Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Cutiau

Oddi ar Wicidestun
Llanfachreth Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Abermaw
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Abermaw
ar Wicipedia




CUTIAU.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanaber. Yr Annibynwr a'r Ymneillduwr cyntaf a bregethodd yn y plwyf, yn ol dim hanes a ellir gael, oedd y diweddar Mr. Benjamin Evans, o'r Drewen, Ceredigion, ond Llanuwchllyn y pryd hwnw. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd Mr. Evans, gegin amaethdy o'r enw Maesyrafallen, i bregethu ynddi. Perchenog a phreswylydd yr amaethdy crybwylledig oedd un Cadben William Dedwith, (Dedwydd), gwr genedigol o Abergwaun, Penfro; ac ewythr, brawd ei mham, i wraig y rhagddywededig B. Evans. Ymbriodasai y Cadben Dedwith âg aeres y Gorllwyn, gerllaw Abermaw, rai blynyddoedd cyn dyfodiad Mr. Evans i Llanuwchllyn, ac felly rhoddasai heibio forio, a bu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y parthau yma o sir Feirionydd. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Evans o Llanuwchllyn i Hwlffordd, Penfro, ac o herwydd diffyg gweithwyr selog, gadawodd yr Annibynwyr y maes a ddechreuasant ei lafurio, am o gylch pedair-blynedd-ar-hugain, hyd nes y cyfododd yr Arglwydd ddau ŵr ieuangc yn y sir, sef William Williams, wedi hyny o'r Wern, a Hugh Pugh, o'r Brithdir; y rhai, er yn ieuangc, a bregethent Air y Bywyd gyda rhyw ddylanwad anarferol yn mhob cwm, ac ar bob bryn yn y cymydogaethau o gylch y lleoedd y magwyd hwynt. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, fel ei gelwid, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Sandemanaidd, yn gwneyd cryn dwrw yn y parthau yma y blynyddoedd hyny, ac yr oedd ef a'i ganlynwyr yn bur ddirmygus o'r ddau ŵr ieuangc, o herwydd eu poblogrwydd a'u hieuengctyd, mewn rhan, ond bu ymweliadau achlysurol y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yn foddion tra effeithiol i symud y rhagfarn oedd gan rai pobl hunain-ddoethion yn erbyn y gwyr ieuaingc, oblegid yr oedd efe yn wr mewn oed, ac yn ysgrythyrwr mawr, a dylanwad neillduol, ar y cyfan, yn cydfyned a'r hyn a ddywedai. Tŷ'nyllwyn, yn Nghwm-y-sylfaen oedd y tŷ cyntaf y cafodd y brodyr Pugh a Williams ganiatad i fyned iddo i bregethu, ond nid oedd yn y tŷ hwnw, nac mewn un tŷ arall yn y gymydogaeth, yr un tamaid i'w fwyta cyn dechreu nac wedi gorphen pregethu, am oroiau lawer, a thystiai Mr. Pugh yn nghlyw un hen chwaer a adroddai yr hanes i Mr. Jones, Abermaw, iddynt ddyoddef eisiau caled y troion cyntaf y daethent i'r gymydogaeth i bregethu, ond ni ddigalonasant er dim. Wedi i Mr. Williams fyned i'r athrofa, parhaodd Mr. Pugh i ddyfod, a chyn hir ennillodd deimlad ffafriol iddo, ac ennillodd eneidiau hefyd at yr Arglwydd. Cofrestrodd dŷ i bregethu ynddo, yr hwn a elwir Penbrynisaf. Saif y tŷ hwnw gerllaw y capel a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806. Y Cadben Rees Griffith, o'r Farchynys, taid "Y Gohebydd," Mr. Thomas Davies, Dolgellau; a Mr. C. Jones, o'r Sylfaen, ac amryw eraill, llai mewn gallu, ond nid mewn ffyddlondeb, fu yn brif offerynau i gael y capel, y rhai oll a ennillwyd i'r ffydd yn y gymydogaeth hon, ond a gyrchent i gymuno i'r Brithdir, ddeuddeng milldir o ffordd, nes y ffurfiwyd eglwys yn Llanelltyd. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, bu yma gryn ddiffyg am weinidogaeth gyson, ond gofalai y ffyddloniaid yn Rhydymain a'r Brithdir i ddyfod yma i gynorthwyo cynal cyfarfod gweddio. Yn mhen o gylch dwy flynedd, daeth Mr. Cadwaladr Jones i faes mawr, hir, Mr. Pugh, a llafuriodd yma gyda chysondeb a ffyddlondeb digyffelyb, pan gofiom eangder ei gylch. Yn mhen o gylch saith mlynedd wedi i Mr. Jones lafurio y maes o flaen Drwsynant, hyd ganol Dyffrynardudwy, sef gwlad o gylch pedair-milldir-ar-hugain o hyd, anogodd y cyfeillion yn y Cutiau i roddi galwad i Mr. Edward Davies, o'r Allt Tafolog, ger Dinasmawddwy, i ddyfod i'w bugeilio; ac yn mis Mai, 1818, ymsefydlodd Mr. Davies yn eu mysg, a bu yma yn bur lafurus a defnyddiol am bedair blynedd, nes y symudodd i Treflech, gerllaw Croesos wallt. Wedi hyny, am o gylch dwy flynedd, syrthiodd gofal gweinidogaethol y cwr yma o'r maes hir drachefn ar ysgwyddau Mr. Jones, ond yr oedd ganddo erbyn hyn lu o bregethwyr cynorthwyol. Enwir Robert Roberts, o'r Brithdir; Owen Owens, (Rhesycae wedi hyny); Richard Roberts, o'r Ganllwyd; Richard Herbert; Richard Jones, Llwyngwril; Evan Evans, yn awr o Langollen, ac eraill. Yn niwedd y flwyddyn 1826, rhoddodd yr eglwys yn y Cutiau, mewn cysylltiad a'r ychydig gyfeillion oedd yn yr Abermaw a'r Dyffryn, alwad i Mr. Evan Evans, Bwlchgwyn—am yr afon a'r lle—i fod yn weinidog. Yr oedd Mr. Evans yn yr Abermaw, er y flwyddyn flaenorol, yn cadw ysgol, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn y Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Rhoddwn yma gopi o'r alwad a dderbyniodd Mr. Evans:—

