Neidio i'r cynnwys

Gwroniaid y Ffydd/Gwroniaid y Ffydd

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Gwroniaid y Ffydd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Maes y Frwydr

GWRONIAID Y FFYDD.


"THE HISTORY OF THE WORLD IS THE BIOGRAPHY OF GREAT MEN."

YN y flwyddyn 1840 y cyhoeddodd Carlyle ei lyfr adnabyddus ar "Wroniaid, yn nghyda'r elfen wronaidd mewn Hanes." Y mae llawer o bethau yn y llyfr sydd yn agored i feirniadaeth, ond nid oes neb a wad fod ynddo nerth ac ynni dihafal. Y mae awelon ysbrydoliaeth yn anadlu drwyddo, ac y mae ei bortreadau o'r gwron fel Bardd, Proffwyd, Duwinydd, a Diwygiwr, yn byw byth yn y meddwl a'r cof.

Ac ar y cyfrif hwn, yr wyf yn cymeryd fy nghenad i ddefnyddio rhai o sylwadau "doethawr Chelsea" fel rhagarweiniad i'r hanes sydd yn canlyn am "Wroniaid y Ffydd." Nis gwn am ddim mor addas i barotoi meddwl y darllenydd ieuanc, ac i'w osod mewn cydymdeimlad â'r cymeriadau hyny sydd yn haeddu cael eu hanrhydeddu gan bob cenedlaeth ac oes. Dyma fel y mae Carlyle yn traethu ei len ar y pwnc:

"Yr wyf yn ymwybodol fod arwr-addoliaeth, neu y peth a alwaf fi yn arwr-addoliaeth, yn y dyddiau hyn, wedi diflanu. Y mae hon yn oes sydd yn gwadu bodolaeth dynion mawr,yn gwadu yr angenrheidrwydd am danynt. Dangoswch i'r beirniaid hyn ddyn mawr-dyn fel Luther, er esiampl, ac yna y maent yn dechreu rhoddi'cyfrif' am dano. Yr oedd yn greadur ei oes,' meddent; ei oes a'i galwodd allan, ei oes a wnaeth y cyfan, ac yntau ddim, ond yr hyn a allasai y beirniad bychan ei wneuthur yn ogystal! Y mae hyn yn ymddangos i mi yn waith pruddaidd. Ei oes a'i galwodd i fod, aie? Ha! yr ydym yn gwybod am oesau wedi galw yn uchel am y dyn mawr, ond yn methu ei gael! Nid oedd efe yno: nid oedd Rhagluniaeth, wedi ei anfon, ac er i'r oes lefain yn uchel am dano, nid ydoedd i'w gael. . . Yr wyf yn cyffelybu oesau difraw, dinod, gyda'u hanghredinaeth, eu helbulon, a'u haflwydd, i danwydd sych a marw, yn disgwyl am y mellt o'r nefoedd i'w gwneyd yn oddaith. Y dyn mawr, gyda'i rym wedi dod yn uniongyrchol oddiwrth Dduw, ydyw y fellten. Y mae pobpeth yn ffaglu o'i gwmpas, ac yn cyfranogi o'i fflam ef ei hun. Ac eto fe ddywedwn mai y brigwydd sychion sydd wedi rhoddi bod iddo. Yr oedd arnynt fawr anghen am dano, ond am roddi bod iddo!—Pobl o welediad cyfyng, cul, sydd yn crochlefain,—'Gwelwch, onid y brigau sydd wedi cyneu y tan!' Na, nid felly. Nis gallai dyffryn yr esgyrn sychion gynyrchu bywyd. Yr oedd hwnw yn ganlyniad yr anadl Ddwyfol. Creadigaeth felly ydyw dynion mawr. Ac nid ydyw hanes y byd yn ddim amgen na bywgraffiad y gwroniaid hyn."

Dyna ddysgeidiaeth Carlyle. Pregethai hi ai holl egni. Ar y cyntaf, nid ydoedd ond llef un yn llefain yn y diffaethwch; ond yn y man daeth llawer i lawenychu yn ei oleuni, ac i gyfranogi o'i frwdfrydedd. Daeth hanes y gorphenol i wisgo gwedd newydd a gwahanol. Nid cronicl sych o ffeithiau difywyd,―geni a marw brenhinoedd a thywysogion; amseriad brwydrau, a digwyddiadau arwynebol-nid yn y pethau hyn y mae hanfod Hanes; y mae hwnw, bellach, wedi ei grynhoi o gwmpas y cymeriadau hyny sydd wedi creu a llunio cyfnodau newyddion. Amwisg yw y ffeithiau, ac y mae eu dyddordeb yn gynwysedig yn y gwasanaeth a wneir ganddynt i daflu goleuni ar ddynion, ac ar eu gwaith.

