Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Sobri

Oddi ar Wicidestun
Wedi'r fyddin Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Bywgofiant
gan Thomas Williams, Capelulo

Bywgofiant
Diweddglo


Oddeutu yr adeg hon (18 mlynedd yn ol,) daeth y Gymdeithas Gymedroldeb i fri pur fawr; ond dirywiodd cyn pen hir, a diflanodd yn llwyr, oherwydd fod ei haelodau yn methu cyduno yn nghylch y terfyn a farnent oedd rhwng cymedroldeb a gormodedd. Sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol, a chynyddodd y Gymdeithas hon yn gyflym iawn, nes y daeth llwyrymwrthod yn beth pur gyffredin trwy bob parth o Gymru. Parheais i i yfed a meddwi, nes oeddwn wedi myned yn wir druenus yn mhob modd. A phan oedwn yn bur sal un diwrnod ar ol hir derm, ystyriais ychydig, ac ofnais fod y diodydd meddwol yn fy lladd yn brysur. Aethum at Mr. Griffith Williams, ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol, a dywedais wrtho fy mod am roi fy enw yn Ddirwestwr. "A ydych yn medd wl y medrwch chwi ddal am ychydig, Thomas bach?" meddai hwnw wrthyf yn bur dyner. Ydwyf, yn wir," ebe finau. "Y mae arnaf ofn na fedrwch rhoddaf eich enw yn y llyfr bach am fis i ddechreu," meddal yntau. Ac felly y bu. Dywedais wrtho mai y dydd canlynol yr oeddwn am ddechreu llwyr ymwrthod o ddifrif - fy mod am orphen y diwrnod hwnw, (sef y diwrnod yr oeddwn yn siarad ag ef,) drwy yfed cymaint a gaffwn o ffarwel i'r hen ddiod ydd am byth. Cefais haner dwsin o gerddi, ac aethum gyda hwynt i Drefriw, i'w gwerthu. Troais i'r tafarndai yn Nhrefriw , a chefais gryn lawer o gwrw yno. Aethum i lawr cyn y nos at Dolgarog, a chefais wydraid neu ddau yno. Aethum yn mlaen i'r Royal Oak, ac oddi yno i'r Bedol, lle y cymerais yr haner pint olaf. Aethum yn mlaen oddiyno oddeutu 8 o'r gloch y nos at y Farchwel. A phan oeddwn yn myned at y tŷ hyd ffordd gul, syrthiais heb fod dim neillduol yn achosi hyny, yr oeddwn yn ddigon sobr i gerdded yn rhwydd dirwystr. A bum yn meddwl lawer gwaith ar ol hyny mai yr ysbryd drwg oedd yn fy ngwthio ac yn fy nhaflu i lawr o ffarwel i mi. Pan aethum at ddrws y tŷ, daeth y wraig allan, a gofynais am le i gysgu y noson hono. Dywedodd hithau nad oedd yno ddim lle yn y tŷ—y cawn i ddillad gwely i fyned i'r ysgubor os mynwn. Dywedais inau y bydd ai yn dda i mi gael hyny; a daeth y gwas gyda mi i'r ysgubor i wneud gwely i mi yn y gwair. A phan aeth y gwas allan, plygais ar fy ngliniau, a gweddiais ar i'r Arglwydd fy sobri, a fy nerthu i ddal yn ddirwestwr o hyny allan, yn nghyd a fy nghadw rhag pob drwg. Erfyniais yr un peth hefyd wrth godi bore dranoeth, ac aethum i'r tŷ, a dywedais wrth y wraig fy mod yn ddirwestwr, ac yn meddwl parhau felly hefyd. "Taw Twm bach," ebe hitbau, - " pe buasai genyf gwrw i'w gynyg i ti y funud hion, buasit yn ei yfed yn bur llyfn, yr wyf yn sicr." "Na, yn wir, coeliwch ti, yr wyf yn neddwl, yn bresenol, na chymeraf ddafn byth eto," ebe finau. Ar ol cael boreufwyd ganddi, aethum i Lanbedr, a throais i dafarndy yno i fegio, a chynygiodd gwraig y tŷ haner pint o gwrw i mi, yr hwn a wrthodais, a chefais geiniog ganddi. Aethum oddiyno i Gonwy, gan fegio pres hyd y tai. Pan gyraedd. ais Gonwy, aethum i bob tafarndy adnabyddus i mi i fegio arian a bwyd, a gwrthodais ddiodydd meddwol yn mhob un o honynt. Aethum o Gonwy i Abergele; ac ar у ffordd yno, wrth dŷ tafarn o'r enw Tan’r ogof, yr oedd porthmon moch adnabyddus i mi, wrth ddrws y tŷ yn prynu moch. Talodd am haner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymeryd. "Beth, a ydych chwi yn ddirwestwr?" meddai, yn ddirmygus, "Ydwyf, yn wir, Syr," ebwn inau. "Wel, os nad yfwch ef, mi a'i thaflaf am eich pen," ebe yntau. Gwrthodais ei gymeryd er y cwbl; taflodd yntau ef am fy mhen yn ei wylltineb. Aethum yn mlaen i ffair Abergele, a throais i Werthu Almanac i dŷ tafarn lle yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân. A phan welsant fi yn dyfod atynt, ac yn gwybod fy mod yn ddirwestwr, daeth un o honynt o'r tu ol i mi ac ymaflodd am fy nghanol a gwasgodd fy mreichiau, a chymerodd un arall haner peint o gwrw, gan feddwl ei dywallt i fy ngenau, er fy ngwaethaf; gwasgais inau fy nannedd mor dŷn ag y gedrwn, nes y methasant yn eu hamcan. Aethum oddiyno i Lansantsior, ac yr oedd darllawydd Cimel gyda'r drol yn dyfod I'm cyfarfod oddiwrth y palas at y ffordd, a jar o gwrw yn ei law. A phan welodd fi, dywedodd, "Tyred yma, yr hen Gapelilo anwyl, gael i ti gegiad o'r cwrw yma i dy gynsu;" (oblegid yr ydoedd yn bwrw eira.) "Na chymeraf yn wir, diolch i chwi," meddwn inau. "Beth sydd arnat ti-a wyt ti yn Ddirwestwr dywed ?" meddai yntau . "Ydwyf," meddwn inau, "Wel dal ati hi ynte, machgen i, "meddai yntau. Ac fel yna, byddai rhai yn fy nghalonogi yn fawr, er fod ereill yn ddirmygus iawn o honwyf. Daethum yn mlaen i Ddinbych, a throais i dị Mr. Thomas Williams, tad y Parch . W. Williams, (Caledfryn,) yn Heol Henllan, yr hwn oedd yn wreiddiol o Lanrwst; gofynodd o ba le y daethwn ar y fath dywydd mawr. Dywedais inau mai o Abergele, a fy mod yn ddirwestwr er ys rhai misoedd bellach. Ac yr oedd yn dda iawn ganddo glywed fy mod yn ddirwestwr, parodd i mi eistedd i lawr i gael bwyd. Fel hyn yr oeddwn yn cael cymaint o bres a bwyd am fod yn ddirwestwr, ag oeddwn yn ei gael o'r blaen o ddiodydd am wneud campiau drwg.

