Neidio i'r cynnwys

Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Diwedd y Ddau Ruffydd

Oddi ar Wicidestun
Eglwys Cymru Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Diwedd y Ddau Ruffydd
gan Owen Morgan Edwards

Diwedd y Ddau Ruffydd

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD XII

DIWEDD Y DDAU RUFFYDD.


BU farw Harri'r Cyntaf, mab olaf y Gorchfygwr Normanaidd, yn 1135. Ddwy flynedd wedyn, yn 1137, bu farw y ddau ŵr osododd derfyn i lwyddiant y Normaniaid yn y gorllewin, - sef Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, a Gruffydd ab Rhys, tywysog y Deheubarth.


Yr oedd Harri, fel y gwelsom, wedi colli ei unig fab, oedd i barhau ei allu yn Lloegr; yr oedd wedi colli Owen ab Cadwgan, oedd i ennill Cymru iddo. Nod diwedd ei fywyd oedd sicrhau esgyniad ei unig ferch i'w orsedd. Ond yr oedd hynnyn groes iawn i feddwl y barwniaid. Anghyfiawn, yn eu meddwl hwy, oedd plygu eu gwarrau cyndyn i allur brenin; dirmyg anioddefol oedd eu plygu i allu gwraig. Gwell oedd ganddynt hwy ddyn merchedaidd, - brenin, ond brenin rhy wan i ymyrryd â hwy.


Tybiasant mai gŵr felly oedd Stephen, ŵyr i'r Gorchfygwr, a rhoddasant ef ar yr orsedd. Gŵr addfwyn oedd ef, ebe croniclwyr ei bobl, yn addaw i bawb beth bynnag ofynnent, ac heb fedru cyflawni dim. Ei hawl, tybient hwy, oedd ewyllys y barwniaid; ac yr oeddynt yn edrych ar anibyniaeth dalaethol iddynt eu hunain fel eu dyledus wobr. Ond yr oedd gan Stephen feddwl arall, yr oedd wedi etifeddu amcan ei deulu Normanaidd, - darostwng pob gallu lleol a thalaethol i lywodraeth haiarn brenin grymus. Edifarhaodd y barwniaid ei goroni, a throdd rhai o honynt at Matilda, merch Harri'r Cyntaf. Yr oedd Lloegr felly'n rhanedig, a'r barwniaid a'u bryd ar lethu galluoedd brenin.


Yr oedd Gruffydd ab Cynan yn hen ac wedi gwneyd ei waith. Yr oedd wedi uno Gwynedd, yr oedd wedi ei gwneyd eto'n brif dalaeth Cymru. Yr oedd wedi estyn ei derfynau hyd nes taro ar Bowys ar Deheubarth, ac yr oedd wedi ceisio undeb â'r rhannau eraill o Gymru. Pan oedd Powys yn gref ac yn rheoli, priododd ei ferch Gwenllian â Chadwgan ab Bleddyn. Pan welodd mai yn y Deheubarth yr oedd grym ac ynni gwladgarwch, priododd hi â Gruffydd ab Rhys, y tywysog fu ar ffo, ac a ddaeth adref i gael ei groesawu gan ei bobl orthrymedig.


Yr oedd prudd-der a llawenydd i Ruffydd ab Cynan yn ei ddyddiau olaf. Yr oedd ei feibion yn ennill buddugoliaethau iddo bob dydd, yr oedd pawb yn gweled yn ei feibion y dewrder a'r doethineb gariodd eu tad trwy anhawsterau mor fawr i allu mor gadarn. Ond yr oedd Gwenllian wedi marw, - newydd farw ym mlodau ei dyddiau wrth amddiffyn ei gwlad.


