Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Caethiwed Gruffydd ab Cynan

Oddi ar Wicidestun
Dau Dywysog Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Caethiwed Gruffydd ab Cynan
gan Owen Morgan Edwards

Caethiwed Gruffydd ab Cynan
Rhyfeloedd y Brenin Coch

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD V.

CAETHIWED GRUFFYDD AB CYNAN.

Canys ymadrawdd dwyfol a ddywait - Mi a darawaf y bugail, ar defaid yn genfaint a wascar"

- BUCHEDD G. AB CYNAN

GADAWSOM Ruffydd ab Cynan yn erlid gwŷr Powys wedi brwydr Mynydd Carn Ymdeithiodd dros ysgwydd Plunlumon i Arwystli fynyddig; yno dïalodd ar Drahaiarn trwy ddistrywio gwerin ei wlad, a llosgi eu tai, a dwyn eu gwragedd a'u morwynion i gaethiwed. Yr oedd gelyniaeth ffyrnig rhwng Arwystli fechan a Gwynedd, o herwydd bod ei Thrahaiarn wedi lladd a difa yng Ngwynedd er mwyn cadarnhau yr orsedd sigledig oedd wedi traws feddiannu. Ym Mhowys hefyd, ni arbedodd Gruffydd ab Cynan hyd yn oed yr eglwysi. Yr oedd yn rhaid wrth ychwaneg o gyd - ddioddef, ac wrth ychwaneg o brofedigaethau, cyn y medrai Gwynedd a Phowys anghofio'r hen elyniaeth, ac ymuno yn erbyn y Norman neu'r Sais.


Wedi'r fuddugoliaeth, aeth adref i Wynedd, ac y mae ei waith a'i hanes yr un a gwaith a hanes Rhys ab Tewdwr yn y De, ond fod carchar yn lle marw yn ei aros ef. Ei waith oedd adfer heddwch a thangnefedd ymysg ei dywysogion, ac amddiffyn ei wlad rhag yr ymosodwyr Normanaidd. Rhoddodd derfyn am ennyd ar estyniad terfynau'r arglwyddi Normanaidd, a gallesid gobeithio y byddai ei deyrnas yn fuan yn rhy gref i'r un barwn estronol ddymuno am ddarn ohoni. Ond, fel yn hanes Rhys ab Tewdwr, yr oedd ei anhawster ymysg ei bobi ei hun. Ni fynnai'r tywysogion fyw dan deyrnwialen brenin oedd yn ddigon galluog i'w cosbi pan wnaent gam. Ac fel yn y De, trodd un o dywysogion y Gogledd at elynion ei wlad am gymorth i wrthsefyll ei frenin ei hun. Aeth Meirion Goch, "o saeth diafol," at ddau Norman i gynllunio yn erbyn bywyd Gruffydd ab Cynan. Y naill oedd Huw Flaidd, iarll Caer, oedd yn blysio dyffryn y Dyfrdwy; a'r llall oedd Huw Goch, iarll yr Amwythig, oedd yn blysio dyffryn yr Hafren. Daeth y rhain, gyda llu o wŷr meirch a gwŷr traed, i'r Rug, yn nyffryn Edeyrnion; ac anfonodd Meirion Goch wahoddiad i Ruffydd ab Cynan i gyfarfod dau farchog o'r ardal mewn heddwch, gyda'i wŷr ffyddlonaf. Daliwyd ef a'i wŷr. Gollyngwyd y gwŷr ymaith; wedi torri bawd llaw ddehau pob un ohonynt, fel nas gallasent drin cleddyf na thynnu saeth mwy. Ond cludwyd Gruffydd ab Cynan i lawr y dyffryn, a chaewyd arno yng ngharchar Caer.


Wrth weled drysau'r carchar yn cau ar ei ôl, rhydd hanesydd Gruffydd ab Cynan ddarlun o honno. Yr oedd yn ŵr cymedrol ei faint, a gwallt melyn arno, ac ymennydd gwresog, ac wyneb crwn da ei liw, a llygaid mawr gweddus, ac aeliau teg, a barf weddus, a gwddf crwn, a chroen gwyn ac aelodau grymus ac esgeiriau union a thraed teg. Cywrain oedd, a huawdl mewn amryw ieithoedd; bonheddig oedd yntau, a thrugarog wrth ei wŷr ei hun; a chreulawn wrth ei elynion a gwychaf mewn brwydr.