Daethum drosodd o Ddinbych i Lanrwst, a thranoeth yr oedd Cyfarfod Dirwestol yn Nghapel y Trefnyddion Calfinaidd. Erfyniodd llywydd y cyfarfod arnaf ddweyd ychydig am ddirwest ac am danaf fy hun. Dywedais inau fy mod yn caru y drefn o lwyrymwrthod yn fawr iawn, gan ddangos y lles oedd wedi ei wneud i mi eisoes; ac adroddais iddynt hefyd fy hanes pan oeddwn yn feddw yn Llanbedr - fel y goddefais dywallt cwrw i fy mol - nad oedd waeth genyf pa fodd y rhoddid ef i mi, am y cawn ef i fy mol rywsut.

Cefais fy nghoelio am ganto lyfrau dwy geiniog yr un, ac aethum hyd y wlad i'w gwerthu; a gwrth odais gymeryd diodydd meddwol am danynt lawer gwaith . Gwerthais y cwbl mewn oddeutu wythnos; yna deuais yn ol i Lanrwst a'r arian i gyd yn fy mhoced, a thelais am danynt i'r Llyfrwerthwr, yr hwn oedd yn rhyfeddu fy mod heb eu gwario a meddwi, a dianc rhag eu talu fel y byddwn arferol o wneud pan yn feddwyn. A rhoddodd ychwaneg o lyfrau i'mi,ac aethum gyda hwynt hyd y gym ydogaeth, ac i'r ffeiriau.

