Gwrid y Machlud/Hiraeth
Gwedd
← Tybed | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Hydref → |
HIRAETH
BREUDDWYD llwyd y lloer
Yn llonydd ar y lli,
Mor dawel y mordwyem—
Mair a mi.
Heno, trist ar y traeth
Yw'r gwyn o sŵn y gwynt,
Yn holi am anwylyd
Gerais gynt.