Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Brithdir Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Islaw'rdref
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dolgellau
ar Wicipedia




DOLGELLAU.

Yr oedd Dolgellau yn un o'r gorsafoedd yn y rhai y pregethai yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn ei ymweliadau tri-misol, ac ymddengys fod ganddo yma gynnulleidfa fechan wedi ei chasglu, ac adnabyddid y lle y cyfarfyddent, fel y "Ty cyfarfod." Pa beth a ddaeth o'r "ychydig enwau" ar ol marwolaeth Mr. Owen, nis gallasem wybod, er gwneyd pob ymchwil, ond y mae yn eglur i'r Annibynwyr roddi i fyny bregethu yn y dref am gan' mlynedd. Pregethid llawer gan eu gweinidogion yn amgylchoedd y dref, a dichon i ambell un yn achlysurol bregethu yn y dref; ond ni wnaed un cynyg i ail gychwyn yr achos yma, hyd nes yr ymsefydlodd Mr. Hugh Pugh yn weinidog yn y Brithdir. Yr oedd y gwr ieuangc llafurus hwn mor llawn o ysbryd ei waith, fel y torai allan ar y ddeheu ar aswy i bregethu yr efengyl. Dechreuodd bregethu a chadw cymundeb yn Llanelltyd, cyn dechreu yn Nolgellau, ac elai amryw o'r dref yno i wrando, a derbyniwyd rhai o honynt yn aelodau; ond wedi corpholi yr eglwys yn y dref, a chael capel cyfleus, deuai yr aelodau o Lanelltyd i Ddolgellau i gymundeb, ac ystyrient eu hunain yn rhan o'r eglwys yma. Dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn Mhen-bryn-glas, Dolgellau, a chyn hir "derbyniwyd yn y Brithdir o gymydogaeth Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evans, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellidwylan, a'i wraig; Ann Jones, Pantypiod; William Vincent, Morris Dafydd (Meurig Ebrill), Evan Owen, Gyllestra; Catherine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis, John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo am 500p., a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid, hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymwys iddynt i addoli ynddo. Unwaith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull Ysgrythyrol o ymarfer yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dybenion sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion, ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.[1]" Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd gan Mr. Pugh yn Nolgellau. Tynodd doniau ennillgar ac ysbryd gwrol Mr. Pugh sylw y dref, a deuai cynnulleidfa dda i'w wrando, a daeth amryw o'r gwrandawyr i geisio yr Arglwydd gyda'i bobl. Ymroddodd Mr. Pugh i dalu y ddyled oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniad. Bu yn Llundain yn casglu, ond ni bu mor lwyddianus ag y disgwyliai. Ychydig uwchlaw 60p. a gasglodd. Ond yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, tara- wyd ef yn glaf gan y clefyd coch, a bu farw ar fyr rybudd, Hydref 28ain, 1809, er mawr alar i'r eglwysi bychain oedd dan ei ofal a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