Dechreuais edrych ar fy nghyflwr fel pechadur, ac ymofidio oherwydd fy mhechodau, ac aethum i'r Ysgol Sul i geisio dysgu darllen; a thrwy lawer o boen dysgais yr A, B, ac ychydig o sillebau. Erbyn heddyw yr ydwyf yn medru darllen fy Meibl yn lled rwydd, (ni byddaf yn ceisio darllen un llyfr arall;) ond nid wyf yn gailu deall meddwl neu ystyr pob adnod a ddygwyddwyf ddarllen. Yr oeddwn yn dyfod yn fwy ystyriol o hyd, a byddwn yn gweddio yn aml ar i'r Arglwydd fy ngalluogi i fyw yn dduwiol; a byddwn yn cael nerth i fasnachu yn onest, ac i ymatal oddiwrth: bechodau cyhoeddus ac ysgeler.


Wedi bod allan am beth amser gyda llyfrau a gefais ar goel, deuais yn ol a thelais am danynt; ac yr oeddwn wedi casglu ychydig o arian erbyn hyn, yn nghyd a thair suit o ddillad. Ac ar ol bod yn teithio fel hyn gyda llyfrau am oddeutu tair blynedd, ymunais â chrefydd, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Llanrwst. Dywedais wrthynt wrth fy nerbyn fy mod yn ofni nad oedd byw yn ddirwestwr sobr a zelog ddim yn ddigon—fy mod am ymdrechu byw fel Cristion o hyny allan? A derbyniasant fi mewn syndod a llawenydd. Yn mhen oddeutu pedwar mis derbyniwyd fi i'r eglwys yn gyflawn aelod, pryd y cynghorwyd fi i beidio rhoddi lle i ddiafol—peidio chwareu gyda themtasiynau trwy fyned i'r tafarndai i werthu llyfrau, a pheidio gwrando ar neb fyddo ya fy ngwawdio am fod yn grefyddwr. Yr oedd pawb oedd yn y capel yn rhyfeddu fy ngweled yno.

Pan oeddwn ar daith gyda llyfrau yn Mangor, tarewais ar wraig weddw lled daclus o Sir Fon, yr hon oedd wedi dyfod yno i edrych am ei merch .

