Gwroniaid y Ffydd/Ysbryd Rhyddid
← Safle Gymdeithasol | Gwroniaid y Ffydd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Awenawg Wr O Wynedd → |
CASTELL CAERNARFON.
YSBRYD RHYDDID.
MAE ysbryd yn y castell hwn:
Ac nid oes Gymro dan y nef,
Eill basio tan y muriau mawr,
Na sylla'r ysbryd arno ef;
O ben y tŵr a phen y mûr,
Fe laddodd filoedd yn ei wg;
Ond ysbryd da yw ef yn awr,
Er iddo fod yn ysbryd drwg.
—Ceiriog.
YDYW, y mae ysbryd Rhyddid a gwladgarwch ar ddihun. Ceir arwyddion ohono ar bob llaw. Dichon mai yn nghyfeiriad gwleidyddiaeth y mae'r ynni newydd hwn i'w weled gryfaf, ond y mae pob adran o'n bywyd cenedlaethol yn prysur deimlo ei bresenoldeb. Treiddia i bob congl o gymdeithas, ac y mae eisoes wedi rhoddi symbyliad grymus i lenyddiaeth ein gwlad. Ac nid yw yn gyfyngedig i derfynau y Dywysogaeth: ymleda yn gyflym i wahanol rannau o'r byd. Dan ei ddylanwad ymwasga y Cymry at eu gilydd. Y mae cymdeithasau Cymreig yn dod i fodolaeth mewn mannau pellenig. Gwelir Cymry ieuainc yn ymgodi o ganol y berw Seisnig i amddiffyn a chefnogi buddiannau ein gwlad gynhenid. Gwnant hynny dan ddylanwad yr ysbryd newydd sydd wedi deffro yn nghalon ein cenedl. Beth yw rhai o nodweddion yr ysbryd newydd? Pa beth a ddywed efe wrthym?
EIN DIFFYGION CENEDLAETHOL.
Y mae yr ysbryd yr ydym yn son am dano, yn ein harwain, yn un peth, i edrych yn myw llygaid ein diffygion. Ein tuedd yn yr amser a fu ydoedd rhedeg i un o ddau eithaf. Un ydoedd dibrisio pobpeth Cymreig. Dyna wendid llawer o Gymry ar ol iddynt ymgymysgu rhyw gymaint â'r hil Sacsonaidd. Yr oedd gwlad eu tadau yn mynd yn ddiddim yn eu golwg: ei phentrefi yn ddi-nod, ei phobl yn druain, dlodion, ac am ei llenyddiaeth hwy a ddywedent yn drwynsur—“ y manna gwael hwn.”
Yr eithaf arall ydoedd gor-foli pobpeth Cymreig am mai Cymreig ydoedd. Gwelwyd cryn lawer o hyn yn nglŷn â'n Heisteddfodau a'n cylch-wyliau llenyddol. Dywedwyd rai gweithiau, nad ydoedd Homer na Miltwn yn ogyfuwch a rhai o feirdd gorseddol ein gwlad. Proffwydwyd anfarwoldeb i lawer cyfansoddiad a fu farw yn ei febyd, a hynny er cryn niwaid i fynych wendid yr awdwyr. A phan fyddai gwŷr pwyllgor fel y diweddar Dr. Edwards, o'r Bala, yn ceisio cymedroli y fath ormodiaeth, mawr yr helynt a ddigwyddai ar feusydd y cylchgronau a'r newyddiaduron. Erbyn hyn, y mae caredigion ein cenedl yn credu fod y ddau eithaf a nodwyd yn feius, ac yn dra anfanteisiol i wir gynydd.
