Neidio i'r cynnwys

Hanes Alexander Fawr/Ei Ymgyrch i India

Oddi ar Wicidestun
Llwyr Orchfygu Byddin Darius Hanes Alexander Fawr

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Ei Farwolaeth

EI YMGYRCH I INDIA.

Gwedi hyn buddugoliaethodd Alexander ar amryw o deyrnasoedd a chenedloedd, ac ymddarostyngodd pawb iddo; a byddai yn rhy faith nodi yma ei ryfeloedd â hwynt; ond nis gallwn adael ei daith i'r India, yr hon a fwriadodd fel na byddai dim yn ol ynddo o Bacchus a Hercules, dau o feibion Jupiter, am y rhai y darllenasai yn yr hanesion Groegaidd, eu bod wedi arwain byddinoedd i'r India; a chan ei fod yntau wedi ei gyhoeddi yn fab Jupiter, yr oedd am ateb i'w enw.

Ar y pryd gorchymynai addoliad gan bawb a nesaent ato, yr hwn ymddyggiad oedd hynod o annymunol gan ei hen gyfeillion, ond nid gan neb yn fwy na Callisthenes y philosophydd, yr hwn oedd yn gâr i Aristotle, hen athraw Alexander Fawr. Arferiad y brenin, yn ei wleddoedd, wedi iddo yfed ei hunan, fyddai estyn y cwpan i un o'i gyfeillion. Y cyfaill hwnw, wedi iddo dderbyn y cwpan, yn ddiatreg a godai ar ei draed, a chan droi at y man lle y safai y duwiau teuluol, i yfed, efe a addolai, ac yna a gusanai Alexander. Wedi hyny eisteddai wrth y bwrdd. Ar un adeg yr oedd yr holl wahoddedigion wedi gwneyd hyn, oddigerth Callisthenes. Pan ddaeth ei dro ef, efe a yfodd, ac yna a ddynesodd i gusanu y brenin. Ond un o'r enw Demetrius a waeddodd allan, "Na dderbyn ei gusan, O frenin, canys efe yn unig ni'th addolodd di." Felly Alexander a'i gwrthododd; a Callisthenes a ddywedodd yn uchel, "Byddaf yn myned adref yn dylotach o un gusan, dyna y cwbl." Nis gallodd Alexander oddef hyfdra ei geryddwr am ei ffolineb, am hyny efe a'i rhoddodd i farwolaeth, yr hon weithred sydd yn pwyso yn dra thrwm ar ei enw da.

Ar ei gychwyniad i'r India, yr oedd ei fyddin yn chwe' ugain mil, ond efe a ganfu fod ei filwyr wedi eu gorlwytho gan yr ysglyfaeth a gymerasent fel yr oeddynt yn anghyfaddas i ymdeithio. Gan hyny, yn gynar yn y bore ar ba un yr oeddynt i gychwyn, wedi i'r cerbydau gael eu casglu yn nghyd, efe a osododd dân yn ei glud (baggage) ei hun ac eiddo ei gyfeillion; ac yna rhoddodd allan orchymyn ar fod i bawb ereill gael ymddwyn atynt yn yr un modd. Ymddangosai fod y penderfyniad yn anhaws dyfod iddo nag oedd gweithredu yn ei ol. Ychydig a deimlent yn anfoddlawn, ond derbyniwyd y gorchymyn gan niferi mawrion gyda banllefau o lawenydd. Cyfranasant yn rhwydd o'u clud i'r rhai oedd yn ddiffygiol, a llosgasant y gweddill ag oedd yn afreidiol. Parodd hyn galondid mawr i Alexander, ac enynodd ynddo benderfyniad goregnïol i fyned yn mlaen.

