Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog (testun cyfansawdd)
← | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog (testun cyfansawdd) gan Richard Griffith (Carneddog) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog |
Gyda'r Hen Feirdd
Englynion Dethol
Gan
Carneddog
Erthygl o Cymru Gol O.M.Edwards
Cyf 25, 1903 tud 117-122
Gyda'r Hen Feirdd.
[Yn ystod hirddydd haf, byddis yn dewis cael seigiau ysgafn, blasus, a chyfnewidiadau aml. Felly, detholaf, yn hollol yn ol fy ffansi,—ychydig friwsion o goginiaeth yr hen feirdd,— allan o'm llyfryn llogell. Y maent wedi cael eu casglu o bryd i bryd, o ran cymyraeth ddifyr, o hen lawysgrifau melynion, o hen almanaciau llwydion, ac o wahanol ffynhonellau eraill.
Hyderaf y caiff rhywun arall fwynhad wrth eu darllen, o dan gysgod derwen yn y waen, ar foncyff pren mawnog yn y mynydd, ar fin y ffrydlif yn y ceunant, neu ar ei gadair esmwyth yn ei barlwr yn y dref. Gwir Gymro a garo gerdd."CARNEDDOG.]
I. Y Gafod Ddrwg yn 1542.
Mil a hanner, llownder llu,—dwy a deugain,―
(Da y gwn ced Iesu,)
Pan fu y Gafawd, ddyddbrawd ddu,
Y drwg amrwst drwy Gymru.
—Pwy?
II. Y Deg Gorchymyn.
Arfer o bump, rhif aur borth,
Ymogel y saith, magl swrth,
A gwna'r deg yn di-warth,
A dos i Nef,—dewis nerth.
—RHYS CAIN.[1]
III. Amddiffyniad, wedi i un haeru fy mod yn eilun-addolwr, ar ol imi ddarlunio "Croes Crist."
Yr anuwiol ffol a ffy,—poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied ef, os gwell hynny,
Llun diawl ymhob lle'n ei dŷ.
—RHYS CAIN.[2]
IV. Arwyddion y Tywydd, oddiwrth liw y lleuad newydd.
Gwylied bawb, bob gwlad y boch,
Y lloer lâs, y llawr a wlych;
Llawer o'r gwynt yw'r lloer goch,
Lloer wen ydyw'r seren sych.
—WM. CYNWAL.[3]
V. Cyngor rhag enllibio.
Ymogelwch, gwyliwch goelio—un chwedl,
Na chodi mawr gyffro;
Profwch oes neb yn prwfio,
Neu llunio bai lle ni bo.
—SION TUDUR.[4]
VI. Cyngor rhag sathru llysiau y ddaear.
Sethrir, dirmygir drem agwedd―llysiau
Lluosog anrhydedd;
Eisieu gwybod, wiwglodd wedd,
Mewn tir hên maint eu rhinwedd.
—SION TUDUR, O WIGFAIR.
Arall.
Rhinweddau llysiau a'u llun,—a'u graddau,
A'u gwreiddiau, a'u sygun,
Pe gwypai, ni roddai yr un
Drwy'r deyrnas ei droed arnyn.
—LEWIS AP EDWARD.[5]
VII. Byw yn uniawn.
Di-falchder arfer yw'r yrfa—uniawn
I ennill y rhedfa;
Difalch fydd pob defnydd da:—
Duw i ry—falch rydd drofa.
—SIMWNT FYCHAN.[6]
VIII. Cais Dduwiolder.
Cais dduwiolder per heb ball,—naws anial,
A synwyr i ddeall;
A thi a gei ni thy' gwall
I'th euraw pobpeth arall.
—GUTO'R GLYN (?)[7]
IX. Brenhinbren y Ganllwyd.
Brenhinbren, brithlen berthlwyd,—a mêsbren,—
Grymusbraff y'th roddwyd;
Purion tw', gwych bren teg wyd—
Trigeinllath tŵr y Ganllwyd.
I'th euraw pobpeth arall.
—SION DAFYDD LAS.[8]
X. Y Sigl Faen Mawr.[9]
Ai hwn yw'r Maen, graen gryn:—llwydwyn,
Rhwng Lledr a Machno?
