Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Diweddglo

Oddi ar Wicidestun
Sobri Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Diweddglo
gan Thomas Williams, Capelulo

Diweddglo


Pa ddyn wedi y darllen y llyfryn hwn a beidia a rhyfeddu? Gwel fachgenyn a adawyd yn ddi ddysg, ac yn ddigelfyddyd, i fyned y ffordd yr arweinid ef gan ei galon lygredig. Yr oedd fel llong heb lyw, nac angor, yn cael ei ymlid gan dymestloedd, ac yn cyfarfod â thrychinebau arswydus yma a thraw. Nid oes un o fil o drigolion ein gwlad yn myned i ddegwm y gofidiau yr aeth Tomos Williams drwyddynt, ac y mae yn anhawdd iawn cydymdeimlo ag ef yn ei aml a'i flin gystuddiau, oblegid pethau a dynai am ei ben ei hun yn gwbl oeddynt, ar ol iddo ymado âg aelwyd ei fam . Pe buasai wedi cael addysg, meddyliasai am amgen swydd na dal penau ceffylau, a glanhau esgidiau &c.; a phe buasai ganddo grefft, ni feddyliasai am redeg yr Express, a gyru gwartheg; a phe buasai wedi cael dygiad i fynu crefyddol, buasai yn petruso cryn lawer, er fod milwriaeth yn fwy cymermadwy y pryd hwnw nag ydyw yn bresenol, cyn y gwerthasai ei hun yn gaethwas i fyned i ladd dynion am swllt yn y dydd! Leied o beth fuasai yn troi y peiriant yn y dechreu; ac o herwydd esgeuluso y peth bach hwnw y boen, y drafferth, y gwarth, a'r peryglon yr arweiniwyd Tomos Williams iddynt. Yr oedd ynddo ef, yn ddiau, megis y gwelir wrth ddarllen yr hanes, fwy o ddefnyddiau y gallasid gweithio arnynt i wneud dyn o hono, ac aelod o gymdeithas, nag sydd yn meddiant lluoedd sydd yn ymddangos yn well yn y byd. Aeth ar gyfeiliorn y cam cyıtaf o'i daith; a bu hyny yn foddion i'w arwain i roi canoedd o gamau o chwith ei ol. Y mae yn rhyfedd ei fod ef yn fyw; ac rhyfeddach fyth ei fod gyda chrefydd. Os dywedai Apostol mawr y cenedloedd , "O ba rai ly penaf ydwyf fi," beth a ddywed Tomos Williams?