Wedi ymryddhau fel hyn, efe a gychwynodd i'w daith, yn nghyda'i fyddin, gan ddarostwng y gwledydd oedd yn ei ffordd, sef y parthau oedd tu yma i afon Indus. Yn mhlith y rhai a orchfygodd efe yr oedd cenedl o'r enw Assacaniaid, brenines y rhai, o'r enw Clophis, a ryddhaodd ei gwlad drwy ymddarostwng i drythyllwch gydag Alexander, yr hyn a'i gwnaeth mor warthus a ffiaidd yn ngolwg ei chenedl fel na dderbyniodd well enw ganddynt o hyny allan na'r "Butain freninol." Ganwyd iddi fab mewn canlyniad i'r ymgyfathrach hwn, a galwyd ef ar enw ei dad, Alexander, yr hwn, yn nghyda'i hiliogaeth, a lywodraethasant am oesoedd lawer wedi hyny ar y wlad hono.

Wedi sefydlu pethau y tu allan i'r afon Indus, croesodd yr afon ar bont o gychod. Wedi myned drosodd efe a aeth rhagddo tua thiriogaethau y brenin Porus, a'r canlyniad o hyny a fu

BRWYDR WAEDLYD RHYNGDDO A PORUS,

yr hwn, er ei fod yn dywysog gwrol a galluog, a orchfygwyd, wedi ymladd o hono frwydr anarferol o ffyrnig a phenderfynol, ac efe ei hunan a gymerwyd yn garcharor. Wedi ei ddwyn o flaen Alexander, y penaeth hwnw a ofynodd iddo, "Pa fodd y dymunet i mi ymddwyn tuag atat?" Yntau a atebodd, "Fel at frenin." "Onid oes rhywbeth arall a ewyllysiet?" ebai Alexander. "Nac oes," atebai Porus, "y mae y cwbl yn gynwysedig yn y gair 'brenin."" Yna Alexander, wedi sylwi ar weddeidd-dra ei ymddygiad yn ei adfyd, a'i hadferodd i'w freniniaeth, ac a ychwanegodd at ei lywodraeth yr holl wlad oedd i'r dwyrain iddi, yn cynwys pymtheg o genedloedd, pum' mil o ddinasoedd mawrion, a phentrefydd mewn cyfartaledd. Yn awr cododd ddeuddeg o allorau mawrion yn goffadwriaeth o'i fod yno, a throes yn ol i osod sylfaeni dinas ar y fan y bu yn ymladd a Phorus, ac a'i galwodd Nicea; a chododd ddinas arall yn agos iddi gan ei galw Bucephalia, yn goffadwriaeth am ei geffyl Bucephalus a fu farw yno. Dywed rhai mai ei glwyfo a gafodd yn y frwydr â Porus, ac iddo farw mewn canlyniad; ond dywed Onesicritus mai marw o henaint a lludded a wnaeth, oblegyd yr oedd yn ddeng mlwydd ar hugain oed.

Oddiyno bwriadai gyrhaedd hyd afon Ganges, a chyrhaeddodd mor belled a'r afon Hydaspes, ond ni ddylynai ei filwyr ef yn hwy yn y fath daith ynfyd a gwallgofus, am eu bod wedi clywed fod breninoedd y Gandariaid a'r Præsiaid, gyda byddin o ddau can' mil o wŷr traed, a phedwar ugain mil o wŷr meirch, wyth mil o gerbydau heiyrn, a chwe' mil o elephantiaid wedi eu dysgyblu at ryfel, yn eu haros yr ochr draw i'r Ganges, a bod yr afon yn ddeuddeg gwrhyd ar hugain o led, ac yn ddwfn aruthrol. Wrth groesi yr Indus y tro cyntaf rhoddasai orchymyn i'w holl longau, y rhai oedd dros 2000 o nifer, dan lywyddiaeth Nearchus i ddyfod at yr afon Hydaspes, ac wedi roddi ei fyddin ynddynt hwyliasant i Acesinis, ac oddi yno i'r Indus, gan fwriadu buddugoliaethu cyn belled a'r môr, trwy y parthau deheuol o India, ac oddiyno i Babilon. Llwyddodd yn ei holl amcanion yn erbyn cenedloedd lawer; ond bu agos iddo golli ei fywyd wrth gymeryd un o ddinasoedd y Maliaid; canys wedi iddo ddringo'r mur, neidiodd yn rhyfygus i lawr i'r ddinas, lle cafodd ei glwyfo yn drwm cyn i neb allu ei gynorthwyo. Hwyliodd oddi yno i lawr yr Indus hyd y môr, gan orchfygu y gwledydd oddeutu yr afon.