Fe eill dyn unig ei siglo,
Ni choda'n fil a chwe' dyn fo.
I'th euraw pobpeth arall.
—WM. CYNWAL.
Arall.
XI. Sen i Sion ab Ifan, yr hwn a anfonwyd o Fangor
i Faen Twrog ar frys, a'r hwn a
dariodd yn rhy hir yng
Ngwyl Mab Sant oedd ym Medd Celert,—Wyl Fair gyntaf.
Er gweled merched, er medd,—neu er cerdd,
Er cwrddyd llu mwynedd;
Gwell gan hen ddolbren senedd,
Dre' Fedd Celert bert heb wedd.
—EDMWND PRYS.[12]
XII. Cyngor rhag y Frech Wen.—[yn 1630.]
Cais anian môr farch, cais winwydd heb—lenwi,
Bloneg hwch yn drydydd;
Bid arian byw'n bedwerydd,
Ag o'r Frech Fawr gwr iach fydd.
—Pwy?
XIII. Cwestiwn pwysig, ac yn perthyn i'm gwraig fy hun.
Meddwch, a doedwch ai da—yw'r hwsiwr
Aroso'i chwedleua
Ar hyd y dydd hirddydd ha'
Tan y nos yn y ty nesa'?
—RICHARD ABRAM.[13]
XIV. Llef ar y byw o'r llwch.
Gwel gaethed, saled fy seler,―ystyr,
A gostwng dy falchder;
O Dduw! 'does ar y ddaeër
I weis i fyw ond oes ferr.
—EDWARD MORUS, Perthi Llwydion.[14]
XV. Wrth glywed y Bytheiaid yn hela.
Clywais fawl argais fal organ—beraidd,
Y more'r eis allan;
Pob mân—lais, pibau mwynlan
Hyd y coed, huaid a'u cân.
Cydlais yw'r adlais...[15] —yn cweirio
Carol pryfes feindroed;
Llais mwyn, glan-gais mewn glyngoed,
Cainc hydd cwm, cân cywydd coed.
Melus-lais cu-adlais cwn,—y bore
Sy' beraidd ar wyndwn;
A chorn sydd yn chwyrnu swn
Yn ganiad,—awn ac unwn.
—EDWARD MORUS, Perthi Llwydion.
XVI. Dwrdio'r Gigfran am waeddi.
Gwenwyn mewn tewlwyn wyt ti—y gigfran
Ddu, gegfras, fawr ddifri;
Osgedd cas, ysgwyddau ci,
Tewa' gwddw,—taw a gwaeddi!
—D. PARRI.
XVII. Diolch am y glaw ar ol hir sychdwr.
Dyma'r gwlith a'r gwenith gwyn,—dyma'r bir,
Dyma'r bara â'r enllyn;
Dyma'r mêl a'r cwŷr melyn
O byrth Duw i borthi dyn.
—Pwy?
XVIII. Cyngor i'r Gwyryfon.
'Mogeled merched pob man,—bâr ydyw,
Briodi dyn trwstan;
Pob mawr ei chlod, pob merch lân,
Cyfflybol y caiff leban.
—MICHAEL PRICHARD, Llanllyfni.[16]
XIX. Cyngor rhag meddwi.
Ond ffol yw'r gŵr a gymro
Gan ofer wyr ei hudo,
I dafarnau, creiriau crôg,
I ddifa ei geiniog yno.
Pan elo fo'n gleiriechyn
Ni chaiff mor gŵyn gan undyn,
Ond ei alw ar ei ol,—
"Yr hen anfuddiol feddwyn !"
—MICHAEL PRICHARD.
XX. Ystyriaeth mewn sobrwydd, ar ol meddwi.
Cydwybod meddwdod nis mynn—ond amhwyll
Ar domen y gelyn;
Gorffwyllo, dawnsio mae dyn,
A'r diawl yn canu'r delyn.
—EVAN EVANS, neu Ieuan Brydydd Hir.[17]
XXI. Trachwant dynion am ddiod gadarn.
Fe baid anifeiliaid, pan fo'n—di-ofal,
Nid yfant ond digon;
Ond rhyfedd briw agwedd bron,
Ffud anhawdd, —ni phaid dynion.