Ac yn mhen chwech wythnos priodais hi yn Nghaergybi, a daethom i fyw i Fangor. Yr oedd hi yn ddynes bach dwt iawn, —dywedid iddi fyned at y Wesleyaid er mwyn fy nghael i yn wr. Wedi cyd fyw gyda'n gilydd am oddeutu pum’mis neu haner blwyddyn, daethum i drosodd i Lanrwst i dalu am, ac i geisio chwaneg o lyfrau, gan adael yr arian oeddwn wedi eu casglu gyda hi gartref. Ond erbyn i mi fyned yno yn fy ol, yr oedd hi wedi diengyd at ei pherthynasau i Gaernarfon gyda holl ddodrefn y ty, ac un bunt ar ddeg o arian oeddwn wedi gasglu iddi. Synais weled fy nhy yn wag fel hyn , ac wrth edrych ychydig o’m deutu gwelwn bapyr ar ymyl rhyw dwll oedd yn y pared ac ysgrifen arno; aethum ag ef i'w ddangos i ryw un, yr hwn a ddywedodd wrthyf mai llythyr ysgar rhyngwyf i a fy ngwraig, Beti Morris, ydoedd. Holais y cymydogion i edrych a wyddent hwy rywbeth am dani, a dywedasant ei bod wedi myned o'r dref er's pedwar o'r gloch y bore o'r blaen. Yr oeddwn bron a gwallgofi erbyn hyn ; ac aethum ar ei hol dranoeth i chwilio am dani. A phan oeddwn wrth Gaerynarfon, cyfarfyddais a'r Parch. Thomas Owen, Llangefni, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn a ofynodd i mi sut yr oeddwn, a dywedais inau ei bod yn ddyryslyd iawn arnaffi, "Beth sydd , Thomas Williams " meddai yntau . WBeti Morris, yr hon a briodais oddiar eich plwyf chwi acw, sydd wedi dianc oddiwrthyf; a'r dodrefn a fy holl arian hefo hi," meddwn inau . "Ac yr oedd yn rhyfedd ganddo glywed . Rhodd wch gyngor i mi beth i'w wneud yn fy nghyfyngder, Thomas Owen bach," meddwn wrtho. "Wel, os cymerwch fy nghyngor i," meddai yntau. "Gwyl iwch, a gweddiwch yrwan fwy nag erioed, onide y bydd y diafol yn bur brysur o'ch cwmpas chwi drwy y brofedigaeth yma. Daliwch yn ddirwestwr drwy y cwbl - peidwch ag anmhwyllo a digio wrthi, ond yn bytrach gweddiwch drosti." "Gweddio dros ben sopen ddrwg fel yna?" meddwn inau. "Ie, Thomas bach, mae yr ysgrythyrau santaidd yn gorchymyn i ni weddio drosein gilydd, a charu ein gelynion," meddai yntau. Gwrandewais arno, a gwnaethum yn ol ei gyngor. Wedi methu cael hyd iddi yn Nghaerynarfon, aethum drosodd i Sir Fon, ac i Gaergybi. Holais am lety noswaith yno mewn tỳ wrth làn y môr, a dywedodd gwraig y tŷ na chawn i ddim lle gyda hi, am i mi abusio Beti Morys. Deallais oddiwrth hyny fod Beti yn y dref yn rhywle, a chwiliais am dani yn ddyfal ; ond methais a'i gweled, a throais adref at Fangor. Ac wrth Bont y Borth ,gwelais Lord Newborough, ac üethuni ato i'w gyfarch, a gofynodd yn mha le yr oeddwn wedi bod, dywedais inau mai yn Nghaergybi yn chwilio am fy ngwraig, yr hon oedd wedi fy ngadael y dyddiau o'r blaen, gan gymeryd fy arian a phob peth hefo hi'ymaith, pan oeddwn i oddi cartref. A dyma y llythyr ysgar a adawodd ar ei hol yn y tŷ, my Lord, os byddwch gystal ag edrych arno. Darllenodd yntau ef a dywedodd. "Yn wir, mae'n ddrwg genyf drosoch: — rhaid i mi fyned yn mlaen yn bresenol." “"Wel, gyda'ch cenad , my Lord, beth a wnaf iddi hi nid oes genyf ddim arian—mae hi wedicymeryd y cwbl gyda bi? " meddwn inau. "Fe allai y daw hi atoch yn ei hol." meddai yntau; ac aeth i'w bwrs , a rhoddodd bumswllt i mi. Yna aethum i Fangor, ac ymgynghorais â blaenoriaid y capel, y rhai â'm perswadiasant i adael iddi, a pheidio ymhel a hi byth mwy.

Troais allan i werthu llyfrau, ac enillais naw punt mewn ychydig o fisoedd. Aethum ar fy nhaith fel hyn i Gaergybi; a phan oeddwn wrth y dref, cyfarfyddais â rhyw ddyn oedd yn dygwydd adnabod Beti Morys, yr hwn a ddywedodd lle yr oedd hi yn byw, a dangosodd i mi y tŷ. Rhoddais fy mox llyfrau mewn tý oedd gerllaw, ac aeth um ati, a chefais hi yn byw mewn llofft. Aethum i fynu y grisiau, a gwaeddodd hithau , "Pwy sydd yna?" Dringais inau yn nes ati, a dywedais, "Hollo, Beti, ai ti sydd yma yn uu frenines?"

. "Thomas Williams bach," meddai hithau, "sut yr ydych chwi? ac o ba le y daethoch?—A welsoch chwi rhyw eneth bach yn cynyg llefrith wrth y drws yna?" "Na welais - pa fodd y gwelswn i beth felly yr amser yma ar y nos?" meddwn inau . "Aroswch yma tra byddwyf yn edrych am dani," meddai hithau. Ond e neges oedd myned i ofyn

