Hanes Alexander Fawr
Gwedd
← | Hanes Alexander Fawr gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Ei Ddyddiau Boreuaf → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Hanes Alexander Fawr (testun cyfansawdd) |
Cynnwys
HANES ALEXANDER FAWR
ALEXANDER, yr hwn a elwir ALEXANDER FAWR, ydoedd fab ac olynydd i Philip, brenin Macedonia. Ganwyd ef ar y 6ed o fis Gorphenaf, yn y flwyddyn 355 cyn geni Crist, yr un dydd, meddir, ag y llosgwyd teml fawr Diana yn Ephesus. Ar adeg ei enedigaeth yr oedd ei dad newydd gymeryd dinas Potidea, a derbyniodd dri o newyddion pwysig ar yr un diwrnod; yn gyntaf, fod ei gadfridog Parmenio wedi enill buddugoliaeth fawr ar yr Illyriaid; yn ail, fod ei redegfarch wedi enill yn y campau Olympaidd; ac yn drydydd, fod ei wraig Olympias wedi cael ei gwely ar Alexander.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.