Neidio i'r cynnwys

Gwyn a gwridog, hawddgar iawn

Oddi ar Wicidestun
'N ôl marw Brenin hedd Gwyn a gwridog, hawddgar iawn

gan William Williams, Pantycelyn

Iesu yw difyrrwch f'oes
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

163[1] Iesu'n wyn a gwridog.
74. 74. D.


1 GWYN a gwridog, hawddgar iawn,
Yw f'Anwylyd;
Doniau'r nef sydd ynddo'n llawn,
Peraidd, hyfryd :
Daear faith, nac uchder nef,
Byth ni ffeindia
Arall tebyg iddo Ef—
Haleliwia.

2 Ynddo'i Hunan y mae'n llawn
Bob trysorau:
Dwyfol berffaith werthfawr Iawn
Am fy meiau;
Gwir ddoethineb, hedd a gras
Gwerthfawroca';
Nerth i hollol gario'r maes—
Haleliwia.


3 Dyma sylfaen gadarn gref,
Trwy fy mywyd
Credu, ac edrych arno Ef,
Yw fy ngwynfyd:
Ynddo bellach, trwy bob pla,
Y gobeithia';
Ac mewn rhyfel canu wna',
Haleliwia.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 163, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930