'r allor. Er hyny (trwy ddrych fy nghyfaill) gwelwn ambell un gyda'r bara yn derbyn i'w fol megys llun mastiff, un arall dwrch daiar, un arall megys eryr, un arall fochyn, un arall megys sarff hedegog; ac ychydig, O! mor ychydig, yn derbyn pelydryn o oleuni dysglaer gyda'r bara a'r gwin. Dyna,' ebr ef, ' Rowndiad [143] sy'n myned yn siryf; ac o ran bod y gyfraith yn gofyn cymmuno yn yr Eglwys cyn cael swydd,[144] yntau a ddaeth yma rhag ei cholli: ac er bod yma rai yn llawenu ei weled ef, ni bu eto yn ein plith ni ddim llawenydd o'i dröedigaeth ef; wrth hyny ni throes ef, ysywaeth, ond tros y tro; ac felly ti weli fod Rhagrith yn dra hy ddyfod at yr allor o flaen IMMANUEL ddisiomedig. Ond er maint yw hi yn y Ddinas Ddienydd, ni all hithau ddim yn Ninas IMMANUEL, tu uchaf y gaer acw.'

Ar y gair, ni a droisom ein hwynebau oddi wrth y Ddinas fawr Ddienydd, ac aethom ar i fyny, tua'r ddinas fach arall: wrth fyned, gwelem ym mhen uchaf yr ystrydoedd lawer wedi llettroi oddi wrth hudoliaeth y Pyrth Dienydd, ac yn ymorol am Borth y Bywyd; ond naill ai methent ei gael, ai blinent ar y ffordd; nid oedd fawr iawn yn myned trwodd, oddi eithr un dyn wynebdrist oedd yn rhedeg o ddifrif, a myrdd o'i ddeutu yn ei ffoli, rhai yn ei watwar, rhai yn ei fygwth; a'i geraint yn ei ddal ac yn ei grëu[145] i beidio â'i daflu ei hun i golli yr holl fyd ar unwaith. Nid wyf fi,' ebr yntau, 'yn colli ond rhan fechan o hono; a phe collwn i'r cwbl, ertolwg, pa'r golled yw? O blegid beth sy'n y byd mor ddymunol, oni ddymunai ddyn dwyll, a thrais, a thrueni, a drygioni, a phendro, a gwallgof? Bodlonrwydd a llonyddwch,' ebr ef, 'yw hapusrwydd dyn; ond nid oes yn eich dinas chwi ddim o'r fath bethau i'w cael. O blegid pwy sy yma yn fodlon i'w ystâd? Uwch, uwch y cais pawb Ystrŷd Balchder; 'Moes, moes ychwaneg,' medd pawb yn Ystrŷd yr Elw; 'Melus, moes eto,' yw llais pawb yn Ystrŷd Pleser. Ac am lonyddwch, pa le mae? a phwy sy'n ei gael? Os gwr mawr, dyna weniaith a chenfigen ar ei ladd; os tlawd; hwdiwch bawb i'w sathru a'i ddiystyru. Os myni godi, dyro dy fryd ar fyned yn ddyfeisiwr; os myni barch, bydd ffrostiwr neu rodreswr; os byddi duwiol, yn cyrchu i'r eglwys a'r allor, gelwir di yn rhagrithiwr; os peidi, dyna di yn anghrist neu yn heretic; os llawen fyddi, gelwir di yn wawdiwr; os dystaw, gelwir di yn gostog[146] gwenwynllyd; os dilyni onestrwydd, nid wyt ti ond ffwl diddeunydd; os trwsiadus, balch; os nad e, mochyn; os llyfn dy leferydd, dyna di yn ffals, neu ddyhiryn anhawdd dy ddirnad; os garw, cythraul trahäus anghydfod. Dyma'r Byd yr ych chwi yn ei fawrhau, ebr ef, ac ertolwg, cymmerwch i chwi fy rhan i o hono:' ac ar y gair, fe a ymysgydwodd oddi wrthynt oll, ac ymaith ag e'n ddihafarch[147] at y porth cyfyng; ac heb waethaf i'r cwbl, tan ymwthio, fe aeth drwodd, a ninnau o'i ledol; a llawer o wyr duon ar y caerau o ddeutu'r porth yn gwadd y dyn ac yn ei ganmol. Pwy,' ebr fi, 'yw'r duon fry?' 'Gwylwyr y Brenin IMMANUEL,' ebr yntau, 'sy'n enw eu Meistr yn gwadd ac yn helpu rhai trwy'r porth yma.'

