Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanfachreth
← Ganllwyd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Cutiau → |
LLANFACHRETH.
Saif Llanfachreth oddeutu pedair milldir i'r gogledd o Ddolgellau, yn nghanol mynyddoedd cribog a golygfeydd gwylltion a rhamantus. Yn ddiweddar mewn cydmariaeth y cychwynodd yr achos Annibynol yn yr ardal hon. Meddienid yr ardal gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Eglwys Sefydledig. Bu y Wesleyaid yn cychwyn achos mewn anedd-dŷ o'r enw Corsygarnedd, ychydig cyn i'r Annibynwyr ddechreu. Cynhalient Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddi yn lled gyson, ac ymwelid â hwy yn awr a phryd arall, gan weinidogion perthynol i'r cyfundeb yn nghylchdaith Dolgellau, ond byr fu arhosiad y Wesleyaid yn yr ardal. Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac y mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf. Yr oedd yn perthyn i'w hysgol y pryd hwnw amryw bersonau yn gogwyddo yn gryf at y golygiadau a adnabyddid fel y system newydd, y rhai a ddiystyrid yn ddiarbed gan awdurdodau yr ysgol. Cyfododd hen flaenor ar ei draed ar ddiwedd yr ysgol un Sabboth, a chyhoeddodd gydag awdurdod, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ymdrin a hi yn eu hysgol hwy, ond a gytunai yn mhob peth a'r golygiadau a gyhoeddid o'r pulpud. Ofer fu y gorchymyn, ac yn hytrach na diffodd y golygiadau, enynwyd hwynt yn fwy. Buasai atal eu lledaeniad mor anhawdd a throi y Mawddach yn ei hol. Ni bu y gwaharddiad yn ddim amgen na chawod o wlaw taranau i chwyddo'r afon dros ei cheulanau. Enciliodd pleidwyr y system newydd o'r ysgol, ac aeth amryw o honynt i Ysgol Sabbothol y Wesleyaid, yr hon a gynhelid ar y pryd yn Nghorsygarnedd, a'r gweddill i'r Ganllwyd.
Y cyntaf i ymuno a'r Ganllwyd o ardal Llanfachreth oedd Edward Pugh, crydd, wrth ei gelfyddyd. Efe oedd y cyntaf i fyned i'r gyfeillach yno. Dilynwyd ef gan Hugh Pugh, ei frawd, yr hwn oedd yn byw mewn lle o'r enw Caetanglwys. Dilynwyd y ddau gan J. Morris, Rice Price, &c. Derbyniwyd pedwar o honynt gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn y Ganllwyd. Buont yn cerdded o Lanfachreth yno—pellder o dair milldir o ffordd, am rhyw gymaint o amser. Yn y flwyddyn 1838, penderfynasant gynal moddion yn Caetanglwys, cartref yr H. Pugh y cyfeiriwyd ato yn barod. Cymerasant lofft fechan yno ar ardreth, a gwnaethant bulpud, ac ychydig feinciau, er mwyn gwneyd y lle mor gyfleus ag yr oedd modd. Y cyntaf o'r Annibynwyr i bregethu yn y lle hwn oedd Mr. Davies, Trawsfynydd. Dilynwyd ef gan amryw o'i frodyr, ac yn eu plith, daeth yr hen efengylydd gonest o Lwyngwril yno un noson. Fel yr oedd yn pregethu, ac yn cynesu yn ei fater, digwyddodd iddo daro y ganwyll oddiar ymyl y pulpud nes y syrthiodd, a chan mai hono oedd yr unig ganwyll oedd ganddynt yn yr ystafell, nid oedd gan y pregethwr ddim ond gyru yn mlaen yn y tywyllwch, neu dori i fyny. Ond yr oedd gormod o hwyliau ar lestr yr hen frawd i sefyll mewn mynyd, ac meddai "oddth ydi hi wedi t'wddthu o'dd ddaiadd fddodydd bach, gwnawn tddo oddth cawn ni oddeuni o'dd nefoedd." Cafodd lonyddwch a hwylusdod i orphen ei bregeth, a mynych y diolchai iddynt am eu hymddygiad gweddus yn ngwyneb yr anffawd. Yn mhen oddeutu blwyddyn wedi iddynt ddechreu yn Caetanglwys, cawsant rybudd i ymadael a'r llofft. Yr oedd hyn yn gryn siomedigaeth, a pharodd y rhybudd hwn i rai ddigaloni am ychydig, ond gwnaeth eraill yn fwy selog a phenderfynol. Y Sabboth olaf yn yr hen lofft a ddaeth, ac nid oedd gwawr gobaith yn ymdori o unman, fod lle arall yn ymagor iddynt. Modd bynag, cyhoeddodd Edward Pugh y byddai ysgol yn ei dŷ ef yn Llanfachreth y Sabboth dilynol, ac y byddai croesaw calon i bawb ddewsai ddyfod yno. Felly y bu, daethant yn nghyd yn lled gryno, ac ymddangosent yn llawer siriolach y Sabboth hwn na'r diweddaf. Yn mhen ychydig amser wedi iddynt ail ddechreu yn nhŷ Edward Pugh, penderfynasant gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol reolaidd. Daeth Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. H. James, o'r Brithdir, i'w ffurfio yn eglwys. Nid ydys yn gwybod yn sicr faint o gymundebau a gafwyd yn nhŷ E. Pugh, ond fe dderbyniwyd rhai yn aelodau yno, a buwyd yn cynal moddion yno am oddeutu pymtheg mis. Cawsant eu bendithio a diwygiad lled rymus yn y cyfnod yma, ac arwyddion amlwg fod y nefoedd yn cymeradwyo eu gwasanaeth.
