Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Yr Archwiliwr Daearyddol, y Cyfaill, a'r Arwr

Oddi ar Wicidestun
Y Dirprwywr Dros y Llywodraeth a'r Archwiliwr Dyngarol Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone

gan Henry Morton Stanley

trwy adalwad sydyn ymgyrch y Zambesi gan y Llywodraeth Brydeinig wedi ei wneyd yn bryderus yn nghylch dyfodol ei deulu, ac yn awyddus i ddarganfod rhyw foddion i adfer yr eiddo a aberthasid ganddo ar allor ei ddyngarwch; ond ymlidiai Syr Roderig Murchison bob ystyriaethau fel hyn o'i feddwl trwy orchymyn iddo nad ofnai am y dyfodol, "gan y gofalai efe am hyny oll." Pe buasai y daionus Syr Roderig yn fyw, a phe dychwelasai ei gyfaill yn ddiogel o Affrica, diau y buasai ei ddyfodol yn ddigon clir, a blynyddoedd ei benllwydni yn gyflawn o ddyddanwch. Ond y mae Syr Roderig Murchison a'r Dr. Livingstone wedi ymadael i wlad bell tuhwnt i bob pryder a rhagolygon daearol, ac y mae plant y Cenadwr a'r teithiwr mawr wedi eu gadael yn amddifaid o ofal darbodus eu hanwyl dad.

Y Prydeinwyr yn gyffredinol a addefant fod eu gwlad wedi cael ei hanrhydeddu trwy lafur dyngarol a daearyddol Livingstone, cenedloedd tramoraidd a'i cydnabyddant fel yr archwiliwr a'r darganfyddwr mwyaf mewn amser diweddar. Y mae gwasg Ewrop ac America yn cyd-dystiolaethu fod ei ymdrechion ar ran caethion Affrica yn ei osod ar gyfartaledd â Wilberforce fel eu hamddiffynydd a'u pencampwr; a diau y bydd canlyniad terfynol ei ymdrechion yntau ar eu rhan yn gyffelyb i ganlyniad ymdrechion Wilberforce dros drueiniaid y Glanau Gorllewinol.

Cawn hanes teithiau Livingstone gyda'r fintai archwiliadol ar y Zambesi yn ei lyfr a elwir "Y Zambesi a'i Changenau,"—Ilyfr a ysgrifenwyd ganddo yn Newstead Abbey, preswylfod ei gyfaill W. F. Webb, ysw. Gwedi gorphen ysgrifenu y llyfr hwnw, Livingstone hefyd a ddechreuodd barotoi ar gyfer ei daith olaf a mwyaf. Tuag at draul y siwrnai anturiaethus hon, tanysgrifiodd Mr. James Young, o Kelly, fil o bunnau; rhoddodd y Llywodraeth bum' cant, a'r Gymdeithas Ddaearyddol Freninol bum' cant. Pennododd y Llywodraeth ef yn Ddirprwywr at y Penaethiaid yn Nghanolbarth Affrica, gynnrychioli Prydain a'i buddiannau, ac i ddarganfod y gaethfasnach warthus y gwyddid ei bod yn cael ei chario yn mlaen yn Nghanolbarth Affrica er dirfawr ddinystr i fywyd dynol. Iarll Russell, yr hwn a bennododd Livingstone yn Ddirprwywr, a addawodd dalu iddo bum' cant o bunnau y flwyddyn os y byddai iddo breswylio gyda rhyw benaeth dylanwadol, ond os y byddai iddo ddilyn ymchwiliadau daearyddol, yr oedd yn ddealledig na roddid iddo gyflog.

Er anrhydedd i larll Russell, dylid crybwyll hefyd ei fod wedi ystyried gwasanaeth Livingstone ar y Zambesi o'r fath bwysigrwydd i'r Llywodraeth Brydeinig, fel yr anfonodd efe genad pwysig at y teithiwr i ymholi maint a nodwedd y wobr a garai dderbyn. Yn ddiystyr ohono ei hun, ac, ar y pryd hwnw hefyd yn ddiystyr o les ei deulu ieuainc, y dyngarwr calongaredig ac anhunanol a ddywedodd : "Nid oes arnaf eisieu dim fy hun, ond os yr attaliwch y Gaethfasnach Bortuguaidd, chwi a barwch i mi foddhad a llawenydd anrhaethadwy."

Anaml y ceir esiamplau o'r fath hunanymwadiad; ac y mae sylwi ar nerth y nodwedd yma yn nghymeriad Livingstone yn cadarnhau argyhoeddiad yr awdwr y dylai y Llywodraeth Brydeinig gydsynio âg ewyllys gyffredinol y genedl trwy gydnabod gwasanaeth mawr y dyn hwn mewn dull teilwng, sef darparu yn briodol ar gyfer ei deulu.

Ymadawodd Dr. Livingstone o Loegr am y waith olaf ar y 14eg o Awst, 1865, a hebryngwyd ef hyd yn Mharis gan ei ferch Agnes. Gan adael ei ferch yn mhrif ddinas y Ffrancod, aeth y teithiwr yn mlaen yn unigol i Bombay. Yn Mombay efe a enilloedd gyfeillgarwch Llywodraeth y Drefedigaeth, gan ba un y derbyniodd roddion gwerthfawr o arfau a phethau ereill anghenrheidiol i'w daith. O'r ysgol a gedwid yn Mombay gan y Parch. Mr. Price, sicrhaodd Livingstone wasanaeth Chumah, Wekotani, Edward Gardener, Simon Price, a chaethion ereill a ddygasid gan: y trafnidydd o gymydogaeth y Zambesi, ond y rhai a ryddhasid o'u caethiwed, ac a osodasid o dan addysg yn yr ysgol a nodwyd. Yn ychwanegol at hyn prynodd. y teithiwr amryw fulod Indiaidd ac ychydig gamelod, a chyn iddo ymadael o'u plith, efe a dderbyniodd danysgrifiad sylweddol gan bobl ryddgalon Bombay er ei alluogi i gario yn mlaen archwiliadau daearyddol. Gwedi gorphen ei ddarpariadau, a dodi y Sepwys a roddasid at ei wasanaeth, yn nghyda'i ychain a'i gamelod ar fwrdd llong, efe a hwyliodd o Fombay i Zanzibar.

Yn Zanzibar efe a breswyliai gyda'r Dirprwywr Prydeinig, sef y Dr G. E. Steward, gan yr hwn y derbyniodd bob sylw a chynnorthwy i gwblhau rhagdrefniadau yr ymgyrch.

Ar y 19eg o Ebrill, hwyliodd Livingstone o Zanzibar i Mirkindary Bay, ugain milldir i'r gogledd o'r Afon Rovuma, ac oddeutu pum' gradd i'r de o Ynys Zanzibar. Yr oedd y fintai yn gynnwysedig o'r Dr. Livingstone ei hun, deg o ddynion o Johanna, y rhai a gyflogasid gan Mr. Sunley, y Dirprwywr Prydeinig, tri ar ddeg o ddynion o'r Zambesi, y rhai a adawsid ganddo yn flaenorol yn Zanzibar pan yr oedd efe ar ei daith gartref, a deuddeg o Sepwys brodorol o Fombay—yr oll yn 36 o eneidiau. Yr anifeiliaid a gymerodd i'w ganlyn oeddynt chwech o gamelod, pedwar o fualod, pedwar o asynod, a dau ful. Penderfynasant wneyd prawf ar gymhwysder y rhai olaf hyn i deithio yn Affrica. Ar yr 28ain o Fawrth, glaniodd y llong ryfel Brydeinig "Penquin" y fintai yn Arfor Mikindary. Yn mhen ychydig ddyddiau drachefn, cychwynodd Livingstone, gyda'i gwmni, am y canolbarth, gan gymeryd cyfeiriad de-orllewinol, gyda'r amcan o groesi y Rovuma a chyrhaedd gogleddbwynt Llyn Nyassa. Derbyniwyd ychydig lythyrau oddiwrtho gan gyfeillion, yn mha rai y desgrifiai lwyddiant ei daith. Gwedi hyny daeth cyfnod maith o ddystawrwydd, yr hwn a dorwyd yn Rhagfyr, 1866, gan y newydd trwm ei fod wedi cael ei lofruddio gan gwmni o'r Mazitu a breswylient y tiroedd anhysbys trwy ba rai y rhedai cangenau gorllewinol y Royuma. Dygwyd y chwedl boenus hon i Zanzibar gan ddyn o'r enw Musa, o Johanna. Crynodeb o'r chwedl hon oedd i'r perwyl fod Livingstone, ar ol gadael glan ddeheuol y Rovuma, wedi diswyddo y Sepwys a ddaethent gydag. ef o Fombay, gan eu gadael i ddychwel hyd y ffordd i Zanzibar. Yr oedd y Sepwys, meddid, wedi cael eu cymeryd yn glaf o un i un; a chwedi i'r fintai groesi Llyn Nyassa, a dechreu eu taith orllewinol, adroddid fod cwmni o'r Alaztu wedi ymosod arnynt yn sydyn, gan ladd Livingstone gyda tharawiad bwyeli ryfel, a gwasgaru ei ganlynwyr. O'r llanerch farwol a ddesgrifiai fel yn sefyll rhwng Marenga a Mukliosawa, dywedai Musa ei fod ef wedi dianc gydag ychydig ereill o'r fintai anffodus.

Gwedi cryn lawer o ystyriaeth, erfyniodd Syr Roderig Murchison a'r Gymdeithas Ddaearyddol ar y Llywodraeth anfon allan fintai, gyda chwch cyfaddas, i Lyn Nyassa i brofi gwirionedd yr adroddiad, gan fod Syr Roderig ac ereill , oherwydd rhesymau pwysig, yn amheu dilysrwydd chwedl y dyn Musa.

Ymddiriedwyd gofal yr ymgyrch archwiliadol yma i Mr. E. D. Young, swyddog o'r Llynges, a'r Is-gapten Faulkener, o'r fyddin, y rhai a gychwynasant o Frydain am y Zambesi ar yr 11eg o Fehefin. Gwedi cyrhaedd yr afon fawr, gosodwyd y cwch dur a ddygasid o Loegr yn ddarnau, wrth eu gilydd, a chychwynodd y fintai gyntaf a aeth i ymchwil am Livingstone i gyfeiriad yr Afon Shire. Islaw Rhaiadrau Murchison tynwyd y cwch oddiwrth ei gilydd drachefn, a chludwyd ei ranau dros y tir am ddeugain milldir, a dodwyd ef drachefn i nofio dyfroedd tawel y Shire Uchaf. Cafodd Mr. Young brofion sicr na lofruddiasid Livingstone yn unman cyfagos i'r lle a nodasid gan Musa fel man y gyflafan. Y brodorion oddiamgylch ogylch a dystient yn ddifrifol ei fod wedi myned yn mlaen i'r gorllewin mewn iechyd a chyflwr da. Cafwyd profion fod y Johanniaid wedi gadael Livingstone, a dyfeisio y chwedl am ei lofruddiad mewn trefn i geisio cael eu cyflogau gan Ddirprwywyr y Llywodraeth.

Modd bynag, yn 1868, derbyniwyd llythyrau oddiwrth Livingstone ei hun, dyddiedig o Bemba, Chwefror, 1867, yn mha rai yr eglurai iddo fod yn analluog i anfon dim o'i hanes yn gynt oherwydd diffyg cymundeb rhwng y: parthau dyeithr a deithid ganddo â'r glanau. Ar y 3)ain o Fai, 1869, ysgrifenodd Livingstone drydydd llythyr o Ujiji , yr hwn a gynnwysai y newyddion diweddaf a dderbyniwyd oddiwrtho hyd Orphenaf, 1872.

Ond er i'r llythyrau a nodwyd ddyfod oddiwrtho, parhaodd sibrwd poenus i ymledu yn ei gylch. Credid braidd yn gyffredinol ei fod wedi marw trwy ryw achos neu gilydd wedi ei ladd, marw o newyn, haint, neu ddamwain; ac yr oedd nifer y credinwyr yn ei farwolaeth yn lluosogi yn ddyddiol trwy yr holl fyd gwareiddiedig. Hysbysodd Syr Roderig Murchison nâ fwriadai y Gymdeithas Ddaearyddol anfon allan fintai ychwiliadol arall, ac ar hyny penderfynodd perchenog y New York Herald,' anfon un o'i ohebwyr neillduol i chwilio am y teithiwr colledig. Bu ysgrifenydd yr hanes yma ffodused a chael ei ddewis i'r gorchwyl. Yr oedd yr awdwr ar y pryd yn Madrid, yn ysgrifenu gohebiaethau ar y rhyfeloedd Hispaenaidd. Oddiyno, efe a aeth i Baris i gyfarfod perchenog yr Herald, ac yr oedd y cyfarwyddiadau a dderbyniodd yn gynnwysedig yn y gorchymyn byr:—"Canfyddwch a chynnorthwywch Livingstone.

Cyrhaeddodd ymgyrch ymchwiliadol y papyr Americanaidd i Zanzibar ar y 6ed o Ionawr, 1871. Gan fod hanes yr ymchwiliad yn perthyn yn gwbl i'r llyfr"Sut y Darganfyddais Livingstone," ni wnawn ychwaneg yma na chludo y darllenydd gyflymed y gellir dros y tir a deithiwyd gan yr ail fintai ymchwiliadol. Cyrhaeddodd y fintai i Unyanyembe yn Mehefin, 1871. Yma cyfarfyddwyd â rhwystrau ac attalfeydd anorfod oherwydd y rhyfeloedd a gerid yn mlaen rhwng gwahanol lwythau y wlad. Felly, bu raid aros yn Unyanyembe am dri mis, yn ystod pa amser y gwnaeth marwolaeth ac enciliad gryn leihad yn nifer y fintai. Gwedi adgyfnerthu y: fintai trwy gyflogi nifer o frodorion, cychwynwyd i gyfeiriad' de-orllewinol am Lyn Tanganyika. Parhaodd у daith i'r llyn am 54ain o ddyddiau. Ar y 236 dydd wedi ei chychwyniad oddi wrth y morlan, cyrhaeddodd y fintai Americanaidd Ujiji, pan yno, yn rhagluniaethol, canfyddwyd y Dr Livingstone, yr hwn oedd newydd ddychwel o wlad a elwid Manymema, oddeutu 700 o filldiroedd i'r gorllewin o Lyn Tanganyika.

Yr oedd y teithiwr enwog wedi ei ddarostwng i fod yn nemawr amgen na chysgod o'r hyn a fuasai, oherwydd mynych salwch, lludded, tlodi, ac unigedd. Oddigerth pedwar, yr oedd yr oll o'i weision naill ai wedi marw neu ynte wedi ei adael, ac ymddangosai nad oedd iddo unrhyw obaith yn aros. Yr oedd ei apeliadau torcalonus am gynnorthwy naill ai wedi cael eu hesgeuluso gan ei gyfeillion yn Zanzibar, neu ynte yr oedd ei lythyrau wedi myned ar goll. Yn y cyflwr anffodus hwn, credai yn sicr nad oedd yn ei ddysgwyl ddim amgen na marwolaeth ddirboenns trwy nychdod ac adfyd. Modd bynag, o dan ddylanwad calonogol ymborth da a chysuron amheuthyn, ac hefyd, o bosibl, trwy gynnorthwy cydgymdeithasiad ag un o'i gydgenedl, 'efe a wellhaodd yn fuan, ac yn mhen chwech neu saith niwrnod, teimlai yn alluog i fyned gyda chyfran o'r fintai Americanaidd mewn cwch i ogleddbarth Llyn Tanganyika, lle y canfu Livingstone a'r awdwr afon yn rhedeg i'r llyn, yr hon nis gallai gael mynedfa allanol mewn un modd trwy yr erchwynion mynyddig anferth a amgylchent yr oll o haner gogleddol y Tanganyika. Gwedi gwneyd taith o fwy na 750 o filltiroedd, a chydfyw am dros bedwar mis, ymwahanodd Livingstone a'r fíntai Americanaidd am byth yn Unyanyembe ar y 14eg o Fawrth, 1872.

Ymgymerodd yr awdwr âg anfon i Livingstone gyflenwad o wahanol angenrheidiau, yn nghyda haner cant o ddynion rhyddion o Zanzibar, y rhai a anfonwyd o dan ofal arweinwyr ffyddlon. Hwy a gyrhaeddasant oll yn ddiogel i Unyanyembe yn niwedd Gorphenaf, 1872. I'r dynion a ddewiswyd ac a anfonwyd o Zanzibar yr adeg hon, y mae y genedl Seisnig i ddiolch am feddiant o'r gweddillion a gladdwyd yn ddiweddar gyda'r fath seremoni ddifrifol yn Mynachlog Westminster.

Y mae sylwedd neu grynodeb:o hanes ei deithiau o'r; Nyassa i Ujiji, fel yr adroddodd Livingstone ei hun am danynt wrth yr awdwr, eisoes wedi ymddangos yn y llyfr, "Sut y Darganfyddais Livingstone," ond gellir eto eu byr-nodi yma. Wrth deithio i'r gorllewin o'r Nyassa, a chwedi croesi yr ucheldir sydd ar lan y Llyn, daeth Livingstone i wastadedd o dir diwylliedig, yn cael ei amaethu yn dda. Efe a groesodd ar draws Dyffryn Loangwa i wlad Babisa, a theithiodd trwy Baulomgu a Bemba i diriogaeth Cazembe. Darganfyddodd diriogaeth eang, y rhai ni welsid erioed yn flaenorol gan lygaid Ewropeaid, ac aeth i blith cenedloedd, y rhai ni welsent erioed wyneb dyn gwyn yn flaenorol. Canfu yr afon fawr Chambesi a'i changenau lluosog, yr hon a ymarllwys i Lyn Bangweleo, ac a red oddiyno drachefn i Lyn Moero. Cafodd mai yr unrhyw afon oedd yn rhedeg beunydd trwy nifer mawr o wahanol lynoedd aruthr eu mhaint, ac y gelwid hi mewn rhai manau yn Luapula, ac mewn parthau ereill yn Lualaba, a chrediniaeth ddiysgog Livingstone oedd fod hon yn un âg afon enwog yr Aipht. Ymwthiodd yn mlaen hyd Lyn Bangweleo, gan ymdrechu cyrhaedd Ffynnonydd Kataiga, lle y dysgwyliai allu gwneyd darganfyddiadau pwysig; ond wedi treiddio trwy wledydd anwar ag y mae eu henwau yn lleng, croesi afonydd a llynau mawrion, a llwybro dros gorsydd tonenog, gwlybion, ac afiach, gwanychodd ei iechyd a dadfeilodd cadernid rhyfeddol ei gorff yn ngwanwyn 1873; ac yn niwedd Ebrill gorfu iddo roddi i fyny y meddylddrych o ddychwelyd i Frydain i farw, a dywedodd wrth ei ganlynwyr ffyddlon—"Gwnewch i mi fwth fel byddwyf marw ynddo; yr wyf yn myned adref."? Dyna eiriau olaf yr ardderchocaf. o genadon Crist yn y bedwaredd ganrif a'r bymtheng. Ar y 4ydd dydd o Fai, 1873, o Ilala, Canolbarth Affrica, ehedodd ei enaid at y Duw mawr a roddasai i David Livingstone, y bachgen gwehydd o Flantyre, nerth i gyflawni y fath wasanaeth i ddynion truenus Affrica. Gyda pharch diffuant, ac ymroddiad teilwng o'r arwr Cristionogol y cawsent yr anrhydedd o'i wasanaethu, ei ganlynwyr a benderfynasant gludo corff Livingstone dros gyfandir anferth a dissaeth o un cant ar bymtheg o filldiroedd i Zanzibar, modd y gellid ei anfon i Loegr i'w gladdu. Y mae ffyddlondeb diwyrni a gwroldeb didroi yn ol y bachgen du Jacob' Wainwright, yr hwn oedd arweinydd y cwmni a ddygodd gorff y Cenadwr trwy gynnifer o anhawsderau i Zanzibar, wedi ei ddesgrifio yn ehelaeth eisoes yn y newyddiaduron. Nis gall Prydain roddi gormod o anrhydedd i'r Negro ardderchog hwn.

Pan gyrhaeddodd yr agerlong "Malwa," yr hon a gludodd y corff o Zanzibar, i Southampton, glaniwyd yr arch ar y Morfur Breninol; oddiyno cludwyd gweddillion cysegredig y Cenadwr mawr i'r Neuadd Drefol, trwy ganol tyrfą aruthrol luosog o edmygwyr a ymgasglasent i eneinio a'u dagrau rodfa llwch gŵr Duw. Yr oedd y dystawrwydd llethol a lanwai rengau trwchus yr orymdaith yn nodedig o effeithiol a tharawiadol, ac yn rhoddi mynegiad cryfach nag a allasai unnhyw eiriau gyfleu i'r mawrygedd parchedig gyda pha un yr anwylid Apostol hunan-aberthedig Affrica gan drigolion gwlad ei enedigaeth. Yr oedd agwedd gwyneb pob galarwr yn profi dyfnder a chyffredinolrwydd y teimlad fod i lafur bywyd David Livingstone wedi enill anrhydedd aniflanedig i'r enw Prydeiniwr. O Southampton, dygwyd y corph i Lundain, yn ngofal llywydd ac aelodau Cymdeithas Freninol y Daearyddwyr. Yn y Brif Ddinas, agorwyd yr arch, ac archwiliwyd y gweddillion yn ffurfiol gan Syr William Fergusson. Gan ei fod wedi marw er ys cyhyd o amser, ac wedi cael ei gludo dros gynifer o filoedd o filldiroedd; yr oedd y corff wedi dadfeilio i'r fath raddau fel nas gallesid ei adnabod, oni bai y toriad a wneuthid yn asgwrn y fraich chwith gan y llew a ymosodasai ar y teithiwr agoș i ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd asiad anghelfydd yr asgwnn yn galluogi Syr W. Fergusson, Dr. Moffat, ac ereill i sicrhau ar unwaith mai gweddillion Livingstone yn ddiau oedd y rhai a gludasid gyda'r fath ffyddlondeb trwy gynifer o anhawsderau dros gyfandir Affrica o Ilala i Zanzibar gan y bachgen du Jacob Wainwright, ac felly diddymwyd am byth bob amheuaeth o berthynas i farwolaeth y Cenadwr dihafal.

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 18fed, 1874, yn nghanol arddangosiadau o brudd-der anarferol, cludwyd corff y teithiwr enwog i'w orweddfa derfynol yn Mynachlog Westminster. Bu yr amgylchiad difrifol hwn yn achlysur cydgasgliad tyrfaoedd na welir eu cyffelyb mewn nifer a dylanwad ond tra anfynych, ac yn mhlith y lluaws gwelid amryw o gymdeithion boreu oes Livingstone, yn nghyda rhai a gydgyfranogasent ag ef yn ei lwyddiant a'i ddyoddefiadau yn ngwyllt-diroedd Canolbarth Affrica. Y rhai olaf hyn a wasanaethent fel elorgludwyr Yma yr oedd y llewod-helwyr, Syr Thomas Steele, Mr. W. C. Oswell, a W. F. Webb; Kirk, y llysieuydd yn ymgyrch y Zambesi; Walter, yr hwn a gynnorthwyasai Livingstone yn ei genadaeth ddyngarol i'r Shire Uchaf; Young, magnelydd y Pioneer a llywydd y fintai ymchwiliadol gyntaf a anfonwyd i Lyn Nyassa; awdwr y buchdraith yma, yr hwn a ddarganfyddodd Livingstone yn Ujiji; a Jacob Wainwright ieuanc, cynnrychiolydd y ffyddloniaid duon a anfonasom at Livingstone o Zanzibar.

Fel prif alarwyr yn dilyn yr arch tra y'i cludid gyda mawrygedd parchedig i fyny yr eglwysrawd odidog yr oedd plant y Cenadwr, sef Thos. Steele, Agnes, William Oswell, a Ann Mary Livingstone; dwy chwaer alarus y trancedig; Mrs. Livingstone, gwraig Charles Livingstone, a'r patriarch barswyn Robert Moffat, yr hwn a roddasai iddo ei ferch Mary yn wraig yn mhellafoedd Kuruman; ac yn nesaf at y rhai hyn, deuai Duc Sutherland, Arglwydd Ddadleuydd yr Ysgotland; Iarll Shaftesbury, Arglwydd Houghton, Syr Bartle Frere, Dr. Lyon Playfair, Syr H. Rawlinson, Arglwydd Laurence, Syr F. Buxton, yr Anrhydeddus Arthur Kinnaird, a gorymdaith faith o ddoethion ac enwogion Prydain Fawr.

Yr oedd y gynnulleidfa fawr, prudd-nodau y beroriaeth leddf, helaethrwydd y galar-leni a pha rai y gwisgasid parthau mewnol y Fynachlog, ac amledd y galarwisgoedd dynol, oll yn cynyrchu yr effaith fwyaf trydanol; ond y mae'n amheas a oedd y seremoni fawreddog hon yn fwy difrifol na'r un a gymerasai le ar y 4ydd dydd o Fai, 1873, o dan y goeden gerllaw pentref Chitimbwa, neu Kitumbo, yn Nghanolbarth Affrica, lle y gweinyddodd yr ieuanc Jacob Wainwright fel gweinidog Cristionogol ar yr achlysur o ddodiad calon ardderchog Livingstone i orphwys yn naear y wlad dros ba un y cyflawnodd efe y fath hunanaberth.

Gwedi y gwasanaeth arferol, dadorchuddiwyd yr arch, a huliwyd ei chauad gan gyfeillion a pherthynasau anwyl â phwysiau a blodau, ac

yn nghanol yr arddangosiadau mwyaf o anrhydedd a galar diffuant, gollyngwyd corff blinderus David Livingstone i lawr i'w orphwysfa derfynol. Gyda thywysogion y bobl y'i claddwyd; a daeth pob dosbarth o Brydeinwyr, o gynnrychiolwyr swyddogol Llys Victoria i waered hyd y rhai tlotaf o'i deiliaid, i gydalaru wrth fedd Apostol Affrica. Wele yfysgrif o'r argraff oedd ar ei arch:

DAVID LIVINGSTONE,

A ANWYD YN MLANTYRE, SWYDD LANARK, YSGOTLAND,

Mawrth 19eg, 1813.

AC A FU FARW.YN ILALA, CANOLBARTH AFFICA,

Mai 4ydd, 1873.

Y mae rhywbeth nodedig o darawiadol yn y syniad fod corff Livingstone wedi ei ddwyn i'w gladdu yn Mynachlog enwogion Prydain, tra y mae ei galon wedi ei chladdu yn Affrica—yn naear y wlad dros ba un y curodd y galon họno mor gynhes am gynifer o flyneddau. Dealla y darllenydd fod y coluddion a'r oll o'r rhanau mewnol wedi eu claddu yn y lle y bu y teithiwr enwog farw, yr hyn oedd anghenrheidiol mewn trefni ddiogelu rhanau ereill y corff. Ond er fod calon dyner a ffyddlon Livingstone wedi rhoddi y curiad olaf, y mae ei lais ef yn parhau i adsain yn nglustiau Ewrop ac America. Clywir ei lais yn awr yn gliriach ac.yn uwch na phan oedd efe fyw-na phan yr erfyniai am gynnorthwy i dori y gefynau a wrth-hoeliwyd ar genedloedd duon Affrica gan gaethfasnach felldigedig. Tra yr oedd ef yn fyw, nis gallasai ond murmur yn ei unigedd—"Disgyned bendithion y nefoedd ar bob un, Americaniad, Prydeiniwr, a Thwrc, a gynnorthwyo i iachau clwyf agored y byd!" Ond o ddyfnder y bedd lle gorwedd ei weddillion, llefa ei ysbryd yn ddiarbed —"Chwychwi Americaniaid, Saeson a Thyrcod, cyfodwch ac attaliwch y gaethfasnach, —YN HEDDYCHOL OS GELLWCH—GYDA NERTH GORFODAETH, OS YN ANGHENRHEIDIOL!"

Y mae'r dyngarwr trancedig wedi testamentu i ni etifeddiaeth deg o ddygasedd at yr anfadrwydd arswydus sydd yn anrheithio Cyfandir Affrica. I ba le bynag y teithia y gaethfasnach, hi a edy ar ei hol lynau o ddagrau a gwaed gwirion, pentrefydd llosgedig, meusydd deifiedig, a gwledydd anghyfanedd. Rhagflaenir hi gan ofn, braw 'a digofaint! Y mae hi yn wregysedig o'i hamgylch gan y dinystr duaf! Y mae ei dylanwadau drygionus mor gildyn ac angau! Dros y tiroedd a fuont gynt yn ddiwylliedig, lle y preswyliai dedwyddwch syml ac y blagurai boddlonrwydd digymysg—lle y gwelid pentrefydd prydferth yn cael eu cysgodi gan yr olewyd a'r palmwydd—dros randiroedd teg felly yr ymdaena y goedwig anhygyrch; ar broydd lle gynt y chwareuai ac y pranciai plant siriol, bryd, lle y carai y gwragedd ymddigrifo yn nghwmni eu hiliogaeth a ant allan o olwg—a beidiant a bod! Y mae'r gaethfasnach yn bechod o'r math duaf a dyfnaf, a dyledswydd cenedloedd gwareiddiedig Ewrop ac America—bugeiliaid y byd—ydyw estyn eu nhodded a'u hamddiffyn dros genedloedd gweiniaid a gorthrymedig Affrica. Y pryd hwnw, ac nid cyn hyny, y cwblheir geiriau prophwydol Livingstone— "Daw pobpeth yn iawn yn y diwedd."

Cwsg, gan hyny, O Livingstone, yn dy wely difreuddwyd, hyd nes y gwawria yr amser hyfryd hwnw! Cwsg yn mlaen, mewn heddwch bythol oddiwrth flinderau a thrafferthion y byd! Cariad a chyfeillgarwch a daflant eu llawryfon ar dy goffadwriaeth i'w gadw yn wyrdd, a chalonau meibion a merched daionus a'th fendithiant di am y gwaith gogoneddus a gyflawnaist mor ragorol.

CAERNARFON:


ARGRAFFWYD DROS Y CYHOEDDWYR,

GAN REES AC EVANS

1874