Yr oedd sefyllfa yr achos yma ar y pryd, y fath fel y teimlid fod angen gweinidog yn ddioed. Yr oedd y wlad eang o Ddrwsynant i'r Abermaw, ac o Fwlchyroerddrws i'r Ganllwyd, darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd, a deuddeg o led, heb neb i gymeryd gofal y praidd bychain oedd yn wasgaredig ar hyd-ddo. Heblaw hyny, yr oedd yr holl gapeli trwy y cylch, ond Rhydymain, dan faich trwm o ddyled. Yr oedd 230p. ar gapel y Brithdir a'r ty newydd a adeiladwyd wrtho i Mr. Pugh, a'i briod. Yr oedd 20p. ar Lanelltyd; 160p. yn aros ar gapel y Cutiau, ac yn agos i 500p. ar gapel Dolgellau. Cawsant gydymdeimlad a chynorthwy effeithiol gan amryw weinidogion. Aeth Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, i'r Deheudir, a chasglodd dros 100p. Casglodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, 20p. yn yr Amwythig, ac aeth Mr. W. Williams, Wern, i amryw leoedd yn y Gogledd, a chasglodd 40p., a bu yr help amserol yma yn ymwared mawr i'r achos.[2] Ond er yr holl gynorthwy a roddid iddynt, teimlai yr eglwysi amddifadrwydd mawr o eisiau gweinidog, ond teimlant ar yr un pryd, mai nid gorchwyl hawdd oedd cael olynydd teilwng o Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i Mr. David Morgan, Talybont, (Machynlleth, wedi hyny); ond gogwyddai eraill yn ffafr rhoddi galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr ar y pryd, yn athrofa Gwrecsam. Daeth yr eglwysi i benderfyniad i roddi y ddau ger bron, ac i'r lleiafrif roddi i fyny i'r mwyafrif. Dywedir mai etholiad tỳn a fu, ac mai un yn ychwaneg gafwyd dros Mr. Jones, na thros Mr. Morgan, ac mai un rheswm mawr dros Mr. Jones ydoedd, fod ei lais yn debyg iawn i eiddo Mr. Pugh. Ni bu un gronyn o ddrwgdeimlad rhwng Mr. Morgan a Mr. Jones, o herwydd yr amgylchiad, ac yr oedd y rhai a bleidiasant dros Mr. Morgan pan welsant eu bod wedi colli, mor selog a neb dros Mr. Jones. Derbyniodd yr alwad cyn diwedd haf 1810, ond cafodd gan yr eglwysi foddloni iddo aros yn yr athrofa hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Brithdir oedd eisteddle y weinidogaeth yn nyddiau Mr. Pugh, ond ar sefydliad Mr. Jones, symudwyd eisteddle y weinidogaeth i Ddolgellau. Yma yn awr yr oedd yr eglwys luosocaf, er nad oedd ond pedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o rifedi, a hyny yn cynwys yr aelodau a ddeuai o Lanelltyd, Ganllwyd, ac Islaw'rdre. Nid oedd ond pedwar-ar-ddeg-ar-hugain yn y Brithdir; tri-ar-hugain yn Rhydymain, a dau-ar-bymtheg yn y Cutiau, yn gwneyd cyfanswm aelodau yr esgobaeth ar ddyfodiad Mr. Jones yma yn nechreu y flwyddyn 1811, yn gant-a-thri-ar-ddeg. Urddwyd ef yma Medi 23ain, 1811, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri G. Lewis, Llanuwchllyn; B. Jones, Pwllheli; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffith, Machynlleth; W. Hughes, Dinas; W. Jones, Trawsfynydd; J. Lewis, Bala; D. Roberts, Llanfyllin; J. Davies, Aberhafesp; W. Williams, Wern, a J. Powell, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Jones pan urddwyd ef, yn ddyn ieuangc hoyw, gwisgi, wyth-ar-hugain oed, ac er ei fod yn araf a phwyllog, yr oedd yn llawn o ysbryd ei waith. Cynyddodd yr achos yn y dref yn fawr trwy ei lafur, a gwnaed llawer o adgyweiriadau ar y capel, a thalwyd rhan fawr o'r ddyled oedd arno. Bu Mr. Jones yn y De a'r Gogledd yn casglu, ac yn Liverpool, a'r Amwythig, a Llundain. Casglodd yn Llundain yn unig 132p. 4s. 2c. Yn mhen blynyddoedd gwelwyd yn angenrheidiol adnewyddu a helaethu y capel, ac aeth y draul yn nglyn a hyny yn 448p. Daeth yr achos yma yn gryf a dylanwadol—Ysgol Sabbothol luosog a gweithgar, ac yr oedd nifer o ddynion yn yr eglwys, oeddynt yn nodedig ar gyfrif eu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol. Graddol oedd ei chynydd, ond yr oedd yn sicr; ac am y rhai a ychwanegid at yr eglwys, yr oeddynt yn gyffredin yn gyfryw ag a allent roddi rheswm am y gobaith oedd ganddynt. Cafodd Mr. Jones oes hir i'w dysgu, ac yr oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i ddysgu y rhai oedd dan ei ofal yn mhyngciau athrawiaethol yr efengyl, yn gystal ag yn egwyddorion, trefn, a llywodraeth eglwysig. Cyfrifid yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones, yn un o'r rhai mwyaf goleuedig a deallgar, ac yr oedd yn nodedig am ei heddychlonrwydd.

