Hanes Alexander Fawr/Ei Ymgyrch i Jerusalem
← Ei Ddyrchafiad i'r Orsedd | Hanes Alexander Fawr gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Llwyr Orchfygu Byddin Darius → |
EI YMGYRCH I JERUSALEM.
Y gorchwyl nesaf i Alexander oedd cymeryd Jerusalem, ac i lwyr ddïal ar yr Iuddewon am na ddaethent i'w gynorthwyo yn erbyn Tyrus. Esgus yr Iuddewon oedd eu llw o ffyddlondeb i Darius, ond nid oedd Alexander yn llarieiddio er hyny. Yn y cyfyngder hwn ymostyngodd Jadua yr arch-offeiriad, sef llywydd dan y Persiaid, a holl Jerusalem gydag ef, ger bron yr Arglwydd, mewn gweddiau ac ymbiliau. Yna cafodd Jadua ei gyfarwyddo mewn gweledigaeth, i fyned i gyfarfod Alexander gyda'r offeiriaid yn eu gwisgoedd offeiriadol. Ar ddynesiad y cyfryw offeiriaid at Alexander, cafodd yr olwg arnynt y fath effaith neillduol arno, yn gymaint ag iddo ymgrymu ger eu bron gyda pharch crefyddol, er syndod i'w holl filwyr. Gofynodd un o'i gadbeniaid iddo pa fodd yr oedd yn ymgrymu felly ger bron offeiriaid Iuddewig. Atebodd Alexander, "Pan oeddwn yn Dio yn Macedonia, ac yn myfyrio pa fodd i ddwyn y rhyfel yn mlaen yn erbyn y Persiaid, y pryd hyny mewn breuddwyd, gwelais yr arch-offeiriad Iuddewig hwn yn yr un wisg, yr hwn am hanogodd rhag petruso i fyned i Asia, gan addaw y byddai Duw yn arweinydd i mi, ac y rhoddai i mi ymerodraeth y Persiaid. A chan fy mod yn sicr, oddiwrth ei wisgiad a llun ei wyneb-pryd, mai hwn yw yr un a ymddangosodd i mi yn Dio, y mae'n ddyogel genyf fy mod yn gwneuthur y rhyfel dan arweiniad Duw, ac y bydd i mi trwy ei gynorthwy ef, orchfygu Darius a dadymchwelyd ymerodraeth Persia, ac am hyny yr wyf yn ei addoli yn mherson yr arch-offeiriad presenol." Ar hyn trôdd Alexander drachefn at Jadua, ac a'i cofleidiodd yn garedig, ac a aeth gydag ef yn heddychol i Jerusalem, gan aberthu i Dduw yn y deml, lle y dangosodd Jadua iddo brophwydoliaeth Daniel, pen. viii. 5-7 ; y rhai sydd yn rhagddywedyd dymchweliad breniniaeth Persia, neu yr hwrdd deu-gorn, gan y bwch gafr un-gorn, yr hwn yw brenin Groeg, Dan. viii. 21, a xi. 3. Wedi hyn yr oedd Alexander yn fwy hyderus fyth, heb amheu dim nad efe oedd y bwch gafr yn y weledigaeth. Ar ei ymadawiad o Jerusalem gofynodd i'r Iuddewon, pa beth a fynent ganddo? dywedasant wrtho, mai mwynhau eu crefydd a'u cyfreithiau, a bod heb dalu teyrnged iddo bob saith mlynedd, am nad oedd eu cyfreithiau yn goddef iddynt hau na medi y flwyddyn hono; yr hyn oll a ganiataodd yn rhwydd iddynt.
Wedi hyn aeth Alexander i Gaza, dinas gadarn, a byddin gref o'i mewn, dan lywydd perthynol i Darius. Gorfu i Alexander roddi dau fis o warchae arni cyn ei chymeryd, yr hyn a'i ffromodd yn aruthr, oherwydd hyny lladdodd ddeng mil o'r trigolion, a gwerthodd y lleill ynghyda'r gwragedd a'u plant i gaethiwed; a Betis, blaenor y ddinas, a gafodd dyllu ei sodlau, a'i rwymo o'r tu ol i'w gerbyd, a'i lusgo oddiamgylch y ddinas hyd farwolaeth; yn yr hyn yr ymffrostiodd Alexander ei fod yn dynwared Achilles, un o'i henafiaid, yr hwn a lusgodd gorph Hector oddi amgylch Caer Droya, fel y dywed Homer y bardd Groegaidd.
