Gwrid y Machlud/Cymydog Caredig

Oddi ar Wicidestun
I Gofio Terry Bach Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Straen Bywyd

CYMYDOG CAREDIG

MR. EDWARD JONES, Ariel House, Blaenau Ffestiniog.
(tad
LLINOS MANOD)

Gwelais o'n pasio am dro lawer gwaith
Er nad oedd mor sionc ar ei droed,
A gwyddwn wrth weld ei gam yn byrhau
Ei fod yntau yn mynd i oed.

Mi gollais ei weld yn pasio ryw ddydd,
Ac er i mi ddisgwyl cyhyd,
Welais i mono, na chlywed ei sŵn,
Yn mynd a dod drwy'r stryd.

Ond heddiw'r oedd angladd yn pasio 'nrws
A thyrfa mewn "dillad parch ";
Mynd yn yr hers 'roedd yr hen Edward Jo's
A blodau mis Mai ar ei arch.


Nodiadau[golygu]