Gwrid y Machlud/Iori
Gwedd
← Cadi Puw | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Perorfryn → |
IORI
Ei frawd IORWERTH JONES, Dinas Road, Rhiwbryfdir,
a fu farw Ionawr 9, 1937, yn 13 oed.
Cwyn y gwynt sy'n crwydro heno
Lle mae Iori bach yn huno;
Dim ond lloer yn tynnu cysgod
Araf dros ei gynnar feddrod.
Plant y Rhiw sy'n chwarae heno
Ar y groesffordd yn llawn cyffro;
Iori bach yn tawel gysgu
Yn ei fedd heb ddim i'w darfu.
Tristach mwy fydd clywed lleisiau
Plant y Rhiw ar noson olau
Wrth y Post yn mwyn ymgomio,
Am fod un o'r criw ddim yno.
Hiraeth dynn ei ddarlun heno
Lle mae Iori bach yn huno;
Clywed ubain gwynt aflonydd
Ionawr ar ei feddrod llonydd.
Melys fyddo'i gwsg, un tirion,
Flodyn gwyn yn nhir y meirwon;
Gwn na ddaw un boen i flino
Iori bach rhag cysgu heno.
Ionawr 1937-