Wrth weled fod yr eglwys yn cynyddu, a bod y tŷ yn fychan ac anghyfleus, dechreuasant edrych am ryw gornel i godi capel. Yr oedd cael hyn yn bur anhawdd, trwy fod tirfeddianwyr y lle mor selog dros yr Eglwys Wladol, ac yn dra gelyniaethus i Ymneillduaeth. Ond trwy garedigrwydd y boneddwr haelfrydig, Mr. R. Pugh, Helygog, (tad yr un presenol,) llwyddasant i gael lle ar dir Ffrwdyrhebog, am yr ardreth resymol o 7s. 6c. y flwyddyn. Wedi sicrhau tir, yr oedd yn eithaf digalon i feddwl dechreu ar y gwaith, gan nad oeddynt ond ychydig weithwyr yn ymladd a'r byd i geisio cynal eu hunain a'u teuluoedd. Addawai rhai o gyfeillion y Ganllwyd eu cynorthwyo yn eu hymdrech, ond oblegid rhyw ddylanwadau o eiddo rhywun neu rywrai, ychydig o gefnogaeth chwaethach cymorth o gafwyd oddiyno. Yn y cyfamser daeth Samuel Williams, Hendregyfeilliad, (Dolgellau yn bresenol,) i aros i ardal Llanfachreth, yr hwn sydd yn Annibynwr selog a phenderfynol, a bu o help mawr i roddi ail gychwyn ar y gwaith. Apeliasant at eglwys Dolgellau am gynorthwy a chymorth i godi y capel. Cawsant hyny. Dechreuasant arno ar unwaith, ac fe'i hagorwyd yn y flwyddyn 1840. Maint y capel yw saith lath wrth wyth. Maint y tir a gafwyd ar y dechreu oedd deuddeg llath wrth un-ar-bymtheg. Costiodd yr adeilad oddeutu 96p. Yn ddiweddarach fe brynwyd y tir gafwyd i ddechreu ar brydles, ac fe ychwanegwyd ato ddigon i wneyd mynwent fechan yn ymyl y capel. Mae dau neu dri wedi eu claddu ynddi yn barod. Mae cyfeillion Siloh, Llanfachreth, (oblegid dyna enw'r capel,) wedi cael Mr. R. Pugh, Helygog, yn foneddwr parod i roddi iddynt y tir at wasanaeth yr enwad, a hyny ar y telerau mwyaf rhesymol.[1] Costiodd adgyweirio y capel tua 10p., ond y mae yn dda genym allu dyweyd nad oes arno ddim dyled o gwbl. Wedi cael capel newydd, trodd y cyfeillion yn Llanfachreth eu hwynebau am weinidogaeth i gyfeiriad Rhydymain a'r Brithdir, a'r cyntaf i gymeryd gofal yr eglwys fel ei gweinidog fu Mr. Hugh James. Llafuriodd yn galed gyda graddau helaeth o lwyddiant yn eu plith. Ar ei ol ef cymerwyd ei gofal gan Mr. John Davies, yn nglyn a Rhydymain yn unig; byr fu ei arosiad yn eu mysg, ond bu yn ddiwyd ac ymdrechgar yn ystod yr amser hwnw. Ymadawodd a'r Annibynwyr ac ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Y trydydd gweinidog i gymeryd gofal yr eglwys yma fu Mr. Robert Ellis, Brithdir. Gan fod ganddo i ofalu am Rydymain, Brithdir, Tabor, Ganllwyd, a Llanfachreth, ychydig o ffrwyth ei lafur a allasai y gangen hon ei gael, ond bu yn hynod ddedwydd a llwyddianus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1869, anogodd hwy i ymuno a Llanelltyd a'r Ganllwyd, i roddi galwad i ddyn ieuangc i gymeryd eu gofal. Gwnaethant ei gyngor, a rhoddasant wahoddiad unfrydol i Mr. Robert Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala. Atebodd yntau hwy yn gadarnhaol, ac ymsefydlodd yn eu plith Ionawr, 1870. Mae cysylltiad Mr. Thomas a'r eglwysi yn bob peth a ellid ei ddymuno, ac yr ydym yn hyderu yr erys felly am lawer o flynyddoedd. Mae golwg siriol ar yr achos. Llawer fu yn darogan, os nad yn dymuno ei angau, ond byw ydyw—golwg byw sydd arno—a chan mai achos y "Duw byw" ydyw, byw a fydd. Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond y mae yn perthyn i'r eglwys un pregethwr cynorthwyol, sef Griffith Price. Dechreuodd bregethu yn Jerusalem, Trawsfynydd, er mai brodor oddiyma ydyw, ac y mae yn parhau gyda'r gwaith. Gobeithiwn fod i'r dyn hynaws a thangnefeddus hwn lawer o flynyddoedd etto i wasanaethu ei Arglwydd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llythyr R. Thomas, Llanelltyd.