Erbyn hyn yr oeddym ni wrth y porth: isel a chyfyng iawn oedd hwn, a gwael wrth y pyrth isaf; o ddeutu'r drws yr oedd y Deg Gorchymmyn; y llech gyntaf, o'r tu deheu; ac uwch ei phen, Ceri Dduw â'th holl galon,' &c.; ac uwch ben yr ail lech, o'r tu arall, 'Câr dy gymmydog fel ti dy hun;' ac uwch ben y cwbl, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' &c. Ni edrychasawn i fawr nad dyma'r gwylwyr yn dechreu gwaeddi ar y dynion dienydd, 'Ffowch, ffowch am eich einioes! Ond ychydig a dro'i unwaith atynt; eto rhai a ofynent, 'Ffoi rhag pa beth?' 'Rhag tywysog y byd hwn, sy'n llywodraethu ym mhlant yr anufudd-dod,' meddai'r gwyliwr; rhag y llygredigaeth sy'n y byd trwy chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd; rhag y digofaint sy ar ddyfod arnoch.' 'Beth,' ebr gwyliwr arall, yw eich anwyl ddinas chwi, ond taflod fawr o boethfel[148] uwch ben uffern? a phetäech chwi yma, caech weled y tân tu draw i'ch caerau ar ymgymmeryd i'ch llosgi hyd annwfn. Rhai a'u gwatwarai; rhai a fygythiai oni thawent â'u lol anfoesol; eto ambell un a ofynai, 'I ba le y ffown?' Yma,' meddai'r gwylwyr, 'ffowch yma at eich union Frenin, sy eto trwom ni yn cynnyg i chwi gymmod, os trowch i'ch ufuddod-dod oddi wrth y gwrthryfelwr Belial, a'i hudol ferched. Er gwyched yr olwg arnynt, nid yw ond ffug; nid yw Belial ond tywysog tlawd iawn gartref; nid oes ganddo yno ond chwi yn gynnud[149] ar y tân, a chwi yn rhost ac yn ferw i'ch cnoi, ac byth nid ewch yn ddigon; byth ni ddaw tor ar ei newyn ef, na'ch poen chwithau. A phwy a wasanaethai'r fath gigydd maleisddrwg, mewn gwallgof ennyd, ac mewn dirboenau byth wedi, ag a allai gael byd da tan Frenin tosturiol a charedig i'w ddeiliaid, heb wneyd iddynt erioed ond y daioni bwygilydd, a'u cadw rhag Belial, i roi teyrnas i bob un o'r diwedd yng ngwlad y goleuni! O, ynfydion! a gymmerwch chwi'r gelyn echryslawn yna, sydd â'i geg yn llosgi o syched am eich gwaed, yn lle'r Tywysog trugarog a roes ei waed ci hun i'ch achub?' Eto, ni wyddid fod y rhesymau hyn, a feddalhäi graig, yn llesio fawr iddynt hwy; a'r achos fwyaf oedd, nad oedd fawr yn cael hamdden i'w gwrando, gan edrych ar y pyrth; ac o'r gwrandawyr, nid oedd fawr yn ystyried; ac o'r rhai hyny nid oedd fawr yn eu cofio chwaith hir;[150] rhai ni choelient mai Belial yr oeddynt yn ei wasanaethu; ereill [ni] fynent mai'r twll bach disathr hwnw oedd Porth y Bywyd; ac ni choelient mai hudoliaeth oedd y pyrth dysglaer ereill a'r castell, i rwystro iddynt weled eu distryw neş myned iddo.

Yn hyn, dyma drwp[151] o bobl o Ystrŷd Balchder, yn ddigon hy yn curo wrth y porth; ond yr oeddynt oll mor warsyth, nad aent byth i le mor isel, heb ddiwyno eu perwigau[152] a'u cyrn: felly hwy a rodiasant yn eu hôl yn o surllyd. Yng nghynffon y rhai hyn daeth atom ni fagad o Ystrŷd Elw: 'Ac,' ebr un, ai dyma Borth y Bywyd?' 'lë,' ebr gwyliwr, oedd uwch ben. Beth sy i'w wneyd, ebr ef, at[153] ddyfod trwodd?'

Darllenwch o ddeutu'r drws, cewch wybod.' Darllenodd y cybydd y Deg Gorchymmyn i gyd trostynt. 'Pwy,' ebr ef, a ddywed dori o honof fi un o'r rhai hyn?' Ond pan edrychodd e'n uwch, a gweled, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' fe synodd, ac ni fedrai lyncu mo'r gair caled hwnw. Yr oedd yno un piglas cenfigenus a droes yn ôl wrth ddarllen, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.' Yr oedd yno gwestiwr[154] ac athrodwr, a chwidr droisant wrth ddarllen, Na ddwg gam dystiolaeth. Pan ddarllenwyd, Na ladd, Nid yma i ni,' eb y physigwyr. I fod yn fyr, gwelai bawb rywbeth yn ei flino, ac felly cyd-ddychwelasant oll i astudio'r pwynt. Ni welais i yr un eto yn dyfod wedi dysgu ei wers; ond yr oedd ganddynt gymmaint o godau ac ysgrifenadau yn dyn o'u cwmpas, nad aethent fyth trwy grai mor gyfyng, pe ceisiasent.

Yn y fan, dyma yr o Ystrŷd Pleser yn rhodio tua'r porth. Yn rhodd,' ebr un, wrth y gwylwyr, 'i ba le mae'r ffordd yma yn myned?' 'Dyma,' ebr gwyliwr, y ffordd sy'n arwain i lawenydd a hyfrydwch tragwyddol. Ar hyn, ymegnïodd pawb i ddyfod trwodd, ond methasant; canys yr oedd rhai yn rhy foliog i le mor gyfyng; ereill yn rhy egwan i ymwthio, wedi i ferched eu dihoeni, a'r rhai hyny yn eu hattal gerfydd eu gwendid afiach. 'O,' ebr gwyliwr oedd yn edrych arnynt, 'ni wiw i chwi gynnyg myned trwodd â'ch teganau gyda chwi; rhaid i chwi adael eich potiau, a'ch dysglau, a'ch puteiniaid, a'ch holl gêr[155] ereill, o'ch ol, ac yna brysiwch.' Ebr ffidler,[156] a fuasai trwodd er's ennyd, oni bai rhag ofn tori'r ffidl,[157] 'Pa fodd y byddwn ni byw?' 'O', ebr y gwyliwr, rhaid i chwi gymmeryd gair y Brenin am yru ar eich ol gynnifer o'r pethau yna a'r a fo da er eich lles.' Rhoes hyny 'r cwbl i ymwrando: 'Hai, hai,' ebr un, 'gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn;' ac ar hyny troisant oll yn unfryd yn eu hol.

