Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog
← | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd I |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog (testun cyfansawdd) |
Gyda'r Hen Feirdd
Englynion Dethol
Gan
Carneddog
Erthygl o Cymru Gol O.M.Edwards
Cyf 25, 1903 tud 117-122
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/Logo_llgc_2013_1488px.jpg/300px-Logo_llgc_2013_1488px.jpg)
Gyda'r Hen Feirdd.
[Yn ystod hirddydd haf, byddis yn dewis cael seigiau ysgafn, blasus, a chyfnewidiadau aml. Felly, detholaf, yn hollol yn ol fy ffansi,—ychydig friwsion o goginiaeth yr hen feirdd,— allan o'm llyfryn llogell. Y maent wedi cael eu casglu o bryd i bryd, o ran cymyraeth ddifyr, o hen lawysgrifau melynion, o hen almanaciau llwydion, ac o wahanol ffynhonellau eraill.
Hyderaf y caiff rhywun arall fwynhad wrth eu darllen, o dan gysgod derwen yn y waen, ar foncyff pren mawnog yn y mynydd, ar fin y ffrydlif yn y ceunant, neu ar ei gadair esmwyth yn ei barlwr yn y dref. Gwir Gymro a garo gerdd."CARNEDDOG.]
Nodiadau
[golygu]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/62/PD-icon.svg/48px-PD-icon.svg.png)
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.