Gwrid y Machlud/Y Gwrthodedig
Gwedd
← Hydref | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Methu â Chanu → |
Y GWRTHODEDIG
BREUDDWYDIAIS neithiwr ddyfod Crist
I'r byd dros drothwy'r nef;
Nid oedd ond mintai fechan drist
Yn ei groesawu Ef.
Gwibiai'r peiriannau bomio fry
A'u nadau yn ddi-daw,
A chyrff plant bach a mamau lu
Yn ddarnau yn y baw.
Gwelais Y siom oedd yn Ei lygaid prudd
Mewn byd heb iddo drefn ;
Ni dd'wedodd air, ond sychu'i rudd
Yn ddistaw, a throi Ei gefn.