ADEILADU ALEXANDRIA.
O Gaza aeth Alexander i'r Aipht, a chyrhaeddodd Pelusium, prif ddinas y wlad, lle derbyniwyd ef fel noddwr rhag y Persiaid. O Memphis aeth i ymweled â theml Jupiter Hammon, yr hon oedd oddeutu dau can' milldir o'r Aipht, yn niffaethwch Lybia; ond cyn cyrhaedd y deml, anfonodd genadon i wobri ei hoffeiriaid, ac i ddywedyd mai mab Jupiter Hammon ydoedd, yr hwn ynfydrwydd a dderbyniodd gwedi darllen o hono waith Homer, lle mae rhyfelwyr enwog yn cael eu priodoli yn feibion i ryw dduwiau anrhydeddus. Ond yn y ffordd hon sylwodd am le cyfleus i adeiladu dinas ar fin Môr y Canoldir; ac ar gyfer ynys Pharus y gorchmynodd sylfaenu dinas yr hon a alwodd oddiwrth ei enw ei hun yn Alexandria, yr hon am oesoedd lawer a fu yn brifddinas yr Aipht, ac yn benaf yn y dwyrain am fasnach.* Y pensaer
[1] ydoedd Democrates, yr hwn yn ei oes oedd enwog am ail adeiladu o hono deml Diana yr Ephesiaid, ar ol ei llosgi gan Erostratus. Wedi gosod y gwaith dan ofal Democrates, aeth Alexander tua theml Jupiter Hammon, drwy ddiffaethwch tywodlyd, lle yr oedd mewn perygl o gael ei gladdu gan y llychfeydd tywodog, fel y claddwyd byddin Cambyses cyn hyny; ac hefyd yr ydoedd mewn perygl o drengu gan syched; ond gwaredwyd ef a'i wŷr gan gawod o wlaw pan oeddynt oll ar feirw o eisiau dwfr. Ac yn wir gellir barnu y darfuasai am dano ganwaith oni buasai ei gynaliaeth oddi uchod i gyflawni dybenion yr Arglwydd. Ond wedi cyrhaedd y deml addolodd yno, a gofynodd i'r oracl, a oedd marwolaeth ei dad wedi ei gwbl ddialu, pryd yr atebodd hwnw, "Nid dyn marwol oedd dy dad, na fydded i ti siarad fel yna am dano." Mewn canlyniad i hyny, derbyniodd gan yr oracl yr hysbysiad ei fod yn fab Jupiter Hammon; yr hwn hefyd a'i hysbysodd yn mhellach fod marwolaeth ei dad tybiedig wedi ei gyflawn a'i lwyr ddialu. Wedi hyny honodd yn ei lythyrau, ei orchymynion, a'i gyfreithiau, ei fod yn FRENIN ALEXANDER MAB JUPITER HAMMON, gan gyhoeddi fod y duw hwnw ar lun sarph wedi ei genedlu o Olympias ei fam. Yr oedd llawer yn ei ffieiddio am ei ynfydrwydd gwallgofus yn hyn; ond dangosodd greulondeb nid bychan ar y rhai a amheuai ei faboliaeth o Jupiter, ac aeth rhagddo mor uchelfrydig ag i gymeryd yr enw duw, ac i ofyn addoliad gan bawb a ddynesai ato!!
