Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LX

Oddi ar Wicidestun
Cerdd LXIX Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

LX. Sion Cent.—1480.[1]+

Disgwylid i ysgolion,—â llwyr lwydd,
Wella'r wlad o'i swynion:
Eto mae bryd twym ei bron
Ar ei gwael ofergoelion.

I wneyd taw yn eu teios,—a bygwth
Bwgan ar eu plantos,
Oer enwai y werinos
Ficer nef yn fwci'r nos.

Ond er gwarth i randir Gwent—y Saeson,
Deil grasusau talent;
Tra maen ar faen i'r fynwent,
Bydd sain côr ger bedd Sion Cent.
ROBYN DDU ERYRI (yn Hwlffordd yn 1877).


Nodiadau

[golygu]
  1. Megis y tybiai'r werin, yn oes Sion Cent, fod pob llenor yn cyfeillachu â'r ysbrydion drwg, felly y mae pobl ym mhlwyf Cent, Henffordd, ac yn y plwyfi cylchynol, yn tybio fod ysbryd y bardd—offeiriad yn ymrithio i'w mysg yn yr oes hon. Mynych y clywir mamau yn rhybuddio eu plant nad elont ymhell oddiwrth ddrysau eu tai y nos, rhag i Sion Cent eu cipio.