Neidio i'r cynnwys

Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XVII

Oddi ar Wicidestun
Cerdd XVI Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XVIII

XVII. Diolch am y glaw ar ol hir sychdwr.

Dyma'r gwlith a'r gwenith gwyn,—dyma'r bir,
Dyma'r bara â'r enllyn;
Dyma'r mêl a'r cwŷr melyn
O byrth Duw i borthi dyn.
—Pwy?


Nodiadau

[golygu]