Wedi llafurio yn ddyfal yn y weinidogaeth am chwe'-blynedd-a-deugain, dechreuodd deimlo fod cymdeithion henaint gydag ef, a meddyliodd y buasai cystal iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, fel y gallai yr eglwys yn y dref gael rhyw un ieuengach i fwrw golwg trosti. Yn nechreu y flwyddyn 1858, cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu; ac urddwyd ef Gorphenaf 21ain a'r 22ain, o'r flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Williams, Castellnewydd; J. M. Davies, Maescwmwr; J. Jones, Machynlleth; W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees, Liverpool. Rhoddodd hen weinidog adroddiad effeithiol o'i adolygiad ar saith-mlynedd-a-deugain o weinidogaeth yn y lle, ac ymddiosgai o'i ofalon gyda'r dymuniadau goreu i'w olynydd. Bu Mr. Davies yn weithgar a defnyddiol am y tymor byr y bu yma. Bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad grymus, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, yn enwedig o bobl ieuaingc. Nid arosodd Mr. Davies yma ond ychydig gyda phedair blynedd, canys symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Saesonaeg yn Painswick, swydd Gaerloyw. Bu yr eglwys yma dros rai blynyddau heb weinidog, ond daliai yr achos ei dir er pob peth, a daethpwyd i benderfyniad i adeiladu capel newydd mewn man mwy cyfleus o'r dref, a chodwyd capel rhagorol, yr hwn yn nghyd a'r tir ar yr hwn y saif, a gostiodd 2800p. Agorwyd ef Mehefin 4ydd a'r 5ed, 1868. Derbyniodd Mr. Evan A. Jones, Llangadog, alwad gan yr eglwys yma yn Ionawr, 1868, ond oblegid cystudd ag angau yn ei deulu, bu am naw mis heb ei hateb yn gadarnhaol, ond o'r diwedd cydsyniodd a'r gwahoddiad, a symudodd yma yn Ionawr, 1869, ac y mae er ei sefydliad yn hapus a defnyddiol yma. Mae dyled y capel newydd trwy haelioni y cyfeillion yn y lle, a'r swm a gafwyd am yr hen gapel, wedi ei dynu i lawr i 700p., ac yn ol fel yr ymddengys pethau yn awr, nid â y pedair blynedd nesaf heibio heb weled y ddyled oll wedi ei thalu. Mae yr achos yma ar y cyfan mewn gwedd iachusol, a holl gylchoedd cyhoeddus crefydd, o leiaf, yn cael eu llenwi yn lled ddifwlch. Cafwyd yma dipyn o drafferth yn nglyn a gwerthiad yr hen gapel, oblegid fod yr hen weithred yn gwahardd ei werthu i un pwrpas, ond i fod yn gapel i'r Annibynwyr, a'r rhai hyny yn fedyddwyr babanod. Nid yn unig gofynai fod yr arian a geid am dano i fyned i'r un amcan ag oedd gan y rhai a'u hadeiladodd, yr hyn a gyfrifa llawer yn deg a rhesymol; ond nid oedd yn ol y weithred i gael ei werthu i ddim ond i fod yn gapel, nac yn gapel i neb ond yr Annibynwyr. Trwy apelio at y Charity Commissioners, cafwyd cenad i'w werthu, ar yr amod fod yr arian a geid am dano i fyned i dalu am y capel newydd, ac yr oedd pawb yn foddlawn i hyny, oblegid er mwyn cael yr arian i dalu am y capel newydd y gwerthid ef. Nid ystyrid yn gyfiawn i'r arian a geid am dano i fyned at ddim ond rhywbeth cydnaws a golygiadau y rhai a aeth i'r draul i'w adeiladu a thalu am dano.

