Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Eglwys Cymru

Oddi ar Wicidestun
Gruffydd ab Rhys Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Eglwys Cymru
gan Owen Morgan Edwards

Eglwys Cymru
Diwedd y Ddau Ruffydd

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD XI

EGLWYS CYMRU.


TRA'R oedd brenin Lloegr yn amcanu at ddarostwng tywysogion Cymru yn wŷr ffydd iddo ef, yr oedd archesgob Caergaint yn graddol honni awdurdod ar esgobion Cymru. Yn y cyfnod cynt, gwelsom ymdrech Eglwys Cymru i fod yn anibynnol ar Eglwys Rufain, a gwelsom hi'n gorfod ymostwng. Yn y cyfnod hwn cawn ymdrech Eglwys Cymru i fod yn anibynnol ar Eglwys Loegr; hawliai ddibyniaeth uniongyrchol ar Eglwys Rufain, ac nid trwy archesgobion Lloegr.


Hyd y ddeuddegfed ganrif neu'r trydedd ganrif ar ddeg, yr oedd Eglwys Cymru, er wedi ei darostwng i Eglwys Rhufain, yn anibynnol ar Eglwys Loegr. Yr oedd Eglwys Cymru ac Eglwys Loegr yn rhan o Eglwys Rhufain, ond yr oeddynt yn tyfu'n wahanol. Anibyniaeth oedd nodwedd Eglwys Cymru, nid oedd ei hesgobion yn ddarostyngedig i awdurdod un archesgob. Undeb a threfn oedd nodwedd Eglwys Loegr, ac yr oedd yr esgobion dan awdurdod dau archesgob. Hyn oedd yn ôl ewyllys y pab, - nid tyrfaoedd o esgobion anibynnol oedd wrth ei fodd ef, ond cyfundrefn o glerigwyr, mewn graddau dyrchafol, a'r pab yn ben ar y cwbl. Gwell ganddo ef oedd gweled archesgob y Saeson yn darostwng yr esgobion Cymreig na'u gweled yn anibynnol.


Dywedir fod rhai o esgobion Deheudir Cymru wedi eu cysegru gan archesgobion Caer Gaint mor fore ag amser Hywel Dda. Dywed un croniclydd fod esgobion Landaf a esgob Tyddewi, - ac yr oedd enw Sais ar hwn, sef Lumberth, - wedi eu cysegru yng Nghaer Gaint yn 872 .

Dywed Llyfr Llandaf fod archesgob y Saeson wedi cysegru Gwgawn yn esgob Llandaf yn 982, a Bledri yn esgob yn yr un lle yn 983, a Joseph yn 1020. A dywed un croniclydd fod rhyw Dremerin a rhyw Eifod wedi eu cysegru'n esgobìon Tyddewi gan yr un archesgob tua'r un amser; a dywed croniclydd Caer Wrangon fod y Tremerin hwnnw wedi gwneyd gwaith esgob Seisnig Henffordd iddo, gan i'r Sais fod yn ddall am dair blynedd ar ddeg.


Pan ddaeth y brenhinoedd Normanaidd, rhai a'u bryd ar ddarostwng yr eglwys i'w gallu hwy ac ar ei defnyddio i gryfhau eu llywodraeth wladol, yr oeddynt yn awyddus iawn am wthio esgobion Normanaidd i Gymru, ac ar ddarostwng yr esgobaethau Cymreig i'r archesgobaeth Seisnig. Yn 1092, yr oedd gan Wilym Goch Lydawr o'r enw Heryeus; a rhoddodd iddo esgobaeth Bangor. Cysegrwyd ef gan archesgob Caer Efrog, gan nad oedd archesgob yng Nghaer Gaint, - rhwng dyddiau Lanfranc a dyddiau Anselm oedd hynny. Pan ddaeth Anselm yn archesgob dechreuodd ymyrryd ag esgobion Cymru ar unwaith, esgymunodd un o esgobion Llandaf ac adferodd un o esgobion Tyddewi.