—RICHARD PHYLIP.[18]
XXII. Dymuniad y Marw.
Ar lêch ym mynwent Ynys Cynhaiarn.
Na agor fy nôr fain wryd—ogof,
Lle mae gwiwgorff llychllyd;
I orwedd gad fi'n ngweryd,
Is clo gwern nes galw i gyd.
—SION PHYLIP, o Fochras.[19]
XXIII. Cyngor i wragedd cwerylgar.
Ar ol gweld y "Gadair Goch" ym Miwmaris.
Chwi'r gwragedd rhyfedd eu rhoch—ysgeler,
Ysgowliwch pan fynnoch;
E' bernir a'ch bai arnoch,
Gyda'r gair i'r Gadair Goch.
—WM. PHYLIP, o Hendre Fechan.[20]
XXIV.Wrth glywed cloch tŵr cloc Eglwys Crist, Rhydychen, yn tiwnio, 1738.
Ai "Tom" yw'r Gloch drom a glywwch draw—'n rhuo?
Mae'n rhywyr ymadaw;
A digllon wyr a degllaw
Cyn y nos yn canu naw.
—WM. WYNNE.[21]
XXV. Ochenaid, wrth gladdu fy hen athraw anwyl Owen Gruffydd, o Lanystumdwy.
Rhoi'r bardd mwyn, cu-fardd mewn cist—dderw
I'r ddaearen athrist;
Edrych yr wyf yn odrist—
Yn bruddaidd, drumaidd drist.
WM. ELIAS.[22]
XXVI. I Spaengi Mr. Wm. Fychan, aer Corsygedol [yn 1731].
Spaengi tew, crychflew, crochfloedd—echrys-flaidd
A chroesflew arth ydoedd;
Rhysfin, cresflin du, croesfloedd,
Ceg oer flwng,—ci a garw floedd.
—WM. ELIAS, Plas y Glyn, Mon.
XXVII. Anrhegion i wr bonheddig.
Ereswiw ffyn iddo roisoch,—a gast—
Daeargast ddu dorgoch,
I dagu ffwlbart dugoch,
Ac i rwygo cadno coch.
—Pwy?
XXVIII. Y Cyfreithwyr (yn 1740).
Cyfreithwyr, noethwyr nythod,—amla'
Heb deimlo cydwybod;
Ffy llawer o ffau y llewod
Yn din y glêr,—tlodion o glod.
—Pwy?
XXIX. "Pridd i'r pridd, a lludw i'r lludw."
Pridd hen ddaearen oeredd—ydwyf,
Ar redeg i'r dyfnfedd;
A lludw yn wir—llwyd iawn ei wedd,—
Iselwael yw fy sylwedd.
—MICHAEL PRICHARD, Llanllyfni.
XXX. Y penglog yn llefaru
(a wnaed wrth weld Ynfytyn yn cicio penglog mewn mynwent).
Mi fum i fel dydi'r dyn,—yn f'einioes
Yn fânwallt brigfelyn;
Ti ei di fel fi'n fonyn,
A llwch fel gweli fy llun.
—WM. WYNNE, Llangynhafal.
XXXI. Rhybudd i bawb.
Ti sathrwr, baeddwr beddau—hyd esgyrn
O! dod ysgafn gamrau;
A chofia ddyn,—briddyn brau,
Y dwthwn sethrir dithau!
—JOHN PARRY, Llaneilian.[23]
XXXII. Cysegredigrwydd yr Eglwys.[24]
Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol
Ger bron Duw a'i dyrfa;
Er dim na thyred yma
Y dyn, ond ar feddwl da.
—MATHEW OWEN, Llangar, Meirion.[25]
XXXIII. Cyngor i offeiriaid Cymru (yn 1767).
Gweithiwch, a dysgwch dasgau—o'r Beibl
I'r bobloedd, a salmau,
At Dduw, y rhowch weddiau
Am Ei bur râs i barhau.
—DAFYDD JONES, neu Dewi Fardd.[26]
XXXIV. Arall, i bob un o'r addolwyr.
Cais ffydd pur, ufudd parha,—eu synwyr,—
Cusana'r Meseia;
Câr y cariad cywira,
Pur Oen Duw, ein Prynwr da.
—DEWI FARDD, o Drefriw.
XXXV. A wnaed pan oedd y mŵg bron a'm mygu yn fy ngwely,—oedd wrth y tân.
Dirfawr led hyllfawr dywyllfŵg,—a dudew
Gyfodadwy hwrwg;
Trwyth tawddwres yw'r tarth tewddrwg,—
Uwch tân mawn, tawch tonnau mŵg.
—SION POWELL.[27]
XXXVI. Wedi i'r mŵg gilio, gwelwn y sêr trwy y to tyllog o'm gwely,—pryd y cenaisiddynt,—
Gerddi crogedig harddwych,—fel adar,
Neu flodau'n yr entrych;[28]
Tariannau aur tirionwych,
Meillion nef,——mae eu lle'n wych.
—SION POWELL.
XXXVII. Cwestiwn,—(yn Almanac 1768).
Pwy a ga'dd ei ladd, oedd lân, —a dillad?—
Deallwch mai gwrthban;
Trueni fu'r tro anian,
Hynny fu, ni henwaf fan.
—DEWI FARDD, Trefriw.
XXXVIII. Atebiad.
Mab ordderch, cyw merch'n cam warchawd,―mygodd,
Ca'dd megis lladd-lethiad;
Ond allai hwn a dillad
(Glân ei fron!) gael yno frâd?
—JONATHAN HUGHES, Pengwern, ger Llangollen.[29]
XXXIX. I Sior y Trydydd, a ddechreuodd deyrnasu y 27ain o Hydref, 1760.
O, Arglwydd gwiwrwydd gore,—pur enwog―
Prynwr ein heneidie,
Dwg ein Brenin a ninne
Allan o'r niwl oll i'r ne'!
—DAVID DAVIES, Castell Hywel, yn 1779.[30]
XL. Cyngor i'r bardd ieuanc John Jones, Glan y Gors, rhag 'sbeitio y merched.
XLI. A gerfiwyd ar gawg arian,—rhodd boneddigion sir Ddinbych i Syr Watkin Williams Wynn, ar ol brwydr Waterloo. Cyflwynwyd ef iddo yn Rhuthyn Mai 21ain, 1816. Pwysa y cawg 1,500 owns, gwerth 19s. yr owns—3 troedfedd a 2 fodfedd o uchder, wrth 2 droed—fedd a modfedd o drawsfesur. Deil 14 o alwyni.
Y Fail arian am filwrio—a roddwyd
I raddol fwyn Gymro,—
Syr Watkin, brigyn ein bro,
I'w gyfarch a'i hir gofio.
—JOHN JONES, Glan y Gors.[33]
XLII. Camp-Englynion, a wnaed yn fyr-fyfyr,wedi cinio ar ddydd Nadolig yn nhŷ John Thomas, Pentre'r Foelas, wrth ganfod y Wyddfa dan eira.
Oer yw'r eira ar Eryri,—o'i ryw
A'r awyr i rewi;
Oer yw'r îa ar riw'r ri,
A'r eira oer yw'r 'Ryri.
—JOHN THOMAS.
Oer, oer, yw'r rhew â'r eira—a yrrir,
Y 'Ryri a cera;
A'r awyr oer wir rewa,
Eira a rhew, —oer yw'r îa.
—THOMAS EDWARDS, Nant.[34]
Y 'Ryri yw'r awyr oera,—yr âr,
A'r oror wir arwa';
Arwr yr awr yw'r eira,
A'i ryw a ry'r rhew â'r ia.
—JONATHAN HUGHES, Pengwern.
XLIII. A gerfiwyd uwchben drws cegin amaethdy.
O fryd na wnewch afradau,—na byw'n gain,—
Byw'n gynil sydd orau;
Er mwyn rhoi mawl i'r Iôr mau
Y rhoddwyd trugareddau.
—Pwy?
XLIV. A wnaed pan ddaeth Mr. Pugh a'r efail bedoli, i hoelio a sicrhau pedolau y ceffyl wrth Mathafarn, Llanwrin.
Profi pedoli pedwar carn—gwineu,
Yfed gwin o fasarn;
Fyth y fo llwydd ar Fathafarn—
Llwydd a fydd hyd ddydd y farn.
—ROBYN DDU DDEWIN.[35]
XLV.Arall, Wrth weld Mr. Pugh a'r efail bedoli chwarddodd y merched, pryd y mdwedwyd ymhellach,―
Y ty lle mae merched teg,
Yn wir a welir yn wag,—
Draenen wen lle mae y mwg,
A nyth brân yn eitha'i brig.
—ROBYN DDU DDEWIN.
XLVI. Pa fath le ydyw Uffern?
Lle noeth i fyw mewn aethfyd,—lle prudd,―
Lle prydyddion hefyd;
A'r gân fo eu hamcan o hyd,―
Anferth fod neb mor ynfyd.
Lle Satan aflan a'i lu,—lle go wael,
Lle gelynion Iesu;
Lle'r dial, lle llwyr dalu,
Lle'r prudd dân,—lle'r praidd du.
—RHYS MORGAN, o Forgannwg.
XLVII. Pwy sy'n Fardd?
Nid bardd pob clerfardd cul arfod—i'n plith,
Sy'n plethu rhimynod;
Nid oes un hardd fardd i fod
Da ei dwf a dau dafod.—
Dau lafn yn yr un safn sech,
Un o nef a'i enwi'n iach;
A'r llall yn chwith, brith a brych,
Ail i fardd, ac wele fwch.
—SION LLEYN, yn 1793.[36]
XLVIII. Tafodi Rhegen yr Yd.
Regen'r yd fawlyd, folwen,—â'i rhegnâd
Mal rhygnu carwden;
Dy nabod, jad aniben,—
Cael dy nyth,—ddown byth i ben.
—ROBERT DAVIES, Nantglyn.[37]
XLIX. Cysur gwely angeu.
Gorweddais, cefais mewn cur―oer ofid,
Arafodd fy natur;
Mewn trymglwy, pwy ond Duw pur,
Cu Iesu all roi cysur?
—WM. EDWARDS, o Ysgeifiog.[38]
L. Gwywiad Gwen.
Tirion gangen Gwen oedd gynau,—dilesg
Yn dwyn dail a blodau;
A'r Wen hon nol hir wanhau
Dengys ol dyrnod angau.
—DAFYDD DDU ERYRI.[39]
LI A adroddwyd yn y wledd wrth yfed y llwncdestyn "Parchus Goffadwriaeth Dewi Sant," ar adeg Eisteddfod fawr Caernarfon 1824.
LII. Hunan yn dangos ei hunan.
O'r bachgen hyd yr henwr—mae Hunan
Am ei hynod gyflwr;
O'r mawreddaf, uchaf wr
Ceir hyd at y cardotwr.
—OWEN WILLIAMS.[42]
LIII. Cwyn hen Faledwr ar auaf caled.
Byw ar driswllt, bron drysu—am wythnos,
A methu trafaelu,
Drudaniaeth yn dirdynu
I'm herbyn, er dychryn du.
—OWEN GRUFFYDD.[43]
LIV. Englyn a adroddwyd yn fyrfyfyr o ran hwyl wrth Ioan Emlyn yng ngorsaf yr AfonWen, ganol haf 1869, ar ol bod mewn cyfarfod dilewyrch yn Abersoch.
Rhyw bur sychion yw'r Abersochiaid,—"lloi
Lleyn" sydd yn ddienaid;
Wedi'r hwyl eu gado raid
Yno fel anifeiliaid.
I'm herbyn, er dychryn du.
—AP VYCHAN.
LV. Ochenaid y bardd claf.[44]
Digonwyd fi ar deganau—y byd,
Aed ei barch ac yntau
I ryw ddyn a gâr y ddau,—
Mynwent a nef i minau.
—D. PRICE (Dewi Dinorwig).[45]
LVI. Yn Eisteddfod Utica, 1874.—Y_Llywydd yn annerch Tanymarian (pan oedd ar ei daith drwy'r Amerig).
Nid pwffio, stwffio, wnaeth Stephan—am glod
Gyda'i glul yn unman;
Ond cafodd drwy'r byd cyfan
Fawr fri am ragori'r gân.
—DEWI DINORWIG.
LVII. Yntau yn Ateb.
O Dewi pa bryd y deuaf—atat,
Ac eto yth welaf;
Boed a fo, Cymro, caf
Dy ddelw y dydd olaf.
EDWARD STEPHAN (Tanymarian).[46]
LVIII. Anerchiad arall, yn yr un Eisteddfod.
'E gilia ofergoelion—o flaen dysg,
Fel hyn daw prydyddion
I enw da, ac o un dôn,
I'r oes yn werthfawr weision.
Difuddia diod feddwol——o'i dilyn
Dalent awenyddol;
Ond pob wyneb heb ei hol
Fo adeg eisteddfodol.
—Eos GLAN TWRCH.[47]
LXIX. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Awst 1876, yr oedd Taliesin o Eifion, enillydd y gadair am yr awdl oreu i "Helen Llwyddawg, merch Coel Godebog," yn ei fedd. Cafwyd yno Gadair Ddu." Wedi i Madam Edith Wynne ganu "Dafydd y Gareg Wen" gyda theimladau drylliog,—cafwyd yr englynion a ganlyn,
Dai ymgais diamgen—"Eusebius"
Hybarch ar awdl-llen;
A da i'n bardd i'w godi'n ben
I drwyadl gadair awen.
Adwaedd iaith bedyddio yw,—rhoi mawredd
Ar y meirw heddyw;
Swydd odiaeth Gorsedd ydyw
Graddio'r bedd ag urddau'r byw.
Taliesin o fin ei fedd—ragorodd
Ar gewri'r gynghanedd;
A chael drwy gynrhychioledd
Barchus hawl i wobr ei sedd.
—GWALCHMAI.
LX. Sion Cent.—1480.[48]+
Disgwylid i ysgolion,—â llwyr lwydd,
Wella'r wlad o'i swynion:
Eto mae bryd twym ei bron
Ar ei gwael ofergoelion.
I wneyd taw yn eu teios,—a bygwth
Bwgan ar eu plantos,
Oer enwai y werinos
Ficer nef yn fwci'r nos.
Ond er gwarth i randir Gwent—y Saeson,
Deil grasusau talent;
Tra maen ar faen i'r fynwent,
Bydd sain côr ger bedd Sion Cent.
ROBYN DDU ERYRI (yn Hwlffordd yn 1877).
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yn ei flodau tua 1580.
- ↑ Yr oedd yn fedrus am arlunio.
- ↑ Yn ei flodau o 1560 hyd 1600.Ymladdwr cywyddol ag Edmwnd Prys.
- ↑ O Wigfair, ger Llanelwy. Bu farw yn 1602.
- ↑ Yn ei flodau tua 1568.
- ↑ Trigiannai yn Llanelidan, sir Ddinbych. Bu farw Ebrill 5ed, 1606.
- ↑ Yn ei flodau tua 1540.
- ↑ Bardd teulu i'r Cyrnol Vaughan, o Nannau, ac un parod i yfed cwrw a gwau cynghaneddion ysmala. Yn ei flodau o tua 1650 hyd 1690.
- ↑ A yw y maen hynod hwn i'w weled yn awr rhwng Pen Machno a Betws y Coed?
- ↑ Beth yw y geiriau priodol?
- ↑ Môr-gadben enwog yn amser Bess. Ffitiodd long ryfel ar ei draul ei hun i fyned yn erbyn y Spaeniaid gwrthryfelgar, a lluniodd gywydd doniol ar dermau morwrol. Y mae hwn o'm blaen. Ceir wmbreth o'i waith yn yr Amgueddfa Brydeinig.
*(nb. Tomos Prys o Blas Iolyn, mab Elis, oedd y bardd a'r capten llong) - ↑ Yn ei flodau o 1541 hyd 1624.
- ↑ Ceir ei waith yn "Carolau a Dyriau Duwiol gwaith y prydyddion goreu yng Nghymru, yr hyn a argraffwyd yn ofalus yn y flwyddyn 1696. Brodor o Ddyffryn Clwyd oedd Rhisiart Abram.