Yr ydym yn gweled yn y drych sobr hwn y pwys mawr o ddwyn plant i fynu yn ofn yr Arglwydd. Ni wyr y rhai a gafodd hyn o ba sawl mil o ofidiau y gwaredwyd hwynt, nac yn mha le y buasent yn debyg o ddiweddu eu gyrfa heb hyny. a Byddai yn dda genym i bob rhieni sydd yn ddiofal am roi addysg i'w plant, ac am eu dwyn i fynu yn grefyddol, pe yr edrychent ar y darlun trwm a dynodd Tomos Williams o hono ei hun. Nid ydym yn ameu nad oes egin rhai a dyfant yn debyg iddo, i'w gweled wrth yr ugeiniau, yn heolydd ein trefydd yn y dyddiau presenol. Gall rhieni chwerthin am eu penau, ond y mae yr had yn cael ei hau; a gallant dramgwyddo wrth y rhai a'u galwant at eu dyledswydd, ond y mae y plant yn myned waeth waeth mewn drygioni. Rieni cymerwch rybudd a gofelwch am beidio magu plant fydd yn felldith i'r byd pan fo'eich llwch chwi yn y bedd. Nid ydym yn golygu y buasai yn gyfiawnhaol yn Nhomos William adrodd ei helyntion, drwy y wasg, oni bai fod tuedd mewn cyhoeddi hanesion o'r fath i weinyddu er rhybudd i ereill; sef, i rieni a edrychant ychydig ar ol eu plant, ac i blant a fagwyd ar aelwydydd rhieni difraw a diofal. Y mae y pethau a adroddwyd yn ddiaddurn, gan y gwr ei hun, yn sicr o gael sylw lluaws mawr yn ein gwlad; ac, yn enwedig, o'r dosbarth llwyrymataliol, a'r dosbarth crefyddol. Gwelir yn nrych yr hanes hwn mor bell y dichon i ddyn fyned yn nghyflawniad ei chwantau pechadurus heb gywilydd; ac mor angenrheidiol yw i rieni fagu eu plant mewn cyflwr y byddont yn agored i gywilyddio o achos gweithredoedd drwg. Arwydd trwm yw gweled plant heb fedru gwrido ar ol cyflawni yr hyn nad ydyw yn briodol. Dyma un o'r pethau boreuaf y mae rhieni o deimlad, pa un bynag ai tlawd ai cyfoethog fyddant, yn geisio gael fel egwyddor blanedig yn eu hiliogaeth. Defnyddir y ffordd o grio cywilydd yn y teulu, ac y mae yn fynych y llymach na'r wialen; sef, gwneud i'r plentyn deimlo ei ddarostyngiad. Y mae pob plentyn wrth natur am fod yn ormeswr, can belled ag y mae ei gylch yn cyraedd; ac un o'r pethau cyntaf sy gan y tad a'r fam i ymladd ag ef yw yr ysbryd mawr sydd yn tyfu ynddo. Y ffordd i'w fagu mewn anufudd-dod a digywilydd-dra yw gadael iddo gael pob peth a chwenycho, a pheidio ei geryddu pan wnelo ar fai. Nid peth yn tyfu ar unwaith yw hyfder; megis y gwelir ar fynediad plentyn i le dyeithr. Y mae arno ofn pob peth y pryd hwnw; ac y mae yn edrych ar bob un dyeithr fel ei elyn. Ni chymerai lawer am ddyweud "Na wnaf," wrth estron; ond bydd cynefindra, hyd yn oed mewn lle estronol , yn gwisgo yr arswyd ymaith; yn enwedig os bydd yr estroniaid yn caniatau i blant wneuthur yn rhy hyf arnynt. Cynefindra y plentyn â bygythian diystyr y fam sydd yn ei wneuthur o'r diwedd yn ddigon hyf i wrthwynebu ei hewyllys ac i'w herio un feiddgar. Ie, â rhai mor bell nes ymosod ar eu rhieni fel bwystfilod. Pe ceid sylw rhieni at y perygl o fagu plant yn ddiofn, ac yn ddiddysg ceid wyneb arall ar y wlad yn fuan iawn, Peth hawdd fyddai i bob tad a mam ddiwygio gartref pan y mae y cylch yn fychan; ac mewn gwirionedd dyma y man lle y dylai diwygiad gychwyn; pa reswm sydd i ddynion fagu plant, gan ddysgwyl i estroniaid wella eu moesau? Onid dyledswydd arbenig y rhieni ydyw hyny? Nid oes ganddynt fwy o hawl i ollwng eu plant allan yn wylltion ac yn ddiaddysg, nag sy ganddynt i ollwng haid o feiddiaid yn rhydd mewn cymydogaeth. Paham y rhaid i estroniaid perffaith oddef anghyfleusdra a gofid oddiwrth blant na pherthynant iddynt ? Pe meddylid am yr annbriodoldeb o hyn, ni fyddai dim gwrthwyneb gan unrhyw rieni i roi addysg i'w plant. Y mae rhyw dyb yn y byd fod gwahaniaeth rhwng plant pobl fawr a phlant pobl fach yn wreiddiol. Ond ni fu erioed gyfeiliornad mwy na hwn, canys "efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion." Y mae yr holl wahaniaeth yn y dygiad i fyn a gant, ac yn y gwisgoedd a wisgant. Y mae un yn cael ei fagu yn foethus ac