Gwrid y Machlud/Y Ddau Funud Distaw
Gwedd
← Methu â Chanu | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Y Cap Gwag → |
Y DDAU FUNUD DISTAW
MAE'N un ar ddeg. Chwychwi â'r nwyd
Ryfelgar yn eich gwythi hen,
Penliniwch ger y gofeb lwyd
Yn rhan o'r dyrfa drist, ddi-wên.
Codwch eich llef dros heddwch byd—
Am droi y gwn a'r cledd yn swch;
A mynnwch gadw'r drefn o hyd—
Dau funud distaw dros eu llwch.
Mae'n hanner dydd. Chwychwi â'r nwyd
Ryfelgar ar eich gwarrau'n bwn,
Anghofiwch waed y gofeb lwyd,
A gwerthwch Grist am gledd a gwn!