Ar un llaw, y mae yn anheilwng o Gymro i ddibrisio y wlad a'i magodd. Os yw yn teimlo fod yna lawer o bethau y dylid eu gwella, ei ddyledswydd fel gwladgarwr ydyw gwneyd ei oreu i symud y tramgwyddiadau, a dyrchafu cymeriad Cymru, yn ddeallol a moesol, i dir uwch. Ac y mae gan y Cymry ar wasgar, y rhai y mae eu llinynau wedi syrthio yn mysg cenedloedd eraill, gyfleusderau godidog yn y cyfeiriad hwn. A hyfryd ydyw meddwl fod gwaith rhagorol yn cael ei wneyd allan o Gymru, a hyny dros Gymru. Lefeinir meddyliau cenedloedd y byd gan ddylanwad iachus y Cymry gwladgarol hyny sydd yn ymladd brwydr bywyd ochr-yn-ochr à goreuon gwledydd eraill. Y mae Dic Shon Dafydd erbyn heddyw yn fod dirmygus i'r eithaf y mae ysbryd Rhyddid wedi ei wânu â'i gledd:
Ai tybed fod y cyfryw un,
Na dd'wedodd rywbryd wrtho'i hun,—
Hon yw fy ngenedigol wlad!
Yr hwn ni ŵyr am ysgafn fron,
Pan ddychwel eilwaith dros y dòn,
Yn ol i fro mabolaeth fâd:
Os oes fath un o dan y nef,
Ni ddyrcha beirdd ei glodydd ef,—
Er meddu swydd ac uchel sedd,
A llawnder byd o'r cryd i'r bedd,
Er maint ei gyfoeth, dwl yw'r dyn,
Sy'n byw yn hollol iddo ei hun.
O'r tu arall y mae yr ysbryd newydd yn ceryddu y rhagfarn a'r anwybodaeth fu yn arwain dynion i wenieithio lle y dylesid dysgu, ac i waeddi "Perffeithrwydd" uwchben yr hyn oedd yn eglur brofi y diffyg ohono. Ond y mae gwawr cyfnod gwell wedi tori. Yr ydym yn gallu goddef ein harweinwyr gyfeirio at ddiffygion ein gwlad a'n cenedl. Y mae hynny'n arwydd er daioni. Wrth gwrs,
nid edliw beiau ydyw yr amcan a'r nod, ond credwn fod yn rhaid cychwyn yn y modd hwn cyn y ceir sail gadarn a diogel i Gymru Fydd.
Y mae rhai o'r diffygion hyn yn cael eu dannod ini gan ein cym'dogion Seisnig. Dywedai Robert Burns mai rhodd y duwiau ydyw y ddawn i weled ein hunain megys y mae eraill yn ein gweled. Ond dylid cydnabod fod llawer yn dibynu ar ansawdd llygad a meddwl y sawl a fyddo yn edrych arnom. Y mae lliw-ddallineb yn bod mewn mwy nac un ystyr. Ni a wyddom fod rhai o'r Saeson wedi bod yn haeru am danom bethau chwerw,diffyg parch i eirwiredd, a diffyg gonestrwydd ymarferol. Y mae y rhai'n yn gwynion trymion, a chredwn nad ydynt wedi eu profi. Yr un pryd, y ffordd i'w gwrthbrofi ydyw dyblu diwydrwydd yn y rhinweddau a'u cyffelyb. Hyderwn fod y dydd yn agos pan fo yr enw Cymro yn gyfystyr â geirwiredd a gonestrwydd, ac od oes un rhinwedd arall heb ei feithrin yn ddyladwy,-meddyliwn am y pethau hyn.
Ond y mae un diffyg ag yr ydym ni ein hunain yn ymwybodol ohono, ac yn dioddef yn ddwys o'i herwydd. Adwaenir ef fel
DIFFYG DYFALBARHAD.
Yr ydym, fel cenedl, yn hynod frwdfrydig dros amser, ond pan ddel gorthrymder neu erlid, y mae sel llaweroedd yn oeri ac yn diffodd. Gynifer o bethau gawsant eu cychwyn yn Nghymru—eu cychwyn yn nghanol banllefau croch, ond y mae eu bywgraffiad yn cyd-daro ag eiddo y cicaion,—"Noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu." Yn y dyddiau diweddaf hyn fe gydnabyddir fod genym athrylith, ac mai nid y lleiaf o'r holl hadau ydyw athrylith y Celt. Ond, yn nglŷn â'r gallu hwnw, dywedir ein bod yn amddifad o'r gallu i bara, i lynu, ac i orchfygu. Y mae rhwystrau yn ein gwan-galoni. Nid ydym yn meithrin yr ystyfnigrwydd—y doggedness hwnw sydd yn nodweddu y Teutoniaid. Dyma guddiad cryfder y gwŷr hynny sydd wedi gwneuthur iddynt enw yn mysg y cedyrn. Rhyfedd oedd y darganfyddiadau a wnaeth Darwin yn nglŷn â chreaduriaid ac ymlusgiaid, ond ei brif arbenigrwydd fel gwyddonydd ydoedd ei allu i ddyfal-bara,―i roddi pobpeth dan archwiliad trwyadl. Nid oedd yn cymeryd dim yn ganiataol, os gallai drwy lafur a sylwadaeth bersonol roddi cyfrif am dano.
