Neidio i'r cynnwys

Gwroniaid y Ffydd/Camrau Rhyddid

Oddi ar Wicidestun
Dyddiau Cymysg Gwroniaid y Ffydd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Yn Nyddiau Edmwnt Prys

PENNOD VIII.

CAMRAU RHYDDID.

DEUWN, bellach, i ddyddiau teyrnasiad ein Grasusaf Frenhines Victoria. Y mae, weithian, 60 mlynedd o'r bron er pan y mae yn gwisgo aur goron y byd ar ei phen." Yn ystod y blynyddau hyny, y mae Cyfrol Hanes wedi chwyddo'n aruthrol. Ehangwyd terfynau yr Ymherodraeth; chwanegwyd miliynau at rifedi deiliaid Prydain. Gwnaed darganfyddiadau pwysig, a dyfeisiau afrifed Cyfoethogwyd llenyddiaeth, a chafodd trysorau gwybodaeth eu dwyn i afael pob gradd.

Dyma oes y rheilffyrdd, y pellebyr, y goleuni trydanol a phelydrau Röntgen. Y mae ysbryd Dyngarwch wedi esmwythau adfyd, ac wedi diogelu bywyd miloedd rhag anffodion a thrueni. Y mae bywyd y gweithiwr wedi ei oleuo a'i gyfnerthu gan ymdrechion caredigion Rhyddid yn Senedd ein gwlad. Ac y mae rhyddid crefyddol wedi rhoddi camrau breision ymlaen yn ystod teyrnasiad Victoria. Nodwn rai o'r camrau hyn.

Y PRIF-YSGOLION.

Cafodd drysau y Prif-ysgolion eu hagor i feibion Ymneillduwyr. Mewn canlyniad y mae llu mawr o Ymneillduwyr ieuainc, heb orfod gwerthu eu genedigaeth-fraint, wedi mwynhau addysg, ac wedi ennill graddau uchaf yr athrofeydd. Erbyn heddyw, y maent yn mysg y darlithwyr a'r athrawon, ac y mae "Cymry Rhydychen" a Chaergrawnt yn arwain y mudiad i "godi'r hen wlad yn ei hol.'

YN YR YNYS WERDD.

Cam arall ar y llwybr ydoedd Dadgysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon. Ni wnaeth Mr. Gladstone un gymwynas fwy i'r Eglwys Wladol na'i dadgysylltu yn yr Ynys Werdd. Y mae llwyddiant a chynydd wedi dilyn y gwaith.

Y DRETH EGLWYS.

Deddf oedd hon yn gorfodi pob trethdalwr i gyfranu. swm blynyddol at draul glanhau ac adgyweirio yr eglwysi plwyfol. Rhoddodd fod i lawer golygfa annymunol. Gwerthid eiddo Ymneillduwyr oeddynt oddiar argyhoeddiadau cydwybod, yn gwrthod talu y dreth. Proffwydid pethau difrifol os caffai y dreth eglwys ei diddymu. Haerid y byddai yr eglwysi plwyfol yn mynd yn adfeilion, a'r mynwentydd yn ddiffaethle anghyfaneddol. Ond ni ddaeth y broffwydoliaeth i ben.

DEDDF Y CLADDU.

A dyna'r Ddeddf Gladdu. Y mae hon yn estyn hawl i Ymneillduwyr i alw am wasanaeth eu gweinidogion eu hunain i gladdu eu hanwyliaid. Nid yw y Ddeddf yr hyn y dylai fod; y mae llawer rhyngddi a'r perffeithrwydd y daw iddo yn y man. Y mae rhan fawr o'r diffyg hwn yn gorwedd wrth ddrws Ymneillduwyr egwan a chlaiar.

ARWEINWYR Y BOBL.

Pwy oedd cymwynaswyr rhyddid crefyddol yn y cyfnod hwn? Pwy oedd yn arwain yn nydd y gad?

EDWARD MIALL.

Un ohonynt oedd Edward Miall, golygydd y "Nonconformist," ac apostol yr Eglwysi Rhyddion. Cysegrodd efe ei ysgrifell a'i ddoniau i wasanaethu y rhyfelgyrch hwn.

HENRY RICHARD.

A phwy all anghofio llafur Henry Richard? Y gŵr a amddiffynodd Wlad y Bryniau yn wyneb Brad y Llyfrau Gleision, ac a gysegrodd ei oes lafurus i achos heddwch a rhyddid crefyddol. Fel gwleidyddwr, gelwid ef yr "aelod dros Gymru." Bu ei ysgrifeniadau amddiffynol i foesau a chrefydd ei wlad yn agoriad llygaid i lawer, heblaw Mr. Gladstone, yn ol ei addefiad ei hun.