yn gostus; ac y mae y llall yn cael ei fagu yn galed ac yn dlawd. Pe cawsai Tomos Williams ei eni yn Ngwydir, yn lle Capelulo, a phe cawsai ei ddwyn i fynu mewn addysg a moesau, gwnaethai gystal gwr boneddig yn ol maint ei synwyr, ag un sydd yn gwisgo coronig. Y mae hyny i'w weled yn amlwg yn yr hyn a wnaed o'r dyn, wedi ei gael yn gorwedd yn eil waed, ar faes llygredigaeth a meddwdod. Y mae efe, drwy lwyr ymatal wedi dyfod yn deilwngo gael bod yn aelod o'r Gymdeithas ddynol, pryd yr oedd o'r blaen yn deilyngach o fod yn mysg anifeiliaid; ac y mae efe, hyderwn, drwy ei grefydd, wedi dyfod yn deilwng o gael ei restru yn gyd ddinasydd â'r Saint, ac yn un o deulo Duw. Na ddigaloned y duaf, ac na ddigaloned cenadon yr Efengyl yn wyneb caledwch y penaf o'u gwrandawyr, dyma 'Tomos Williams, yr hwn gynt a fu mor bell a neb tu yma i'r trueni oddiwrth grefydd, wedi ei wneud grefyddwr! Y mae hyn yn gymaint syndod a phe codid un oddiwrth y meirw . Dyn oedd yn bla y tafarndai, yn gas gan bob wyneb ei weled yn dyfod i'w tai, oblegid ei haerllugrwydd a'i aflendid, wedi sobri; ac nid yn unig hyny, ond wedi dychwelyd at grefydd! Ac wedi dysgu darllen y Bibl ar ol dyfod at grefydd! Gellir ei weled, yn bresenol, yn lle cael ei herywdio fel esgymunbeth dros drothwy tafarndai, ar ol gwario y cwbl, yn myned i'r addoldy; yn lle bod yn gwylio, a'i "safn yn golsyn" ar y Sul , am drws cyntaf a agoro ar ol y gwasanaeth, yn myned a'i Fibi mawr o dan ei gesail i'r Ysgol Sabbathol. Yn lle dyfeisio castiau a chelwyddau i gael arian i gael diod, gellir ei weled yn myned a'i gist fechan o lyfrau ar ei gefn, o le i le, i daenu gwybodaeth fuddiol yn mysg ei gydwladwyr. Yn lle bod yn difyru ynfydion uwch ben yr haner' peint, ac am haner pint, y mae Tomos Williams yn gwneud ei oreu, yn ol ei fanteision, i ddychwelyd dynion oddiwrth eu ffyrdd drwg. Ac os ydyw yn myned ychydig dros y marc, rai gweithiau, yn ei sel wrth geisio gwneuthur daioni, maddeuir iddo. Wrth ystyried ei fod ef yn hen cyn dechreu cyfeillachu â phobl foesol, a chyn gweled y gwerth o fywyd sobr, nid ydyw yn rhyfedd ei glywed yn ergydio yn lled drwm ar y fasnach mewn diodydd meddwol; canys ni wyddai efe: hyd yn ddiweddar, beth oedd hyfrydwch bywyd dyn sobr; a chan ei fod ef yn meddwl nad oes fodd i neb sydd yn arfer ag yfed mewn cymedroldeb wybod hyny, nid ydyw yn rhyfedd ei fod rai prydiau yn tywallt ei felldithion i ffiol y meddwyn, ac yn dyweud fod y rhai a brofo y diodydd yn gyfranog o'i bechod. Os caiff fyw ychydig, daw yn fwy tyner ei farn eto . Y mae pob newyddian yn danllyd iawn yn mlyneddau cyntaf ei oes ddiwygiadol, ond ymae addysg a phrofiad yn ei gyfarwyddo yn ffordd dealldwriaeth nes y mae yn gallu goddef mewn cariad rai a wahaniaethant oddiwrtho ef mewn barn. Y mae y brodyr y Trefnyddion, yn Llanrwst, yn ymgeleddgar dros ben o'r hen bechadur hwn a fu mor bell ar gyfeiliorn; ac y mae y dirwestwyr, a'r Methodistiaid, drwy y wlad oll, yn gefnogol iawn iddo gyda'r gorchwyl sy ganddo. Y mae efe wedi cael byw i fyned i henaint teg, ac y mae golwg iach a glanwaith arno; ond y mae yn debyg iawn oni buasai y tro a gymerodd le ar ei fuchedd у buasai efe o ran ei gorff yn y bedd, er ys blyneddau, ac o ran ei enaid mewn gwlad o anobaith. Y fath gysur iddo yo ngwely angau fydd meddwl ei fod wedi cael cysegru yr unfed awr ar ddeg i'w Greawdwr, a'i fod yntau yn derbyn ei wasanaeth gwael. Y mae efe yn debyg yn bresenol o gael marw a'i ben ar obenydd ar ol ei anturiaethau gwylltion i gyd, ar for ac ar dir; a mwy na hyny, y mae efe yn debyg o gael Iesu yn gyfaill ac yn rhan iddo. Nid oes genym ni ddim ond barnu yn ol fel yr ydym yn canfod pethau. Yr ydym ni yn ei weled ef yn meddu cystal gobaith am y Nefoedd ag unrhyw bechadur arall, canys y mae ef yn rhodio yn ffyrdd rhinwedd, yn bresenol; a gobeithiwn y caiff ef gymorth i ddal ei ffordd ac i ychwanegu cryfder hyd y diwedd.