Lluosog ydyw dyfeisiau Edison, ond y mae hanes y gwr hwnw yn tystio mai nid gweledigaethau crebwyll bywiog ydoedd y gwahanol offerynau celfydd y mae efe wedi eu troi allan i'r byd. Dywed efe ei hun iddo fod am fisoedd yn perffeithio un o'i beirianau i swnio y llythyren S. Yr oedd y dasg yn un anhawdd, ond arhosodd yr athraw gyda'r disgybl nes y dysgodd y wers. A dyna un o'r gwersi pwysicaf sydd genym ninnau i'w dysgu yn y blynyddau hyn: glynu wrth ein hamcanion cenedlaethol nes dwyn barn i fuddugoliaeth. Dywedodd John Morley, ar ryw achlysur, ei fod yn cymeryd ugain mlynedd i ddrychfeddwl newydd wneyd ei ffordd drwy Dy y Cyffredin. Y mae genym ninnau yn Nghymru amryw ddrychfeddyliau gwiwdeg sydd wedi enill ein bryd, ond a fedrwn ni lynu wrthynt am ugain mlynedd, neu ychwaneg, os bydd raid, heb laesu dwylaw?
RHYDDID AC UNDEB
Arwyddair y cyfnod hwn ydyw—rhyddid ac undeb; Y mae rhyddid mewn undeb, ac undeb mewn rhyddid. gwir undeb yn rhag-dybied rhyddid. Nis gall caethiwed gynyrchu undeb. Y mae yn bosibl i gaethiwed roddi bod i unffurfiaeth. Gall wneyd hynny tra y byddo y gallu sydd yn caethiwo yn ddigon cryfi ddal rhyddid ac annibyniaeth ar lawr, ond nid oes yno undeb. A'r foment y mae y gallu sydd mewn caethiwed yn dechreu ymysgwyd, y mae unffurfiaeth—y dynwarediad hwnnw o undeb—yn cael ei aflonyddu yn y fan. Ond y mae gwir ryddid yn sicrhau gwir undeb. Y mae rhyddid i ddyn yn tybied amcan a nod. Beth ydyw caethiwed? Atalfa ormesol ar yrfa dyn neu genedl yn nghyfeiriad cynydd a daioni. Saif caethiwed, yn mhob oes, rhwng plant dynion a rhyw Ganaan y mae Duw wedi ei rhoddi iddynt mewn addewid. Beth ydyw rhyddid? -rhyddid cydwybod, - rhyddid barn a llafar? Dim amgen nac agoriad y môr, boddiad Pharaoh a'i lu, didoliad yr hyn sydd yn atal drwy anghyfiawnder. Nid ydyw rhyddid yn terfynnu ynddo ei hun. Moses ydyw,arweinydd drwy'r anialwch. Y mae rhyddid yn tybied amcan a nôd. Am hynny, y mae'n tywys dynion i rwymau undeb a chydweithrediad. Dyna sydd yn cyfrif am sefyllfa pethau yn Nghymru yn y blynyddau presennol. Y mae llanw rhyddid yn chwyddo'n uwch i'r lan, ac y mae ysbryd uno ac aduno yn ymledu ar bod llaw. Yr ydym yn awyddus i suddo y mân-wahaniaethau, ac i sicrhau undeb ysbryd yn nglŷn â'r pethau hynny ag y mae ein dyfodol fel cenedl yn gysylltiedig â hwy. Undeb mewn pethau hanfodol: rhyddid barn, undeb ysbryd.
SAFON TEILYNGDOD.