Ond hyd 1107 apwyntid yr esgobion gan y tywysogion Cymreig. Yn 1107 apwyntiwyd Urban yn esgob Llandaf gan frenin Lloegr, a chysegrwyd ef gan Anselm. Mwy na hynny, yng ngwydd llu o esgobion, aeth yn un o wŷr archesgob Lloegr, a bradychodd anibyniaeth Eglwys Cymru. Yr wyf fi Urban, etholwyd ac a gysegrwyd gennyt ti yn esgob Eglwys Morgannwg, yr hon sydd yng Nghymru, yn addaw canonaidd ufudddod i ti, ac i'r holl rai a'th ganonaidd ddilyno, O Anselm, archesgob Eglwys Caer Gaint, a Phrif holl Brydain.


Pan gododd gwladgarwch Cymru, dyheodd yr Eglwys hefyd am ei rhyddid. Coffheir rhinweddau Sulien a Rhyddmarch, yr esgobion Cymreig olaf, a'u mawr sel dros addysg eu pobl. Ac y mae'r croniclydd Cymreig, wrth adael hanes Owen ab Cadwgan a throi at hanes Gruffydd ab Rhys, yn dweyd fel hyn, - Ac y bu farw Ieffrei, esgob Mynyw; ac yn i ôl ynteu y daeth gŵr o Normandi, yr hwn a elwit Bernart, yr hwn a ddyrchafwyt yn esgob ym Mynyw gan Henri frenin o anfodd holl ysgolheigion y Brytanieit, gan eu tremygu. Erbyn 1110, felly, y mae brenin Lloegr yn hawlio apwyntiad esgobion Cymru, ac archesgob y Saeson yn hawlio eu cysegriad. Ar yr un pryd y mae egIwyswr, sydd yn hanner wawdio gwladgarwch Owen a Gruffydd, yn condemnio yr ymyriad hwn âg Eglwys Cymru.


Yr oedd gwladgarwch o ochr Eglwys Cymru; yr oedd y tywysogion a'r werin gyda'r esgobion Cymreig yn eu hymdrech yn erbyn Caergaint. Ond yr oedd gallu cryfach hyd yn oed na gwladgarwch yn ei herbyn. Yr oedd diwygiad crefyddol grymus ar y Cyfandir, a thrwy Loegr yr effeithiai hwnnw ar Gymru. Yr oedd gallu ysbrydol a thymhorol y pab wedi gwneyd cynnydd anhygoel bron oherwydd fod y diwygiad mynachaidd yn nerth iddo. Yr oedd yn hawlio uwchafiaeth ar bob eglwys, yr oedd yn hawlio ufudd-dod llwyr pob eglwyswr i'w lys eglwysig a'i gasglwyr trethi, yr oedd y gyffes gell yn dechreu rhoddi iddo awdurdod ar gydwybodau. Yr oedd y gyfraith ganonaidd, oedd ar ddod i fri mawr, yn ei wneyd yn ben pob llys eglwysig. Yn fuan iawn yr oedd brwdfrydedd crefyddol Rhyfeloedd y Groes i roddi byddin iddo.


Cafodd y pab y gallu hwn oherwydd fod y diwygiad mynachaidd wedi ei wneyd yn amddiffynnydd moesoldeb. Yr oedd y mynachod Benedictaidd wedi dod i Loegr o flaen y Normaniaid; ond ychydig fu eu dylanwad ar Gymru, aroshasant ar wastadeddau ein hynys. Gyda'r Normaniaid daeth y mynachod Cistercaidd, a bu eu dylanwad ar Gymrun fawr. Ond wedi marwolaeth Gruffydd ab Rhys a Gruffydd ab Cynan y daethant; mab Gruffydd ab Rhys a'u croesawodd i Ystrad Fflur, a gorwyr Gruffydd ab Cynan a'u croesawodd i Aber Conwy.