GLADSTONE.

Ar y rhestr hon yr ydym yn rhwym o ysgrifennu enw y gwron sydd, bellach, wedi ymneillduo oddiwrth fywyd cyhoeddus,—William Ewart Gladstone. Ymladdodd efe frwydrau rhyddid am haner canrif—a phan wedi pasio gorsaf y pedwar ugain mlynedd o ran oedran, nis gallai ymattal heb godi ei lef—udgorn-floedd y dyddiau gynt—o blaid dioddefwyr Armenia dan sawdl haiarnaidd y Twrc.

PA BETH SYDD WEDI EI ENNILL?

Pa beth sydd wedi ei ennill yn y frwydr yr ydym wedi bod yn dilyn ei chwrs drwy wahanol oesau, ac mewn gwahanol wledydd?

Pa ragoriaeth sydd i Gymry ieuanc y dydd hwn? Pa fudd sydd o ymdrechion y Tadau, hen a diweddar? Gellir ateb,—llawer yn mhob rhyw fodd. Oherwydd, yn gyntaf ac yn benaf, "ddarfod ymddiried iddynt am ymadroddion Duw——Gair y Gwirionedd. Dyna "Magna Charta" rhyddid a rhagorfreintiau dyn. Pan ddaeth y Beibl i iaith ac i gyrhaedd y bobl, yr oedd dyddiau caethiwed wedi eu rhifo.

Nis gellir codi y stanc a'r ffagodau mwy. Y mae Deddf Unffurfiaeth ac Unbennaeth ysbrydol wedi mynd yn llythyren farw am byth. Ond y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Yr ydym wedi sangu ar Ganaan Rhyddid. Y mae caerau ambell i Jericho wedi eu bwrw i lawr, ond y mae Canaaneaid eto yn aros yn y tir. Awn a meddianwn y wlad.

BANER RHYDDID.

Yn y cyfamser, bydded i ni dynu nerth ac ysbrydiaeth o esiamplau—bywyd a gwaith—y gwŷr godidog sydd wedi ein rhagflaenu yn y gâd. Safwn yn y rhyddid a ennillasant hwy, a chyd-ymroddwn i estyn ei derfynau. I ryddid yr ydym wedi ein galw; na fyddwn anufudd i'r weledigaeth nefol. Na ddalier ni drachefn dan iau caethiwed. Cyd-drefnwn ein rhengau: suddwn ein mân-wahaniaethau, —close the ranks! Byddwn ffyddlawn i draddodiadau y gorphenol ymestynwn at addewidion y dyfodol. Parchwn, anwylwn yr hen faner sydd wedi bod yn cyhwfan mewn mil o frwydrau. Y mae ysbrydion gwroniaid yn hofran o'i deutu y mae wedi ei llychwino â gwaed y merthyron, ond y mae Buddugoliaeth yn dilyn ei cherddediad, a chysgodion y nos yn ffoi o'i blaen. A pha ryfedd? Ei harwyddairyw rhyddid, a "Gair Duw yn uchaf."



BANER RHYDDID.

I.


Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio'n y gwynt,.
Diddymer caethiwed a gormes,
Ysbrydiaeth a glewder y Tadau dewr gynt
Fel llanw fo'n chwyddo pob mynwes;
Mae angel gwarcheidiol gwladgarwch yn awr,
Ar aelgerth y clogwyn yn gwylio,
A heddwch yn gwenu drwy ddorau y wawr
Tra baner wen Rhyddid yn chwyfio.

II.


Mae gweddi dynoliaeth yn esgyn i'r nef,
Ac adlais a leinw'r awelon,—
Teyrnasa cyfiawnder, ei gorsedd sy' gref,
Caiff Rhyddid deyrnwialen a choron.
Ymlidir cysgodion y fagddu o'r tir,
Mae Trais yn ei garchar yn crynu,—
Byw byth y bo Rhyddid, mawryger y gwir,—
A choder y faner i fyny.


III.


Cydchwyfiwn y faner yn entrych y nen,
Daw llwyddiant i wasgar ei wenau,
Mae cain dduwies addysg yn dyrchu ei phen,
A sobrwydd yn sychu ei dagrau;
Hen gestyll trueni ddymchwelir i gyd,
Daw purdeb a moes i flodeuo,
Ac ar ein mynyddau drwy oesau y byd,
Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio!


Nodiadau[golygu]