Gwrid y Machlud/Eleni

Oddi ar Wicidestun
Hen Wraig Drws Nesaf Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Cadi Puw

ELENI

GWELAIS faban bychan tlws—
Geneth newydd-eni;
Daeth yn siriol at fy nrws,
A'i henw oedd—Eleni.

Golau oedd ei llygaid hoff,
Flodyn di-ofalon;
Gobaith oedd ei bywyd hi,
A chariad oedd ei chalon.

Neithiwr yn yr wylnos oer;
Clywais chwerthin tyrfa
Ar y sgwâr, a'r flwyddyn hen
Yn dod i ben ei gyrfa.


Nodiadau[golygu]