Ar ei ddychweliad o Lybia, ail olygodd Alexandria, gan anog y gwaith yn mlaen, a rhoddi yr un breintiau dinesig i'r Iuddewon ag i'r Macedoniaid, ac yr oedd rhyddid crefyddol i'r naill a'r llall o honynt, trwy yr hyn y rhagwelodd Alexander y buan boblogid ei ddinas newydd. Oddiyma dychwelodd i Memphis. Dyma yr amser, sef y bedwerydd flwyddyn o deyrnasiad Darius Codomanus, y mae Ptolomy yn diweddu teyrnasiad y Persiaid, a dechreuad teyrnasiad Alexander yn y dwyrain, sef o'r amser yr adeiladwyd Alexandria yn yr Aipht.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Sefyllfa y dref hon sydd dra hylaw, rhwng y Môr Coch a Môr y Canoldir, ac ar y gaingc fwyaf gorllewinol o'r afon Nile ar dir isel; canys prin y canfyddir hi hyd nes yr eir iddi. Yr oedd yn dref anrhydeddus yn yr hen amser, fel y tystia olion ei hadeiladaeth, yn enwedig y tyrau mawrion sydd eto yn sefyll, yn y rhai yr oedd ffynonau, oherwydd y dyfrffosydd a weithiwyd i ddwyn dwfr o'r Nilus iddynt. Ei hen byrth sydd yn ymddangos yn rhagorol, oherwydd eu hadeiladu â main mynor. Fe'i cyfrifid gynt yn ail i Rufain, ac yr oedd yma fasnach fawr gan drysorau yr Indía Ddwyreiniol. Ond wedi cael allan Benrhyn deheuol Affrica collodd lawer yn ei masnach, fel nad yw yn awr yn amgen nag un heol yn cyfeirio i'r llongborth. Y mae yma ddau borthladd, un i longau Ewrop, a'r llall i longau Twrci. Alexander fawr, sef ei hadeiladydd, a gladdwyd yn Memphis yn yr Aipht, mewn arch o aur, ond a gyfodwyd oddiyno i'w gladdu yn y dref hon, lle y gorphwys hyd yr adgyfodiad oddiwrth ei lafur blin dan haul. Yr oedd yma gynt lyfrdy ac ynddo 700,000 o gyfrolau (volumes,) y rhai a losgwyd gan yr Arabiaid, sef yr un a'r Saraceniaid neu'r Tyrciaid, y rhai oeddynt deulu Gog a Magog: buwyd chwe' mis yn eu llosgi i dwymo yr ymdrochdai, yr hyn a ddygwyddodd oddeutu'r fl. 642. Philosophydd dysgedig o'r grefydd Aristotlaidd a ofynodd am y lyfrgell freninol hon i dywysog y Saraceniaid, yr hwn dros y philosophydd a'i gofynodd i'r Ymerawdwr; ond ateb yr Ymerawdwr oedd, Os cynwysai y llyfrau hyny yr hyn oedd yn yr Alcoran, nad oedd achos am danynt, gan fod yr Alcoran yn ddigon; ac os na chydsynient a hwnw nad oeddynt i'w gadael; ac felly gorchmynwyd eu difa. Llosgwyd yma lyfrgell cyn hyny, yn ddamweiniol, gan Julius Cæsar, wrth gymeryd y dref drwy ryfel. Cynwysai y llyfrgell hono 400,000 o gyfrolau. Tebygol na chynwysai yr holl lyfrau hyn fawr amgen na dychymygion paganaidd, ac eilunaddoliaeth, yr hyn sy'n lleihau y golled ohonynt. Er hyny, gellir barnu fod croniclau breninol yn eu plith, yn nghyda bywydau yr hen enwogion yn eu rhyfeloedd; ac felly buasai yr achubiaeth o honynt yn werthfawr heddyw yn y sefyllfa hanesyddol. Yma yr oedd y golofn a elwir Nodwydd Cleopatra, yr hon sydd yn awr wedi cael ei dwyn i Loegr, a cholofn Pompey, yr hon sydd yn un darn o wenithfaen 70 troedfedd o uchder, a 25 troedfedd o amgylchiad; ac hefyd Goleudy Pharos, a gyfrifid gynt yn un o Saith Ryfeddod y byd. Yn y dref hon y ganwyd Apolos, Act. xviii. 24; a bernir i Marc yr Efengylwr bregethu yma; ond yn awr nis gall ei chrefydd fod yn amgen na Mahometiaeth. Goddefodd Alexandria ryfeloedd trymion o oes i oes.