Mae yma lawer o hen bobl ddeallgar a chrefyddol wedi bod yn nglyn a'r achos. Evan James, y cylchwr, oedd yn hen grefyddwr nodedig. Cyrifid ef yn gristion tawel, didwyll, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Meurig Ebrill, oedd un o aelodau cyntaf yr eglwys yma, ac a fu fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn deallus, ac yn fardd rhagorol. Henry Miles, oedd ŵr da a ffyddlon, a gair da iddo gan y rhai a'i hadwaenai oreu. Lewis Pugh, a fu yma am flynyddau lawer yn gefn mawr i'r achos, ac yr oedd mewn amgylchiadau bydol y gallasai wneyd llawer drosto. Bu ef a Mrs. Pugh yn groesawgar a llettygar i'r achos am flynyddau lawer. Mrs. Anwyl hefyd, oedd un o'r gwragedd y cofir am dani gyda hiraeth gan y rhai a ymwelent a'r lle gynt. Nid oes o'r tô cyntaf yn aros yma ond Evan Jones, Tŷ'rcapel, ac y mae yntau yn llesg a methiedig; ond y mae hiliogaeth rhai o'r rhai fu yn wyr enwog yma gynt, yn aros etto, ac yn dilyn llwybrau eu tadau.

Codwyd amryw bregethwyr yn yr eglwys hon, ac o'r cyfryw yr ydym yn sicr o'r rhai canlynol:—

Owen Owens. Urddwyd ef yn Rhesycae, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes yno dan ein sylw.

Evan Evans. Urddwyd ef yn Abermaw, ac y mae yn awr yn Llangollen. Mae ei enw yn ddigon hysbys yn eglwysi yr enwad yn Nghymru.