Yn nghrym y weledigaeth hon yr ysgrifennodd Carlyle ei lyfr ar "Wroniaid," yn nghyda'r cyfrolau bywiol hyny ar "Oliver Cromwell" a'r "Chwyldroad Ffrengig." Llafuriodd, manwl-chwiliodd am bob tameidyn o ffaith oedd yn dal cysylltiad â gwrthrych ei efrydiaeth. Dygodd asgwrn at ei asgwrn; gwisgodd hwy â giau ac â chroen, ac yn goron ar y cyfan—anadlodd anadl einioes yn y defnyddiau, nes y maent yn aros bellach yn ddelweddau byw, anfarwol, yn oriel llenyddiaeth ein gwlad.

Ond y mae'n perthyn i wroniaeth ei raddau, yn ol fel y byddo cylch ac amcanion ei weithrediadau. Arall yw gwroniaeth y Cadfridog, ac arall yw gwroniaeth y Dyngarwr. Nid ydyw Wellington a John Howard yn perthyn i'r un dosbarth. Yn yr ystyr hwn gellir gofyn,—

Pwy yw yr arwr? Pwy ddylai gael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael?
Mi wela'r Gorchfygwr yn ymdaith drwy waed,
Gan fathru teyrnasoedd yn llwch dan ei draed:
Ei folawd adseinir mewn dinas a thref,
A'r mynor tryloew a draetha'i glod ef;
Efe yw yr arwr,—efe sydd yn cael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael.

Ond wele'r Dyngarwr yn dyfod o draw,
A chleddyf gwirionedd yn loew'n ei law:
Ymdeithio, ymdrechu dros Iawnder y mae,
A chodi'r adfydus o ddyfnder ei wae ;
O'i flaen mae Trueni,—ond beunydd o'i ol
Daw blodau i'r anial fel gwanwyn i'r ddol.

Ardderchog Ddyngarwr! pwy draetha ei oes?
A'i fynwes yn wenfflam gan gariad y Groes.
Mae llwybrau ei fywyd yn wyn a di-staen,
Ac erys ei enw pan dodda y maen!
Efe yw yr arwr, — efe sydd i gael
Llawryfon anrhydedd am byth ar ei ael.

Ond y mae Dyngarwch yn cyrhaedd ei bwynt uchaf pan wedi ei hydreiddio âg ysbryd crefydd, ac wedi ei wregysu â nerthoedd ffydd.

Ac at wroniaeth yn y ffurf ddyrchafedig hon y gwahoddir sylw y darllenydd—ac yn enwedig darllenwyr ieuainc Cymru—yn yr hanes sydd yn canlyn,—Gwroniaid y Ffydd. Y mae rheswm yn arbenig y dyddiau hyn dros gyffroi meddyliau ein gilydd i astudio ac i ddeall hanes rhag-redegwyr ein rhyddid crefyddol a'n breintiau cymdeithasol. A swm mawr o aberth a dioddef y cawsom ni y ddinas-fraint hon. Fel y dywed Iolo Carnarvon yn ei arwrgerdd gyfoethog—"Ardderchog Lu y Merthyri:"

Nid gwlad o ddydd, o ryddid, ac o freintiau,—
O fawl, Sabbothau tawel, ac o demlau,
Erioed oedd Cymru,—gwelodd hithau fflamau:
A phrofodd arswyd, newyn, ac arteithau!


Ymguddiodd sant bri wiedig yn ei chreigiau:
Teimlasant bwysau llethol ei chadwynau :
Bu meibion Duw yn ubain yn ei gwigoedd,
A bu eu gwaed yn cochi ei haberoedd ;
Trwy ingoedd tost credinwyr erlidiedig
Y daeth i ni yn frodir wynfydedig.