Yr oedd Rhys ab Tewdwr, cadernid y Deheudir, wedi cwympo mewn brwydr; yr oedd Gruffydd ab Cynan, cadernid y Gogledd, yng ngharchar Caer. Yr oedd y Cymry fel defaid heb fugail arnynt. Ac yr oedd y bleiddiaid Normanaidd yn gweld cu cyfleustra, ac yn paratoi ar gyfer ysglyfaeth ddiamddiffyn. A ddeuai ymwared o'r De, a agorai carchar Gruffydd ab Cynan, - dyna ofal calon llawer Cymro yn y dyddiau hynny.


Tra'r oedd mab Rhys ab Tewdwr yn rhy ieuanc i amddiffyn y Deheudir, a thra'r oedd Gruffydd ab Cynan yn dihoeni yng ngharchar Caer, dechreuodd yr arglwyddi Normanaidd ymosod ar Gymru o ddifrif rhwng 1091 a 1094. Ymosodasant ar bob rhan o'r goror, o Fôn i Dyddewi, ac ychydig feddyliai neb tua'r flwyddyn 1092 na fyddai Cymru i gyd wedi ei llwyr feddiannu ganddynt yn fuan iawn.


Yr oedd Robert o Ruddlan wedi ymgastellu ar lan afon Clwyd, ac wedi croesi bryniau Cantref y Rhos i ddyffryn Conwy, lle yr oedd yn brysur ail godi hen gaer Deganwy. Felly yr oedd rhes o geStyll ar hyd traeth Gogledd Cymru o Gaer i Aber Conwy. Daeth Huw Flaidd at ei filwr Rhobert i Ddeganwy, ac ar eu cyfer gwelent ynys Môn a rhannau eraill o frenhiniaeth y gŵr oedd yng ngharchar Caer. Penderfynodd Huw oresgyn y wlad trwy amlder byddinoedd, a chadarnhau ei afael arni trwy godi cestyll cerrig, yn ôl defod ei genedl. Croesodd o Ddeganwy i Fôn, gwaith ychydig oriau, - ac yno cododd gastell Aber Lleiniog ar fryn ger y lan yng nghornel ogledd?ddwyrain yr ynys. A gwelodd gwyr Môn fod y Norman wedi rhoddi ei droed i lawr yn eu mysg. Ymosododd y blaidd ar Arfon a Meirion yr un pryd hefyd.


Yr oedd cymydog Huw Flaidd, - Roger, iarll yr Amwythig, mor brysur ag yntau. Gwraig Roger de Montgomeri, fel y gwelsom, oedd Mabel, merch William Talvas, o deulu creulon a chynhyrfus Belesme. Plant y ddau hyn oedd Robert, cynhyrfwr gwaethaf ei oes; Hugh de Montgomeri, ddaeth yn iarll yr Amwythig ar ôl ei dad, ac a wnaeth lawer o ddrwg cyn i ryw forleidr dynnu yn llinyn ei fwa a gyrru saeth i'w lygad ; Roger, fedrodd ennill tiroedd eang yn neheudir Ffrainc ac yn Nheyrnllwg; Phylip, y gramadegwr, fu farw yn Antioch, ar ei ffordd i Gaersalem Arnold, orchfygodd Ddyfed, ac a gododd gestyll Carew a Phenfro ; Emma, y fynaches, weddïai dros ei theulu pechadurus; Matilda, briododd Robert Morton, hanner brawd brenin Lloegr; Mabel, briododd Huw Chateau Neuf; a Sybil, briododd orchfygwr Morgannwg. Wedi marw Mabel ar y rhyferthwy hwnnw, ail briododd Roger wraig o'i wlad ei hun, Adelaide de Puiset, ond ni anwyd ond un mab iddynt, ac offeiriad diddrwg - didda fu hwnnw. Ond wele ddigon, yn sicr, o'r hil felltigedig. Dywed un a'u hadnabyddai fod yr ysbrydion aflan eu hunain yn eu casáu, nid am eu bod yn dda, ond am eu bod mor erchyll o ddrwg.