'Tyred trwodd weithian,' eb yr Angel, ac a'm tynodd i mewn, lle gwelwn yn y porth, yn gyntaf, fedyddfaen mawr; ac yn ei ymyl, ffynnon o ddwr hallt. Beth a wna hon ar lygad y ffordd?' ebr fi. 'Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys IMMANUEL; hi a elwir Ffynnon Edifeirwch. Uwch ben, gwelwn yn ysgrifenedig, 'Dyma borth yr Arglwydd,' &c. Yr oedd y porth a'r Ystrŷd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ym mlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystrŷd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol, 'Dyna'r ffordd, rhodia ynddi'. Yr oedd yr Ystrŷd ar orifyny, eto yn bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nag yn y Ddinas Ddienydd, eto yr oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mae hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd genyf y dystawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu, a'r rhegu, a'r gwawdio, a phuteinio, a meddwi; yn lle balchder ac oferedd; y syrthni yn y naill gwr, a thrawsni yn y cwr arall; ïe, yn lle yr holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd, oedd yno yn pendifadu[158] dynion yn ddibaid; ac yn lle yr aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch, tosturi, diniweidrwydd, a bodlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddi eithr ambell un a wylai yn ddystaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnw; dim ofn, ond rhag digio eu Brenin, a hwnw yn barotoch i gymmodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn, ond Salmau mawl i'w Ceidwad.

Erbyn hyn, ni aethem i olwg adeilad deg tros ben. o, mor ogoneddus ydoedd! Ni fedd neb yn y Ddinas Ddienydd, na'r Twrc[159], na'r Mogul[160], na'r un o'r lleill, ddim eilfydd i hon. 'Wel, dyma'r Eglwys Gatholig,' eb yr Angel. 'Ai yma mae IMMANUEL yn cadw ei lys?' ebr fi. 'Ie,' ebr ef, 'dyma ei unig freninllys daiarol ef.' 'Oes yma nemor tano ef o benau coronog?' ebr fi. Ychydig,' ebr yntau. 'Mae dy frenines di, a rhai tywysogion Llychlyn[161] a'r Ellmyn[162], ac ychydig o fân dywysogion ereill.' Beth yw hyny,' ebr finnau, 'wrth sy dan Belial fawr? wele ymherodron a breninoedd heb rifedi." 'Er hyny i gyd,' eb yr Angel, 'ni all un o honynt oll symmud bys llaw heb gynnwysiad[163] IMMANUEL; na Belial ei hunan chwaith. O blegid IMMANUEL yw ei union Frenin yntau, ond darfod iddo wrthryfela, a chael ei gadwyno am hyny yn garcharor tragwyddol; eithr mae e'n cael cenad eto tros ennyd fach i ymweled â'r Ddinas Ddienydd; ac yn tynu pawb a'r a allo i'r un gwrthryfel, ac i gael rhan o'r gosp: er y gwyr ef na wna hyny ond chwanegu ei gosp ei hun; eto ni ad malais a chenfigen iddo beidio, pan gaffo ystlys cenad: a chan ddäed ganddo ddrygioni, fe gais ddifa'r ddinas a'r adeilad hon, er y gŵyr e'n hen iawn fod ei Cheidwad hi yn anorchfygol.'

Ertolwg,' ebr fi, 'fy Arglwydd, a gawn i nesäu i gael manylach golwg ar y breninlle godidog hwn?' (canys cynhesasai fy nghalon i wrth y lle, or y golwg cyntaf.) Cei yn hawdd,' eb yr Angel, 'o blegid yna mae fy lle, a'm siars, a'm gorchwyl innau. Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y rhyfeddwn uchod, gryfod a hardded, laned a hawddgared, oedd pob rhan o honi; gywreinied y gwaith, a chariadused y defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethawl, oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hyny, wedi eu gosod a'u cyssylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le ei hun. Gwelwn un rhan o'r eglwys yn taflu allan yn groes[164] glandeg a hynod iawn; chanfu yr Angel fi yn ysbio arno. A adwaenost ti y rhan yna?' ebr ef. Ni wyddwn i beth i ateb. 'Dyna Eglwys Loegr,' ebr ef. Mi gyffroais beth; ac wedi edrych i fyny, mi welwn y Frenines Ann[165] ar ben yr eglwys, â chleddyf ym mhob llaw; un yn yr aswy a elwid Cyfiawnder, i gadw ei deiliaid rhag dynion y Ddinas Ddienydd; a'r llall yn ei llaw ddeheu, i'w cadw rhag Belial a'i ddrygau ysbrydol: hwn a elwid Cleddyf yr Ysbryd, neu Air Duw. O tan y cleddyf aswy yr oedd llyfr Ystatut[166] Loegr; tan y llall yr oedd Beibl mawr. Cleddyf yr Ysbryd oedd danllyd, ac anferthol o hyd; fe laddai ym mhellach nag y cyffyrddai'r llall. Gwelwn y tywysogion ereill â'r un rhyw arfau yn amddiffyn eu rhan hwythau o'r eglwys; eithr tecaf gwelwn i ran fy mrenines fy hun, a gloewaf ei harfau. Wrth ei deheulaw hi, gwelwn fyrdd o rai duon, archesgobion, esgobion, a dysgawdwyr, yn cynnal gyda hi yng Nghleddyf yr Ysbryd a rhai sawdwyr, a swyddogion, ond ychydig o'r cyfreithwyr, oedd yn cydgynnal yn y cleddyf arall. Ces genad i orphwyso peth wrth un o'r drysau gogoneddus, lle yr oedd rhai yn dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin, ac Angel tal yn cadw'r drws: a'r eglwys oddi mewn mor oleu danbaid, nad oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo'i hwyneb; eto hi ymddangosai weithiau wrth y drws, er nad aeth hi erioed i mewn. Fel y gwelais i, o fewn chwarter awr, dyma Bapist, oedd yn tybio mai'r Pab a pioedd yr Eglwys Gatholig, yn cleimio[167] fod iddo yntau fraint. Beth sy genych i brofi eich braint?' ebr y porthor. Mae genyf ddigon,' ebr hwnw, 'o Draddodiadau'r Tadau, ac Eisteddfodau yr Eglwys; ond pam y rhaid i mi fwy o sicrwydd,' ebr ef, 'na gair y Pab sy'n eistedd yn y gadair ddisiomedig?' Yna yr egorodd y porthor lwyth o Feibl dirfawr o faint. 'Dyma,' ebr ef, 'ein hunig lyfr Ystatut ni yma; profwch eich hawl o hwn, neu ymadewch.' Ar hyn fe ymadawodd.