YN MYNED TUA BABILON.

Wedi hyny gorchymynodd i'r llynges hwylio drwy lyngclyn Persia at geg yr Euphrates, ac oddiyno i Babilon; a chychwynodd yntau gyda'i fyddin ar hyd y tir i'w chyfarfod. Aeth drwy daleithiau deheuol Persia, lle yr oedd anial-leoedd tywodog, ac yn y cyfryw fanau collodd ran fawr o'i fyddinoedd, drwy newyn, a syched, a gwres mawr, fel nad oedd y bedwaredd ran o honynt pan ddaethant i Babilon. Yn Carmania, ar y daith hon ymroddodd ef a'i filwyr i feddwdod, gan orfoleddu am ei fuddugoliaethau yn yr India, a'i debygoliaeth yn hyny i'r duw Bacchus,r hwn a ddychwelodd mewn cyffelyb fodd o'r India.

Tra yn myned trwy Persia, ar y daith hon, efe a gafodd fedd Cyrus wedi cae tori i mewn iddo, a pharodd i'r person a gyflawnasai y fath gysegr-yspeiliad anfad gael ei roddi i farwolaeth, er ei fod yn enedigol o Pella. Wedi darllen y beddargraff, yr hwn ydoedd yn iaith Persia, gorchymynodd iddo gael ei gerfio hefyd yn yr iaith Roeg. Fel y canlyn yr oedd:—"O ddyn! pwy bynag wyt, ac o ba le bynag yr wyt yn dyfod (canys yr wyf yn gwybod y deui,) myfi yw Cyrus, sylfaenydd ymerodraeth Persia, na warafun i mi yr ychydig bridd sydd yn gorchuddio fy nghorph." Dywedir fod Alexander wedi teimlo yn ddwys wrth ddarllen y geiriau, oblegyd dangosent iddo ansicrwydd a chyfnewidioldeb pobpeth dan haul, yn nghyda darfodedigaeth a gwagedd pob anrhydedd a gogoniant daearol.

YN PRIODI MERCH HYNAF DARIUS.

Wedi cyrhaedd i Susa, efe a briododd ei gyfeillion â boneddigesau Persiaidd, gan roddi esiampl iddynt ei hunan trwy ymbriodi â Statira, merch hynaf Darius, ac yna rhanodd wyryfon o'r graddau uchaf yn mhlith ei brif swyddogion. Priododd Hephestion, ei ben cyfaill, y ferch ieuengaf; a phenaethiaid ereill a ymbriodasant âg ugeiniau o ferched pendefigion Persia, yr hyn a gymerodd le trwy ddymuniad Alexander, canys ei ddyben oedd gwneuthur y Groegiaid a'r Persiaid yn un genedl dan ei lywodraeth. Talodd Alexander waddol y pendefigesau o'i drysorau ei hunan, ac nid oedd hyny yn anhawdd iddo, canys yr oedd ganddo yn Ecbatana yn unig gant a phed war ugain a deg o filoedd o dalentau, sef yn nghylch pymtheng miliwn ar hugain o'n harian ni, heblaw trysorfa arall yn Babilon a manau ereill o'i deyrnas. Efe hefyd a arlwyodd wledd arderchog iddynt, yn mha un y dywedir fod dim llai na naw mil o wahoddedigion wedi eistedd wrth y byrddau; ac eto dywedir iddo anrhegu pob un o honynt â chwpan aur, fel y byddai iddynt yfed y gwinoedd o honynt. Yr oedd pobpeth arall ar yr unrhyw raddeg fawreddog; ie, efe hyd yn nod a dalodd ymaith eu holl ddyledion; yn gymaint a bod yr holl dreulion yn cyrhaedd i naw mil, wyth gant a deg a thriugain o dalentau.

EI YSBLEDDACH YN ECTABANA.

