Gwrid y Machlud/I Gofio Terry Bach

Oddi ar Wicidestun
Y Gŵys Unig Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Cymydog Caredig

I GOFIO TERRY BACH

Plentyn bychan MR. a MRS. HAYDN HUGHES, Gelli Blaenau Ffestiniog

Prin rhyw lathen, dyna i gyd
Oedd ei arch fach wen o dderi,
Ond roedd trysor mwy na'r byd
Dan y blodau gwynion rheini .

Dyna 'chwi dlws oedd Terry bach,
Ar aelwyd ei dad a'i fam:
Chwarae drwy'r dydd yn llon ac iach
Heb boen i'w fywyd di-nam.

Dyna 'chwi brudd oedd Terry bach,
Yn llonydd mewn arch fach wen;
Clwstwr o eirlys gwyn yn ei law,
A swp o gyrls aur ar ei ben.

Dyna 'chwi dlws fydd Terry bach
Pan awn tua'r nefoedd wen,
A gweld Iesu Grist yn tynnu ei law
Drwy'r cyrls bach aur ar ei ben!


Nodiadau[golygu]