i'r Cwnstabl a ddeuai i droi rhyw ddyn allan o'i . thy." Gofynodd hwnw pwy oeddwn, a dywedodd hithau mai math o wr iddi oeddwn. Dywedodd yntau nas gallai droi un felly allan, a nacaodd ddyfod. Wedi ei dysgwyl i'r ty am beth amser, aethum allan i edrych lle y gallai fod cyhyd, a gwelwn hi yn dyfod i lawr yr heol gyda hen wr oedd yn myned i'r society i gapel y Wesleyaid. Ac archedd Beti ar hwn ddyfod gyda ni i fynu i'r llofft. Wedi eistedd ac ymddiddan am beth amser, dywedodd yr hen wr ei bod yn bryd myned i'r capel. A phan oeddynt hwy yn cychwyn i'r capel, a minau yn myned allan i geisio fy mox, bu ychydig o ffrwgwd rhyngom yn nghylch agoriad y llofti - mynai hi gloi y drws a chymeryd yr agoriad gyda hi,-a mynwn inau ei gael, a threchais hi. Deuais i i'r tŷ yn ol, ac edrychais beth oedd ganddi yn ei dillad a'i chelloedd, gan ddysgwyl fod yno ychydig o fy arian heb eu gwario. Ar ol ei dysgwyl i'r tŷ am beth amser, aethum i'm gwely , ac ni welais hi y noswaith hono—aeth i ryw dy arall. Ond dranoeth daeth yno, a phan oedd hi ar y grisian, gwaeddudd Hollol- pwy yw y bobl ddyeithr sydd yn fy nhŷ i?" Pan ddaeth yn mlaen alaf gofynais iddi, "Ym mha le y buost ti neithiwr, Beti?" "Yn fy ngwely, wrth gwrs, fel pawb arall, " meddai hithau. "Paham na fuasit yn dyfod at dy wr?" meddwn inau. "Yr oedd arnaf fi eich ofn, yn wir," meddai hithau. "Yr wyf yu dywedyd i ti fod yn rhaid i ti aros yma fel dynes, neu fyned allan—fi piau bob peth sydd yma, meddwn wrthi "Wel, Thomas Williams, a wnewch chwi actio fel gwr?" meddai hithau, gan roddi ei llaw am fy ngwddf. "Actio fel gwr— beth welaist ti yn amgen ynwyf erioed?" meddwn inau wrthi yn ffyrnig. Wedi ffraeo fel hyn am ychydig daethom yn ffrindiau, ac arosasom gyda'n gilydd am bedwar diwrnod; ac aethom i dy Owen fy mrawd i wneud rhyw fath o amodau heddwch o hyny allan. Aethum i allan gyda'm llyfrau at Sir Gaerynarfon, a dywedodd hithau y deuai ar fy ol gyda dodrefn y tŷ dranoeth, gael i ni fyned i fyw i Fangor fel o'r blaen. Ac fel yna ymadawsom yn heddychol; ond ni ddaeth byth ar fy ol i Fangor, a chyngorwyd fi i'w gadael yn llonydd.

Ryw dro yn mhen hir a hwyr ar ol hyn , gwelais hi mewn rhyw dŷ yn Nghaerynarfon , a dywedais rywbeth wrthi,—chwerthodd am fy mhen, nes enyn fy nhymer wyllt, a thafodais hi yn lled arw , gan ddanod iddi yr annghyfiawnder a wnaethai â mi, &c. Aeth hithau at yr Heddynad i geisio gwarrant i fy nal am ei "abusio," a chymerwyd fi o flaen yr Ynad, a daeth hithau yno i dyngu ei hoedl arnaf. Ac felly bu raid imi dalu costan y warrant a'r twrne, trwy iddi bi ddweyd anwiredd arnaf heb un achos yn y byd. Gwelais hi unwaith, ar ol hyn, ond ni wnaethum un sylw o honi. Wedi bod am yspaid o amser yn Mangor a'r cymydogaethau, daethum i fyw i Lanrwst, lle yr ydwyf hyd yn hyn mewn ty bychan.

Yma yr wyf yn mwynhau y llonyddwch i arolygu fy einioes, a gruddfan o herwydd meddwdod a phuteindra fy oes; yma yr wyf yn gweled fy nigywilydd—dra gynt; fy mhechodau gwaradwyddus yn eu lliwiau priodol. Yr wyf yn synu pa beth a'm gwnaeth yn ddiareb y Cymry am fudreddi a gogan. Yr wyf yn edrych ar fy hynt waradwyddus gyda thristwch, ac yn ocheneidio o herwydd cyfnodau drwg yn fy Mywgofiant. Ond yr wyf yn engraifft i'r oes o anurddiant pechod. Yr wyf yn esiampl o ddiofalwch, o feddwdod, o buteindra yr wyf yn golofn fyw o isder dynoliaeth, mewn dirif amrywiaeth o syrthiadau, yr wyf yn esboniad o allu Dwyfol mewn gwaredigaeth dihafal o feddwdod a'i ganlyniadau, yr wyf wedi bod yn adyn truenusaf—yn wawd i bawb, yn ddiareb i'r rhai a'm hadwaenent, yr wyf eto hefyd yn gwisgo fy sothach, mae genyf lawer o ffaeleddau.