Yn hyn, dyma yrr o Gwaccriaid,[168] a fynai fyned i mewn â'u hetiau ar eu penau; eithr trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu moes. Wedi hyny, dechreuodd rhai o dylwyth yr ysgubor[169], a fuasai yno er ys ennyd, lefaru. "Nid oes genym ni," meddent, 'ond yr un Ystatut â chwithau; am hyny dangoswch i ni ein braint.' 'Aröwch,' ebr y porthor dysgleirwyn, gan graffu ar eu talcenau hwy, 'mi a ddangosaf i chwi rywbeth.' 'Dacw,' ebr ef, 'a welwch chwi ol y rhwyg a wnaethoch chwi yn yr Eglwys i fyned allan o honi heb nac achos nac ystyr? ac yr awran, a fynech chwi le yma? Ewch yn ol i'r porth cyfyng, ac ymolchwch yno yn ddwys yn Ffynnon Edifeirwch, i edrych a gyfogwch chwi beth gwaed breninol a lyncasoch gynt;[170] a dygwch beth o'r dwfr hwnw i dymmeru'r clai at ail uno y rhwyg acw; ac yna croeso wrthych.'

Ond cyn i ni fyned rwd[171] ym mlaen tua'r Gorllewin, mi glywn si oddi fyny ym mysg y penaethiaid, a phawb o fawr i fach yn hel ei arfau, ac yn ymharneisio,[172] megys at ryfel: a chyn i mi gael ennyd i ysbio am le i ffoi, dyma'r awyr oll wedi duo, a'r ddinas wedi tywyllu yn waeth nag ar eclips,[173] a'r taranau yn rhuo, a'r mellt yn gwau yn dryfrith, a chafodydd didor o saethau marwol yn cyfeirio o'r pyrth isaf at yr Eglwys Gatholig; ac oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn y picellau tanllyd, a bod y graig sylfaen yn rhy gadarn i ddim fanu arni, gwnelsid ni oll yn un goelcerth. Ond och! nid oedd hyn ond prolog,[174] neu damaid prawf, wrth oedd i ganlyn: o blegid ar fyr, dyma'r tywyllwch yn myned yn saith dduach, a Belial ei hun yn y cwmwl tewaf, a'i ben-milwyr daiarol ac uffernol o'i ddeutu, i dderbyn ac i wneyd ei wyllys ef, bawb o'r neilldu. Fe roesai ar y Pab,[175] a'i fab arall o Ffrainc,[176] ddinystrio Eglwys Loegr a'i brenines; ar y Twrc a'r Moscoviaid[177] daro y rhanau ereill o'r Eglwys, a lladd y bobl, yn enwedig y frenines, a'r tywysogion ereill, a llosgi'r Beibl yn anad dim. Cyntaf gwaith a wnaeth y frenines, a'r seintiau ereill, oedd troi ar eu gliniau, ac achwyn eu cam wrth Frenin y Breninoedd, yn y geiriau yma: "Mae estyniad ei adenydd ef yn llonaid lled dy dir di, O IMMANUEL!" Esa. viii. 8. Yn ebrwydd, dyma lais yn ateb, Gwrthwynebwch ddiawl, ac fe ffy oddi wrthych. Ac yna dechreuodd y maes[178] galluocaf a chynddeiriocaf fu erioed ar y ddaiar. Pan ddechreuwyd gwyntio cleddyf yr Ysbryd, dechreuodd Belial a'i luoedd uffernol wrthgilio; yn y man dechreuodd y Pab lwfrhau, a Brenin Ffrainc yn dal allan; ond yr oedd yntau ym mron digaloni wrth weled y frenines a'i deiliaid mor gytunol; ac wedi colli ei longau a'i wŷr,[179] o'r naill du, a llawer o'i ddeiliaid yn gwrthryfela, o'r tu arall; a'r Twrc[180] yntau yn dechreu llaryeiddio. Yn hyn, och! mi welwn fy anwyl gydymaith yn saethu oddi wrthyf fi i'r entrych, at fyrdd o dywysogion gwynion ereill; a dyna'r pryd y dechreuodd y Pab a'r swyddogion daiarol ereill lechu a llewygu, a'r penaethiaid uffernol syrthio o fesur y myrddiwn, a phob un cymmaint ei swn yn cwympo (i'm tyb i) a phe syrthiasai fynydd anferth i eigion y môr; a rhwng y swn hwnw, a chyffro coll fy nghyfaill, minnau a ddeffroais o'm cwsg; a dychwelais o'n llwyr anfodd i'm tywarchen drymluog; a gwyched, hyfryded oedd gael bod yn ysbryd rhydd, ac yn sicr yn y fath gwmni, er maint y perygl. Ond erbyn hyn, nid oedd genyf neb i'm cysuro, ond yr Awen, a hòno yn lledffrom; prin y ces ganddi frefu i mi yr hyn o rigymau sy'n canlyn.