"CUTIAU, Tachwedd 16eg, 1826.

Mr. EVAN EVANS, Bwlchgwyn,

Yr ydym ni, aelodau yr eglwys sydd yn ymgyfarfod yn y Cutiau, yn sefyll mewn angen, fel y gwyddoch, am weinidog i flaenori yn ein plith, ac i dori i ni o fara y bywyd. Ar ol cael cyfleusdra i sylwi ar eich golygiadau chwi ar athrawiaethau yr efengyl—y doniau a pha rai yr ydych wedi eich cynysgaeddu, a'ch ymddygiad addas i'r gwirionedd; ac ar ol i ni gael cyfleusdra i ymgynghori â'n gilydd, gan hyderu hefyd ein bod wedi ymgynghori a'r Arglwydd! yr ydym yn calonog roddi i chwi alwad i lafurio yn ein plith, ac i gymeryd ein gofal yn yr Arglwydd, gan hyderu y bydd i chwi a ninau fod o lawer o gysur i'n gilydd. A chyda golwg ar eich cynhaliaeth, yr ydym yn addaw casglu yn ein plith ein hunain, yn y Cutiau yn unig, WYTH BUNT yn y flwyddyn. Gan obeithio y bydd i chwi gael eich tueddu i gydsynio a'n dymuniad, ydym, dros yr eglwys, yr hon sydd yn cynwys ugain o aelodau, eich brodyr a'ch cyfeillion yn rhwymau yr efengyl,

REES GRIFFITH,
LEWIS WILLIAMS,
RICHARD WILLIAMS."