Thomas Davies. Nid fel pregethwr yn gymaint yr hynododd ei hun, ag fel apostol yr Ysgol Sabbothol. Ganwyd ef Ebrill 15fed, 1777, yn Green, Castellmoch, plwyf Llanrhaiadr-yn-mochnant. Treuliodd lawer o flynyddoedd boreu ei oes yn Lloegr, a chan ei fod yn meddu athrylith gelfyddydol gref yn naturiol, rhoddodd gweled tipyn o'r byd fantais iddi i ymddadblygu. Gwnaeth a'i law ei hun rai peirianau tra chywrain, a daeth i Ddolgellau i ddechreu, gyda bwriad o osod un o'r dyfeision cywrain mewn ymarferiad, ond aflwyddianus fu yn ei gynygion, a bu raid iddo dalu costau y methiant. Ond pan yma y dygwyd ef i adnabod ei gyflwr fel pechadur, a hyny trwy weinidogaeth Mr. Pugh, o'r Brithdir, a derbyniwyd ef yn aelod o'r gangen a ymgyfarfyddai yn ol fel y byddai cyfleustra yn y Cutiau a Llanelltyd. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang ac o feddwl grymus, a chyflwynodd agos ei holl lafur i wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Credai ef y gallesid gwneyd y sefydliad gwerthfawr hwnw yn llawer mwy effeithiol er cyrhaedd yr amcanion mewn golwg, a gwnaeth ei oreu yn mhob ffordd a farnai ef yn gyfaddas er cael hyny oddiamgylch. Cyhoeddodd Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul. Argraffodd werth 100p. o'r llyfr, a hysbysodd y buasai y cwbl a geid oddiwrtho yn cael ei roddi i drysorfa y Gymdeithas genhadol. Aeth ar daith trwy holl Gymru i gymell ei lyfr, ac i roddi engreifftiau o'r dull a gymeradwyai efe i sylw yr ysgolion. Gosodai bawb i ddarllen o atalnod i atalnod, a gwnai hyny yn y teuluoedd lle y llettyai, ac yn yr Ysgolion Sabbothol. Effeithiodd ei ymweliad er daioni mewn llawer o fanau. Cauai ei lygaid, wrth wrando y dosbarthiadau yn darllen, ond yr oedd ei glustiau yn agored fel na ddiangai yr un camgymeriad a wneid heb ei sylw, pa un bynag a'i mewn gair, acen, neu bwyslais y byddai. "Yr oedd ei fryd yn fawr i gael cyhoeddiad bychan at wasanaeth yr Ysgol Sul yn arbenig. Gwnaeth unwaith weithred yn cyflwyno 800p. i ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn Nolgellau fel ymddiriedolwyr, er dwyn allan gyhoeddiad o'r natur yma, a chyhoeddi llyfrau eraill perthynol i'r Ysgol Sul. Teimlai braidd yn chwerw tuag atynt, yn enwedig tuag at un person, cisiau na buasai y peth yn cael ei ddwyn oddiamgylch, a chyhoeddiad yn cael ei gychwyn. Yr esboniad tecaf ag y gallwn ei roi ar yr achos na chychwynwyd cyhoeddiad oedd hyn:—ni ddarfu iddo ef drosglwyddo yr arian drosodd i'w dwylaw fel ymddiriedolwyr. Yn awr, yr oedd ef yn disgwyl iddynt hwy gychwyn cyhoeddiad, a hwythau yn disgwyl iddo yntau gychwyn trwy roi yr arian yn eu gallu hwy, a thrwy fod y naill yn disgwyl wrth y llall, aeth y ddwy flynedd o amser oedd wedi ei roi er cychwyn yr anturiaeth heibio, ac aeth y cytundeb yn ofer. Ffurf arall ar yr un bwriad, oedd yr arian a roddwyd ganddo er cychwyn yr Annibynwr. Rhoddwyd ganddo 500p. at yr amcan hwnw, ar yr amod fod yr Ysgol Sul yn cael rhan o'r cyhoeddiad yn wastadol at ei gwasanaeth. Rhoddwyd 500p. at y dyben hyny, a hen wasg, yr hon a gyfrifai efe yn werth 60p., yr ydym yn meddwl. Mae 400p. o'r arian hyny ar dir, ac y mae eu llog at wasanaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr, fel y maent yn awr yn unedig, ac y mae yr elw oddiwrth y cyhoeddiad i gael ei gyflwyno i gynnorthwyo hen weinidogion a phregethwyr analluog. Collwyd y lleill yn ngwahanol reverses anturiaeth yr Annibynwr."[3] Yr oedd ei holl galon o blaid llwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a'r cwbl a ddymunai fod ar gareg i fedd ydoedd: "Yma claddwyd Thomas Davies, Dolgellau, awdwr Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul;" a gwnaethpwyd yn ol ei gais. Rhoddodd symiau helaeth rai troion at y Gymdeithas Genhadol, a thystiai y rhai a'i hadwaenent oreu, fod llwyddiant teyrnas y Gwaredwr yn agos at ei galon. Bu farw yn Gorphenaf, 1865, yn 88 mlwydd oed, ac er na bu iddo na gwraig na phlentyn, etto disgyna ei enw yn barchus i'r oesau a ddel fel apostol yr Ysgol Sabbothol.

Evan Thomas. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano ef yn nglyn a hanes Machynlleth, lle yr ydoedd pan y bu farw.

Rowland Hughes. Mae efe yn aros yn bregethwr parchus a defnyddiol yn yr eglwys yn Nolgellau.

William Meirion Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Blaenycoed, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn aros etto.

Isaac Jones. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r olaf a enwyd. Yr oedd yn wr ieuangc talentog, a phe cawsai fyw yr oedd yn debyg o wneyd gweinidog defnyddiol. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a gwywodd fel blodeuyn cyn cyflawn ymagor. Yr oedd yn fab i Evan Jones, un o aelod—au hynaf yr eglwys, ac yn frawd i Ieuan Ionawr.