- ↑ Bu y bardd swynol farw oddicartref yn Essex, tra ar ei deithiau fel porthmon gwartheg, yn 1689.
- ↑ Methais a deongli y gair synwyrol. P'run ydyw?
- ↑ Bu farw yn 1731, yn 21 oed. Y mae ei fedd di—gofnod ym mynwent Llanfechell, Mon.
- ↑ Bu farw ym mro ei faboed, sef Cynhawdref, Lledrod, yn Awst 1789, oedran 59 mlwydd.
- ↑ Brawd i William, Sion, a Dafydd Phylip, o Ardudwy. Yr oedd yn ei fri tua 1624.
- ↑ Bu foddi ym Mhwllheli Wyl Fair 1600. Canodd Ed. Prys a Huw Cynfal yn deimladwy ar ol ei golli. Gwelir ei fedd—argraff tarawiadol a chywrain yn Llandanwg. Ceir gwaith Huw Llwyd ar y garreg.
- ↑ Bu farw yn 1669. Oed 92 mlwydd.
- ↑ Bu farw yn Llanfihangel, Dyffryn Clwyd, Mawrth 22ain, 1760. Oed 55 mlwydd. Ystyria rhai ei gywydd darluniadol o'r "Farn" yn hafal i un Goronwy.
- ↑ Gefail, Plas Hen, Eifionnydd. "Disgybl y tafod" oedd, meddai efe ei hun i'r hen fardd-achyddwr toreithiog o Lanystumdwy. Englynion o'i waith ef sydd yn gerfiedig ar ei feddfaen. Symudodd i Blâs y Glyn, Mon, ac yr oedd yn gyfaill calon i Goronwy a Llew Mawr Mon. Yr oedd yn ei fri mwyaf tua 1746.
- ↑ Yn ei flodau goreu tua 1808.
- ↑ Y mae'r englyn hwn yn gerfiedig uwchben pyrth a drysau llu mawr o hen eglwysi ein gwlad, yn enwedig rhai Meirion,—sef Llan Frothen, eglwysi Cwmwd Ardudwy; Talyllyn; Machynlleth, &c. Mathew Owen luniodd yr englyn, ac nid Huw Morus na Goronwy Owen, fel yr honnir mewn rhai cylchgronau.
- ↑ Ceir ei waith yn "Carolau a Dyriau Duwiol," 1696, a "Blodeugerdd Cymru," 1759. Lluniodd gywydd marwnad dan gamp i'w eilun-ryfelwr, Syr John Owen o'r Clenennau.
- ↑ Tan yr Yw, Trefriw. Yn ei ogoniant o 1750 hyd 1780. Argraffydd a chyhoeddydd "Blodeugerdd Cymru," ynghyd a chasglydd ei gynhwysiad.
- ↑ Nant Rhyd yr Eirin, Llansannan. Gwehydd ydoedd. Bu farw yn 1767. Ystyrir ei gywydd i'r "Haul yn orchestol. Canmolai Goronwy Ddu ef."
- ↑ Mewn rhai ysgrifau, ceir y ddwy linell gynttaf yma fel hyn,―"Wele ser luaws eurwych—o flodau,
Fel adar yn'r entrych." - ↑ Bu farw yn 1805, oedran 84 mlwydd. Awdwr "Bardd y Byrddau."
- ↑ Bu farw oddeutu 1826, oedran 83 mlwydd. Awdwr "Telyn Dewi."
- ↑ Methaf yn lân a tharo ar y gerdd hon i Cadi." Pwy a'i henfydd imi? Hefyd, ei gerdd i Wr Hafod Ifan?"
- ↑ Bu farw y 18fed o Fedi, 1818, ced 66 mlwydd (71 mlwydd medd rhai). Awdwr cynnwys "Eos Gwynedd."
- ↑ Bu farw Medi 21ain, 1821, oedran 52 mlwydd. "Prif faledwr Cymru," medd Elfed. Yr wyf yn casglu ei holl weithiau. Os y gwyr rhywun am gerdd, englyn, llythyr, &c., o'i eiddo byddwn ddiolchgar am gael copi. Dywed "Y Gwladgarwr" mai Bardd Nantglyn a'i gwnaeth, ond sicrha y gyfrol The Wynnstay and the Wynns" mai Glan Gors a'i piau.
