Neidio i'r cynnwys

Gwrid y Machlud/Hydref

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Y Gwrthodedig

HYDREF

O GWYBUM heno gur
A phenyd blin Yr hydref garw,
Megis deilen grin Y cludir finnau
Gan y gwynt
Tu draw i'r ffiniau
Pellaf; diwedd hynt
A ddaw yn sgil yr hydre'
A'r gaeaf yn y coed
Yn galw'r crinddail adre'
Yn drwm ei droed.


Nodiadau

[golygu]