.

Nodiadau[golygu]

  1. 'I helpu'n golwg,' argraffiad 1703.
  2. Hyd nes, hyd onid.
  3. Llad, cursus; Seis. course: hynt, helynt, ystod, gyrfa, chwyl. Arferir y gair mor fore o leiaf ag amser Dafydd ab Gwilym
  4. Seis, travel: teithio, ymdeithio, trafaelu
  5. Fancy: dychymmyg, asbri, crebwyll. Na fydd megys llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy fansi. Eccl. iv. 30
  6. Llad. corpus: corff, corffyn. Gwel D. ab Gwilym, cvi. 43
  7. Cad Gamlan=tyrfa fawr wedi myned blith draphlith â'u gilydd: neu yn gwau drwy eu gilydd, heb drefn na dosbarth. Ymadrodd diarebol ydyw, wedi ei fenthyciaw oddi wrth y gad a ymladdwyd rhwng Arthur a Medrod, ar lan yr afon Camlan, ar gyffiniau Dyfnaint, o gylch y flwyddyn 542. Cyfeiria'r beirdd yn aml at y frwydr drychinebus hon.
    Llawer llef druan, fal ban fu’r Gamlan.—Gr. ab yr Ynad Coch.
    Lliw tân y Gad Gamlan gynt.—D. ab Gwilym.
  8. Gipsies: llygriad, fel y bernir, o Egyptians, am y tybid gynt eu dyfod o'r Aipht, yr hon oedd enwog yn y cynoesoedd am ei dewiniaid a'i hudolion. Gwel Ecs, vii, viii. Ond credir yn awr yn gyffredin mai Hindwstan yw bro gynhenid y gwibiaidi hyn. Brython, i. 51
  9. Mymryn, gronyn, y dim lleiaf
  10. Hundred: cantref, cwmmwd; cyfundeb: yma, dwndwr, cynhwrf, ffwndwr. Peidiodd y dadwrdd.
  11. Gygu, talgrychu, gwneuthur cuwch, edrych yn ddigllawn
  12. Gogan, gogangerdd, casgerdd, goganair, cerdd ogan
  13. Witches: dewinesau, rheibwragedd, swynwragedd
  14. Caerlleon ar Ddyfrdwy, a elwir hefyd Caerlleon Gawr
  15. Pellenig; diarffordd. Longinquus, longè distans.'— Dr. Davies.
  16. Yr oedd yn adwaen yr wynebau; ond wynebau pobl wedi eu claddu oeddynt
  17. Rheini, yma, ac yn gyffredin, yn argraffiad 1703.
  18. Oed, oediad, seibiant, hamdden; amser i betruso neu oedi.
  19. Cuch, gwg, cilwg, golwg guchiog, edrychiad digllawn.
  20. Crafangau, bachau, ysbagau
  21. Neu, annwn=y pwll diwaelod, uffern eithaf, uffern
  22. Ael, ymyl, cilffed
  23. Gorchudd, llen gudd, mwgwd
  24. Yrwan, yma, ac yn y rhan fwyaf o fanau ereill, yw llythyraeth argraffiad 1703.
  25. Rhyfeddol, i'w ryfeddu, nodedig; anferthol; dros ben
  26. Iwl Caisar, ymharawdwr cyntaf Rhufain
  27. 'Lewis o Ffrainc,' y pedwerydd ar ddeg o'r enw, yr hwn oedd y pryd hyn yn fyw, ac yn dwyn mawr rwysg. Bu farw yn 1715, yn 77 mlwydd oed, wedi teyrnasu 72 o flynyddoedd
  28. Gofyniad, holiad
  29. 'Petwn'=pe bawn, pe byddwn. Gwel Act. xxviii. 19; Col. ii. 20.
  30. 'Rhain,' yn y lle hwn, ac yn gyffredin drwy'r gwaith, a geir yn argraffiad 1703
  31. Neu, anesgor=anfeddyginiaethol, anwelladwy, difeddyg, anaele
  32. Physic: meddyginiaeth
  33. Cyfogi, chwydu, gloesi
  34. Gosgorddwisg, nodwisg, gwisg: Seis. livery
    Yn adail serch im' ydoedd,
    Un lifrai â Mai im' oedd.—D. ab Gwilym.
    Dewr loew-fryd mewn dur lifrai.— Iolo Goch
  35. 'Bedlam' (oddi wrth Bethlehem, crefydd-dy o'r enw yn Llundain, yr hwn a droed wedi hyny yn yspytty gwallgofiaid)=gwallgofdy, gorphwyllfa; ty gwallgotiaid neu loerigion.
  36. Dinas â dienydd neu ddinystr yn ei haros; dinas distryw
  37. Darbwyllo, ymlewydd, cynghori
  38. Rhagrith. Wedi i'r tair hyn [Balchder, Elw, a Phleser] fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill.'— Gweledigaeth Uffern. Yn nes ym mlaen (t. 33) gelwir Rhagrith yn ail ferch Belial
  39. Ar brydiau, ar droion; yn awr a phryd arall: un. cwrs.
  40. Symmudant
  41. Niwl neu darth tew; caddug, tawch
  42. Adfeilion adeilad, adail gandryll, hen adail ar adfail
  43. Frame: ystram, attegwydd, cynnalwydd
  44. Maelfa, gwerthfa
  45. Mannwyddwr, crachwerthwr, crachnwyddwr, marchiatäwr treigl; gwerthwr mân bethau ar hyd y wlad
  46. 'Ysgowl'=scold:cecren, hellgre, benyw gecrus, gwraig anynad
  47. Yn cerdded yn goegfalch neu uchelsyth; ymdeith-wastad. Gwel Esa. iii, 16.
  48. Henadur, henuriad dinesig
  49. Y gymmalwst
  50. Sef y Palatinus, y Capitolinus, yr Aventinus, y Ianiculus, y Quirinalis, y Caelius, a'r Esquinalis. Septicollis arx.—Prudentius
  51. Caer Cystenyn, Constantinopl, prif ddinas Twrci
  52. Hanner lleuad, neu gilgant, yw yr arwydd ar luman y Tyrciaid
  53. Fflour de lis,' neu fleur de lis, sef y gammined, yw y blodeuyn a ddygir ym mhais arfau Ffrainc.
  54. Sylwi, syllu, edrych, craffu
  55. Y mae Dr. Puw, yn ei ddyfyniad o'r lle hwn, yn darllen, 'llawer achaws twyll', ac yn ei gyfieithu yn unol â hyny; ond nid oes neb o'r argraffiadau yn cyfreithloni'r fath ddarlleniad. Peth rhy gyffredin gan y Doethor oedd cyfnewid gwaith awdwyr y dyfynai o honynt.
  56. Emperors: ymherawdwyr, ymherodron.
  57. Scwtsiwn'=escutcheon: y maes yr arddangosir arfau bonedd arno; arflen, maes arfau, pais arfau.
  58. Yn briodol, ffoaduriaid, gwilliaid; ond yma golygir arwyr, gwroniaid, campwyr, neu ryswyr; o blegid nis geill rhai ar herw, na rhai yn anrheithio, nac ychwaith rai yn rhoddi her, gytuno ag ystyr y lle hwn; ac ni buasai naturiol cyflëu y cyfryw yn Ystrŷd Balchder. 'A'r rhai hyn,' ebr ef, 'y bu'r herwyr yn ymladd am y feinwen.'— Gweledigaeth Angeu.
    Hiraeth dan fron ei herwr.—D. ab Gwilym.
  59. Chwareuwyr pel
  60. Trigolion Gwenethia neu Venis, yn yr Ital.
  61. Ceidwaid coedwigoedd, coedwigwyr
  62. Tir cyd, cyttir; maes cyffredin i droi anifeiliaid iddo
  63. 3 Ynadon, yngnaid
  64. Bribers: cel-obrwyr, gwobrwywyr
  65. Hil, hiliogaeth, llinys
  66. Apothecaries: darparwfi a gwerthwyr cyfferi meddygol
  67. Rhai a roddant arian ar log neu usuriaeth; ocrwyr
  68. Trafnidwyr, marchnatwyr, ennillwyr
  69. Sharpers: gwŷr twyll a chribddail
  70. Stewards: goruchwylwyr.
  71. Or Seis. clipper, tebygol; sef y rhai a dociant ymylau arian bath. Nid ymddengys fod clipan (=cardotyn haerllug) yn dwyn perthynas â'r gair.Ceir clipiwr yng ngwaith Madog Dwygraig, cylch 1350
  72. Yn yr hen amseroedd, gosodid carn neu garnedd o geryg ar feddau rhyfelwyr a gwroniaid enwog; ac ystyrid hwn yn ddull anrhydeddus o gladdu, fel y mae yn eglur oddi wrth y dyfyniad canlynol:
    Y mynydd hagen, y bu y frwydr ynddo, a eilw ciwdawd y wlad y Mynydd Carn; sef yw hyny, Mynydd y Garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fain, o dan yr hon y claddwyd rhyswr yng nghynoesoedd gynt.'—Buchedd Gr. ab Cynan
    Ond pan ddechreuwyd claddu mewn mynwentydd, a lleoedd cyssegredig, syrthiodd y garn i anarfer, ac felly i anfri; ac ni chleddid neb ond drygweithredwyr yn y dull hwnw. Oddi wrth hyn daeth 'carn ar dy wyneb,' i fod yn ogyfystyr ag ‘yng nghrog y bột ti,' neu ryw ymadrodd cyffelyb. Gan hyny, arwydda carn lleidr, carn fradwr, carn butain, &c., y rhai gwaethaf neu hynotaf o'r nodweddiadau hyny; neu y cyfryw ag a haeddent gael carn ar eu gwyneb. Gweler Geiriadur Cymraeg y Dr. Owain Puw dan y gair Carn.
  73. 'Grydwst'=twrdd, dadwrdd, trwst, swn, grymial.
  74. Fray: ffrwgwd, ymrysor, ymrafael.
  75. Election: etholiad
  76. Bills: dyledion, ysgrifau am ddyled
  77. Bonds: ysgrifrwymau, machysgrifau, llythyrau ymrwym
  78. Knave: dyhiryn, diffeithwr, dyn cas, nebwr
  79. Ysbeilwyr, ysglyfwyr, ysgyfaethwyr
  80. Gorchfygwr, buddugwr, goresgynwr
  81. Mân ddarnau, mân ddrylliau, tameidiau, llarpiau, darnau, ciniach
  82. Hobaid=mesur, mewn rhai lleoedd o dri, ac mewn ereill o bedwar pwysel; ar arfer gyffredin yng Ngwynedd a Phowys.
  83. Quill: plufen, plufyn; ysgrifell
  84. Ymwared, gwared, meddyginiaeth , gallu i rwymo neu attal: Seis. remedy; Llydaweg, remet.
    Ymadael heb rwymedy;
    A thost ymadael â thir!—Wiliam Lleyn.
  85. Porthmon, ffeiriwr; hudleidr, lleidr penffair; jobber, jockey; swindler
  86. Methiant'=methiannus, methiantus. 'Ei gaethwas ef sy fethiant.'—E. Prys (Salm lxix. 33)
  87. Ysgyfarnog
  88. 'Interlud,' neu interlude, yn briodol a ddynoda ddifyrwch rhwng dau chwareu; chwareu cyfrwng: ond yma golyga chwareu dynwaredol ar fesur cerdd, cyffelyb i rai Thomas Edwards (Twm o'r Nant).
  89. 'Siwglaeth'=jugglery, juggling: hud a lledrith, hudoliaeth, castiau hudol, cynnildeb llaw, chwidogaeth.
  90. Tabler' (o'r Llad. tabula)=clawr yr wyddbwyll; bwrdd y chwareu a elwir yn Seisoneg chess.
  91. Sisial, sibrwd, husting; ond yma, tebygol, golygir cymmysgu y cardiau=to shuffle the cards.
  92. Gloddesta, wttresu, glythu
  93. Neu, brytheirio=cyfogi, ysgyfogi, chwydu, bwrw allan. 'Bytheiriant â'u geneu.' Salm ix. 7.
  94. 'Archfa' (ar chwa)=archwa, arogl, sawyr, sawr, gwynt. 'Archfa' sy lygriad o archwa
  95. Cythrwfi, terfysg, ymdrafael, ymdrafod, trafferth, dyfysgi
  96. Cwpanau, gorflychau
  97. Tincerdd, tincof, gof y dinc.
  98. Terfysg, ymrafael, ymryson
  99. Meddw, brwysg
  100. Neu, Cupid=duw cariad, yn ol chwedlau y beirdd Cenedlig
  101. Ysgwâr, petryalai, lluniodr; offeryn i wneyd peth yn ysgwâr neu betryal
    A'i linyn yw'r gog lonydd,
    A'i sgwîr yw cos y gwŷdd.—D. ab Gwilym
  102. Neu, parlawr; ymddyddanfa.
    Ein parlwr glas cwmpasawg
    Aeth yn fwth rhy rwth yr hawg.—D. ab Gwilym
  103. Lluniau, ffurfiau, munudiau.
  104. Tawlbwrdd,' neu tawlfwrdd=y chwareu a elwir yn Seisoneg draughts, neu backgammon. Ffristial'=chwareu yn cyfateb i dice y Seison. Chwareu gwyddbwyll, chwareu tawlbwrdd, chwareu ffristial, a chyweirio telyn, oedd y pedair gogamp yn 24 Camp Cymru yn yr oesoedd gynt.
  105. 'Gwallio'=cael gwall ar; gyru ar wall neu ar gyfeiliorn; maglu, rhwydo; dallu. Mae y Dr. Puw (yn ei Eiriadur, d. g. Diymanerch), ac hefyd argraffiad 1811, a'r holl argraffiadau diweddarach, yn darllen dallasai;' ond gwalliasai, neu, yn ol yr arddygraff arferedig y pryd hwnw, 'gwalliasei,' sydd yn argraffiad yr awdwr ei hun, ac ym mhob un arall a ymddangosodd yn ystod y ganrif ddiweddaf, ond un 1767.
    Chwi rai glân o bryd a gwedd,
    Sy'n gwallio gorseddfeinciau, &c.—Cerdd Gweledigaeth Angeu.
  106. Yn ddioed, yn ddiymaros; heb gymmeryd amser i siarad; yn ddiddefod
  107. Cydblethedig, cydwenedig; wedi eu cydwau neu gydblethu
  108. Cynhebrwng, angladd, claddedigaeth
  109. 'Widw,' arg. 1703
  110. Meddiannau, moddion, da
  111. Ewyllys, ewyllys diweddaf
  112. 'Mewn ystầd '=mewn rhwysg; mewn rhwysg a rhodres; yn rhwysgfawr
  113. 'Ffafrau'=arwyddion, neu gofroddion priodas.
  114. 'Cotyn' (o cod)=codog: lluos. Cotiaid
  115. 'Cyff cler'=un â phawb yn ei oganu, neu yn chwerthin am ei ben; cyff gwawd, gwatwargyff, nod y gwatwar.
    Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
    A'th doi â gwrid a gwradwydd;
    Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
    Fe'th gyfyd i fodlonrwydd.—Gronwy Owain
  116. 'Cot' (o cod)=codog, cotyn; cybydd
  117. Gwisgodd, hwyliodd, taclodd, trwsiodd
  118. Myntumiodd, cynnaliodd, cadwodd
  119. Crynwyr, y Cyfeillion.
  120. Opinion: tyb, daliad, ymddaliad, mympwy.
  121. Spectacles: yspeithell, gwydr golwg.
  122. Y Mahometiaid, a'r rhan fwyaf o'r Dwyreiniaid, a addolant yn droednoeth, gan adael eu hesgidiau oddi allan wrth ddrws y deml.
  123. 'Alcoran,' neu y Coran, yw Beibl y Mahometiaid. Cyfansoddwyd ef gan eu prophwyd yn y seithfed ganrif.
  124. Pilen, croenen, gorchudd teneu. Gwel 2 Cor. iii. 14, 15.
  125. Pabyddion, Eglwys Rhufain.
  126. Caniatäu, goddef
  127. Heretic' (Gr. αιρετικός) = camgredwr, geugredwr, geulithiwr, geuffyddiwr, cyfeiliornwr. 'Est vox antiquis usitata.'—Dr. Davies.