Y mae hwn yn ymburo ac yn ymddyrchafu. Ceir dynion ar y blaen yn Nghymru, yn y blynyddau hyn, nid oblegyd. yr hyn sydd o'u hamgylch, ond yn hytrach oblegid yr hyn sydd ynddynt. Yr ydym wedi bod ar lawer adeg yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau gau. Nid oedd yr eilun yn deilwng o'r edmygedd a wastreffid arno. Yn mysg yr eilunod hyn yr oedd cyfoeth a safle gymdeithasol. Cenedl orchfygedig a fuom,—cenedl dlawd, ac yr oedd presenoldeb y bendefigaeth, yn ystyr ffasiynol y gair, yn rheibio ein golygon. Nid ydyw Mammon-addoliaeth, a chysegredigaeth gwr o "waed" neillduol, wedi darfod o'n gwlad, ond y mae yn rhywle ar y goriwaered.
Eilun arall y cawsom ein hud-ddenu ganddo ar lawer adeg, ydoedd athrylith a thalent wedi ei hysgaru oddiwrth rinwedd. Bu rhai o'n harweinwyr llenyddol a gwladol yn cadw eu safle yn unig yn ngrym eu galluoedd a'u doniau. Yr oedd y rhai hyny yn cuddio lluaws o bechodau. Ond erbyn hyn nid ydyw swyn-gyfaredd talent yn ddigonol heb fod yn ei pherchen warogaeth i gymeriad moesol. Dywedir fod gan y Rhufeiniaid ddwy deml,—un yn gysegredig i rinwedd, y llall i enwogrwydd. Ac yr oeddynt wedi eu hadeiladu yn y fath fodd fel nad oes yn bosibl mynd i deml clod ond drwy deml rhinwedd. Y mae ein cenedl ninnau, bellach, yn dod i gredu yr un gwirionedd. Y mae ysbryd rhyddid—ysbryd Cymru Fydd—yn gwylio pyrth temlenwogrwydd, ac nid yw yn caniatau mynediad i mewn ond i'r sawl fyddo yn dod yno drwy deml rhinwedd, ar sail cymeriad glan a difefl. Y drwydded i fywyd cyhoeddus yn y dyfodol fydd,—gallu a charictor. Dyma y safon,—yr unig wir safon, i bob swydd, wladol, lenyddol, a chrefyddol o fewn y tir.
Credwn mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg honno pan fyddo ei harweinwyr, mewn meddwl a moes, yn gynyrch naturiol y wlad ei hun. Y mae hyn yn cael ei awgrymu gan un o'r proffwydi Hebreig. "Canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd a'i braidd, tŷ Judah, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel." Beth fydd y canlyniad ? "Y gongl a ddaw allan o hono, yr hoel o hono, y bwa rhyfel o hono. A byddant fel cawri yn sathru eu gelynion yn y rhyfel; a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt" (Zechariah x. 4, 5). Yr ystyr, meddir, ydyw, fod arweinwyr y genedl i godi ohoni ei hun, o ddyfnderoedd ei hysbryd a'i gwaith. Y "gongl' conglfaen yr adeilad, dyna y dosbarth blaenaf. Dynion a phwysau yn eu barn ac yn eu bywyd: cymeriadau wedi eu cyfaddasu i fod yn feini bywiol yn yr adeilad gymdeithasol,-"Y gongl a ddaw allan o hono." Yr "hoel" hefyd. Dynion a'u hargyhoeddiadau fel hoel mewn lle sicr. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa.' "Yr hoel a ddaw allan o hono." Yr un modd am y "bwa rhyfel." Yr ydym wedi bod yn sôn yn y rhannau blaenaf o'r llyfr hwn am frwydrau y gorphenol,—brwydrau rhyddid, a gwroniaid y ffydd. Ond na thybier fod cyfnod y brwydro wedi myn'd trosodd mewn llawer cyfeiriad, nid ydyw ond prin wedi dechreu. Y mae arnom anghen y sawl sydd yn berchen bwa, yn medru anelu gyda chywirdeb William Tell. Diolchgar ydym am gynorthwy gwŷr o fysg cenedloedd eraill i ymladd ein rhyfeloedd, ac i ddadleu drosom, ond yr ydym yn disgwyl yn y dyfodol wrth y gatrawd Gymreig, nid i ddefnyddio y fagnel a'r cledd, ond yr "arfau nad ydynt gnawdol," i godi'r hen wlad. Ac yn olaf a phenaf, y "rheolwr a ddaw allan o hono." Yr ydym yn edrych ymlaen yn awyddus at yr adeg pan y bydd Cymru, yn ei phethau hanfodol, yn cael ei rheoli gan Gymry pan y bydd ein llywodraethwyr yn ddadblygiad teg o fywyd ac adnoddau ein cenedl. Yr ydym yn disgwyl hyn am ein bod yn credu gwirionedd y broffwydoliaeth Hebreig, mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg pan y byddo ei harweinwyr yn gynyrchion naturiol, deallol, a moesol y wlad ei hun.