- ↑ Bu farw Ebrill 3ydd, 1810, oedran 72 mlwydd. Awdwr "Gardd Gerddi," &c.
- ↑ Pwy oedd yr hen gono yma mewn difrif, a pha bryd yn iawn yr oesai? Gwelais mai brodor o Fon ydoedd. Gelwid Robert Hughes, Ceint Bâch, yr hwn a huna yn Heneglwys yn "Robyn Ddu o Fon," ond nid efe oedd y dewin hwn, fel y ceisia rhai hysbysu. Pwy oedd y Robyn Cludro hwnnw o Langefni?
- ↑ Bu farw yn 1819, oed 68 mlwydd. yn Denio, Pwllheli.
- ↑ Bu farw Rhagfyr laf, 1835, oed 66 mlwydd. Awdwr "Diliau Barddas ;" 'Gramadeg Cymraeg," &c.
- ↑ Bu farw yn 1855, oed 65 mlwydd. Awdwr Cell Callestr."
- ↑ Bu foddi yn yr afon Cegin, Llanddeiniolen, Mawrth 30ain, 1822, oed 63 mlwydd. Awdwr Corph y Gainc," &c.
- ↑ Cynhyrfodd yr honiad yma lu o wyr llên yr Eglwys o dan arweiniad J. Blackwell (Alun) i gyhuddo yr awdwr o gabldraeth ofnadwy yn erbyn sant cenedl y Cymry. Bu gorfod iddo, druan, ymddiheuro, neu wynebu costau cyfraith.
- ↑ Dechreuodd argraffu yng Nghaernarfon yn 1816.
- ↑ Neu Owain Gwyrfai, y Waen Fawr. Bu farw Hydref 3ydd, 1874, oed 85 mlwydd. Awdwr " Geirlyfr Cymraeg o wybodaeth gyffredinol;" "Hanes y deg Erledigaeth dan Rhufain Baganaidd;" "Y Drysorfa Hynafiaethol," &c.
- ↑ Neu Owain Meirion, Glanrhyd, Llanbrynmair. Bu farw Mehefin 22ain, 1868, oed 65 mlwydd. Huna yn Llanbrynmair, a cheir englyn o waith Mynyddog ar ei feddfaen.
- ↑ Dyma hoffus englyn y Parch. Thomas Hughes (Machynlleth), yn ei ddyddiau olaf, ond nid efe a'i cyfansoddodd fel y tystiwyd yn y newyddiaduron adeg ei farwolaeth.
- ↑ Bu yn weinidog yn Ninbych yn hir. Yna symudodd i'r Amerig. Mewn penhillion tlysion a wnaeth pan yn wael yn 1867 dywed,―"'Rwyf yn foddlawn iawn i farw,
Ond yn gyntaf roddi tro
Unwaith eto drwy hen Walia,―
Anwyl enedigol fro;
Carwn sengyd ar y llanerch
Lle dechreuais gerdded cam,
Carwn weled Llanddeiniolen
Lle mae bedd fy nhad a mam !"Cafodd wella. Yn 1870 yr oedd yn Williamsburg, Iowa; yno y lluniodd y penhillion "Ddaw henaint ddim ei hunan," gwel CYMRU, Mawrth, 1902. Ym mhle y ganwyd ef yn Llanddeiniolen? Pryd y bu farw? - ↑ Bu farw Mai 10fed, 1885, oed 59 mlwydd. Pregethwr, cerddor, bardd, a llenor.
- ↑ Ganwyd yn Ty'n y Fedw, Llanuwchllyn.
- ↑ Megis y tybiai'r werin, yn oes Sion Cent, fod pob llenor yn cyfeillachu â'r ysbrydion drwg, felly y mae pobl ym mhlwyf Cent, Henffordd, ac yn y plwyfi cylchynol, yn tybio fod ysbryd y bardd—offeiriad yn ymrithio i'w mysg yn yr oes hon. Mynych y clywir mamau yn rhybuddio eu plant nad elont ymhell oddiwrth ddrysau eu tai y nos, rhag i Sion Cent eu cipio.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.