Ar y 23ain o Fai, 1827, cynhaliwyd cyfarfod yn y Cutiau i'w neillduo i waith pwysig y weinidogaeth. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; gweddiwyd yr urdd—weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Jones, Bala; ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Morgan, Sammah; J. Ridge, Bala; a W. Roberts, Trawsfynydd.[1] Llafuriodd Mr. Evans yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1844, pan y symudodd i Faentwrog. Dilynwyd ef gan Mr. James Jones, Capelhelyg, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nglyn ag Abermaw a'r Dyffryn, yn fuan wedi ymadawiad Mr. Evans, ac a fu yma yn gymeradwy am bum'-mlynedd-ar-hugain, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol. Yn mis Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac yn yr Abermaw a'r Dyffryn, ac y mae yn parhau i ofalu am y tri lle. Ni bu yr achos yma yn gryf yn un adeg yn ei hanes; ond bu yma amryw o bobl ffyddlon a chrefyddol o bryd i bryd, y rhai nad oedd dim yn ormod ganddynt ei wneyd er mwyn achos yr Arglwydd. Nid ydym yn cael i un pregethwr godi yn yr eglwys hon, ond bu yma un hen bregethwr, yr hwn a dreuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn yr ardal yma, sef Robert Roberts. Adwaenid ef gynt fel Robert Roberts, Henblas, Brithdir. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn aelodau yn y Brithdir ar gorpholiad yr eglwys yno. Dechreuodd bregethu megis yn ddiarwybod iddo ei hun, trwy ddarllen penod mewn cyfarfodydd gweddïo, a dyweyd ychydig oddiwrthi, a bu felly am fwy na dwy flynedd cyn pregethu yn ffurfiol oddiar destyn. Pregethodd lawer trwy yr holl wlad o Rydymain i'r Dyffryn, ac o Drawsfynydd i Lwyngwril, ac yr oedd yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o feddwl grymus, ac yn nodedig am graffder ac ysbryd barn. Gwelodd dymhorau gwahanol ar grefydd yn ei oes, ond nid ar awelon yr ymddibynai; ond gwnai waith crefydd yn ol rheswm a chydwybod. Arferai adrodd gyda difyrwch, fod Mr. D. Davies, Abertawy, a John Bulk, yn pregethu ar ganol dydd yn y Brithdir mewn tŷ anedd, ar adeg o ddiwygiad grymus; ac yr oedd dawn swynol Mr. Davies wedi peri i'r rhan fwyaf anghofio eu hunain yn llwyr, ac yn mysg eraill yr oedd ei gyd-bregethwr John Bulk yn moli ac yn neidio gyda'r bobl mewn gorfoledd. Eisteddai Robert Roberts ar y bwrdd, a daeth John Bulk ato gan ddyweyd wrtho "Hawyr bach, wyt tithau ddim yn molianu fach'en?"

"Nac wyf fi," ebe Robert Roberts, "mae arnaf ddolur o'm coes." "Hawyr, dere fach'en, ti gei goes," atebai John Bulk. "Cha'i 'run gen ti," ebe Robert Roberts, "ac am hyny gad lonydd i mi." Addefai Robert Roberts iddo yntau deimlo rhyw gynyrfiadau yn yr adeg hono, er na buont yn ddigon grymus i beri iddo neidio. Cafodd oes hir i wasanaethu yr Arglwydd, a gwelodd ei blant a phlant ei blant yn rhodio yn llwybrau ei ffydd. Mae llawer o wyrion iddo yn Nghymru ac yn Liverpool yn aelodau defnyddiol yn eglwys Dduw, ac un o'i wyrion ydyw Mr. Edward Roberts, Cwmafon, Morganwg. Bu Robert Roberts farw Tachwedd 15fed, 1842, yn 85 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanaber.

Nodiadau[golygu]

  1. Dysgedydd, 1827. Tu dal. 217.