Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XLVI
Gwedd
← Cerdd XLIV a XLV | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XLVII → |
XLVI. Pa fath le ydyw Uffern?
Lle noeth i fyw mewn aethfyd,—lle prudd,―
Lle prydyddion hefyd;
A'r gân fo eu hamcan o hyd,―
Anferth fod neb mor ynfyd.
Lle Satan aflan a'i lu,—lle go wael,
Lle gelynion Iesu;
Lle'r dial, lle llwyr dalu,
Lle'r prudd dân,—lle'r praidd du.
—RHYS MORGAN, o Forgannwg.