Neidio i'r cynnwys

Gwroniaid y Ffydd/Bardd Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Y Derwyddon Gwroniaid y Ffydd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

"Tannau euraidd tynerwch."

PENNOD V.
BARDD HIRAETH.

MEITHAF o holl gyfansoddiadau barddonol Cawrdaf ydyw ei awdl ar "Job." Gwyddys fod dau briffardd arall wedi cyfansoddi yn benigamp ar y testyn aruchel hwn. Gorchwyl dyddorol fuasai ceisio cydmaru y tri chyfansoddiad yn eu cynllun a'u gweithiad allan; hwyrach y gwneir hyny rywbryd. Ond ein hamcan yn awr ydyw galw sylw at rai o brydferthion cyfansoddiad Cawrdaf. Am farddoniaeth llyfr Job efe a ddywed :

Geiriau diddysg, rhaid addef
I'w dal wrth ei brif—awdl ef
Yw awdlon goreuon r'oes
Dylanwad anadl einioes,
Canai emyn cyn Homer,
Eiliai bwnc cyn Virgil ber.

Wedi bod yn darlunio y chwalfa chwyrn fu ar feddianau a chysuron Job, y mae yn ei ddesgrifio yn dweyd fel hyn:

O cefais uchder cyfoeth
Da yw nwyn yn dlawd a noeth;
I'w angen, annheilyngwr
Yw dyn o ddefnyn o ddwr!

Pan y mae ei wraig yn ei berswadio i felldithio Duw fe ddywed :

Go ryfedd yw gwarafun
I Dduw hael ei eiddo ei hun!

Darlunia ei boenau arteithiol fel y canlyn:—

Aelwydydd gwynias yw'r aelodau—gaf,
Gofid yn ffynonau;
Y pen sydd yn poenus wau,
Y gwenwyn drwy'r gewynau!

Wele un o'i gyfeillion yn nesau ato:

A bron o ffyddlon goffhad,
Yn deml o gydymdeimlad.

Cafodd y patriarch ar y domen oer, ar "laith nos a gwlith y nen,"

A'i llaw tros y fan lle trig,
Aethog iawn, noeth ac unig;
Y naill du mae'r fantell deg
Yn gorwedd ar ryw gareg.

Mae yr ymddyddanion rhyngddo a'i gyfeillion wedi eu cyd-osod yn dda; ymfoddlona y bardd ar gynghaneddu sylwedd yr hanes Beiblaidd. Ar y diwedd darlunir Job yn gweddio fel y canlyn:

Ystyriol Dad y tosturi—o nghur,
Fy nghwyn rwy'n gyfodi,
O'm holl ddrwg i d'olwg di,
Drag'wyddol wrandawr gweddi!

Edryched Ior uchel—ar ei wael un
Sydd ar lawr mor isel;
Tro y chwith felldith yn fel,
A'r diwedd yn wawr dawel!

Cafodd y weddi ei gwrando. Daeth y "wawr dawel" i chwalu yr hirnos ddu. Dilynwyd y cystudd trwm gan adferiad—adferiad iechyd, cyfoeth a dedwyddwch. Amgylchynir ei fwrdd gan gyfeillion na welsai eu hwyneb yn ystod ei gystudd—daethant yn ol fel gwenoliaid haf pan wybuant fod y rhod wedi troi:—

Cyfeillion ddigon ddygant—i'w lys ef
Tlysau aur ac ariant;
Yn ei wleddoedd a'i lwyddiant
Am un ac oedd y mae cant.

Rhyfedd mor debyg yw plant dynion drwy yr oesau ! A golygfa hapus oedd gweled y Caldeaid yn dwyn y defaid a ladratasant yn ol, a'r "Sabeaid hirion " gwneyd yr un fath gyda'r camelod:—

Camelod fel cymylau—ar feingorff
Y terfyngylch golau;
A'u blaen sydd yn blin nesau
I seibiant 'r hen bresebau.

Cyn pen hir y mae Job yn arlwyo gwledd ysblenydd—ymgyfarfyddai y gwahoddedigion mewn neuadd wych, ond yn ei nenfwd, mewn gwrthgyferbyniad hynod i harddwch yr ystafell, yr oedd cragen a swp o hen garpiau! Ystyriwn hon yn stroke gampus o eiddo y bardd. Nid gormod yw dweyd nad oes gan Eben na Hiraethog un tarawiad mwy naturiol yn eu caniadau gorchestol ar yr un testyn. Ar ganol y wledd y mae un o'r cwmni yn troi at Job ac yn gofyn:

Pa wedd y mae'r carpiau hyn,
Ar gyrau dy fur gorwyn,
A'r hen gragen a grogir
I wedd hardd dy neuadd hir?

Ateba y patriarch gyda goslef ddrylliog:

Deallwch mai dyna'r dillad—oeddynt
Ddyddiau'm darostyngiad;
Hyd foreu fy adferiad—gweddillion
Heddyw yn goron o ddawn ei gariad!

Y mae yn y darlun hwn wers bwysig: Pan fo llwyddiant yn gwenu, doder y "gragen"—adgof dyddiau darostyngiad—mewn rhyw le amlwg, rhag i falchder ddymchwelyd y llestr, a gwneyd y diwedd yn waeth na'r dechreuad.

