Neidio i'r cynnwys

Cofia'r byd, O! Feddyg da

Oddi ar Wicidestun
Iesu yw difyrrwch f'oes Cofia'r byd, O! Feddyg da

gan John Thomas Job

Mi ganaf tra fo anadl
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

165[1] Y Meddyg Da.
74. 74. D.

COFIA'R byd, O! Feddyg da,
A'i flinderau;
Tyrd yn glau, a llwyr iachâ
Ei ddoluriau:
Cod y bobloedd ar eu traedoll
I'th wasnaethu;
Ti a'u prynaist trwy dy waed,
Dirion Iesu!

2 Y mae'r balm o ryfedd rin
Yn Gilead;
Ac mae yno beraidd win
Dwyfol gariad;
Yno mae'r Physygwr mawr,
Deuwch ato,
A chydgenwch, deulu'r llawr—
Diolch iddo!

John Thomas Job


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 165, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930