Ac i'r amcan hwn, y mae ysbryd Rhyddid yn ysbryd sydd a'i fryd ar roddi chwareu teg i bob dosbarth a gradd, a mwy na hyny, y mae'n awyddus i roddi y fantais oreu i bawb i lanw y cylch y mae ei alluoedd a'i ymroddiad yn deilwng o hono. Yr amcan mawr ydyw cynyrchu cymeriadau addas i arwain cenedl, a hyny ar hyd llwybrau uniondeb.
YN EISIAU:-DYNION.
Nid ydyw o gymaint pwys o b'le y byddant wedi dod.. Y mae y bwthyn a'r palas ar yr un tir yn hollol. Yr hyn sydd bwysig ydyw eu cael, ac wedi eu cael, gwneyd defnydd dyladwy ohonynt.
Rhaid eu cael. Rhoddion ydynt, a'r rhoddion penaf sydd yn dod oddiwrth Dad yr Ysbrydoedd i'r byd hwn. Nis gellir eu llunio wrth reol: nis gellir eu harchebu fel nwyddau masnachol. Y maent fel yr hâd yn y ddaear tyfu, ac yn egino, y modd nis gwyddom ni,—yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. Ond y mae ar ein llaw ni ofalu am yr egin grawn, rhag i'r gelyn-ddyn ei ddinystrio, a rhag i'r un bwystfil ei fathru dan draed.
"God give us men. A time like this demands
Strong minds, great hearts, true faith and ready hands.
Men whom the lust of office does not kill,
Men whom the spoils of office cannot buy,
Men who possess opinions and a will,—
Men who have honour,-men who will not lie."
Y mae bwthyn a phalas ar yr un tir
I[1]
"A oes am dlodi, gonest bwn,
Yn gwyro'i ben, a hyn oll,
Y caethwas llwir, awn heibio hwn,
A meiddiwn fyw, er hyn oll,
Er hyn oll, a hyn oll,
Ein lludded cudd, a hyn oll,
Nid ydyw urdd ond argraph aur,
Y dyn yw'r pwnc, er hyn oll.
II.
Pa waeth, os cinio prin, yn flin,
A sinced lwyd, a hyn oll,
Caed ffol ei sidan, enâf ei win,
Mae dyn yn ddyn, er hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Eu heurwé fain, a hyn oll,
Y gonest ddyn, waeth pa mor dlawd,
Yw brenhin pawb, er hyn oll,
III.
Chwi welwch draw'r ysgogyn balch,
Yn syth ei drem, a hyn oll,
Er crynn rhai wrth air y gwalch,
Nid yw ond coeg, er hyn oll;
Er hyn oll, er hyn oll,
Ysnoden aur, a hyn oll,
Y dyn ag annibynol fryd,
A ysgafn chwardd, ar hyn oll.
IV.
Gall brenhin wneuthur marchog llawn,
Ardalydd, duc, a hyn oll,
Ond gonest-ddyn, a chalon lawn,
Sy' fwy nas gall, er hyn oll;
Er hyn oll, er hyn oll,
Eu hurddas gwych, a hyn oll,
Y synwyr cryf, a'r meddwl teg,
Sy' raddau uwch, na hyn oll.
V.
Rhown lef ynghyd, am ddod y pryd,
A dod a wna, er hyn oll,
Bydd synwyr clyd, dros wyneb byd,
Yn dwyn y parch, a hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Yn dod y mae, er hyn oll,
Pan dros y byd, bydd dyn a dyn,
Yn frawdol un, a hyn oll."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfieithiad o A Man's a Man for A' That— Robert Burns