Tra'r oedd meibion Gruffydd ab Cynan yn estyn eu terfynau i'r de, dros Feirion a Cheredigion, yr oedd ei fab yng nghyfraith Gruffydd ab Rhys yn estyn ei derfynau yntau i'r de dros fryniau heulog Gŵyr. Yr oedd ei fri yn fawr yn y Deheubarth, a rhyfedd oedd y son am ei wledd i dywysogion yn nyffryn hyfryd y Teifi, ac am ei Eisteddfod fawr. Ond yr oedd Normaniaid pob castell a Fflemisiaid Dyfed wedi dychrynnu wrth weled llwydd ei arfau. Penderfynasant uno eu holl luoedd, a gwneyd ymdrech unwaith am byth i roddi atalfa ar gynnydd gallu Gruffydd ab Rhys. Pan dorrodd lluoedd Gruffydd dros gestyll Gŵyr, gan ladd Richard Fitz Gillebert, gwelodd y Normaniaid nad oedd ganddynt funud i golli. Prysurodd Gruffydd ab Rhys i lys ei dad yng nghyfraith i ofyn am fyddin o Wynedd i'w helpu i wynebu llu'r Normaniaid. Ond yr oedd ei elynion yn fwy prysur nag yntau. Tra'r oedd ef yng Ngwynedd, rhuthrodd Maurice de Londres a'i gynghreirwyr o gastell Cydweli dros derfynau Gruffydd. Arweiniwyd ei fyddin yn eu herbyn gan ei wraig Gwenllian, merch hen lew Gwynedd. Collodd y Cymry'r dydd yn y frwydr honno. Lladdwyd Gwenllian, a'i phlentyn Morgan gyda hi; a chymerwyd Maelgwn, ei phlentyn arall, oddiarni'n fyw.


Yr oedd ei brodyr a'i gŵr yn dod. Symudai byddin o chwe mil o draedfliwyr etholedig Gwynedd, a dwy fil o feirchfilwyr llurugog, tuag Aberteifi, ller oeddis i benderfynu prun ai'r Norman ynte'r Cymro oedd i fod a'i lawn uchaf yn y De. Yr oedd gwŷr Ceredigion ar y naill law a gwŷr Brycheiniog ar y llall yn ymuno â hwy ar eu ffordd, ac yr oedd castell Norman ar ôl Norman yn syrthio o'u blaenau. A chyn iddynt gyfarfod ar gelynion yr oedd byddin Gruffydd a lliaws o dywysogion y De wedi eu cyfarfod. Ar rhai hyn oll yn gyfun a gyweirasant eu byddinoedd i Aberteifi. Ac yn eu herbyn y daeth Ystefyn gwnstabl, a Robert fab Martin, a meibion Gerald ystiward, a'r holl Fflemisiaid, ar holl farchogion, a'r holl Normaniaid, o Aber Nedd hyd yn Aber Teifi. Bu brwydr galed, - yr oedd cymaint yn dibynnu arni, - ac ymladd ffyrnig o bob tu. Gorchfygwyd yr estroniaid yn llwyr, a boddodd eu ffoedigion dychrynedig fel ynfydion yn yr afon. Dywed y croniclydd Cymreig fod tair mil o honynt wedi colli eu bywydau.


Dyna'r frwydr olaf y clywodd Gruffydd ab Cynan am dani, a dyna frwydr olaf Gruffydd ab Rhys. Flwyddyn ar ei hol bu Gruffydd ab Rhys farw. Dywed un o groniclwyr y Saeson iddo farw drwy ystryw rhyw wraig; ond y peth ddywed y croniclydd Cymreig am dano ydyw mai efe oedd lleufer a chadernid ac addfwynder y Deheuwyr.


Wrth feddwl am fywyd hwy a gwaith cadarnach Gruffydd ab Cynan, y mae'r croniclydd mynachaidd yn gwregysu ei lwynau at ddweyd mwy wrth oesoedd i ddod. Y flwyddyn honno bu farw Gruffydd ab Cynan, brenin a phenadur a thywysog ac amddiffynnwr a heddychwr holl Gymru, wedi lliaws o beryglon ar dir a môr, wedi aneirif anrheithiau a buddugoliaethau rhyfeloedd, wedi goludoedd aur ac arian a dillad o fawr werth, wedi cynnull i Wynedd y rhai wasgares cyn hynny i amryw wledydd gan y Normaniaid, wedi adeiladu llawer o eglwysi yn ei amser, a'u cysegru i Dduw.


Y mae Gruffydd ab Rhys yn huno yn naear dawel adfeilion Ystrad Fflur; y mae Gruffydd ab Cynan y tu mewn i eglwys gadeiriol Bangor, ar ochr chwith yr allor.


Hwy roddodd atalfa ar y Norman pan dybiai pawb fod Cymru at ei drugaredd.