Symudiad cyntaf Roger de Montgomeri oedd i fyny dyffryn yr Hafren. Yr oedd Normaniaid eraill wedi paratoi'r ffordd iddo, ac yr oedd Baldwin, un o filwyr Senlac, wedi codi castell yng nghanol y dyffryn ac wedi ei alw yn Dre Faldwyn ar ei enw ei hun. Cymerodd Roger gastell hwn a'r dyffryn ardderchog, a galwodd y dref yn Fontgomeri ar ei enw ei hun ; ond geilw'r Cymry y lle ar enw Baldwin hyd y dydd hwn.


Nis gallai Roger fynd ymhellach. Gwelai'r dyffryn yn culhau; ac yr oedd gwlad fynyddig Arwystli, a'i thrigolion dewr,- hen filwyr Trahaiarn, - o'i flaen. Os ai dros y rhain i rosdiroedd oerion Elfael ac i ddyffryn Gwy, gwelai fod lleidr arall yno o'i flaen. Yr oedd Bernard o Neufmarché, ar ôl gorffen castell Aberhonddu, wedi estyn ei derfynau dros Elfael, ac wedi codi Castell Maesyfed.


Y tu hwnt i Fernard yr oedd lleidr cryfach fyth wedi meddiannu bro hyfrytaf Cymru, ac ni fedrai neb yrru'r Fitz Hamon hwnnw o Fro Morgannwg. Yr oedd tad a thaid Fitz Hamon wedi bod yn ffyddlon i ddugiaid Normandi, ac yr oedd Fitz Hamon ei hun wedi gwrthsefyll pob temtasiwn i wrthryfela yn eu herbyn pan ddaethant yn frenhinoedd Lloegr. Yr oedd ei wobr yn fawr - cafodd iarllaeth fras Caerloyw, a rhyddid i ymosod ar Fro Morgannwg. Yn union wedi marw Rhys daeth y Fro yn eiddo iddo, o'r castell gododd yng Nghaer Dydd yn y dwyrain hyd y Castell gadodd yng Nghynffig ar gwr y gorllewin. Dano, yn talu gwarogaeth iddo, yr oedd milwyr fel y Paen de Turberville, annibynnol ei ysbryd, gododd gastell y Coyty yng ngorllewin y Fro, a'r Robert St. Quentin ymgastellodd yn Llanblethian, ac a gododd fur oddi amgylch Pont Faen. Yr oedd y Cymry ym Miscin a Senghenydd a'r mynydd- dir sydd ar ymyl ogleddol y Fro yn talu rhyw fath o wrogaeth iddo hefyd. Yr oedd ei filwyr yn prysur orchfygu'r wlad rhyngddo a Dyfed ; aeth Richard de Granville drosodd i'r dyffryn agosaf, a chododd Gastell Nedd yng ngenau Glyn Nedd ; aeth William de Londres, tua 1094, ymhellach fyth, a chododd gastell Cydweli ar fryncyn sy'n codi o ddyffryn afon Gwendraeth. Gwyddai Roger de Montgomeri bod Fitz Harnon wedi cael gafael di- ollwng ar Forgannwg, ac mai ei heldir naturiol ef oedd Gwyr ac Ystrad Tywi. Ond yr oedd gwlad y tu hwnt i afon Tywi, gwlad hyfryd Penfro a'r Rhos. Er mwyn heddwch i'w meddiannu, gadawodd Roger i'w ferch ieuengaf Sybil briodi Fitz Hamon.


