Neidio i'r cynnwys

Iesu yw difyrrwch f'oes

Oddi ar Wicidestun
Gwyn a gwridog, hawddgar iawn Iesu yw difyrrwch f'oes

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Cofia'r byd, O! Feddyg da
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

164[1]Iawn ac Eiriolaeth Crist.
74. 74. D.

1 IESU yw difyrrwch f'oes,
Yn fy mlinfyd;
Ac ymffrostiaf yn ei groes
Dros fy mywyd;
Dan ei gysgod, nos a dydd,
Gwnaf fy nhrigfa;
Fy nhŵr cadarn hefyd fydd :
Haleliwia.

2 Iesu a'i gyfiawnder Ef
Yw fy mywyd;
Fe'm cymhwysa i deyrnas nef
Trwy ei Ysbryd;
Golchir fi o'm pen i'm traed
Fel yr eira,
Trwy rinweddau dwyfol waed:
Haleliwia.

3 Mae fy Mhrynwr heddiw'n fyw,
Ac yn eiriol;
Sail eiriolaeth drosof yw
Iawn digonol;
Ei waith ynof yn y man
A berffeithia;
Gorfoleddaf yn fy rhan :
Haleliwia.

Peter Jones (Pedr Fardd)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 164, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930