Ond os ydyw Cymru i barhau yn "frodir wynfydedig" y mae'n rhaid i'w meibion a'u merched gydnabyddu a hanes y gwroniaid fuont yn ymdrechu hyd at waed i bwrcasu ein rhyddid, ac i sicrhau ein cysuron. Rhaid i ni fawrhau eu gwaith, a chadw yr ymddiriedaeth o wirionedd ac egwyddorion ydym wedi eu derbyn oddiwrthynt,—ei derbyn, nid i'w mathru dan ein traed, ond i estyn ei therfynau, ac i'w throsglwyddo yn ddilwgr i'r dyfodol. Ni ddylai anwybodaeth na difaterwch gael taflu eu cysgodion tywyll ar y rhandir gysegredig hon. Yn ngeiriau y bardd yr ydym wedi cyfeirio ato o'r blaen:—

Pa beth i oes fel yma yw MERTHYRON
Yw gwyr a gwragedd, llanciau a gwyryfon,
Mewn daeargelloedd neu danllwythi mawrion,—
A ydynt hwy i ni yn awr yn ddynion,
Ai ymgyfuniad byw o wirioneddau,
O oddefgarwch, ac o bob rhinweddau,
Neu enwau ar oleuni, ar wroniaeth:
Neu ar gymylau llawn o ysbrydoliaeth?
Y ddau,—mae dynion dan yr hanesyddiaeth,
A meibion Duw o dan yr holl arwriaeth!

Ie, dyna sydd yn gwneyd yr hanes yn fyth-ddyddorol, ac yn ysbrydoliaeth newydd i bob oes. Mae "dynion byw o dan yr hanesyddiaeth,'—ac am hyny y mae yr hanes ei hunan yn aros yn iraidd a thirf,— gwirionedd, egwyddorion, ysbryd ffydd wedi ymgnawdoli, ydyw hanfod yr hanes ei hun. Ac os ydyw Cymru yn "frodir wynfydedig" mewn ystyr grefyddol, ar hyn o bryd, nid ydyw hyny ynddo ei hun yn cynwys sicrwydd am y dyfodol. Yr oedd yn perthyn i ardd gyntaf dynoliaeth ei hamodau. Gosodwyd dyn yno nid i segura ac i ymheulo fel anifail direswm, ond i'w "llafurio ac i'w chadw hi." Ac y mae pob paradwys ddaearol yn debyg yn yr ystyr hwn. Rhaid llafurio i'w chadw. Na fydded i hyn gael ei fwrw dros gof yn Nghymru freintiedig,—gwlad y diwygiadau a'r cymanfaoedd. Na chaffer ni yn ddiofal yn nghanol ein hetifeddiaeth deg. Na ddarostynger ein brodir i fod yn gyffelyb i wlad y Lotos—eaters,[1]

"A land where it was always afternoon"

—dim boreu, dim ynni, na dim gwaith.

Y mae arwyddion ar y terfyn-gylch fod cyfnewidiad hin heb fod yn mhell. Y mae yn fwy na thebyg y daw rhuthriadau cryfion i ymosod ar Gymru, i dori ar y tawelwch, ac i brofi nerth ein ffydd. Daw "amser cannu, diwrnod nithio," eto ar ein gwlad. Beth a wnawn yn nydd yr ymweliad? Un peth yn ddiau a allwn, ac a ddylem wneyd yn ddioedi ydyw—parotoi ar gyfer y rhyferthwy. Rhaid i'n bywyd crefyddol estyn ei wraidd i ddaear ddofn egwyddorion, ymglymu am hanes amddiffynwyr y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Ai yn ofer y llafuriodd y diwygwyr Protestanaidd? Ai penboethiaid oedd hen Anghydffurfwyr Cymru ? A ydyw rhyddid cydwybod a rhyddid barn yn llai gwerthfawr yn ein golwg ni nac oeddynt iddynt hwy? A ydyw yr arwyddair Protestanaidd mai "Gair Duw ydyw unig reol ffydd ac ymarweddiad" i gael ei osod o'r neilldu? Ac a ydyw defodaeth rwysgfawr i ddiorseddu gweinidogaeth yr Efengyl? Dyna rai o'r cwestiynau y gofynnir i ni eu hystyried ar fyrder, fel y caffom beth i'w ateb i'r cenhadau y mae y Pab a'i gardinaliaid yn gweled yn dda eu hanfon atom.

A chyda'r amcan o fod yn rhyw ychydig o gynorthwy yn y pethau hyn, y cyflwynir y llyfryn hwn i sylw ieuenctyd ein hanwyl wlad. Ac yr wyf yn distaw hyderu y bydd y darlleniad ohono yn symbyliad i ambell un astudio yr hanes yn llwyrach, ac i ymrestru fel gwirfoddolwr yn y fyddin anrhydeddus, anorchfygol, sydd wedi ei harwain, o oes i oes, gan Wroniaid y Ffydd.

Yr eiddoch yn wladgar,

R. D. ROWLAND.

CAERNARFON.

Nodiadau[golygu]