Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd X

Oddi ar Wicidestun
Cerdd IX Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XI

X. Y Sigl Faen Mawr.[1]

Ai hwn yw'r Maen, graen gryn:—llwydwyn,
Rhwng Lledr a Machno?
Fe eill dyn unig ei siglo,
Ni choda'n fil a chwe' dyn fo.
I'th euraw pobpeth arall.
—WM. CYNWAL.


Arall.

Clochdy esgobty ...[2] —pinacl
Pennaeth coed y ffynnon;
Tŵr cerrig ar frig y fron,
A chryd gwyn uwch rhyd Grynon.
—ELLIS PRYS, Plas Iolyn.[3]


Nodiadau

[golygu]
  1. A yw y maen hynod hwn i'w weled yn awr rhwng Pen Machno a Betws y Coed?
  2. Beth yw y geiriau priodol?
  3. Môr-gadben enwog yn amser Bess. Ffitiodd long ryfel ar ei draul ei hun i fyned yn erbyn y Spaeniaid gwrthryfelgar, a lluniodd gywydd doniol ar dermau morwrol. Y mae hwn o'm blaen. Ceir wmbreth o'i waith yn yr Amgueddfa Brydeinig.
    *(nb. Tomos Prys o Blas Iolyn, mab Elis, oedd y bardd a'r capten llong)