Evan Edmunds. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi, ac y mae yno etto.

Robert P. Jones. Derbyniodd ei addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Llanegryn, lle y mae hyd yn bresenol.

Lewis Humphreys. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef i fyned allan i'r Wladychfa Gymreig yn Patagonia. Dychwelodd oddiyno, ac y mae yn awr yn weinidog yn Cwmtwrch, Morganwg.

William Griffith. Er mai nid yma y dechreuodd bregethu, etto, gan mai yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, yma y mae yn briodol i ni wneyd crybwylliad am dano. Ganwyd ef yn y Mynhadogisaf, Dolddelen, ac yr oedd ei rieni William a Lowry Griffith, yn mysg yr Annibynwyr hynaf yn y plwyf hwnw. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc. Aeth i Lanrwst i ddysgu argraffu, ac yno y dechreuodd bregethu. Symudodd i Ddolgellau yn nechreu y flwyddyn 1843, a bu yma hyd ei farwolaeth yn Hydref, 1864. Claddwyd ef yn mynwent Tabor. Pregethwr cynnorthwyol yn ngwir ystyr y gair ydoedd, ac ennillodd trwy ei ffyddlondeb barch a chydymdeimlad. Dyoddefodd gystudd hir, ac yr oedd ei amgylchiadau yn ddigon cyfyng, ond cafodd Dduw a dynion yn dirion iddo, a bu farw mewn tangnefedd.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

Pedwar gweinidog fu i'r eglwys hon er cychwyniad yr achos. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at Mr. Pugh, yn nglyn a'r Brithdir, ac y mae Dr. Davies, a Mr. Jones, y gweinidog presenol, etto yn aros, a hyderwn fod dyddiau lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt ill dau. Nid oes genym gan hyny ond un gweinidog i wneyd cofnodiad o hono yn nglyn a'r eglwys hon.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd
ar Wicipedia

CADWALADR JONES. Ganwyd ef yn Deildreuchaf, plwyf Llanuwchllyn, yn mis Mai, 1783. Yr oedd ei rieni John a Dorothy Cadwaladr, er nad yn proffesu crefydd, yn bobl barchus a chyfrifol yn eu hardal, ac ni bu iddynt un plentyn ond y bachgen hwn. Nis gwyddom pa fodd y gogwyddodd ei feddwl i ymofyn am grefydd, ond gwyddom i Cadwaladr Jones gael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel gan Dr. Lewis, yn mis Mai, 1803, pan yn ugain mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1806, wedi bod yn aelod am fwy na thair blynedd. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam yn mis Tachwedd y flwyddyn hono, a threuliodd yno y rhan fwyaf o'r pedair blynedd dilynol. Nid oedd yno gyda'r un cysondeb a'r myfyrwyr yn gyffredinol, oblegid ar ei draul ei hun yr oedd, a byddai yn gorfod aros adref y rhan fwyaf o bob haf i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn. Yn y flwyddyn 1810, derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Mr. Pugh o'r Brithdir, yn ei faes eang, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mai 23ain, 1811. Traddodwyd siars bwysig iddo gan ei weinidog, Dr. Lewis; a chafodd Mr. Jones oes hir i gyflawni ei weinidogaeth. Llafuriodd trwy yr holl gylch am saith mlynedd, hyd y flwyddyn 1818, y rhoddodd i fyny ofal y Cutiau a Llanelltyd. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1839, barnodd yn briodol roddi i fyny ofal y Brithdir a Rhydymain. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1858, ymddeolodd o bwys gofal gweinidogaethol yr eglwysi yn Nolgellau ac Islaw'rdre, wedi saith-mlynedd-a-deugain o lafur dibaid yn eu mysg, ond parhaodd am yn agos ddeng mlynedd yn hwy i gydlafurio a'i hen gyfaill Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn Llanelltyd, ac a'i gyfaill hoff Mr. R. Ellis, Brithdir, yn Tabor, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur, ac y gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 oed, wedi bod 56 mlynedd yn y weinidogaeth, ac wedi pregethu yr efengyl am 62 mlynedd, ac am 65 mlynedd yn aelod yn eglwys Dduw. Mae yn rhaid ddarfod i'r fath un, a gafodd y fath oes hir, adael dylanwad annileadwy ar yr holl gylch yn yr hwn y llafuriai. Mae cofiant helaeth iddo wedi ei gyhoeddi gan Mr. R. Thomas, Bangor, gyda chynorthwy nifer o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn yr hwn y mae y tegwch mwyaf wedi ei wneyd a'i gymeriad. Nis gallwn ni yma ond prin gyfeirio at y llinellau amlycaf yn ei nodwedd fel dyn cyhoeddus, a chyfeirio ein darllenwyr a fyno weled YR HEN OLYGYDD yn ei holl neillduolion at y cofiant rhagorol hwnw, o'r hwn yr ydym yn gwneyd rhai difyniadau.

