Gwrid y Machlud/Cadi Puw
Gwedd
← Eleni | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Iori → |
CADI PUW
'ROEDD pawb yn 'nabod Cadi Puw,
A'i symledd gwledig iach;
Hen wraig fu'n treulio'i hoes i Dduw
Rhwng muriau'r capel bach.
Cyffredin oedd ei gwisg a'i dawn,
A phlaen ei dull o fyw,
Ond ni bu calon neb mor llawn
O ras â Chadi Puw.
Adnodau'r Llyfr a'r claspiau pres,
Oleuai lamp ei ffydd ;
Yng ngolau hon 'r oedd Duw yn nes
At Gadi Puw bob dydd.
A gwyddwn innau, ffrind, bob dydd,
O'i hebrwng dan yr yw,
Mai mynd wrth olau lamp ei ffydd
I'r nef wnaeth Cadi Puw.