Gwrid y Machlud/Y Cap Gwag

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Funud Distaw Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Y Cadoediad

Y CAP GWAG

MAE'N un ar ddeg. Clyw gorned clir
Y biwglar ar y sgwâr,
A dwys yw gweld y dyrfa hir
Yn wylo am ei châr.

Paid symud pen na throed na llaw,
Na mwmian gair na rheg,—
Mae'r dewrion yn yr angof draw
Ynghwsg.—Mae'n un ar ddeg.

Mae'n hanner dydd, a'r dyrfa hir
Ym mhleser byd ar goll;
A dwed cap gwag hen filwr cloff
Mai rhagrith oedd yr oll.


Nodiadau[golygu]