Y tu hwnt i diriogaeth Fitz Hamon y meddyliai Roger de Montgomeri am dywysogaethau i'w feibion ieuengaf. Croesodd i ddyffryn y Teifi, a chododd gastell ar lan uchel yr afon yng Nghilgeran Ymhen ennyd, anfonodd ei fab Arnold ar hyd yr afon Cleddau i rannau deheuol Dyfed. Daeth hwnnw i'r llennyrch cnydfawr a phrydferth sydd rhwng yr afon honno a'r môr, a sylfaenodd gestyll Carew a Phenfro Daeth cantrefi Narberth, Castell Martin, y Rhos, a Daugleddau yn eiddo iddo. Nid oedd ond gwlad esgob Tyddewi, a chantref y Cemaes, rhyngddo a'r farwniaeth Cilgeran enillasai ei dad. Arbedwyd Tyddewi; ond daeth rhyw Fartin de Turribus o Wlad yr Haf i gantref y Cemaes ar hyd y môr; glaniodd yn Aber Gwaen, trechodd wŷr y Cemaes mewn brwydr, cododd gastell ysgwâr Nanhyfer, a gwnaed tref newydd Trefdraeth yn gartref i'w Normaniaid.


Cyflym ryfeddol fu cynnydd tiriogaeth y Normaniaid. Ond rhaid cofio nad oedd neb i'w gwrthwynebu, - yr oedd Rhys wedi cwympo, a Gruffydd ab Cynan yng ngharchar Caer,- a chroesawodd llawer ardal Gymreig hwy, gan dybio y byddai eu hiau yn esmwythach na iau y tywysogion Cymreig. Erbyn 1094, nid oedd ond y wlad sy'n gorwedd rhwng y Berwyn a Phlunlumon a'r môr heb weled castell Norm aidd yn codi ynddi.


Pan enillai Normaniaid diriogaeth, enillent hi iddynt eu hunain yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol i frenin Lloegr. Fel arglwydd goror yr oedd y gorchfygwr Normanaidd yn ŵr ffydd i frenin Lloegr, ond yr oedd yn teyrnasu fel brenin y tu mewn i bob goror. Cyhyd ag y byddent mewn heddwch â'r brenin, nid oedd neb o fewn eu goror fedrai anufuddhau i Huw Flaidd yng Nghaer neu i Fartin de Turribus yng Nghemaes. Yr oedd arglwydd y gororau yn frenin yn ei oror ei hun, a medrai wneud pob peth fedrai brenin wneud mewn sir. Medrai gadw byddin, medrai wneud a dadwneud cyfraith, yr oedd bywyd a marwolaeth y bobi yn ei law, o'i law ef y daliai pawb dir, iddo ef y talai pawb warogaeth, iddo ef y talai pawb dreth, iddo ef y syrthiai eiddo rhai'n marw heb etifeddion, efe fedrai roddi siarter i dref, - yr oedd pawb a phob peth yn ei law.


Nid oedd yr holl dir rhwng Dyfrdwy a Chonwy a rhwng Hafren a'r môr yn eiddo i arglwyddi'r gororau, er bod eu cestyll yn ei fritho. Yr oedd llawer tywysog Cymreig eto'n dal ei dir, weithiau mewn cyfeillgarwch â'i gymdogion perygl, ac yr oedd deiliaid Cymreig y gororau yn barod i wrthryfela ar amrantiad os cyffyrddai'r arglwyddi â'u hen hawliau.


Pe cawsai'r Normaniaid ychydig o amser, buasent wedi ennill Cymru i gyd; ac ni fuasai lle yn y dyfodol i Lywelyn, er y buasai lle i lawer Glyn Dŵr. Ond yn 1094 deffrodd Cymru drwyddi, a phenderfynodd daflu iau'r Normaniaid oddi ar ei gwddf.


Gwelai'r Cymry gestyll yn codi beunydd yn eu mysg, a theimlasant fod iau yr estron yn drymach na'r iau yr oeddynt wedi codi yn ei herbyn pan oedd Gruffydd a Rhys yn teyrnasu arnynt. "Cododd gastell," dyna hanes y Norman, "ac a osodes ynddynt farchogion a gwŷr traed a saethyddion, a chymaint a wnaethant o ddrwg ag na wnaethpwyd ei gyfryw er dechrau byd; a llef y bobl a esgynnws at yr Arglwydd, ac yntau a'u gwrandewis hwy."


Aeth rhyw ŵr o Edeyrnion, o'r enw Cynwrig Hir, ebe'r hanes, ryw ddiwrnod i lawr i Gaer ŷn adeg cyni ei wlad. I'r farchnad yr oedd ef a'i gymdeithion yn mynd, i brynu at eu rhaid. A gwelodd ei frenin ym mhlas y ddinas, a gefynnau ar ei ddwylaw. Cymerodd ef ar ei gefn, a medrodd ef a'i gymdeithion ei gludo y tu allan i'r muriau tra yr oedd y bwrdeisiaid yn gwledda. Ac felly, meddir, y dihangodd Gruffydd ab Cynan o garchar Caer.


Wedi caethiwed mor hir, yr oedd yn wan, ac arhosodd rai dyddiau yn nhŷ Cynwrig Hir dan gel. Wedi iddo gryfhau, aeth Cynwrig ag ef dros y mynyddoedd liw nos i ynys Môn, gan ei fod yn meddwl ffoi i'r Iwerddon. Cafodd nodded gan Sanddef fab Aere; ond, pan wedi codi hwyl, gyrrodd gwynt croes ef yn ôl i draeth Cymru. Wedi llawer o helynt, daeth i Ardudwy, gan gerdded yn ofnus rhag brad y Normaniaid. Yna cuddiodd meibion Collwyn ef mewn ogofau diffaith, a chodent allan weithiau i grwydro drwy Wynedd i golledu Huw Flaidd. Ac yr oedd Normaniaid y cestyll yn erlid ar ei ôl, megis cŵn hela ar ôl carw blin. O'r diwedd aeth Gruffydd i Aber Daron, ac yn ysgraff mynachod Enlli aeth i'r Iwerddon. Casglodd lynges o dair llong ar hugain, a dychwelodd i ymosod ar Huw Flaidd.


Yr oedd Cymry'r Deheudir yn deffro hefyd. Yr oedd Cadwgan fab Bleddyn, y galluocaf o hil brenhinoedd Powys, wedi ennill iddo ei hun le fel brenin Dyfed a'r Deheubarth. Nid oedd yn gynorthwywr i frenin Lloegr fel y bu ei dad Bleddyn ab Cynfyn,- fel gelyn y Normaniaid y cymerodd gwŷr Dyfed ac Ystrad Tywi ef yn frenin. Gwelodd y Normaniaid fod y dymestl yn dod, a pharatôdd pob un ei hun drwy gryfhau ei gastell neu ennill serch ei ddeiliaid Cymreig. Gwelwyd bod Bernard wedi priodi tywysoges Gymreig, a bod Robert Fitz Hamon yn gadael i wŷr Morgannwg fyw dan eu hen gyfreithiau. Ond, er pob peth, yn 1094 cyneuodd tân gwrthryfel, a chyflymodd fel mellten ddifäol o eithaf Môn i eithaf Dyfed.


I Fôn y daeth Gruffydd ab Cynan gyntaf, a gwnaeth ei fwyell ddwyfiniog alanastra ar y Normaniaid llurigog a helmog. Cyn gwarchae ar gastell Huw Flaidd, croesodd i Nefyn i alw ei hen ddeiliaid. Daeth gwyr Llŷn ac Eifionydd ac Ardudwy ac Arfon a'r Rhos a Dyffryn Clwyd ato'n lluoedd, a chaeodd ei fyddinoedd 0 amgylch Aberlleiniog. Ymladdodd y castellwyr yn ddewr, gan fwrw cawodydd 0 saethau a cherrig o'u bwâu a'u magnelau. Ond cymerwyd y castell, gyda lladdfa fawr, ac anfonwyd y Norman olaf


o Fôn. Y gelyn nesaf oedd Robert o Ruddlan. Y casaf gan Gymry'r Gogledd, a'r peryglaf, oedd Robert o Ruddlan. Pan oedd Bernard yn ymosod ar Gaer Wrangon yn 1088, gan wrthryfela yn erbyn y brenin, yr oedd Robert o Ruddlan yng nghanol yr un gwrthryfel,- gwrthryfel y barwniaid yn erbyn y brenin Gwilym Goch. A thra yr oedd yn wrthryfelwr yn erbyn ei frenin ei hun yr ymosododd Gruffydd ab Cynan arno y tro cyntaf.


Yr oedd Robert wedi codi castell Rhuddlan, ar waelod Dyffryn Clwyd, ac oddi yno gorthrymai Gymry'r Dyffryn a'r mynyddoedd gyda chreulondeb anesgrifiadwy. Ymhen ennyd penderfynodd symud yn nes i mewn yng Nghymru, a chododd gastell yn Neganwy. Deganwy oedd hen gartref brenhinoedd Cymru. Saif ar war penrhyn y Creuddyn, a safai yno pan nad oedd castell yng Nghonwy gyferbyn ag ef, a phan nad oedd ond tywod a môr- hesg ar y fan lle saif Llandudno'n awr. Yr oedd yn deilwng gartref i Gunedda a'i longau. Ohono medrid llywodraethu ar dir a môr Cymru. Yr oedd Gwynedd yn hanner cylch o'i gwmpas, - dyffryn Conwy, Arllechwedd a'i glan creigiog ac Arfon y tu hwnt iddi, a Môn ac ynys Seiriol yn ochr y môr. 0 fewn y rhain yr oedd môr caead o flaen brenhinoedd Deganwy, a hawdd oedd i'w llongau gyrraedd Arfon neu Fôn draw. Buasai'n anodd cael llecyn mwy cyfleus a mwy canolog yn yr hen Gymru fawr gynt.


Ac yma, yng ngenau dyffryn Conwy ac yn hen le brenhinoedd y Cymry, y gosododd y Norman Robert ei hun. Weithiau, pan glywai sŵn gwrthryfel yno, ai ar herw i Loegr, gyda Huw Flaidd a'i gyfeillion eraill.


Yr oedd ymysg y giwed gynhyrfus ddrwg fedrodd y brenin coch yrru o'i flaen i gastell Rochester, ac yr oedd yn galed ar Robert yno, gan newyn a syched ac ofn. Ond gwnaeth ei heddwch â'r brenin, a daeth i Gymru'n ôl at ei hen waith. Erbyn iddo ddod yn ôl, cafodd fod Gruffydd ab Cynan wedi anrheithio ei diroedd, a chyneuodd ei lid yn erbyn y Cymry'n fwy nag erioed.


Ryw ddiwrnod poeth yn nechrau Gorffennaf yr oedd Robert yn cysgu ganol dydd yn Neganwy. Daeth Gruffydd ab Cynan gydag ychydig longau, a bwriasant angor gerllaw, dan gysgod y Gogarth. Glaniodd y Cymry, anrheithiasant dir Robert, ac yr oeddynt yn gyrru lluoedd o wartheg tua'r llongau pan ddeallodd y Norman beth oedd yn bod. Prysurodd tua'r traeth, a gwelai'r llongau llawnion yn paratoi i droi i'r môr. Yn ei gynddaredd aflywodraethus, rhuthrodd i lawr hyd ochr y mynydd, cyn i'w filwyr fod yn barod i'w ddilyn, a chyn i'w longau ef ddod i'r fan. Cyrhaeddodd y traeth gyda dim ond un milwr. Hyrddiodd y Cymry eu picellau ato, gan ei drywanu ef a'i darian. Bu farw fel baedd gwyllt, ni feiddiai neb fyned ato hyd nes iddo ollwng ei darian. Torrodd Gruffydd ei ben a hoeliodd ef wrth hwylbren ei long. Ac yna taflodd ef i'r môr, yng ngŵydd y Normaniaid oedd yn erlid ar ei ôl, Cludwyd y corff i Gaer i'w gladdu, ac oddi yno i'w wlad ei hun. Ond gadawyd ei ben yn y môr ar lan y wlad gystuddiodd, a dywedwyd ei hanes ar garreg ei fedd

"Ar drumau uchaf yr Wyddfa neu ar lannau Conwy draw
Y fflachiodd arfwisg hwn, a Bleddyn gynt mewn braw
A ffodd o'i flaen. Bu Hywel yn gruddfan yn ei gell
A Gruffydd fawr frenhinol, yn cofio dyddiau gwell,
Ddihoenodd yng ngharchardy Caer trwy lawer diwrnod blin,
A'r dewr Trahaiarn o flaen hwn a blygodd ar ei lin.
Ond yn awr mae Owen filwr yn llawen iawn ei gân,
A thelynorion Hywel sy'n eilio'r tannau mân"


Wedi hyn priododd Gruffydd Angharad, merch Owen ab Edwin, un gododd lawer o gynnwrf erioed yn Nhegeingl a'r Rhos, - weithiau yn arwain y Normaniaid i mewn, dro arall yn arwain gwrthryfel yn eu herbyn. Rhydd bywgraffydd Gruffydd ddarluniad ohoni, a mwyn yw cael darlun o wraig Gruffydd ab Cynan a mam Owen Gwynedd. Yr oedd golwg bonheddig arni; un dal, gwallt goleu, a llygaid mawr oedd. Fel y gellid tybio oddi wrth ei hymddangosiad urddasol, yr oedd yn wraig ddoeth a chall, ac yn gynghorwraig dda. Yr oedd yn hynaws a huawdl, a da am fwyd a diod, a chardodus iawn.


Wedi cymeryd castell Huw Flaidd a lladd Robert o Ruddlan, y gwaith nesaf oedd adennill dyffryn yr Hafren. Cododd y trigolion, oherwydd nas gallent oddef creulondeb arglwyddi'r goror, pan oedd y brenin Gwilym Goch yn Ffrainc. Ymosodwyd ar gastell Trefaldwyn, a chymerwyd ef A phan ddaeth llu o Normaniaid i'w adfeddiannu, daeth Cadwgan ab Bleddyn i'w cyfarfod i hen fro ei dad, a gyrrodd hwynt ar ffo wedi dirfawr laddfa.


Cyn hynny, yr oedd Cadwgan ab Bleddyn wedi dechrau'r ymosod ar y Normaniaid yn Nyfed. Yr oedd Arnold de Montgomeri wedi gadael Gerald Windsor yn ystiwart ar gastell cadarn Penfro. Yr oedd lluoedd Castell Oystermouth MorgannwgCadwgan wedi cau o amgylch y castell, a thybiai llawer fad y diwedd yn ymyl. Un noson dihangodd pymtheg marchog o'r castell, a gwnaeth Gerald eu cludwyr arfau yn farchogion yn eu lle Yr oedd Cadwgan mewn brys mawr, ac yn gobeithio ennill y castell bob dydd, er mwyn rhoi cymorth i rannau eraill Cymru. Ond y mae castell Penfro wedi sefyll yn gadarn fwy nag' unwaith pan oedd ei warchaewr ar frys mawr, o amser Cadwgan ab Bleddyn i amser Oliver Cromwell. Yr oedd y gwarchae wedi para'n hir, yr oedd newyn yn dechrau hyll dremu ar wŷr y castell. Ond achubodd Gerald y castell trwy ddichell. Cymerodd y pedwar mochyn oedd yn aros, a lladdodd hwynt, a thaflodd eu darnau dros y mur i dwyllo'r Cymry i feddwl bod digon a foch yn aros. Drannoeth anfonodd ŵr i gymeryd arno golli llythyr o flaen y drws lle'r arhosai esgob Tyddewi, - medrai esgob Tyddewi' ddarllen, - llythyr wedi ei gyfeirio at Arnold de Montgomeri, i ddweud nad oedd y castellwyr mewn unrhyw berygl. Twyllwyd Cadwgan, ac arhosodd Gerald yn ei gastell. Yr oedd hwn yn ŵr call. Priododd Nest, merch brydferth Rhys ab Tewdwr, a daw o'n blaenau eto toc mewn peth sydd debycach i ramant nac i hanes.


O holl gestyll Dyfed a Cheredigion, nid oedd ond Penfro a Rhyd y Gors yn aros erbyn diwedd 1094. Tybid y byddai Gruffydd ab Cynan a Chadwgan ab Bleddyn wedi gyrru pob Norman ar ffo o Gymru cyn hir. Ond clywyd fod brenincoch Lloegr yn dod yn gymorth iddynt.