Yr ydym yn dra gwahanol yn ein golygiadau i'r rhai hyny a edrychant gyda dirmyg ac amheuaeth ar hen bechaduriaid fel Tomos Williams. Ni feddwn hawl i wneud hyny tra byddo dyn yn gyson â'i broffes. Nid oes gan unrhyw Eglwys megis y dywedodd un, ond cymeryd pob un yn dduwiol tra y caiff ef. Y mae yn gof genym glywed hanesyn am ryw hen flaenor, yr hwn oedd yn lled gyndyn i dderbyn aelod unwaith, er nad oedd ganddo ddim yn neillduol yn erbyn bywyd y cyfryw, ond fod rhywbeth ynddo heb gyfateb i'r mesur oedd ef yn arfer roi ar grefydd bersonol. Pwy a ddygwyddodd fyned i'r gyfeillach , pan oedd mater y dyn yn cael ei drin, ond y diweddar, Mr John Jones, Edeyrn, yr hwn yn ei ddull arferol a ofynodd a oedd gan rywun rywbeth yn erbyn i'r dyn gael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Yr hen flaenor a gododd ar ei draed , ac a ddywedodd , yn bwysig iawn, ei fod ef yn ddigon boddlawn iddo gael ei dderbyn ar brawf. "Ar brawf, aiệ,” ebai, John Jones, onid ar brawf yr ydym i gyd ?" Y mae llawer o wirionedd yn hyn. Ac onid ydyw cyfraith y tir yn ystyried pob un yn ddiniwaid hyd nes y profir ef yn euog? Gan hyny nid teg i neb edrych gyda llygad o amheuaeth ar Tomos Williams. Y mae efe wedi glynu wrth ei benderfyniad dirwestol a chrefyddol er pan y rhoes ei enw ar lyfr y Gymdeithas lwyrymataliol a'r Gymdeithas grefyddol; ac yr ydym yn gobeithio, o'n calonau, yr erys ei enw ar y llyfrau hyny hyd nes y byddo yn cael ei ysgrifenu ar gauad ei arch, fel y byddo yn gofgolofn barhäol o'r hyn a all trugaredd a gras wneud ar enaid pechadur mawr.

OL—YSGRIF.

Ysgrifenwyd yr hanes blaenorol o enau Tomos Williams gan wr ieuanc, y pryd hwnw, o Lanrwst; ac edrychwyd dros y copi, gan ei ddiwygio, ac ychwanegu yr arweiniad i fewn a'r diweddglo, gan gyfaill.

LLANRWST; ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES.