Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Cân Gweledigaeth Cwrs y Byd

Oddi ar Wicidestun
Gweledigaeth Cwrs y Byd Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
Gweledigaeth Angeu Yn Ei Freninllys Isaf


AR FESUR 'GWEL YR ADEILAD.'

1. Gwel, ddyn, adeilad hyfryd,
O'r llawr i'r nen yn unyd,[1]
Daiarfyd dirfawr;
Ei Phensaer a'i Pherchenog
Yw'r Brenin Hollalluog,
A'i Llywyd tramawr;
Y byd, ei gaer, a'i gyrau i gyd,
O do'r ser cànaid
Hyd farth,[2] ysgrubliaid,
Pysg, ac ymlusgiaid,
A'r hediaid fwy na rhi’,
A roed, O ddyn! yn ddeiliaid,
Er teyrnged fach i ti:
I ddyn, ac yntau iddo'i hun,
Y gwnaeth IEHOFAN
Yr adail yma,
Fel ail nef leia',
Tan lawen heulwen ha’,
A'r cwbl, eithaf terfyn,
A wyddai ddyn[3] oedd dda.

2. Ond cyntaf blysiodd wybod
Y drwg, a chael o bechod
Gynnwysiad bychan,
Hi aeth yn anferth gawres,
Gwae ddynion faint gwyddanes,[4]
I dd'wyno'r cyfan :

Pob rhan o'r adail aeth yn wan;
Mae'r eil[5] a'r seler,
Trwy frad y dyfnder,
Yn crynu'n 'sgeler,
Mewn llawer llesmair llesg,
A'r barth perllanog llawnwyn,[6]
Heb ddwyn ond chwyn a hesg.
Mae'r gaer, a'r muriau, cleimiau[7] claer,
A'r to, ar ddadmer,[8]
Er maint eu cryfder,
Anfeidrol uchder,
A'u gwychder, frithder fry;
Mae'r dreigiau yn darogan
Fod perygl tân yn ty.[9]

3. Gwel, ddyn, adeilad fawrwych,
O'r eigion mawr i'r entrych,
Ar untroed enbyd;
Mae'r llawr i gyd ar d'ollwng,
Maluriwyd hwn hyd annwn,
Yn donen ddybryd:

O ddyn! dy bechod di dy hun
A boerodd ddiluw,
Chwyth eto ddistryw
O wreichion hyllfyw,
A'r hollfyd aeth yn fanc;
Ei dithau'n waeth, fyd bychan,
Byth, byth, ar druan dranc.
Ond mae un lle i ochel gwae,
Un llys trugaredd,
Ac yn dy gyrhaedd;
Cais yno annedd,
Rhag myn'd i'r sugnodd syth;
Ac onid ei di yno,
Gwae di dy eni fyth.

4. Gwel di'r adeilad hòno,
Gadarnach nag y gallo
Fyth golli'r diwrnod;
Un well na'r hollfyd cyfrdo,[10]
Ddiogel i ddiwygio
A ddygodd pechod;
Caer gron ar wasgar daiar don,
Yn noddfa nefol,
Craig anorchfygol,
A meini bywiol,
Gôr breiniol, ger ei bron;
Yr Eglwys Lân Gatholig
A'i thylwyth ydyw hon:
Er maint ein pechod, hynod haint,
Cawn yno bardwn,
Os ufudd gredwn;
Yn hon ymdynwn
A brysiwn i gael braint;
A hyn a'n gwna'n ddaiarol
A nefol siriol saint. Amen.

Nodiadau[golygu]

  1. Cyflawn, llwyr, cyflwyr, hollol
  2. Llawr, y llawr. Y mae y gair ar gyffredin arfer yng Ngwent a Morganwg, ac mewn rhai parthau o Wynedd. Defnyddir parth weithiau yn yr un ystyr.
  3. 'A wyddai ddyn'=a wyddai dyn
  4. Gwyddanes, gwyddones, neu gwyddan (o gwŷdd), yn briodol a ddynoda un yn meddu ar wŷdd neu wybodaeth; un wybodus; ond yn gyffredin, arferir y gair, megys yn y lle hwn, mewn ystyr drwg, am un wybodus neu hyddysg yn y gelfyddyd ddu; dewines, swynwraig, gwrach, gwyll, ellŷlles. Yn yr ystyr hwn, gwiddan, gwiddon, gwiddanes, yw y dull cywiraf i ysgrifenu'r geiriau. Gwyddanes (=duwies y coed) a ddaw o'r gwreiddyn gwŷdd (=coed)
  5. Ymddengys fod y gair hwn wedi peri peth dyryswch i gyhooddwyr argraffiadau blaenorol; canys darllen rhai 'ail,' ereill "sail,' ac ercill 'ael'. Ond diau mai aisle (=asgell neu ystlys adeilad) a olygir; ac os llythyrenir ef eil, arddengys sain y gair Seisoneg yn well, a bydd lai agored i gael ei gamddeall na phed ysgrifenid ef ail neu ael, er mai y blaenaf yw y ffurf a geir yn argraffiad yr awdwr ei hun.
  6. 'Llawnwyn' (o llawn, a gwyn, hyfryd, dymunol; hyfrydwch)=llawn a hyfryd; llawn hyfrydwch. Llownwyn' yw llythyreriad arg. 1703 a 1774; 'llownwyd yw darlleniad dau argraffiad Durston, ac un 1768, yr hwn, wedi ei newid i 'llanwyd,' a ddilynwyd gan yr holl argraffiadau diweddar, ond un Caernarfon, yr hwn a'i trodd i 'llonwyn,' 'Llanwyd' yw darlleniad y Dr. Puw, yr hwn (d. g Perllanawg) a gyfieitha y lle fel hyn: 'Every part of the structure, on a region abounding with orchards, was filled, without producing any thing but weeds and reeds."
    Ond gan fod llawnwyn' yn dygymmod yn llawn cystal a 'llanwyd' ag ystyr y lle, ac yn llawer gwell a'r mydr a'r cyfodliad, nid ymddengys un rheswm pa ham y dylid ymadael â darlleniad yr awdwr, fel ei gwelir yn yr argraffiad cyntaf.
  7. Os yw 'cleimiau claer' (o'r Seis. claim) yn ddarlleniad cywir, nid yw yr ymadrodd amgen na geiriau llanw, i helpu'r mesur a'r gynghanedd. Buasai clemiau claer yn rhoddi rhyw fath o ystyr.
  8. Dadlaith, dadleithio, ymddattod, meiriol.
  9. 'Yn ty'=yn y ty: yr un fath ag 'yn tân, yn y Beibl Cymraeg, yn lle yn y tân, mewn tân, neu i'r tân.
  10. Cyfan, cryno, cyflawn, perffaith