Pan oedd Alexander yn Ecbatana ar y daith hon, wedi myned trwy y gorchwyliaethau gwladol mwyaf pwysig, efe a ymroddodd i chwareuyddiaethau a meddwdod gyda'i gyfeillion, ac yfodd yn nghylch deugain o'i benaethiaid eu hunain i farwolaeth, ac yn eu plith Hephastion, ei anwylaf gyfaill, ar ol yr hwn y bu Alexander yn dra galarus; a pharodd groeshoelio ei feddyg am nad allai ei feddyginiaethu, yr hwn a wnaeth ei oreu iddo yn ei glefyd, drwy daer ddymuno arno beidio â chig a gwin, ond y claf ni ddefnyddiodd y cynghor; eithr pan oedd y meddyg wedi myned i'r chwareudy, efe a fwytaodd aderyn wedi ei rostio, ac a yfodd gwpanaid o win; ar ol hyny efe a aeth yn waeth, ac a fu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Y mae gwaith Alexander yn croeshoelio y meddyg druan yn arddangos creulonedd mawr ynddo; os nad oedd yn ei gospi mor dost am adael o hono y goddefydd, ac yntau yn y fath berygl dirfawr, i fyned i le mor wagsaw a'r chwareudy.

Yr oedd galar Alexander ar ol ei gyfaill Hephastion yn afresymol. Efe a orchymynodd gneifio y meirch a'r mulod, fel y caffent hwythau ran yn y galar, ac i'r un perwyl efe a dynodd i lawr furganllawiau y dinasoedd amgylchynol. Gwaharddodd hefyd y chwibanogl a phob rhyw gerdd yn ei wersyll am yspaid maith o amser. Parhaodd hyn hyd nes y cafodd genadwri oraclaidd oddiwrth Jupiter Hammon, yr hon a orchymynai iddo fawrygu Hephastion, ac aberthu iddo fel haner dduw. Wedi hyn efe a geisiodd liniaru ei ofid trwy hela, neu yn hytrach trwy ryfel; canys dynion oedd ei helwriaeth ef. Dyma fu yn achlysur

EI RYFEL A'R CASSEAID,

cenedl ryfelgar yn mynyddoedd Media, y rhai ni allodd y Persiaid erioed eu darostwng. Bu ddeugain niwrnod cyn eu llwyr orchfygu; yr hyn a'i cythruddodd i'r fath raddau fel y gorchymynodd roddi i farwolaeth bawb oedd wedi tyfu i fyny i oedran a synwyr. Galwai hyn yn aberth i "ddrychiolaeth" Hephastion! Yna efe a ddychwelodd yn ol dros yr afon Tigris, gan wynebu, gyda'i longau a'i filwyr, tua Babilon, lle derbyniwyd ef yn barchus gan benaethiaid rhan fawr o'r byd; o'r hwn le hefyd y bwriadodd hwylio oddi amgylch Affrica, a chwilio allan y Môr Caspia, a'r gwledydd oddi amgylch iddo, a darostwng yr Arabiaid a'r Carthaginiaid, a dwyn ei fuddugoliaethau hyd Hispaen tua'r gorllewin. Yr oedd hefyd am adferu Babilon i'w mawredd dechreuol, tuag at yr hyn y dechreuwyd cyfodi i fyny dorlanau yr afon Euphrates, yr hon oedd wedi ei hamharu drwy waith Cyrus yn cymeryd Babilon. Dechreuwyd ail adeiladu teml Belus neu Bel, yr hon a ddinystriwyd gan Xerxes; a bu deng mil o filwyr, heblaw y Magiaid, ar waith bob dydd, dros ddau fis, yn clirio y malurion, ac yn y diwedd nid oeddynt wedi gorphen lle addas i'w hail adeiladu, yr hyn sydd yn dangos mawredd yr adeiladaeth hono. Ond ni wnai yr Iuddewon oedd yn myddin Alexander gyffwrdd â'r gwaith, am na chaniatài eu crefydd adeiladu teml eilunod; ïe, pallodd holl gospedigaethau Alexander i'w dwyn at y gorchwyl, yr hyn a barodd iddo synu, a'u gollwng o'i wasanaeth i'w gwlad eu hunain.

Nodiadau

[golygu]