Yr oedd arafwch Mr. Jones "yn hysbys i bob dyn." Hynodid ef gan "ysbryd, nerth, a chariad, a phwyll." Os digwyddai fod camddealldwriaeth rhwng rhai o'r aelodau, neu achos dysgyblaeth yn yr eglwys, cymerai y fath bwyll gyda'r gorchwyl, fel yr oedd yn ddigon eglur ei fod yn penderfynu ei gwblhau cyn ei roddi i fyny. Bugail tyner a gofalus ydoedd wrth ymgeleddu y briwiedig o ysbryd a'r drylliedig o galon, ond mewn achosion a fyddai yn galw am farn, eisteddai fel barnwr hunanfeddianol gan bwyso y tystiolaethau a ddygid ger ei fron, ac nid oedd na chydnabyddiaeth na chyfeillgarwch a barai iddo gilio oddiwrth yr hyn a ymddangosai iddo yn deg a chyfiawn. Athraw doeth yn nghanol ei ddysgyblion ydoedd yn mysg pobl ei ofal. Dysgai iddynt "ffordd Duw" gyda manylwch, a thuag at y rhai oeddynt yn hwyrfrydig i ddysgu, yr oedd yn addfwyn fel mamaeth yn meithrin ei phlant. Fel duwinydd, yr oedd yn meddu golygiadau cyson a chlir ar drefn yr efengyl. Nid oedd cylch ei ddarlleniad yn eang, ond am yr hyn a ddarllenai, darllenai hwy yn drwyadl, a mynai ddeall yr hyn a ddarllenai. "Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl, a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb a'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn." Yn y tymor hir y bu yn eistedd wrth lyw y Dysgedydd, cafodd lawer cyfle i ddangos mor addfed oedd ei feddwl ar byngciau duwinyddol. "Y 'system newydd' fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tyn a phenderfynol dros ei bwngc, mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley oedd un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegwch iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl, fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sel dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion.' Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna y mae yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad 'Dadl Etholedigaeth' yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith. Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredant yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fydd ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny." Fel pregethwr, "yr oedd ganddo ei safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn, nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygaid; ni chanfyddid dychrynfeydd yn ei wedd; ac ni chlywid swn y daran yn ei lais; ac ni chlywid gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad oedd ei weinidogaeth ef—Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf,' ydoedd. Gwelir ambell i afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y môr, chwyrna megis yn ddigofus ar y creigiau a safant ar ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfadlas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd. Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid 'newyddian yn y ffydd', oedd y pregethwr; nid un wedi brysgipio golygiadau duwinyddol pobl eraill, a rhedeg â hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,—ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd yr Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw."