Yr ydym yn fwriadol wedi ymatal rhag crybwyll y mwyaf adnabyddus, ac o bosibl, y goreu o weithiau ein bardd hyd yn awr, sef awdl "Hiraeth y Cymro." Gwir y sylwai Gwallter Mechain mai "awdl hiraeth yw hon o'r dechreu i'w diwedd." Credwn fod yn anmhosibl i alltud, beth bynag, ddarllen y llinellau heb i ffynonau y dyfnder yn ei galon ymagor i'w gwaelodion. Desgrifia ei hun mewn bro bell:

Yn ysig lawer noswaith,
A'm gorweddfa'n foddfa faith!
Gwely, gobenydd galed—o geryg,
I orwedd mewn syched,
'N wylaw a'r ddwy law ar led
Am gynes fro i'm ganed.
Ow! na chawn mewn llonach hwyl
Droedfedd o Wynedd anwyl!

A pha galon Gymreig nad ydyw yn dirgrynu dan ddylanwad y pathos dwfn sydd yn y llinellau terfynol:—

Os fy Ner a doethder da
A rydd i'm orwedd yma,
Im mynwes mor ddymunol
Uwch fy nghlai fyddai (ar f'ol)
Arwyddo'r lle gorweddwn
Y:n y llawr â'r penill hwn:

Awenawg wr o Wynedd—o hiraeth
A yrwyd i'r llygredd;
Ar arall dir i orwedd,
Dyma fan fechan ei fedd!"

Efallai deuai ar daith,
Damwain, rhyw hen gydymaith,
I ymdeithio heibio hon
Ag wylo ar ei galon ;
Darllenai'r pedair llinell
Yn iaith fad ei bur—wlad bell,
Gan och'neidio wylo'n waeth
O herwydd trymder hiraeth ;
Tanau euraidd tynerwch
Gyffry wrth fy llety llwch,
I eirio prudd arwyrain
A thrist wedd uwch fy medd main;
Minau a'm bron yn llonydd :
O! Dduw fry! ai felly fydd?

Dyma linellau nad ant byth yn hen. Darllenir a chofir hwy tra y bydd tant o dynerwch yn nghalon Cymro. Wel, ar ol treulio aml i awr hapus gyda chyfansoddiadau Cawrdaf, anturiwn gyflwyno y nodion canlynol arno fel bardd :

1.—Gorwedda ei brif nerth yn ei allu i ddesgrifio golygfeydd Natur. Meddai dalent wreiddiol at arluniaeth, ac y mae hyny yn wir am dano fel bardd. Landscape painting mewn geiriau ydyw rhan fawr o'i gynyrchion. Y mae yn fardd anian mewn modd neillduol. Fel Wordsworth, ymdroai mewn gorfwynhad gyda'i golygfeydd. Gallem dybied fod awel haf yn crwydro drwy ei weithiau.

"Dyma fan fechan ei fedd."

Ni cheir ganddo ef y nerth hwnw sydd yn nrychfeddyliau y bardd o Glynnog, na'r ysblander cyfoethog sydd yn nesgrifiadau Geirionydd. Y mae cynyrchion goreu Cawrdaf yn effeithio arnom fel diwrnod o haf—yn esmwyth a dymunol. Dylanwad tawel ydyw, ond erys yn hir ar y galon a'r cof.

2. Tynerwch a swyn sydd yn fwy nodweddiadol o hono fel bardd. Os cydmerir y galon i delyn, y tanau yr oedd efe yn feistr arnynt oedd—"tanau euraidd tynerwch.' Gallai chwareu ar y rhai'n i bwrpas, a pheri iddynt arllwys y miwsig mwyaf peraidd. Rhoddodd brawf ar ei awen mewn cyfeiriadau eraill. Y mae ganddo duchangerdd ar ffolineb "Swyngyfaredd;" ond teimlir yn union nad oedd ei awen gartref. Pluen sydd ganddo lle y dylid cael ellyn llym. Tra yn desgrifio yr ofergoelion yn dda, y mae y watwareg ddeifiol hono sydd yn ysu ffolinebau o'r fath yn absenol. Nid oedd tuchan yn naturiol i'w awen, rywfodd; gallai alaru, gallai wenu, ond nis gallai duchan.

3.—Fel y mwyafrif o feirdd y cyfnod hwnw, ei gyfansoddiadau cynganeddol sydd yn rhestru uwchaf o ran teilyngdod. Fe gyfansoddodd lawer yn y mesur rhydd. Y mae ei gân i "Nos Sadwrn y Gweithiwr" yn cynwys llinellau da a theimladwy. Gwnaeth y gerdd i "Ladron Glan y Mor" wasanaeth yn ei dydd. Mae y "Gofadail" yn cynwys syniad prydferth, a cheir llinellau grymus yn y gân a gyfenwir y "Prif Beth." Ond nid yn y cyfeiriadau hyn y mae sail ei ragoriaeth.

4.—I symio i fyny, dywedwn fod Gwilym Cawrdaf ar gyfrif tlysni ei feddyliau, purdeb ei iaith, dillynder ei chwaeth, ac yn arbenig, y dôn ddyrchafedig sydd yn nodweddu ei weithiau, yn werth ei ddarllen, ei astudio, ei efelychu. Mewn oes pan oedd safon chwaeth yn aneffiniol, a dweyd y lleiaf, cadwodd y bardd hwn wisg ei awen yn hynod o ddilychwin. Ni chyffyrddodd a dim aflan. Ni lygrodd neb. Credwn fod yr hyder gobeithiol a anadlai yn niwedd ei gân i'r bwthyn y ganed ef ynddo, wedi cael ei sylweddoli er ys llawer dydd:—

A chyda gwefus hardd y gwir
Caf ddod, trwy ddyfnder gra
O holl dymestloedd mor a thir,
I lanau'r frodir fras,
Heb dywydd llaith fy mhaith yn hwy—
Awenydd mewn can newydd mwy.





Argraffwyd yn Swyddfa'r Wasg Genedlaethol Gymreig, (Cyf.), Caernarfon

Nodiadau[golygu]