Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LVI LVII a LVIII
Gwedd
← Cerdd Cerdd LV | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd LXIX → |
LVI. Yn Eisteddfod Utica, 1874.—Y_Llywydd yn annerch Tanymarian (pan oedd ar ei daith drwy'r Amerig).
Nid pwffio, stwffio, wnaeth Stephan—am glod
Gyda'i glul yn unman;
Ond cafodd drwy'r byd cyfan
Fawr fri am ragori'r gân.
—DEWI DINORWIG.
LVII. Yntau yn Ateb.
O Dewi pa bryd y deuaf—atat,
Ac eto yth welaf;
Boed a fo, Cymro, caf
Dy ddelw y dydd olaf.
EDWARD STEPHAN (Tanymarian).[1]
LVIII. Anerchiad arall, yn yr un Eisteddfod.
'E gilia ofergoelion—o flaen dysg,
Fel hyn daw prydyddion
I enw da, ac o un dôn,
I'r oes yn werthfawr weision.
Difuddia diod feddwol——o'i dilyn
Dalent awenyddol;
Ond pob wyneb heb ei hol
Fo adeg eisteddfodol.
—Eos GLAN TWRCH.[2]