Ond yr oedd Mr. Jones fel Golygydd yn llanw cylch neillduol, ac yn y cylch hwnw cyrhaeddodd gyhoeddusrwydd na chyrhaeddasai oni buasai hyny. Yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, a'r ymosodiadau a wneid ar weinid—ogion yr Annibynwyr, yn peri iddynt deimlo fod gwir angen arnynt am ryw gyfrwng nid yn unig i amddiffyn eu hunain rhag y cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn, ond hefyd i addysgu a goleuo yr eglwysi yn y gwirionedd sydd yn ol duwioldeb. Ymosodid arnynt gan yr Arminiaid ar y naill law, a chan yr uchel-Galfiniaid ar y llaw arall; ac nid oedd ganddynt yr un cyhoeddiad i'w gylchdaenu yn mysg pobl eu gofal trwy yr hwn y gallasent amddiffyn yr hyn a gredid ganddynt fel gwirionedd, yn gystal a throi yn ol gamgyhuddiadau eu gwrthwynebwyr. Cydymroddodd deuddeg o weinidogion i gychwyn cyhoeddiad misol, pris chwe'cheiniog yn y mis, dan yr enw Dysgedydd Crefyddol, a chytunasant i fod yn gydgyfrifol am ba golled arianol bynag a allasai fod yn nglyn a'i ddygiad allan, a dewiswyd Mr. Jones, Dolgellau i fod yn Olygydd, ac yn sicr efe o honynt oll, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf i'w osod ar hyn o orchwyl. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn mis Tachwedd, 1821; a bu Mr. Jones wrth lyw yr hen gyhoeddiad clodwiw am un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain. Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd yn y gadair olygyddol am dymor mor hir. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi ar y cyfan foddlonrwydd cyffredinol. Pe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel Golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygyddiaeth, dywedem mai synwyr cyffredin cryf, arafwch, pwyll, ac ysbryd barn, anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl, ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd.

Ond dirwynodd oes hir Mr. Jones i ben. Nid oedd un afiechyd neillduol arno, ond fod natur yn graddol ymollwng, fel derwen yn gwywo, am na all mwy dderbyn nodd i fod yn iraidd. Bu farw yn union fel y bu byw, mewn hunanfeddiant tawel, a'i galon yn glymedig â'r pethau y cysegrodd ei fywyd iddynt, a'i ymddiried yn ei Dduw yn dal fel y graig yn ddiysgog er grym y llif. Diwrnod a hir gofir yn Nolgellau yw dydd Mercher, Rhagfyr 11eg, 1867, pan ddygwyd yr Hen Olygydd mewn elorgerbyd o Gefnmaelan, i'w roddi i orwedd yn mynwent y Brithdir. Dilynid et gan luaws mawr o gerbydau a gwyr meirch—yr oedd haner cant o bregethwyr o wahanol enwadau yn bresenol i amlygu eu parch i'w goffadwriaeth—gallesid tybied wrth fyned trwy Ddolgellau mai y Sabboth ydoedd, am fod pob siop wedi cau i fyny, a gwelid blinds gwynion galarus ar ffenestri y tai yr elid heibio iddynt—cyfrifid fod y dorf alarus yn fil o rifedi wrth fyned trwy y dref, a chyn cyrhaedd ei le beddrod, yr oedd wedi chwyddo yn fwy na phymtheg cant, ac yn nghanol y dagrau a dywalltid, rhoddwyd ef gan ei bum' mab i lawr i orwedd yn ei fedd newydd—a chefnai y dorf fawr ar ei weddillion marwol gan sibrwd yn ddistaw, fod y tirionaf a'r hawddgaraf o ddynion, wedi ei adael yn "nhŷ ei hir gartref." Heddwch i'w weddillion cysegredig! "Nac ymyred neb a'i esgyrn ef," hyd nes yr aflonyddir hwy gan "floedd a llef yr archangel," ac y daw i fyny i fwynhau y "gobaith gwynfydedig" yn yr "adgyfodiad gwell."

Nodiadau

[golygu]
  1. Cofiant Mr. Cadwaladr Jones. Tu dal. 11 a 12.
  2. Ysgrif y diweddar Mr. Cadwaladr Jones.
  3. Cofiant Mr. T. Davies, gan Mr. E. Williams, Dinas. Dysgedydd, 1870. Tu dal. 10.