  128. Neu, maden=cecren: llances haerllug, eithaf llances
  129. Rhincian dannedd, noethi dannedd; chwyrnu
  130. Hen ddiareb. Gwel y Myvyrian Archaiology, iii. 182
  131. Darn neu ddryll o aur
  132. Dynyn, dyn gwael: ll. dynionach
  133. Jail: carchar, geol
  134. 'Syre'=syr, gyda dirmyg; yr un fath a sirrah yn y Seisoneg
  135. Rhugl-drystio; chwithrwd; clecian; cadw swn
  136. Carpet: llorlen
  137. Gwaedgi, costawcci.
  138. Wire: gwifr, edaf fetel
  139. Fel y mae gwaethaf y modd; ysgwaetheroedd, gwaetheroedd
  140. Dyhewyd, duwiolswydd
  141. Dyhewyd, duwiolswydd
  142. Diareb Gymreig
  143. Roundhead: pengrwn, pengryniad (ll. pengryniaid): enw a roddid gynt i'r Coethynion neu yr Anghydffurfwyr, oddi wrth eu harfer, meddir, o dori eu gwallt yn grwn ac yn gwta
  144. Y mae'r gyfraith hon wedi ei diddymu
  145. Crefu, ymbil, deisyf
  146. Corgi, un taiog
  147. Yn egnïol, yn galonog, yn wrol
  148. Cyfnewidiad, tebygol, o poethwal. Y mae poethwal yn air cyffredin yn Lleyn, a manau ereill o Wynedd; a'i ystyr yw, goddaith a roir mewn eithin, grug, neu'r cyffelyb; eithin neu rug a losgir ar eu traed. Y mae hyn yn debycach na'i fod yn dalfyriad o poeth ufel, neu ufel poeth, fel y tybia rhai. 'Ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfëydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.'—Gweledigaeth Uffern
  149. Tanwydd
  150. Chwaith yn hir,' argraffiadau diweddar
  151. Troop: haid, myntai, gyr, twr, bagad
  152. Periwigs: penguwchau, ffugwallt
  153. 'At,' arg. 1703; 'ar,' amryw ereill
  154. Un yn arfer cadw cwest neu reithfarn ar ei gymmydogion; un yn barnu ar bobl ereill; chwiliwr am wallau. Questman neu qaestnonger y gelwid gynt un a gychwynai erlyniadau cyfreithiol; ac y mae dywedyd bod dyn yn cwesta ar hwn a'r llall, yn ymadrodd cyffredin yn Nyfed.
  155. Taclau, celfi, pethach
  156. Crythor, ffilor
  157. Crwth, ofîeryn cerdd dannau
  158. Pensyfrdanu, penwanu, penddaru, syfrdanu
  159. Y Sultan, neu ymherawdwr y Tyrciaid.
  160. Ymherodraeth y Mogul y gelwid yr ymherodraeth hòno a sylfaenwyd yn Hindwstan, gan Baber, un o olynwyr Timwr neu Tamerlan, yn yr 16fed ganrif. Yr olaf a ddug yr enw hwn ydoedd Shah Alwm; a chyda'i farwolaeth ef, yn 1806, y terfynodd yinherodraeth y Mogul Mawr.
  161. Y gwledydd sy'n terfynu ar y Môr Baltig, megys Denmarc, Sweden, &c.; gogledd Ewrop: Scandinavia.
  162. Yn briodol, yr Almaeniaid, trigolion yr Almaen, neu Sermania; ond yma, arferir y gair am yr Almaen, neu wlad yr Ellmyn; a defnyddir ef yn yr un ystyr yng Ngweledigaeth Uffern.
  163. Caniatâd, cenad, goddefiad.
  164. Yr hyn a elwir transept gan adeilyddion Seisonig. Yn yr ystyr hwn, arferir y gair, fel y gwneir yma, yn yr ystlen wrywol.
  165. Tan ei theyrnasiad hi, yr hwn a dlechreuodd Mawrth 8, 1702, ac a derfynodd Awst 12, 1714, y cyhoeddai yr awdwr y gwaith hwn.
  166. Deddflyfr, llyfr cyfraith.
  167. Claim: honi hawl, arddelwi, honi.
  168. Crynwyr, y Cyfeillion.
  169. Yr Ymneillduwyr Gwel t. 38.
  170. Cyfeiriad at ddienyddiad y Brenin Carl 1.
  171. 'Rwd'=Seis. rood: chwarter erw, pedwaran o dir. 'Rwyd' yw darlleniad agos yr holl argraffiadau, ond y cyntaf (1703), un y Mwythig, 1774, ac un Caerfyrddin, 1767.
  172. Ymwisgo, gwisgo ei arfau, ymarfogi.
  173. Diffyg (ar yr haul neu'r lleuad).
  174. Prologue: rhagaraeth, rhaglith, rhagymadrodd.
  175. Clement XI. a eisteddai y pryd hwn yng nghadair Pedr.
  176. Lewis XIV.
  177. Y Rhwssiaid, hen drigolion Rhwssia.
  178. Brwydr, cad, rhyfel, ymladdfa, gwaith
  179. Wrth ymladd yn erbyn ymherodraeth yr Almaen, Holand, a Lloegr Yr oedd Lewis yn bleidiwr wresog i Iago II; ac ymdrechodd lawer i'w adsefydlu ef ar orsedd Prydain.
  180. Y Sultan Mwstaffa II, mab Mohammed IV, a ddechreuodd deyrnasu yn 1695, ac a ddiorseddwyd yn 1703.